Pennod I: Cyffredinol a diffinio a dehongli

Rhan I: Cyffredinol

 

1.

 

(1)       Traethir Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru, a ysgrifennwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn y Bennod hon a’r Penodau sy’n dilyn; ac

(a)     ym mhob Pennod ychwanegol a phob gwelliant a wneir i unrhyw Bennod gan y y Corff Llywodraethol;

(b)     yn holl ganonau’r Eglwys yng Nghymru; ac

(c)     ym mhob rheol a phob rheoliad a wneir o bryd i’w gilydd gan y Corff Llywodraethol neu dan ei awdurdod neu gyda’i gydsyniad, ac a ardystir fel y cyfryw gan y Corff Llywodraethol.

 

(2)     Bydd i fersiynau Cymraeg a Saesneg y Cyfansoddiad ddilysrwydd cyfartal.

 

(3)     I ddiben dehongli ac er datrys amwysedd, y Saesneg fydd y testun diffiniol.

 

2.

 

Bydd y Cyfansoddiad yn rhwymo pob Aelod o’r Eglwys yng Nghymru a ddiffinnir yn Rhan II y Bennod hon.

 

3.

 

(1)     Argreffir y Cyfansoddiad (ac eithrio canonau i newid naill ai’r Llyfr Gweddi Gyffredin neu unrhyw bennod o’r Cyfansoddiad) dan gyfarwyddyd y Pwyllgor Sefydlog, ac wedi ei argraffu felly fe ardystir dan law’r Llywydd ar dri chopi ohono ei fod yn gywir, a ffeilir y copïau mewn tri llyfr ar wahân.

 

(2)     Cedwir un o’r llyfrau hyn gan y Llywydd; cedwir un yn ystafell ddogfennau’r Corff Llywodraethol, ac un yn ystafell ddogfennau Corff y Cynrychiolwyr.

 

4.

 

Bydd copi o unrhyw ran o’r Cyfansoddiad yr ardystiwyd gan ysgrifenyddion y Corff Llywodraethol ei fod yn gopi cywir o’r rhan honno o’r Cyfansoddiad yn dystiolaeth olwg gyntaf o’r rhan honno o’r Cyfansoddiad ac fe’i derbynnir fel y cyfryw yn dystiolaeth yn holl lysoedd a Thribiwnlys yr Eglwys yng Nghymru.

 

5.

 

Bydd y gyfraith eglwysig, fel yr oedd yn Lloegr ar 30 Mawrth 1920, ac eithrio:

(a)     Deddf Ordeinio Clerigion, 1804;

(b)     Deddf Disgyblaeth yr Eglwys, 1840;

(c)     Deddf y Comisiynwyr Eglwysig, 1840;

(d)     Deddf Tanysgrifiad Clerigion, 1865;

(e)     Deddf Anallu Clerigion, 1870;

(f)      Deddf Clerigion y Trefedigaethau, 1874;

(g)     Deddf Rheoli Addoliad Cyhoeddus, 1874;

(h)     Deddf Gwerthu Clastiroedd, 1888;

(i)      Deddf Disgyblu Clerigion, 1892;

(j)      Deddf Bywoliaethau, 1898;

(k)     Y Deddfau Cyd-ddal Bywoliaethau;

(l)      Y Deddfau Ymddiswyddiad Periglorion;

yn rhwymo Aelodau (gan gynnwys unrhyw gorff o Aelodau) yr Eglwys yng Nghymru, ac fe’i cymhwysir i ddatrys unrhyw gwestiwn neu anghydfod rhyngddynt fel Aelodau o’r fath, cyn belled ag nad yw’n gwrthdaro â dim a gynhwysir yn y Cyfansoddiad nac ag unrhyw gytundeb arbennig ynglŷn â chlastir rhwng Corff y Cynrychiolwyr a Pheriglor, ar yr amod na rwymir Llysoedd yr Eglwys yng Nghymru gan unrhyw benderfyniad gan Lysoedd Lloegr ar faterion yn ymwneud â ffydd, disgyblaeth na seremoni.

 

6.

 

(1)     Oni chyfarwyddir yn wahanol yn y Cyfansoddiad, gellir anfon neu roi yn y post unrhyw wŷs y gorchmynnwyd ei hanfon neu ei rhoi. Bydd prawf postio yn dystiolaeth olwg gyntaf bod y cyfryw wŷs wedi ei hanfon neu ei rhoi.

 

(2)     Pryd bynnag y bo’r Cyfansoddiad yn gofyn postio dogfen trwy ddanfoniad cofnodedig neu lythyr trwy ddanfoniad cofnodedig, bydd yn ddigon rhoi’r cyfryw ddogfen neu lythyr yn bersonol yn llaw’r derbynnydd a chael derbynneb ganddo amdani neu amdano.

 

Part II: Diffinio a Dehongli

 

7.

 

Yn y Cyfansoddiad hwn, gan gynnwys y Rheoliadau, ac eithrio pan ddarperir yn wahanol, bydd i’r geiriau a’r cymalau a ganlyn yr ystyron a ganlyn:

 

“Aelod o’r Eglwys yng Nghymru”

(a)   unrhyw un sy’n dal swydd yn yr Eglwys yng Nghymru;
(b)   unrhyw glerig neu ddiacones sy’n derbyn pensiwn oddi wrth Gorff y Cynrychiolwyr;
(c)    unrhyw un y mae ei enw ar rôl etholwyr plwyf; ac
(d)   unrhyw Aelod o’r Corff Llywodraethol, Corff y Cynrychiolwyr ac unrhyw un o’u pwyllgorau.

“Archddiacon”
Archddiacon archddiaconiaeth ac, mewn perthynas â phlwyf, archddiacon yr archddiaconiaeth y mae’r plwyf ynddi.

“Archesgob”
Archesgob Cymru ar y pryd.

“Ardal Weinidogaeth/Ardal Genhadaeth”
sef plwyf neu grŵp o blwyfi a ffurfiwyd er cyhoeddi’r Efengyl yn effeithiol mewn ardal benodol gyda gweinyddiaeth gyffredin fel y’i diffinnir gan unrhyw Orchymyn Esgobaethol.

“Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth”
Bwrdd Cyllid Esgobaethol a benodwyd gan Gynhadledd Esgobaethol yn unol â Phennod IV A adran 24.

“Bwrdd Enwebu’r Dalaith”
y Bwrdd Enwebu a gyfansoddwyd yn unol â Rheoliad 8 Rheoliadau’r Corff Llywodraethol ar Benodi ac Enwebu.

“Bwrdd Enwebu’r Esgobaeth
Bwrdd Enwebu a gyfansoddwyd yn unol â Rheoliad 1 Rheoliadau’r Corff
Llywodraethol ar Benodi ac Enwebu.

“Bywoliaeth”
Plwyf neu grŵp o blwyfi y gellir sefydlu clerig yn beriglor iddo.

“Bywoliaeth Reithorol”
Bywoliaeth a sefydlwyd yn unol â Phennod IV D adrannau 3(j) a 4(3).

“Canghellor”
(ac eithrio yn achos Cynllun Cadeirlan) canghellor esgobaeth a benodwyd gan yr esgob yn unol â Phennod IX adran 28.

“Clerig”
clerc mewn Urddau Eglwysig.

“Cofrestrydd yr Esgobaeth”
Cofrestrydd esgobaeth a benodwyd gan esgob esgobaeth yn unol â Phennod IX
adran 31.

“Corff Llywodraethol”
Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru a gyfansoddwyd fel y darperir ym Mhennod II.

“Cyfansoddiad”
Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru, fel y diffinnir ef yn adran 1.

“Corff y Cynrychiolwyr”
y corff a ymgorfforwyd trwy Siarter Brenhinol ar 24 Ebrill 1919 (fel y diwygiwyd ef) ac y cyfeirir ato yn Neddf Eglwys Cymru 1914 a Phennod III.

“Cyfarfod Cynulleidfaol”
cyfarfod a gynhaliwyd yn unol â Rheoliad 6 Rhan II Rheoliadau’r Eglwys yng Nghymru ar Weinyddiaeth Plwyf.

“Cymunwr conffyrmiedig”
sef rhywun a dderbyniodd ddefnod sacramentaidd conffyrmasiwn.

“Cyngor Plwyf Eglwysig”
y corff a gyfansoddwyd fel y darperir ym Mhennod IVC.

“Cymru”
Talaith yr Eglwys yng Nghymru.

“Cymunwr”
un a dderbyniodd y Cymun Bendigaid yn gyfreithlon yn yr Eglwys yng Nghymru neu
mewn Eglwys sydd mewn cymundeb â hi ac y mae ganddo hawl i dderbyn y Cymun
Bendigaid yn yr Eglwys yng Nghymru.

“Cynhadledd yr Esgobaeth”
Cynhadledd esgobaethol esgobaeth a gyfansoddwyd fel y darperir ym Mhennod IV A.

“Deoniaeth”
ardal mewn archddiaconiaeth sydd dan arolygiaeth gyffredinol deon bro.

“Esgob Cadeiriol” ac Esgobaeth”
Esgob esgobaeth yn yr Eglwys yng Nghymru

“Esgob Cynorthwyol”
Esgob a benodwyd i gynorthwyo’r archesgob neu esgob esgobaeth yn unol â Phennod V adran 15.

“Etholwr Cymwys”
un y mae ei enw ar rôl etholwyr plwyf yng Nghymru.

“Gweithiwr Lleyg
person lleyg sy’n gweithredu yn unol â thrwydded gan esgob esgobaeth neu gyda’i ganiatâd.

“Mainc yr Esgobion”
Yr archesgob ac esgobion yr esgobaethau eraill.

“Periglor”
clerig a sefydlwyd neu a goladwyd i ofal eneidiau bywoliaeth.

“Plwyf”
unrhyw un o’r mannau eglwysig a ganlyn yng Nghymru:
(a)  unrhyw blwyf, hynafol neu newydd;
(b)  ywoliaeth reithorol;
(c)   pob plwyf mewn grŵp o blwyfi;
(d)  plwyf unedig;
(e)  plwyf y cyfunwyd ag ef blwyf arall (neu ran neu rannau o blwyf neu gyn-blwyf).

“Plwyfi wedi eu Grwpio”
dau neu fwy o blwyfi sy’n dal yn unedau ar wahân dan un periglor yn unol â Phennod IV D.

“Pwyllgor Sefydlog”
Pwyllgor Sefydlog y Corff Llywodraethol.

“Tribiwnlys”
Tribiwnlys Disgyblaethol yr Eglwys yng Nghymru a sefydlwyd yn unol â Phennod IX Rhan III.

8.

 

Golyga pob cyfeiriad yn y Cyfansoddiad:

(a)     at Bennod, y Bennod honno yn y Cyfansoddiad;

(b)     at rif adran neu is-adran neu at Ran mewn Pennod, rif yr adran neu’r is-

adran neu’r Rhan honno o’r Bennod honno; ac

(c)     at rif Rheoliad neu baragraff, rif y Rheoliad neu’r paragraff hwnnw o’r

Rheoliad.