Cyfrol II: Adran 3 – Cynlluniau

CYNLLUN CYNNAL Y WEINIDOGAETH

YN YR EGLWYS YNG NGHYMRU 2007

 

(1)       O 1 Ionawr 2007:

(a)     Yn ddarostyngedig i isadran (3), bydd Corff y Cynrychiolwyr yn darparu bob blwyddyn swm o arian (“y Grant”) a amcangyfrifwyd drwy gyfeirio at gost dybiedig yr eitemau a restrir yn yr atodlen i hynyma (“yr Atodlen”) yn 2006 ond wedi ei gyfyngu i’r rhan honno o gost y cyfryw eitemau a ddarparwyd gan Gorff y Cynrychiolwyr yn 2006;

(b)     Yn ddarostyngedig i isadran (1)(a) ac is-adran 2(b), ni fydd Corff y Cynrychiolwyr bellach yn gyfrifol am ddarparu ar gyfer unrhyw ran o gost yr eitemau a restrir yn yr Atodlen;

(c)     Yn ddarostyngedig i Gyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru ac i unrhyw delerau neu amodau a bennir dan isadran (5), bydd pob esgobaeth yn penderfynu drosti ei hun y gwariant i’w wneud ar yr eitemau a restrir yn yr Atodlen.

 

(2)       (a)     O 1 Ionawr 2009 newidir is-baragraff (g) y Cynllun i ddarllen fel a ganlyn:

“25% o’r ysgoloriaethau a’r grantiau i ymgeiswyr”.

(b)     O 1 Ionawr 2009 bydd Corff y Cynrychiolwyr yn gyfrifol am 75% o’r ysgoloriaethau a’r grantiau i ymgeiswyr.

 

(3)     Cyn 31 Rhagfyr 2008 a phob blwyddyn wedi hynny bydd Corff y Cynrychiolwyr yn adolygu’r Grant ac yn penderfynu a ddylid ei addasu ac i ba raddau y dylid          ei addasu, dan yr amod bod y Grant i barhau heb fod yn llai na’r lefel a nodir yn isadran (1)(a) hyd 31 Rhagfyr 2008.

 

(4)     (a)     Dosrennir y Grant rhwng yr esgobaethau bob blwyddyn drwy gyfeirio at gyfran pob esgobaeth o gyfanswm gwariant Corff y Cynrychiolwyr yn 2002 ar yr eitemau a nodir yn yr Atodlen (“y Fformiwla”).

(b)          Cyn 31 Rhagfyr 2008 bydd Corff y Cynrychiolwyr yn adolygu’r Fformiwla a phenderfynu a ddylid ei newid. Ni ddaw unrhyw newid o’r fath i rym cyn 1 Ionawr 2009.

 

(5)     Gall Corff y Cynrychiolwyr, wedi ymgynghori â phob esgobaeth, roi telerau ac amodau i bob esgobaeth ynglyn â dal a defnyddio’r swm a delir i bob esgobaeth.

 

(6)     Ar ddiwedd pob chwarter, bydd i bob esgobaeth ad-dalu i Gorff y Cynrychiolwyr unrhyw daliadau a wnaed gan Gorff y Cynrychiolwyr ar ran yr esgobaeth a chyda’i chytundeb gyda golwg ar unrhyw un o’r eitemau a restrir yn yr Atodlen.

 

 

YR ATODLEN

 

Yr eitemau y cyfeirir atynt yn rhan 1 y cynllun hwn yw:

Budd-daliadau Clerigion

(a)     Cyflogau Archddiaconiaid, tŷ a chostau (lle nad oes gofal plwyf)

(b)     Cyflogau Deon, Canon Trigiannol ac Is-Ganoniaid pob Eglwys Gadeiriol

(c)     Cyfraniadau cyfredol pensiwn gwasanaeth ar gyfer pob clerig cyflogedig ond esgobion

(d)     Cyfraniadau at Gronfeydd Caledi Esgobion

(e)     Cyfraniadau at Gronfeydd Gweddwon, Amddifaid a Dibynyddion

(f)      Caplaniaid a delir ar hyn o bryd o Gronfa Cynnal y Weinidogaeth

Hyfforddi Clerigion

(g)     Ysgoloriaethau a Grantiau i Ymgeiswyr am Urddau

(h)     Grantiau i Gyrff Addysgol (yn bennaf Coleg Mihangel Sant)

Eiddo

(i)      Treuliau cynnal persondai

(j)      Treuliau yswirio tai clerigion

(k)     Darpariaeth ar gyfer tai Ciwradiaid

Grantiau

(l)      Grantiau Corff y Cynrychiolwyr i Eglwysi Cadeiriol

(m)    Treuliau Cofrestryddion Esgobaethol ac Archddiaconiaid

Corff Llywodraethol

(n)     Treuliau Cyfarfod y Corff Llywodraethol

 

 

CYNLLUN CYNNAL Y WEINIDOGAETH

 

RHEOLIADAU A WNAED GAN

GORFF Y CYNRYCHIOLWYR

 

Rhan I

 

DARPARIAETHAU CYFFREDINOL

 

1.

 

(1)     Y mae’r cynllun hwn i’w adnabod fel Cynllun Cynnal y Weinidogaeth, a chymerir bod pob cyfeiriad at Gynllun Cynnal y Weinidogaeth neu at Gynllun Ail-lunio yng Nghyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru yn cyfeirio at y Cynllun hwn.

 

(2)     O 1 Ionawr 2007 mae’r cynllun hwn i’w ddarllen yn ddarostyngedig i’r Cynllun yn dwyn y teitl “Cynllun Cynnal y Weinidogaeth yn yr Eglwys yng Nghymru 2007” (“Cynllun 2007”) ac yn achos unrhyw wrthdaro rhwng Cynllun 2007 a’r Cynllun hwn darpariaethau Cynllun 2007 fydd mewn grym.

 

2.

 

Bydd i faint pob swm, grant, taliad, cyfraniad, cyflog neu fuddged y cyfeirir atynt yn y Cynllun hwn o bryd i’w gilydd gael ei benderfynu gan Gynllun Cynnal Gorff y Cynrychiolwyr neu’r pwyllgor priodol ohono a’i argraffu yn yr Atodlen i hynyma, Atodlen na raid ei hargraffu fel rhan o’r Cynllun hwn ond y bydd i Gorff y Cynrychiolwyr argraffu ei chynnwys o leiaf yn flynyddol a’i ddosbarthu i’w aelodau ac i bob clerig a diacones sy’n gwasanaethu yn yr Eglwys yng Nghymru.

 

Rhan II

 

CRONFEYDD CYNNAL Y WEINIDOGAETH

 

3.

 

Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn darparu swm o arian ar gyfer yr holl esgobaethau (a elwir yma rhagllaw “Cronfa Cynnal y Weinidogaeth”) tuag at gost cynnal y weinidogaeth.  Bydd y swm hwn yn cael ei ddosbarthu’n chwarterol i’r esgobaethau yn unol â nifer y clerigion sydd mewn swydd ar ddechrau pob chwarter, y nifer i gael ei gynyddu gan bumed ran y gwahaniaeth, os oes gwahaniaeth, rhwng y nifer dywededig a’r nifer o glerigion a ddyfarnwyd gan Fainc yr Esgobion yn angenrheidiol ar gyfer pob esgobaeth, pryd bynnag y bydd y nifer olaf yn fwy na’r nifer cyntaf.

 

4.

 

Yn ychwanegol at y Gronfa Cynnal y Weinidogaeth, bydd Corff y Cynrychiolwyr yn dyfarnu i’r esgobaethau elw sy’n deillio o gymynroddion yn unol â’r Atodlen i hynyma.

 

5.

 

(1)     Rhaid i Fwrdd Cyllid pob Esgobaeth gyflwyno’i argymhellion ar gyfer y cyflogau penodedig a’r cyfraniadau o leiaf dri mis cyn y bwriedir i’r cyfryw argymhellion ddod i rym, ac eithrio wrth benodi o’r newydd.

 

(2)     Ar ddechrau mis olaf pob chwarter bydd Corff y Cynrychiolwyr yn hysbysu Bwrdd Cyllid pob Esgobaeth am amcangyfrif faint yn fwy fydd y draul er cynnal y weinidogaeth na’r swm chwarterol a ddarparwyd dan adran 3 o hynyma, a rhaid i’r Bwrdd Cyllid dalu’r swm priodol i Gorff y Cynrychiolwyr cyn diwedd y chwarter hwnnw.

 

6.

 

(1)     Ar argymhelliad Bwrdd Cyllid Esgobaeth, bydd y taliadau canlynol yn draul briodol ar y Gronfa Cynnal y Weinidogaeth yn yr esgobaeth honno:

(a)     cyflogau a chyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwr Periglorion a Chiwradiaid Cynorthwyol;

(b)     cyfraniadau tŷ i Beriglorion;

(c)     grantiau dros dro er galluogi’r Esgob i ddarparu mewn amgylchiadau arbennig gymorth ychwanegol yn y fywoliaeth (e.e. lle nad yw’r berigloriaeth yn wag, ond bod y Periglor yn methu gweinyddu);

(d)     taliadau ar gyfer unrhyw amcan arall a fyddai’n llesol i Beriglor neu Beriglor wedi ymddeol;

(e)     grant i wraig weddw, i ŵr gweddw neu rywun arall oedd yn dibynnu ar Beriglor neu Giwrad Cynorthwyol yn union wedi ei farw neu ei marw;

(f)      grant i Fwrdd Cyllid Esgobaeth at dalu am ddyletswyddau mewn gofalaethau gweigion;

(g)     treuliau mudo tŷ:

(i)      Periglor yn symud i berigloriaeth yn yr esgobaeth, yn symud ar gais yr esgobaeth o fewn perigloriaeth neu’n symud o berigloriaeth wrth ymddeol;

(ii)     gwraig weddw, gŵr gweddw neu rywun arall a oedd yn ddibynnol ar unrhyw Beriglor a fu farw y byddai ganddo hawl i grant dan (i) uchod;

(iii)    Ciwrad Cynorthwyol ar ei benodiad cyntaf, wrth symud i giwradiaeth arall, neu ar gael ei benodi i fywoliaeth yn yr esgobaeth;

(h)     taliadau ar gyfer gwasanaethu mewn perigloriaethau gwag, sef:

(i)      tâl, os bydd tâl, am gymryd gwasanaeth pan fo gofalaeth yn wag gan glerig neu ddiacones yn y weinidogaeth daledig amser-llawn yn yr Eglwys yng Nghymru neu’n ymgymryd â gwasanaeth a gyfrifir yn “wasanaeth pensiynol” at amcanion pennod XII[1] Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru, neu glerig sy’n derbyn pensiwn yn rhinwedd gwasanaeth ei urddau sanctaidd, neu gan glerig yn y weinidogaeth ddi-dâl sydd dros ddeg a thrigain oed;

(ii)     pan gymerir gwasanaeth gan ddarllenydd trwyddedig gwneir taliad i Gronfa Cymdeithas Darllenwyr yr Esgobaeth am bob cyfryw wasanaeth;

(iii)    lwfans teithio i unrhywun fydd yn cymryd gwasanaethau mewn gofalaeth wag;

(i)      lwfans costau teithio i’w dalu i glerigion neu ddiaconesau a fydd, ar gais Esgob yr Esgobaeth yn bugeilio mewn plwyfi gwag cyfagos;

(j)      cydnabyddiaeth a threuliau Archddiaconiaid, Canoniaid, Deoniaid Bro a Swyddogion Esgobaethol;

(k)     ad-daliad a threuliau dim mwy na thri weinidog lleyg awdurdodedig ym mhob esgobaeth, a fydd yn cael eu cyfrif yn nifer y clerigion mewn swydd yn yr esgobaeth i ddibenion y dosbarthiad chwarterol a wneir dan adran 3 o hynyma;

(l)      ychwanaegu at grant i Gabidwl y Gadeirlan dan adran 20;

(m)    treuliau gwarcheidwaid persondy mewn bywoliaeth wag, y darperir ar eu cyfer ym mhennod X[2] y Cyfansoddiad neu’r rheoliadau atodiadol iddi;

(n)     cyfraniadau i Gronfa Bwrdd Persondai.

 

(2)     Ac eithrio lle darperir yn wahanol, i ddibenion yr adran hon bydd yr ymadrodd:

(a)     PERIGLOR yn cynnwys clerig sy’n gofalu am berigloriaeth ataliedig neu ardal gonfensiynol a Ficer mewn bywoliaeth reithorol;

(b)     CIWRAD CYNORTHWYOL yn cynnwys clerig a benodwyd gan yr Esgob drwy drwydded dan sêl i swydd amhlwyfol amser-llawn, a Diacones;

(c)     RHYWUN DIBYNNOL yn golygu perthynas i’r clerig a fu farw a oedd, adeg ei farw neu ei marw, yn preswylio gydag ef neu gyda hi ac yn dibynnu arno neu arni am gynhaliaeth ariannol;

(d)     SWYDDOG ESGOBAETHOL yn golygu clerig sydd, ar gais neu gyda chydsyniad yr Esgob, yn cyflawni dyletswyddau arbenigol pa un ai’n ychwanegol at ddyletswyddau plwyfol ai peidio;

(e)     GWEINIDOG LLEYG AWDURDODEDIG yn golygu lleygwr a drwyddedwyd gan Esgob yr esgobaeth i gymryd rhan mewn gwaith cenhadu a gweinidogaethu yn yr esgobaeth neu mewn plwyf neu blwyfi o’i mewn.

 

(3)     Ac eithrio gwir ad-daliad treuliau ac unrhyw dâl am gymryd gwasanaeth pan fo perigloriaeth yn wag, ni chymhwysir darpariaethau’r adran hon at glerigion sydd yng ngweinidogaeth ddi-dâl yr Eglwys yng Nghymru.

 

Rhan III

 

CLERIGION PLWYF LLEIAFSWM CYFLOG

 

7.

 

(1)     Ni chaiff Bwrdd Cyllid Esgobaeth, heb gymeradwyaeth bendant Corff y Cynrychiolwyr, argymell cyflog sy’n llai na’r lleiafswm a ddarperir yn yr Atodlen ar gyfer:

(a)     Periglor ar fywoliaeth reithorol;

(b)     Unrhyw Beriglor arall;

(c)     Ficer mewn bywoliaeth reithorol;

(d)     Clerig mewn gofal ar berigloriaeth ataliedig neu ardal gonfensiynol;

(e)     Clerig a benodir i swydd amhlwyfol gan Esgob drwy drwydded dan sêl.

 

(2)     Dan yr amod mewn unrhyw achos pan fo Periglor neu Ficer mewn bywoliaeth reithorol yn dal swydd neu benodiad heb fod yng ngweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru, ac yn derbyn cyflog neu dâl ar wahân am hynny, gall Esgob yr esgobaeth argymell i Gorff y Cynrychiolwyr (yn gweithredu drwy’r Is-bwyllgor Cynnal y Weinidogaeth) mai swm na fydd, gyda’r taliad neu’r gyflog ar wahân a dderbynnir gan y cyfryw Beriglor neu Ficer, yn llai na’r lleiafswm priodol a enwir yn unol â darpariaethau is-adran (1) o hynyma fydd y gyflog a delir.

 

(3)     Ni chaiff Bwrdd Cyllid Esgobaeth, heb gymeradwyaeth bendant Corff y Cynrychiolwyr, argymell lwfans sy’n llai na’r lleiafswm a ddarperir yn yr Atodlen, ar gyfer Deon Bro.

 

(4)     Ni chymhwysir darpariaethau’r adran hon ar gyfer unrhyw glerig di-dâl.

 

8.

 

(1)     Gall Bwrdd Cyllid Esgobaeth argymell grant i’w dalu i blwyf ar gyfer pob Ciwrad Cynorthwyol neu Ddiacones amser-llawn a gyflogir yn y plwyf hwnnw, ar yr amod fod y Ciwrad Cynorthwyol neu Ddiacones yn derbyn cyflog heb fod yn llai na’r hyn a osodir i lawr yn unol â darpariaethau adran 9(1) o hynyma. Ni chaiff maint grant mewn unrhyw achos fod yn fwy na’r gyflog a delir gan y plwyf.

 

(2)     Parheir i dalu yn unol â’r gwaddol bob grant arbennig yn lle gwaddol ciwradiaeth a oedd yn bod cyn 31 Mawrth 1920 a’r incwm oddi wrth bob gwaddol a roddwyd wedi’r dyddiad hwnnw.

 

9.

 

(1)     Bydd lleiafswm cyflog flynyddol Ciwrad Cynorthwyol, Caplan Cadeirlan neu Ddiacones fel y darperir yn yr Atodlen.

 

(2)     Mewn amgylchiadau arbennig, gall Bwrdd Cyllid Esgobaeth argymell grant ar gyfer Ciwrad Cynorthwyol neu Ddiacones sydd, gyda chaniatâd yr Esgob, yn derbyn cyflog lai na’r lleiafswm penodedig.

 

(3)     Cymhwysir y darpariaethau hyn ar gyfer unrhyw Giwrad Cynorthwyol neu Ddiacones a enwebwyd gan Beriglor, gyda chaniatâd yr Esgob, i weithredu’n Giwrad Cynorthwyol neu’n Ddiacones mewn plwyf ac sy’n cyflawni dyletswyddau amser-llawn cyflogedig.

 

Rhan IV

 

URDDASOLION A CHLERIGION ESGOBAETH

 

10.

 

Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn darparu ac yn talu’r cyflogau a’r treuliau sy’n dilyn ar gyfer urddasolion a chlerigion esgobaeth.

 

11.

 

YR ESGOB CADEIRIOL

 

(1)     Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn darparu ar gyfer pob Esgob Cadeiriol gyflog bersonol a chyfraniadau tuag at gostau cynnal ei gapel a chadwraeth ei wisgoedd.

 

(2)     Gall pob Esgob Cadeiriol hawlio’r cyfraniadau ychwanegol hyn:

(a)     ad-daliad cost teithio dyletswydd ar drafnidiaeth gyhoeddus a chyfraniad teithio am deithio dyletswydd mewn car;

(b)     ad-daliad treuliau rhesymol bwyd a llety ar deithio dyletswydd;

(c)     dan amod ymgynghori ag Is-bwyllgor Preswylfeydd a Threuliau’r Esgobion[3], ad-daliad cost cyflog, treuliau cynhaliaeth ac Yswiriant Gwladol ar gyfer gyrrwr car;

(d)     ad-daliad treuliau rhesymol swyddfa;

(e)     o fewn terfynau graddfa Corff y Cynrychiolwyr ar gyfer cyflogau staff ysgrifenyddol yn 39 Heol yr Eglwys Gadeiriol, Caerdydd, ad-daliad cost cyflog ac Yswiriant Gwladol a threuliau eraill rhesymol ar gyfer ei ysgrifennydd;

(f)      ad-daliad treuliau rhesymol ar groeso a llety;

(g)     ad-daliad y treuliau ynglŷn ag ordeiniadau; ac

(h)     ad-daliad o 75% cost cynhesu a goleuo’i breswylfa.

 

(3)     Bydd yr Archesgob yn derbyn, heblaw cyflog a chyfraniadau ei swydd yn Esgob Cadeiriol, gyfraniad ychwanegol.

 

12.

 

ESGOBION CYNORTHWYOL

 

Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn darparu cyflog ar gyfer Esgob Cynorthwyol sydd wedi ei benodi i wasanaethu yn esgobaeth yr Archesgob, y gyflog i gael ei lleihau yn ôl cyfanswm unrhyw gyflog arall daladwy i’r Esgob Cynorthwyol gan Gorff y Cynrychiolwyr.

 

13.

Y DEON

 

Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn darparu cyflog ar gyfer Deon.

 

14.

 

CANONIAID TRIGIANNOL

 

(1)     Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn darparu cyflog ar gyfer pob Canon Trigiannol amser-llawn a benodwyd yn unol â rhan 3 o’r Atodlen i Gynllun Cadeirlan.

 

(2)     Penderfynir swm y cyfryw gyflog, na fydd yn fwy na’r hyn a nodir yn yr Atodlen, o bryd i’w gilydd rhwng Esgob yr esgobaeth a Chadeirydd yr Is-bwyllgor Cynnal y Weinidogaeth.

 

15.

 

CAPLANIAID CADEIRLAN

 

Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn darparu cyflogau ar gyfer dau Gaplan ym mhob un o’r cadeirlannau a ganlyn, sef:

Llanelwy; Bangor; Tyddewi; Llandâf; Eglwys Wynllyw, Casnewydd; ac Aberhonddu.

 

16.

 

ARCHDDIACONIAID

 

(1)     Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn darparu cyflog i bob Archddiacon, dan yr amod:

(a)     y bydd y cyflog yn cael ei leihau yn ôl cyfanswm unrhyw gyflog arall daladwy i Archddiacon gan Gorff y Cynrychiolwyr; a

(b)     na thelir cyflog na leihawyd yn unol â darpariaethau paragraff (a) o hynyma i fwy nag un Archddiacon ym mhob esgobaeth.

 

(2)     Darperir preswylfod ar gyfer Archddiacon.

 

(3)     Gall Archddiacon hawlio’r cyfraniadau pellach a ganlyn ynglŷn â’i ddyletswyddau fel Archddiacon:

(a)     ad-daliad teithio dyletswydd ar drafnidiaeth gyhoeddus a chyfraniad teithio am deithio dyletswydd mewn car;

(b)     ad-daliad treuliau rhesymol.

 

17.

 

TREULIAU MUDO URDDASOLION

 

(1)     Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn cyfrannu tuag at dreuliau rhesymol mudo tŷ ar gyfer urddasolion a’r rhai sy’n dibynnu arnynt, yn y modd a benderfyno’r Is-bwyllgor Cynnal y Weinidogaeth[4].

 

(2)     I bwrpas yr adran hon bydd “urddasolion” yn golygu Esgobion, Esgobion Cynorthwyol, Deoniaid, Canoniaid Trigiannol amser-llawn, Archddiaconiaid a Chaplaniaid Cadeirlannau.

 

Rhan V

 

DARPARIAETHAU ARIANNOL ERAILL

 

18.

 

GRANT AR GYFER CYMDEITHAS GWEDDWON, AMDDIFAID A DIBYNYDDION

Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn gwneud grant blynyddol i Gymdeithas Gweddwon, Amddifaid a Dibynyddion yr Eglwys yng Nghymru.

 

19.

 

CABIDWL Y GADEIRLAN

 

(1)     Bydd i Gorff y Cynrychiolwyr wneud grant i Gabidwl pob Cadeirlan i’w ddefnyddio at unrhyw bwrpas wrth weithredu ei Gynllun Cadeirlan, a gall wneud grant ychwanegol i gabidwl Cadeirlan o swm cyfartal i’r gyflog a ddarperir ar gyfer Caplan Cadeirlan dan adran 15 o hynyma.

 

(2)     Rhaid i Gabidwl pob Cadeirlan gyflwyno i Gorff y Cynrychiolwyr bob blwyddyn gyfrifon wedi eu harchwilio, a’r rheini’n cynnwys pob arian a dderbyniwyd oddi wrth Gorff y Cynrychiolwyr ac incwm oddi wrth eiddo a gynhwysir yng Nghorff y Cynrychiolwyr ac a weinyddir gan y Deon a’r Cabidwl.

 

Rhan VI

 

BWRDD Y PERSONDAI

 

20.

 

Bydd y cyfraniadau i Gyfrif Bwrdd Persondai’r Esgobaeth ar gyfer pob persondy yn yr esgobaeth sy’n dod o fewn y Cynllun Persondai yn y flwyddyn sy’n dechrau 1 Ionawr yn ôl un o’r graddfeydd a ddewisir gan Fwrdd Persondai’r Esgobaeth, wedi ymgynghori â Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth, o blith y rhai a ddarparwyd yn yr Atodlen.

 

Rhan VII

 

BUDDGEDAU CLERIGION

 

21.

 

Traethir y Cynllun ar gyfer Pensiynau a Buddgedau Clerigion yn yr Atodlen i hynyma.

 

Rhan VIII

 

MATERION AMRYWIOL

 

22.

 

(1)     Bwrdd Cyllid Esgobaeth, ynghyd â’r Esgob, fydd yn gyfrifol am weinyddu unrhyw grant a wneir i’r Bwrdd at dalu am ddyletswyddau mewn gofalaethau gwag.

 

(2)     Anfonir ffurflenni cais am daliad tuag at gost dyletswyddau mewn gofalaethau gweigion at Fwrdd Cyllid yr Esgobaeth.

 

(3)     Rhaid i Fwrdd Cyllid pob Esgobaeth ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol gyflwyno i Gorff y Cynrychiolwyr gyfrif yn dangos sut y defnyddiwyd y grant.

 

23.

 

(1)     Rhaid i’r Is-bwyllgor Cynnal y Weinidogaeth[5] gadw gweithrediad y Cynllun hwn dan arolygiaeth a rhoi adroddiad fel y bo angen, ac o leiaf unwaith ym mhob cyfnod o dair blynedd, i Gorff y Cynrychiolwyr.

 

(2)     Bydd gan Is-bwyllgor Cynnal y Weinidogaeth[6] awdurdod i benderfynu unrhyw gwestiwn o ddehongliad y bo angen ei benderfynu at amcanion y Cynllun hwn.

 

24.

 

Bydd gan Gorff y Cynrychiolwyr awdurdod i wneud y cyfryw gyfnewidiadau ag a farno’n addas i’r Cynllun hwn, a rhoddir adroddiad am y gweithrediadau hynny gan Gorff y Cynrychiolwyr i’r Corff Llywodraethol.

 

25.

 

Er gwaethaf popeth a gynhwyswyd yn hynyma ni cheir talu unrhyw bensiwn sy’n fwy nag a ganiateir gan Ddeddf Cyllid 1970, neu unrhyw amrywiad ystatudol ohoni sydd mewn grym ar y pryd, a phenderfynir “cydnabyddiaeth derfynol” clerig i’r cyfryw ddiben yn unol â darpariaethau Rhan II yr Atodlen i hynyma.

 

 

YR ATODLEN

 

Rhan I

 

MAINT SYMIAU, DYFARNIADAU, GRANTIAU, TALIADAU, CYFRANIADAU, CYFLOGAU A BUDDGEDAU Y CYFEIRIR ATYNT YN Y CYNLLUN HWN

 

1.

 

Maint Cronfa Cynnal y Weinidogaeth a grybwyllir yn adran 3 (a.3) yn y cynllun fydd £0.

 

2.

 

Maint y dyfarniadau a nodwyd yn adran 4 fydd:

(a)     £800 y flwyddyn i Esgobaeth Mynwy ar gyfer Cymynrodd Llangattock;

(b)     £400 y flwyddyn i Esgobaeth Llandâf ar gyfer Cymynrodd Neale;

(c)     £300 y flwyddyn i Esgobaeth Llanelwy at fywoliaeth Penarlâg ar gyfer Cymynrodd Gladstone; a

(d)     £276 y flwyddyn i Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu dan Gymynroddion Syr John Llewellyn a Baker Haynes.

 

3.

 

Swm y cymorthdal  a delir i Wraig Weddw, Gwr Gweddw neu Ddibynnydd arall a enwir yn a.6(1)(e) fydd £100.

 

4.

Maint y taliadau a grybwyllwyd yn adran 6(1)(h) am gymryd gwasanaethau mewn perigloriaethau gwag fydd (o 1 Ionawr 2019):

£

(a) clerig neu ddiacones yn y weinidogaeth gyflogedig amser-llawn
neu mewn gwasanaeth pensiynol ………………………………………..

0

(b) clerig yn derbyn pensiwn yn rhinwedd gwasanaeth mewn
Urddau Sanctaidd…………………………………………………………….

23.00

(c) clerig yn y weinidogaeth ddi-dâl dros ddeg a thrigain oed……………………………………………………………………………….

23.00

(d) Darllenydd trwyddedig ……………………………………………………

23.00

5.

 

Maint y lwfans costau teithio a nodir yn yr adrannau dilynol fydd (o 6 Ebrill 2011):
(a)

clerig neu ddiacones

yn y weinidogaeth gyflogedig amser-llawn neu mewn gwasanaeth pensiynol, yn cymryd gwasanaeth mewn perigloriaeth wag a.6(1)(h) ac yn gofalau’n fugeiliol am y plwyf gwag s.6(1)(i)

(i) y 10,000 o filltiroedd cyntaf…………………………………………..
(ii) wedi hynny…………………………………………………………………
45c y filltir
25c y filltir
(b) Esgob Cadeiriol(lle nad yw Corff y Cynrychiolwyr yn darparu car) a.11(2)(a)
(i) y 10,000 o filltiroedd cyntaf……………………………………………
(ii) wedi hynny………………………………………………………………….
45c y filltir
25c y filltir
(c) Archddiacon a.16(3)(a)
(i) y 10,000 o filltiroedd cyntaf…………………………………………… 45c y filltir
(ii) wedi hynny………………………………………………………………… 25c y filltir

Bydd maint y lwfans costau teithio a nodir yn (a) i (c) uchod yn ddarostyngedig i adolygiad y Cyllid a Thollau EM yn Ebrill bob blwyddyn. Anfonir manylion am y cyfryw adolygiad at bawb y mae’n berthnasol iddynt.

 

 

6.

 

(1)

Maint isafswm cyflog y cyfeirir ato yn yr adrannau dilynol fydd (o 1 Ionawr 2019):

£

% o

gyflog

periglor

(yn fras)

(a)

Ciwrad Cynorthwyol, Caplan Cadeirlan neu Ddiacones a.9(1), a.15…………………………………

21,115

85

(b) Periglor, Ficer mewn Bywoliaeth Reithorol, Clerig mewn gofal a Chlerig a benodir i swydd amhlwyfol
a.7(1)(b)(c)(d)(e)

24,841

100

(c) Periglor Bywoliaeth Reithorol a.7(1)(a)

26,083

     105

(2)

Maint y cyflogau yn yr adrannau dilynol fydd:

(a) Canon Trigiannol a.14(2)

28,567

115

(b) Archddiacon a.16(1)

38,007

153

(c) Deon a.13

38,504

155

(d) Esgob Cynorthwyol a.12

42,230

170

(e) Esgob Cadeiriol a.11(1

45,956

185

(f) Archesgob.

49,682

200

7.

 

Maint y cyfraniadau a nodwyd yn yr adrannau dilynol fydd:

£

(a) Esgob Cadeiriol – capel a gwisgoedd a.11(1)

50 y flwyddyn

(b) Archesgob a.11(3)

700 y flwyddyn

(c) Deon Bro a.7(3)

2,484 y flwyddyn

 

8.

 

Y graddfeydd y cyfeiriwyd atynt yn yr adrannau dilynol fydd (o 1 Ionawr 2019):

Cyfrif Bwrdd Persondai  a.20:

 

Persondai heblaw tai a feddiennir gan Giwradiaid Cynorthwyol

Tai a feddiennir gan Giwradiaid Cynorthwyol

Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth

Corff y Cynrychiolwyr

Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth

Corff y Cynrychiolwyr

£

5,322

£

0

£

5,322

£

0

 

9.

 

Maint y symiau y cyfeiriwyd atynt yn yr adrannau dilynol fydd:

£
Buddged Gweddw neu ŵr gweddw Clerig:
a.19(4)(a) o Rhan II o’r Atodlen……………………………………………………….
2,500

 

YR ATODLEN

 

Rhan II

 

CYNLLUN PENSIYNAU CLERIGION

 

Darpariaethau Cyffredinol ar gyfer Pensiynau

 

1.

 

Bydd pensiynau dan y Cynllun hwn yn anghyfrannol, ac fe’u telir gan Gorff y Cynrychiolwyr.

 

 

2.

 

Ni ellir na throsglwyddo nac ildio unrhyw bensiwn a delir gan Gorff y Cynrychiolwyr dan y Cynllun hwn.

 

3.

 

Ac eithrio lle bo’r darpariaethau’n wahanol,  peidiodd y Cynllun Pensiwn Clerigwyr blaenorol (a elwir yn y Cynllun hwn y Cynllun Blaenorol)  â bod mewn grym ar 3l Rhagfyr 1977, a daeth y Cynllun presennol  i rym ar 1 Ionawr 1978.

 

4.

 

Bydd i unrhyw fater yn ymwneud â’r Cynllun hwn na wnaed darpariaeth ar ei gyfer yn hynyma gael ei benderfynu gan Gorff y Cynrychiolwyr.

 

 

Gwasanaeth Pensiynol

 

5.

 

(1)     Golyga gwasanaeth pensiynol y blynyddoedd o wasanaeth a roddwyd gan glerig neu ddiacones yng ngweinidogaeth gyflogedig amser-llawn yr Eglwys yng Nghymru, neu mewn lle arall fel y darperir yma rhag llaw, ond yn achos rhai’n ymddeol ar ôl 20 Medi 1983 bydd pob mis a gwblhawyd yn cyfrif fel deuddegfed ran o flwyddyn wrth gyfrif cyfanswm cyfnod y cyfryw wasanaeth pensiynol.

 

(2)     Cyfrifir gwasanaeth cyflogedig amser-llawn yn yr Eglwys yng Nghymru, fel Ysgrifennydd Cyngor neu Bwyllgor Taleithiol, neu Swyddog Esgobaethol a benodwyd drwy drwydded dan sêl i gyflawni dyletswyddau amhlwyfol, yn wasanaeth pensiynol.

 

(3)     Bydd i Gorff y Cynrychiolwyr farnu ym mhob achos a ganiateir i glerig neu ddiacones yng ngwasanaeth cyflogedig rhan-amser yr Eglwys yng Nghymru gronni budd-daliadau pensiwn cyfatebol i’r rhai a gronnir gan glerigion neu ddiaconesau mewn gwasanaeth cyflogedig amser llawn.

 

6.

 

Deugain mlynedd fydd y cyfnod mwyaf o wasanaeth pensiynol ar gyfer pensiwn, a dwy flynedd fydd y cyfnod lleiaf.

 

7.

 

Yn unrhyw un o’r achosion a ganlyn

(a)     lle bo Esgob Cadeiriol gyda chaniatâd Mainc yr Esgobion, unrhyw glerig arall neu ddiacones gyda chaniatâd yr Esgob mewn ysgrifen, yn gadael Cymru i wasanaethu yn y maes cenhadol dramor neu i fod yn gaplan i eglwys Gymraeg yn Lloegr, neu

(b)     lle bo clerig neu ddiacones yn gwasanaethu yn gaplan amser-llawn yng Nghymru i’r Genhadaeth i Fordeithwyr, neu

(c)     lle bo clerig neu ddiacones yn gwasanaethu am gyfnod yn aelod amser-llawn o staff dysgu Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, neu Goleg Sant Mihangel, Llandaf, neu warden amser-llawn neu aelod arall amser-llawn o staff hostel eglwys yng Nghymru a gydnabyddir yn gyfryw gan Fainc yr Esgobion,

 

bydd i’r cyfryw wasanaeth gael ei ystyried yn wasanaeth pensiynol o fewn y Cynllun hwn,  oni bai fod y  cyfryw wasanaeth ynddo’i hun yn cynnwys hawliau pensiwn , ac ar yr amod y gall Corff y Cynrychiolwyr benderfynu a yw unrhyw wasanaeth arbennig dramor yn y maes cenhadol.

 

8.

 

Yn achos clerig neu ddiacones y gohiriwyd ei ordeinio am gyfnod o ganlyniad i unrhyw effaith rhyfel neu o ganlyniad i gyflawni Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyngor Esgob yr esgobaeth cyn cael ei ordeinio, ond a oedd wedi ei dderbyn i’w ordeinio, gall Corff y Cynrychiolwyr ddatgan y bydd i’r cyfan neu unrhyw ran o’r cyfryw gyfnod gael ei gyfrif fel gwasanaeth pensiynol i ddibenion y Cynllun hwn, eithr dan yr amod lle bo’r cyfryw glerig neu ddiacones wedi derbyn pensiwn neu fuddged gan y Goron, ar wahân i bensiwn anabledd neu fuddged rhyfel, ni fydd i’r cyfnod gwasanaeth y talwyd y cyfryw bensiwn neu fuddged ar ei gyfer gael ei gyfrif fel gwasanaeth pensiynol.

 

9.

 

Mewn unrhyw achosion yn unol â darpariaethau adrannau  17 neu  18 pennod VI lle gofynnwyd i glerig neu ddiacones ymddeol, pennir swm y pensiwn ar sail blynyddoedd y gwasanaeth pensiynol yn yr un modd ag yn achos clerig neu ddiacones a ymddeolodd dan ddarpariaethau’r Cynllun hwn.

 

10.

 

Gall Corff y Cynrychiolwyr benderfynu y bydd i wasanaeth a roddwyd gan glerig neu ddiacones, gwahanol i’r hyn y cyfeirir ato’n ffurfiol yma, gael ei gyfrif yn wasanaeth pensiynol.

 

Graddfeydd Taliadau a Ffiniau Ariannu y Cyllid Gwladol

 

11.

 

(1)     Graddfa’r pensiynau a delir i glerigion a diaconesau y cychwynnodd eu gwasanaeth pensiynol cyn 1 Ionawr 2006 fydd, am bob blwyddyn o wasanaeth pensiynol, un rhan o ddeugain o drigain y cant o leiafswm cyflog y swydd bensiynol uchaf a ddaliwyd ar unrhyw adeg yn ystod y pum mlynedd olaf o’r cyfryw wasanaeth pensiynol.

 

(2)     Graddfa’r pensiynau a delir i glerigion a diaconesau sy’n cychwyn ar wasanaeth pensiynol neu’n dychwelyd iddo wedi 31 Rhagfyr 2005 fydd am bob blwyddyn o wasanaeth pensiynol wedi hynny un rhan o ddeugain o hanner cant y cant o leiafswm cyflog y swydd bensiynol uchaf a ddaliwyd ar unrhyw adeg yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf o’r cyfryw wasanaeth.

 

(3)     I ddibenion isadran (1) o hynyma, bydd swyddi Archesgob, Esgob Cadeiriol, Esgob Cynorthwyol, Deon, Archddiacon a Pheriglor yn swyddi pensiynol.

(4)     Bydd i glerig nad yw wedi dal un o’r swyddi pensiynol a nodwyd yn isadran (3) o hynyma a diacones dderbyn pensiwn fel pe bai ef neu hi wedi bod yn Beriglor dan yr amod y bydd i swyddi Canon Trigiannol a Rheithor mewn Bywoliaeth Reithorol gael eu hystyried yn swyddi pensiynol i ddibenion isadran (1) a (2) o hynyma yn achos clerigion yn dal y naill swydd neu’r llall ar 31 Rhagfyr 2001, neu, gan fod wedi dal y cyfryw swydd ar neu cyn y dyddiad hwnnw, a fydd yn ymddeol o weinidogaeth gyflogedig amser-llawn yr Eglwys yng Nghymru ar neu cyn 31 Rhagfyr 2006 ac wedi dal y swydd yn ystod y pum mlynedd cyn ymddeol.

 

(5)     Nid ystyrir fod unrhyw hawliau pensiynol yn deillio o ganlyniad i unrhyw lwfans neu gyflog ychwanegol a delir i glerig yn rhinwedd gwasanaethu mewn swydd amhensiynol.

 

(6)     (a)     At ddibenion cyfrif  y pensiwn a’r cyfandaliad pensiwn i’w talu yn unol â’r Cynllun hwn, ystyrir mai “cydnabyddiaeth derfynol” clerig neu ddiacones fydd y gyflog a dalwyd gan Gorff y Cynrychiolwyr i’r cyfryw glerig neu ddiacones am y flwyddyn yn union cyn ymddeol,  ar yr amod os daliwyd swydd uwch ar unrhyw adeg yn ystod y pum mlynedd olaf o wasanaeth pensiynol gyda’r Eglwys yng Nghymru, yr ystyrir at amcanion y Cynllun hwn mai cyflog gyfredol y swydd uwch honno a dalwyd am y flwyddyn yn union cyn ymddeol; a

(b)     Lle y gweithredwyd y Cynllun cyn 6 Ebrill 2006 o dan gyfyngu ar bensiynau gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, cynhwysai’r “gydnabyddiaeth derfynol” at bwrpas penderfynu a oedd pensiwn o’r fath yn mynd dros y cyfyngu hwnnw y swm a ddarperir yn Atodlen Cynllun Cynnal y Weinidogaeth  y cytunwyd arno fel gwerth y tŷ yr oedd ef neu hi yn ei feddiannu ar y pryd  i’r cyfryw glerig neu ddiacones.

 

Talu

 

12.

 

(1)     Ni thelir unrhyw bensiwn oni wneir cais amdano yn y ffurf a bennwyd gan Gorff y Cynrychiolwyr wedi ei arwyddo gan y ceisydd neu ar ei ran.

 

(2)     Ac eithrio yn achos ceisydd dan ddarpariaethau paragraff 15(1) o hynyma neu lle mai’r Archesgob neu Esgob Cadeiriol yw’r ceisydd, bydd i’r cais gael ei adarwyddo gan yr Esgob Cadeiriol.

 

(3)     Yn achos ceisydd dan ddarpariaethau paragraff 15(1) o hynyma bydd i’r cais gael ei anfon yn uniongyrchol at Ysgrifennydd Corff y Cynrychiolwyr.

 

13.

 

(1)     Cynyddir graddfa’r pensiynau a delir am wasanaeth pensiynol a gwblhawyd cyn I Ionawr 2006 gan y ganran y cynyddir isafswm cyflogau clerigion bob blwyddyn.

 

(2)     (a)     Cynyddir graddfa’r pensiynau a delir am wasanaeth pensiynol a gwblhawyd wedi 31 Rhagfyr 2005  yn flynyddol yn ôl yr un ganran â chanran y cynnydd  yn y Mynegai Prisiau Adwerthu a gyhoeddir gan Swyddfa’r Ystadegau Cenedlaethol neu ei holynwyr am y deuddeng mis blaenorol yn ddarostyngedig i uchafswm cynnydd o 5%.

(b)     Os peidir â chyhoeddi’r cyfryw fynegai neu bod y dulliau a ddefnyddir i’w llunio yn ei gwneud yn amhosibl amcangyfrif y cyfryw ganran bydd i’r mynegai y cyfeirir ato wrth amcangyfrif y cyfryw gynnydd neu ddull amgen o amcangyfrif gael ei benderfynu gan y Corff Llywodraethol.

 

14.

 

Cyn ac ar unrhyw adeg tra parheir i dalu pensiwn i glerig neu ddiacones yn dioddef o anabledd parhaol o fewn adran 3 pennod XII y Cyfansoddiad, bydd gan Gorff y Cynrychiolwyr yr hawl i fynnu bod y cyfryw glerig neu ddiacones yn cael archwiliad meddygol gan feddyg a ddewiswyd gan Gorff y Cynrychiolwyr, ac os digwydd i’r cyfryw glerig neu ddiacones gael adferiad iechyd a derbyn swydd gyflogedig gall Corff y Cynrychiolwyr, os barna’n addas, ailystyried maint y cyfryw bensiwn.

 

Pensiynau a Glowyd  neu a Drosglwyddwyd

 

15.

 

(1)     Yn achos un nad yw mewn gwasanaeth pensiynol sydd wedi cyrraedd yr oedran ymddeol addas isaf dan Bennod VIII y Cyfansoddiad ar ôl 5 Ebrill 1975 ac sy’n gymwys i dderbyn pensiwn dan ddarpariaethau’r Cynllun hwn, y dull o gyfrif y cyfryw bensiwn fydd yr un a oedd mewn grym ar 1 Ionawr 1978 neu’r dyddiad pan beidiodd y cyfryw un â bod mewn gwasanaeth pensiynol, pa un bynnag a oedd ddiweddaraf. Eithr ar neu wedi 20 Medi 1983 adolygir swm y cyfryw bensiwn yn flynyddol a’i gynyddu gan ganran y cynnydd yn y Mynegai Prisiau Adwerthu am y deuddeng mis blaenorol, hyd at, ond heb fod yn fwy na phump y cant y flwyddyn. Wrth ymddeol adolygir swm y cyfryw bensiwn drachefn a’i gynyddu gan ganran y cynnydd yn y Mynegai Prisiau Adwerthu am y cyfnod ers yr adolygu blaenorol, hyd at ond heb fod yn fwy na’r ddeuddegfed ran o bump y cant am bob mis o’r cyfryw gyfnod a gwblhawyd.

(2)     Pan fo rhywun yn ymddeol mewn amgylchiadau lle nad oedd mewn gwasanaeth pensiynol yn yr Eglwys yng Nghymru yn union cyn y cyfryw ymddeol, bydd ganddo/i hawl i bensiwn dan ddarpariaethau paragraff (1) o hynyma yn unol â blynyddoedd unrhyw wasanaeth pensiynol yr oedd unrhyw ran ohono’n cronni ar 5 Ebrill 1975 neu wedi hynny.

 

Taliadau Ex Gratia ac yn ôl Doethineb

 

16.

 

Bydd gan Gorff y Cynrychiolwyr y gallu i wneud dyfarniad ex-gratia os bydd Esgob yr esgobaeth yn cymeradwyo hynny ac ar y cyfryw amodau ag y barno Corff y Cynrychiolwyr yn gymwys, er budd clerig neu ddiacones sydd â llai na dwy flynedd o wasanaeth pensiynol wrth gefn; gellir ailystyried y cyfryw ddyfarniad ar unrhyw adeg.

 

17.

 

Pan fo cyfanswm incwm unrhyw un a fo’n derbyn pensiwn dan y Cynllun hwn yn llai nag uchafswm pensiwn Periglor, gall Corff y Cynrychiolwyr, os barna hynny’n addas, gynyddu’r cyfryw bensiwn trwy roi grant yn ôl ei ddoethineb.

 

Darpariaethau at Ymddeol Cynnar Gwirfoddol

 

18.

 

(1)     Yn ddiymrwymiad i adran 2(2) Pennod VIII y Cyfansoddiad, gall clerig ymddeol o’r weinidogaeth gyflogedig ar yr amod iddo/i gyrraedd 55 mlwydd oed neu y bydd yn cyrraedd 55 mlwydd oed ar y dyddiad y bwriedir ymddeol.

 

(2)     (a)     Rhaid i glerig sy’n dymuno gwneud cais am gael ymddeol yn gynnar roi tri mis o rybudd i Esgob yr esgobaeth ac ni ellir lleihau’r cyfnod hwnnw ond trwy ganiatâd Esgob yr esgobaeth.

(b)     Bydd rhyddhau’r pensiwn a’r cyfandaliad pensiwn yn gynnar yn ddarostyngedig i leihad actiwaraidd i gymryd cyfrif o’r ffaith bod y taliadau pensiwn yn cychwyn yn gynnar a’i bod yn bosibl y bydd cyfnod y taliad yn hwy.

 

(3)     Lleiheir pensiwn a ganiateir mewn amgylchiadau o’r fath am yr holl gyfnod y mae’r pensiwn yn daladwy ac felly hefyd y pensiwn arfaethedig i’r priod neu bartner sifil sy’n goroesi, ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe gynyddir y pensiwn ar yr un ganran bob mis Ionawr â phensiynau a delir ar oedran pensiwn arferol neu wedi hynny.

 

19.

 

(1)     Telir cyfandaliad pensiwn i bob clerig neu ddiacones sy’n ymddeol (a elwir ar ôl hyn “y buddiolydd”) sydd â hawl i bensiwn a delir gan Gorff y Cynrychiolwyr.

 

(2)     Gellir cynyddu’r cyfandaliad pensiwn ar gais y clerig neu’r ddiacones sy’n ymddeol a lleihau’r pensiwn blynyddol.

 

(3)     Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn penderfynu o bryd i’w gilydd swm y cyfandaliad pensiwn a’r pensiwn a leihawyd.

 

 

20.

 

(1)     Lle’r oedd y buddiolydd mewn gwasanaeth amser-llawn yng ngweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru yn union cyn ymddeol, bydd uchafswm y  cyfandaliad pensiwn yn unol â’r swydd y mae’n ei dal ar ddyddiad yr ymddeol ac fe’i cyfrifir yn ôl 1½ gwaith isafswm y cyflog a argymhellir ar gyfer y swydd honno ar 31 Rhagfyr cyn dyddiad ymddeol ynghyd â 1½ gwaith deuddegfed ran y codiad cyflog blynyddol am bob mis o wasanaeth a gwblhawyd ym mlwyddyn galendr ymddeol; dan yr amod os yw wedi dal swydd uwch ar unrhyw adeg yn ystod pum mlynedd olaf gwasanaeth pensiynol yn yr Eglwys yng Nghymru cymerir i amcan yr is-adran hon mai’r swydd uwch honno a ddelid ar ddyddiad yr ymddeol.

Telir uchafswm y cyfandaliad pensiwn pan fydd 40 mlynedd o wasanaeth pensiynol wedi eu cwblhau.  Os bydd y buddiolydd wedi gwasanaethu am gyfnod byrrach bydd y  cyfandaliad pensiwn taladwy y cyfartaledd perthnasol i rif y blynyddoedd a’r misoedd cyfan o wasanaeth pensiynol.

 

(2)     Lle nad oedd y buddiolydd mewn gwasanaeth amser-llawn yng ngweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru yn union cyn bod yn gymwys i dderbyn pensiwn taladwy gan Gorff y Cynrychiolwyr ar ôl cyrraedd yr oedran lleiaf i ymddeol yn unol â  Phennod VIII y Cyfansoddiad, cyfrifir y  cyfandaliad pensiwn a delir i’r buddiolydd ar y raddfa a oedd mewn grym ar 1 Ionawr 1978 neu’r dyddiad y peidiodd y buddiolydd â bod mewn gwasanaeth pensiynol amser-llawn yng ngweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru, pa un bynnag a fo ddiweddaraf.  Eithr, ar neu wedi 20 Medi 1983, adolygir swm y cyfryw  gyfandaliad pensiwn yn flynyddol, a’i gynyddu yr un faint â’r cynnydd yn y Mynegai Prisiau Adwerthu yn ystod y deuddeng mis blaenorol, hyd at, ond heb fod yn fwy na phump y cant y flwyddyn.  Ar ymddeoliad, adolygir cyfanswm y cyfryw  gyfandaliad pensiwn drachefn a’i gynyddu gan faint y cynnydd yn  y Mynegai Prisiau Adwerthu yn ystod y cyfnod ers yr adolygu blaenorol, hyd at, ond heb fod yn fwy na deuddegfed ran o bump y cant am bob mis o’r cyfryw gyfnod a gwblhawyd.

 

(3)     Os bydd clerig neu ddiacones yn ymddeol cyn cyrraedd yr oedran lleiaf i ymddeol oherwydd methiant parhaol ac yn cael pensiwn a delir gan Gorff y Cynrychiolwyr, bydd gan y cyfryw glerig hawl i dderbyn  cyfandaliad pensiwn.

(4)     Os digwydd i glerig neu ddiacones farw cyn ymddeol, a’i fod ef neu hi mewn gwasanaeth pensiynol ac wedi cyrraedd deng mlwydd a thrigain oed adeg ei f/marw, a chanddo/i hawl i gyfandaliad pensiwn dan ddarpariaethau’r Cynllun hwn ar ei h/ymddeoliad, ac nad oes hawl gan y wraig neu’r gŵr gweddw neu’r partner sifil i daliad Marw mewn Swydd yr Eglwys yng Nghymru, telir i’r wraig neu’r gŵr gweddw neu’r partner sifil sy’n goroesi y mwyaf o’r ddau swm canlynol:

(a)     y swm a ddarperir yn Atodlen Cynllun Cynnal y Weinidogaeth; neu

(b)     y cyfandaliad pensiwn tybiedig y byddai gan y clerig neu’r ddiacones hawl iddo dan ddarpariaethau’r Cynllun hwn os oedd wedi ymddeol yn union cyn ei f/marw.

 

Os na ddigwydd i’r clerig neu ddiacones adael y cyfryw weddw neu ŵr gweddw neu bartner sifil gellir talu i’r rhai sy’n dibynnu arno/i neu i berthnasau y cyfryw swm, ond heb fod yn fwy na’r symiau a osodwyd yn (a) a (b) uchod, fel y pennir gan Esgob yr esgobaeth.

 

21.

 

At amcanion paragraff 20 o hynyma, bydd yr ymadrodd “gwasanaeth amser-llawn yng ngweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru” yn cynnwys gwasanaeth a gyfrifir yn “wasanaeth pensiynol” at amcanion paragraffau 5 i 10 o hynyma, a bydd gan Gorff y Cynrychiolwyr awdurdod llawn i benderfynu a yw gwasanaeth a roddwyd gan glerig neu ddiacones yn “wasanaeth amser-llawn yng ngweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru”.

 

Pensiynau ar gyfer Priod neu Bartner Sifil sy’n goroesi

 

22.

 

Bydd gan briod neu bartner sifil sy’n goroesi y bu ei ph/briod neu ei ph/bartner sifil farw ar neu wedi 23 Medi 1994, hawl gyfreithiol i bensiwn,

(a)     os oedd yr ymadawedig, yn union cyn ei f/marw, yn glerig neu ddiacones a oedd

(i)      naill ai yn derbyn pensiwn (gan gynnwys pensiwn ex-gratia) neu grant yn rhinwedd gwasanaeth yng ngweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru, taladwy gan Gorff y Cynrychiolwyr, neu

(ii)     mewn gwasanaeth pensiynol a bod ganddo ef/hi o leiaf ddwy flynedd o wasanaeth pensiynol wrth gefn,

a

(b)     bod y priod neu’r partner sifil sy’n goroesi yn briod neu mewn partneriaeth sifil â’r ymadawedig, pe bai wedi ymddeol, adeg ei ymddeoliad.

 

23.

 

(1)     Graddfa y cyfryw bensiwn fydd trigain y cant o’r pensiwn yr oedd y clerig neu’r ddiacones ymadawedig yn ei dderbyn pan fu farw neu y byddai ganddo/ i hawl i’w dderbyn dan ddarpariaethau’r Cynllun hwn pe bai’r ymadawedig wedi ymddeol yn union cyn marw.

 

(2)     I ddiben y paragraff hwn, ac eithrio lle cyfrifir pensiwn priod neu bartner sifil sy’n goroesi ar sail hawl y priod neu’r partner sifil ymadawedig o dan  baragraff 15 (1) o hynyma, ystyrir bod unrhyw gynnydd yng ngraddfa pensiynau clerigol  i’w gymhwyso at bensiwn y priod neu’r partner sifil sy’n goroesi.

 

24.

 

Bydd gan Gorff y Cynrychiolwyr, mewn achosion eithriadol, hawl i ddyfarnu pensiwn ex-gratia i briod neu bartner sifil sy’n goroesi yr oedd ei ph/briod neu           ei ph/bartner sifil ymadawedig yn gymwys yn ôl gofynion naill ai paragraff (a), (b)  neu (c) paragraff 28 o hynyma, er gwaethaf nad oedd wedi bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil â’r ymadawedig am o leiaf bum mlynedd.

 

25.

 

Lle bo cyfanswm incwm unrhyw briod neu bartner sifil sy’n goroesi a fo’n derbyn pensiwn dan y Cynllun hwn yn llai na thrigain y cant o uchafswm pensiwn Periglor, gall Corff y Cynrychiolwyr, os barna hynny’n addas, gynyddu’r cyfryw bensiwn trwy roi grant yn ôl ei ddoethineb.

 

Darpariaethau Trosiannol

 

26.

 

Bydd i bob clerig a diacones a ymddeolodd yn y blynyddoedd 1978 hyd 1984 (yn gynhwysol) dderbyn yn ychwanegol at eu pensiynau yr ychwanegiadau a ganlyn am bob blwyddyn o wasanaeth pensiynol llai na 40 mlynedd (hyd at fwyafswm o 20 mlynedd).

Blwyddyn ymddeol              Maint yr ychwanegiad

£

1978                               21

1979                               18

1980                               15

1981                               12

1982                                 9

1983                                 6

1984                                 3

27.

 

Er gwaethaf darpariaethau adran 11 o hynyma telir pensiwn i glerigion a wasanaethodd fel Deoniaid Bro ar unrhyw adeg rhwng 1 Ionawr 1992 a 31 Rhagfyr 1996 neu a fydd yn ymddeol o fewn pum mlynedd o ddal y swydd yn ystod y cyfnod hwnnw ar raddfa un rhan o ddeugain o drigain y cant o gyflog Deon Bro, a bydd yn cynnwys unrhyw lwfans neu gyflog ychwanegol a dalwyd i’r clerig yn rhinwedd  gwasanaethu yn y cyfryw swydd.

 

28.

 

Bydd gan briod sy’n goroesi yr oedd ei ph/briod ymadawedig yn glerig neu’n ddiacones yn union cyn marw, ac a oedd :

(a)     naill ai’n derbyn pensiwn (gan gynnwys pensiwn ex gratia) neu grant yn rhinwedd gwasanaeth yng ngweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru, taladwy gan Gorff y Cynrychiolwyr, neu,

(b)     a fuasai’n derbyn pensiwn pe bai’r Cynllun Pensiynau blaenorol mewn grym ddyddiad ei f/marwolaeth , neu

(c)     mewn gwasanaeth pensiynol gydag o leiaf ddwy flynedd o wasanaeth pensiynol wrth gefn,

hawl i bensiwn os:

(i)      yn achos clerig neu ddiacones a fu farw cyn 1 Ebrill 1966, fod ganddo/i o leiaf ddeng mlynedd o wasanaeth pensiynol wrth gefn  ac iddo/i fod yn  briod ag ef/ hi am o leiaf bum mlynedd ac yn cyd-fyw ag ef/ hi pan fu farw;

(ii)     yn achos clerig neu ddiacones a fu farw ar neu wedi 1 Ebrill 1966 a chyn 1 Ionawr 1978, fod ganddo/i o leiaf bum mlynedd o wasanaeth pensiynol wrth gefn ac iddo/i  fod yn briod ag ef/ hi am o leiaf bum mlynedd ac yn cyd-fyw ag ef/ hi adeg ei f/marwolaeth ;

(iii)    yn achos clerig neu ddiacones a fu farw ar neu wedi 1 Ionawr 1978 a chyn 23 Medi 1994, fod ganddo/i o leiaf bum mlynedd o wasanaeth pensiynol wrth gefn a’i fod ef/hi wedi bod yn briod â’r ymadawedig am o leiaf bum mlynedd ac yn cyd-fyw ag ef/ hi adeg ei f/marwolaeth.

 

 

CYNLLUN CADEIRLAN LLANELWY

 

Adran 1

 

Y RHAGAIR

 

1.

 

Cadarnheir a pharhau yma Gyfansoddiad, Statudau, Deddfiadau ac Arferiadau cadeirlan Llanelwy y rhai sy’n gweithredu ar hyn o bryd, onid yn unig lle bônt yn groes i’r hyn a ganlyn neu’n anghyson â hynny.

 

2.

 

Daw’r Cynllun hwn i weithredu ar 1 Ionawr 1974.

 

Adran II

 

Y CORFF CADEIRIOL

 

1.

 

Rheolir cadeirlan Llanelwy, fel o’r blaen, gan Gabidwl y gadeirlan (a elwir yn gyffredin y Deon a’r Cabidwl ac a elwir yma rhag llaw y Cabidwl), a hwnnw yn ddarostyngedig bob amser i’r gyfraith eglwysig fel y derbynnir neu y deddfir hi gan Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru.

 

2.

 

Aelodau’r Cabidwl fydd y Deon, chwe Phrebendari a saith Ganon; ac o’r Prebendariaid bydd i Archddiacon Llanelwy (Prebendari Llanfair 1), Archddiacon Trefaldwyn (Prebendari Llanfair 2) ac Archddiacon Wrecsam (Prebendari Meliden a Thrysorydd) flaenori yn ôl dyddiad eu penodi, yna daw’r Pencantor (Prebendari’r Faenol), y Canghellor (Prebendari Llanefydd) a’r Sacrydd (Prebendari Meifod) gan flaenori yn ôl dyddiad eu penodi, ac wedyn y saith Ganon Cwrsal gan flaenori ar ôl y Prebendariaid ac yn ôl dyddiad eu penodi.

 

 

3.

 

O’i benodi neu o’i phenodi ac ar gyflwyno Gorchymyn yr Esgob, gosodir pob aelod o’r Cabidwl gan y Deon a’i dderbyn neu a’i derbyn i’r Cabidwl, wedi iddo neu iddi yn gyntaf wneud ac arwyddo datganiad y bydd iddo neu iddi gadw’n ffyddlon Gyfansoddiad, Statudau, Deddfiadau ac Arferiadau’r gadeirlan, a’r Cynllun hwn, a dyfal gyflawni’r dyletswyddau a ofynnir ganddo neu ganddi o fod yn aelod o’r Cabidwl.

 

4.

 

Rhaid i bob Prebendari neu Ganon sy’n Beriglor neu mewn rhyw swydd arall yn yr esgobaeth ymddiswyddo o’r brebend neu’r ganoniaeth pan beidio â bod yn Beriglor neu ddal y swydd arall honno, oni phenderfyno’r Esgob yn wahanol.

 

5.

 

Gall yr Esgob, wrth gyflwyno prebend neu ganoniaeth i glerig sydd mewn rhyw swydd y tu allan i’r gadeirlan heblaw bywoliaeth blwyfol, roi yn y llythyrau penodi fod y sawl sy’n derbyn y penodiad hwnnw i ymddiswyddo rhag blaen o’r brebend neu’r ganoniaeth honno pan beidio â bod yn y cyfryw swydd.

 

6.

 

Os ar unrhyw amser y bydd tâl ychwanegol (gan gynnwys er enghraifft ryddhad neu leihad rhent tŷ) wedi ei bennu i unrhyw Brebendari neu Ganon yn unig yn rhinwedd y brebend neu’r ganoniaeth honno, gall yr Esgob, gyda chaniatâd y Cabidwl, osod ar y Prebendari neu’r Canon hwnnw, trwy lythyr a chopi ohono i’w gadw yn archifau’r Cabidwl, y cyfryw ddyletswydd ychwanegol o fewn y gadeirlan, o dan gyfarwyddyd y Deon, ag a dybio’r Esgob yn rhesymol.

 

Adran III

 

YR ESGOB

 

1.

 

Bydd galluoedd presennol yr Esgob fel Ymwelydd, a’i Awdurdod Esgobol dros y gadeirlan a’r Cabidwl, yn parhau fel o’r blaen.

 

2.

 

Pan ddaw’r Esgob i’w orseddu, rhaid i’r Deon alw pob aelod o’r Cabidwl i fod yn bresennol a chymryd ei ran neu ei rhan yn y gweithrediadau o’u dechrau i’w diwedd.

 

3.

 

Gall yr Esgob gynnal Ordeiniadau, Conffyrmasiynau, Synodau ac

Ymweliadau yn y gadeirlan ar y cyfryw amserau ac yn y cyfryw fodd ag a benderfyno; gall hefyd gynnal gwasanaethau arbennig eraill yn y gadeirlan, o ymgynghori â’r Deon.

 

4.

 

Bydd gan yr Esgob hawl i gymryd y cyfryw ran mewn Gwasanaeth Dwyfol ac i bregethu ar y cyfryw amserau yn y gadeirlan ag a dybio’n rhesymol, o ymgynghori â’r Deon.

 

5.

 

Bydd yn ddyletswydd ar y Deon, y Prebendariaid a’r Canoniaid gynorthwyo’r Esgob, os mynn ef hynny, ym mhob gwasanaeth neu weinyddiadau yn y gadeirlan y byddo ef yn brif weinyddwr ynddynt.

 

6.

 

Mae gan yr Esgob hawl i gynnal Llys Eglwysig yn y gadeirlan.

 

7.

 

Pan fo galw am hynny, gall yr Esgob alw’r Cabidwl i’w gyfarfod yn y cabidyldy; mewn cyfarfodydd felly gyda’r Cabidwl yr Esgob fydd yn llywyddu, ond gall ef ymgilio tra bo’r Cabidwl yn penderfynu ateb i’w gynigion neu i’w gwestiynau.  Bydd yn ddyletswydd ar bob aelod o’r Cabidwl ddod i’r cyfarfodydd hynny.

 

8.

 

Gall yr Esgob, gyda chydsyniad y Cabidwl, ddiddymu, newid, talfyrru, helaethu, dehongli neu ychwanegu at Gyfansoddiad, Statudau neu Ddeddfiadau’r gadeirlan, neu ddileu unrhyw Arferiad o’i heiddo, cyn belled bob amser ag na bo’r cyfryw allu yn ymyrryd ag unrhyw beth a gynhwysir yn y Cynllun hwn.

 

Adran IV

 

Y DEON

 

1.

 

Y Deon yw prif aelod y Cabidwl.

 

2.

 

Rhaid i’r Deon fod yn drigiannol am o leiaf wyth mis ym mhob blwyddyn, a hynny’n golygu ei fod yn y cyfnod hwnnw,

(a)     yn byw a chysgu yn y deondy swyddogol;

(b)     yn mynychu Gwasanaeth Dwyfol yn y gadeirlan yn gyson.

 

3.

 

Y Deon fydd yn llywyddu yn holl gyfarfodydd y Cabidwl, a lle bo’r pleidleisio yn gyfartal bydd ganddo ail bleidlais neu bleidlais fwrw.

 

4.

 

Y Deon fydd yn gyfrifol bod Urddasolion, Prebendariaid, Canoniaid, Ficeriaid Corawl neu Gaplaniaid, a Swyddogion y Cabidwl yn cyflawni eu dyletswyddau priodol hwy yn ddyladwy; bydd iddo ofalu bod y rheoliadau ynglŷn â’u dyletswyddau yn hysbys iddynt, a bydd iddo eu hyfforddi, eu cynghori, a’u rhybuddio os bydd galw, ynglŷn â chyflawni eu dyletswyddau yn ddyladwy, ond ni chaiff weithredu ymhellach heb ganiatâd y Cabidwl.

 

5.

 

Rhaid i’r Cabidwl o bryd i’w gilydd enwi aelod neu aelodau o’r Cabidwl i weithredu yn lle’r Deon pa bryd bynnag na bo hwnnw’n drigiannol, neu pan na allo gyflawni ei ddyletswyddau oherwydd afiechyd neu ryw achos pwysig arall.

 

6.

 

Pan fo swydd Deon yn wag, gall yr Esgob o bryd i’w gilydd enwi aelod neu aelodau o’r Cabidwl i weithredu yn lle’r Deon.

 

Adran V

 

YR URDDASOLION, PREBENDARIAID A CHANONIAID

 

1.

 

(1)     Rhaid i’r Cabidwl, gyda chydsyniad yr Esgob, bob amser fabwysiadu un o’r cynlluniau yn y drefn a draethir yn Rhannau 1 a 2 a 3 o’r Atodlen i’r Cynllun hwn.

 

(2)     Gyda chydsyniad yr Esgob, gall y Cabidwl o bryd i’w gilydd fabwysiadu’r cynllun a draethir yn Rhan 3 o’r Atodlen honno, yn ogystal ag un o’r cynlluniau a draethir yn Rhannau 1 a 2. Os bydd i’r Cabidwl fabwysiadu Rhannau 2 a 3 o’r Atodlen honno, ni fydd yr amod ynglŷn â pheidio â thrigiannu a gynhwysir yn Rhan 2 yn berthnasol i’r Canon Trigiannol y mae darpariaeth ar ei gyfer neu ar ei chyfer yn Rhan 3.

 

2.

 

Hyd oni waddolir swyddi Pencantor, Canghellor, Trysorydd a Sacrydd yn ddigonol, cyflawnir dyletswyddau’r gwahanol swyddi hyn gan y Deon neu gan y cyfrw aelod neu aelodau eraill o’r Cabidwl ag a benderfyno’r Esgob o bryd i’w gilydd.

 

3.

 

Bydd yn ddyletswydd ar aelodau’r Cabidwl fynychu pob cyfarfod ohono, a chymryd rhan ddyladwy yn ei weithrediadau.

 

Adran VI

 

Y CABIDWL

 

1.

 

Bydd dau gyfarfod arferol o’r Cabidwl ym mhob blwyddyn, ar ddyddiadau cymeradwy gan y Cabidwl, ond am reswm digonol gellir newid y dyddiadau hynny yn ôl dewis y Deon.

 

2.

 

Gellir galw cyfarfodydd arbennig o’r Cabidwl ar unrhyw amserau eraill pan fo materion y gadeirlan, ym marn y Deon, yn galw am hynny, ac yn yr un modd ar alwad ysgrifenedig gan unrhyw bedwar aelod o’r Cabidwl.

 

3.

 

Gan mai Coleg neu Gymdeithas yw’r Cabidwl, derbynnir penderfyniad mwyafrif yr aelodau yn benderfyniad y cyfangorff a bydd yn rhwymo’r holl aelodau.

 

4.

 

Bydd pum aelod o’r Cabidwl yn bresennol yn gorwm, ond ni chânt benderfynu unrhyw fater y bo cydsyniad mwyafrif y Cabidwl yn ofynnol arno.

 

5.

 

Derbynnir unrhyw benderfyniad a gafodd gydsyniad wyth aelod o’r Cabidwl yn bresennol ac yn pleidleisio yn Act y Cabidwl.

 

6.

 

Rhaid i’r Cabidwl wneud y cyfryw orchmynion, rheoliadau ac is-ddeddfau ag a fo’n angenrheidiol i weithredu’r Cynllun hwn, a gall ddiwygio, diddymu neu ychwanegu at y gorchmynion, rheoliadau ac is-ddeddfau hynny o bryd i’w gilydd, o roi rhybudd i bob aelod o’r Cabidwl o leiaf bedwar diwrnod ar ddeg cyn y cyfarfod o’i fwriad i ddefnyddio’r gallu hwnnw.

 

7.

 

Rhaid i’r Cabidwl benodi Cofrestrydd, Cyfrifydd, Derbynnydd neu Weithredydd (a elwir hefyd yn “Clerc y Cabidwl”), a rhaid i hwnnw ei hunan, neu ddirprwy iddo neu iddi a fo’n gymeradwy gan y Cabidwl, fynychu holl gyfarfodydd y Cabidwl a chadw cofnodion o’r gweithrediadau yno, a rhaid iddo neu iddi gyflawni’r dyletswyddau eraill hynny a draethir yn y cyfryw orchmynion, rheoliadau ac is-ddeddfau ag a nodwyd eisoes, a chadw’n ddiogel holl lyfrau, gweithredoedd a phapurau o eiddo’r Cabidwl, hyd nes neu hyd oni orchmynno’r Cabidwl yn wahanol.

 

Adran VII

 

Y FICERIAID CORAWL NEU GAPLANIAID

 

1.

 

Rhaid i’r Ficeriaid Corawl Cyflogedig neu Gaplaniaid a benodir gan y Cabidwl wneud y gorchwylion hynny o fewn y gadeirlan ag a orchmynno’r Deon yn unol â rheoliadau’r Cabidwl, a gall un o’r Ficeriaid Corawl neu Gaplaniaid hynny fod yn Is-gantor y gadeirlan.

 

2.

 

Gall y Cabidwl, os barna fod hynny’n briodol, benodi dau Ficer Corawl mygedol, a’r rheini i gyflawni’r dyletswyddau hynny a benodir o bryd i’w gilydd gan y Cabidwl.

 

Adran VIII

 

LLYFRGELL Y GADEIRLAN

 

Bydd llyfrgell y gadeirlan yng ngofal Llyfrgellydd wedi ei benodi gan y Cabidwl, a bydd ef neu hi yn y swydd tra gwelont hwy yn dda.  Benthycir llyfrau’r llyfrgell i glerigion yr esgobaeth ac eraill yn unol â rheolau cymeradwy gan y Cabidwl.

 

YR ATODLEN

 

Rhan 1

 

Rhaid i bob Prebendari a Chanon fod yn drigiannol am y cyfryw gyfnod ym mhob blwyddyn, ac yn y cyfryw drefn, ag a benderfyno’r Cabidwl o bryd i’w gilydd.  Bydd y trigiant hwnnw’n golygu: byw a chysgu yn y lle a fynno’r Cabidwl o bryd i’w gilydd, mynychu Gwasanaeth Dwyfol yn y gadeirlan yn gyson trwy gydol cyfnod y trigiant, a phregethu mor aml yn y gadeirlan ag a fynno’r Cabidwl, ond gall y Prebendari neu’r Canon a fo’n drigiannol draddodi pregethau ychwanegol yn y gadeirlan ar gais y Deon neu gyda’i ganiatâd.

 

 

Rhan 2

 

1.

 

Ni ofynnir i unrhyw Brebendari neu Ganon i’r gadeirlan gadw cyfnod trigiannu.

 

2.

 

Rhaid i un Prebendari neu Ganon, wedi ei enwi neu wedi ei henwi o bryd i’w gilydd gan y Cabidwl, fod yn bresennol yng Ngwasanaethau’r gadeirlan ar bob Sul, a rhaid iddo neu iddi gymryd y cyfryw ran ynddynt yn ôl gorchymyn y Deon, yn unol â rheoliadau’r Cabidwl.

 

3.

 

Rhaid i’r Prebendari neu’r Canon a fo’n bresennol felly yn y gadeirlan bregethu mor aml ar y Sul hwnnw ag a osodo’r Cabidwl arno neu arni o bryd i’w gilydd, ond gall draddodi pregethau ychwanegol ar gais y Deon neu gyda’i ganiatâd.

 

4.

 

Rhaid i’r Cabidwl geisio sicrhau fod o leiaf un o’i nifer yn bresennol yn y Foreol a’r Hwyrol Weddi yn y gadeirlan, bob dydd drwy’r flwyddyn.

 

Rhan 3

 

1.

 

Bydd un Canon Trigiannol amser llawn, a hwnnw yn y swydd am gyfnod neu gyfnodau heb fod yn hwy na deuddeng mlynedd at ei gilydd.

 

2.

 

Rhaid i’r Canon Trigiannol hwnnw fyw a chysgu yn y cyfryw le ac am y cyfryw gyfnod neu gyfnodau ym mhob blwyddyn ag a fynno’r Esgob.

 

3.

 

Rhaid i’r Canon Trigiannol hwnnw ymgymryd â’r cyfryw orchwylion yn yr esgobaeth ac yn y gadeirlan ag a fynno’r Esgob o ymgynghori â’r Deon.

 

 

CYNLLUN CADEIRLAN BANGOR

 

Adran I

 

Y RHAGAIR

 

1.

 

Cadarnheir a pharhau yma Gyfansoddiad, Statudau, Deddfiadau ac Arferiadau cadeirlan Bangor y rhai sy’n gweithredu ar hyn o bryd, onid yn unig lle bônt yn groes i’r hyn a ganlyn neu’n anghyson â hynny.

 

2.

 

Daw’r Cynllun hwn i weithredu ar 1 Ionawr 1974.

 

Adran II

 

Y CORFF CADEIRIOL

 

1.

 

Rheolir cadeirlan Bangor, fel o’r blaen, gan Gabidwl y gadeirlan (a elwir yn gyffredin y Deon a’r Cabidwl ac a elwir yma rhag llaw y Cabidwl), a hwnnw yn ddarostyngedig bob amser i’r gyfraith eglwysig fel y derbynnir neu y deddfir hi gan Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru.

 

2.

 

Aelodau’r Cabidwl fydd y Deon a deuddeg Canon, sef Archddiacon Bangor a Môn, Archddiacon Meirionnydd, Prebendari Llanfair, Prebendari Penmynydd, y Trysorydd, y Canghellor, y Pencantor, y Canon Cyntaf, yr Ail Ganon, y Trydydd Canon, y Pedwerydd Canon a’r Pumed Canon.

 

3.

 

O’i benodi neu o’i phenodi ac ar gyflwyno Gorchymyn yr Esgob, gosodir pob aelod o’r Cabidwl gan y Deon a’i dderbyn neu a’i derbyn i’r Cabidwl, wedi iddo neu iddi yn gyntaf ddarllen ar goedd yn y gadeirlan y datganiad a wnaed gan Ganon hyd yma adeg ei sefydlu.

 

4.

 

Telir treuliau unrhyw aelod o’r Cabidwl ynglŷn â’i benodi neu â’i phenodi a’i osod neu a’i gosod, neu ei ymddiswyddiad, neu ei hymddiswyddiad, o’r gronfa gyffredinol neu o adnoddau eraill y Cabidwl (os oes rhai).

 

5.

 

Rhaid i bob Canon sy’n Beriglor neu mewn rhyw swydd arall yn yr esgobaeth ymddiswyddo o’r ganoniaeth pan beidio â bod yn Beriglor neu ddal y swydd arall honno, oni phenderfyno’r Esgob yn wahanol.

 

6.

 

Gall yr Esgob, wrth gyflwyno canoniaeth i glerig sydd mewn rhyw swydd y tu allan i’r gadeirlan heblaw bywoliaeth blwyfol, roi yn y llythyrau penodi fod y sawl sy’n derbyn y penodiad hwnnw i ymddiswyddo rhag blaen o’r ganoniaeth honno pan beidio â bod yn y cyfryw swydd.

 

7.

 

Os ar unrhyw amser y bydd tâl ychwanegol (gan gynnwys er enghraifft ryddhad neu leihad rhent tŷ) wedi ei bennu i unrhyw Ganon yn unig yn rhinwedd ei ganoniaeth neu ei chanoniaeth, gall yr Esgob, gyda chaniatâd y Cabidwl, osod ar y Canon hwnnw, trwy lythyr a chopi ohono i’w gadw yn archifau’r Cabidwl, y cyfryw ddyletswydd ychwanegol o fewn y gadeirlan, o dan gyfarwyddyd y Deon, ag a dybio’r Esgob yn rhesymol.

 

Adran III

 

YR ESGOB

 

1.

 

Bydd galluoedd presennol yr Esgob fel Ymwelydd, a’i Awdurdod Esgobol dros y gadeirlan a’r Cabidwl, yn parhau fel o’r blaen.

 

2.

 

Pan ddaw’r Esgob i’w orseddu, rhaid i’r Deon alw pob aelod o’r Cabidwl i fod yn bresennol a chymryd ei ran neu ei rhan yn y gweithrediadau o’u dechrau i’w diwedd.

 

3.

 

Bydd gan yr Esgob hawl i gynnal Conffyrmasiynau, Ordeiniadau, Synodau ac Ymweliadau yn y gadeirlan, o roi rhybudd dyladwy i’r Deon.

 

4.

 

Bydd gan yr Esgob hawl i gymryd y cyfryw ran mewn Gwasanaeth Dwyfol   ac i bregethu ar y cyfryw amserau yn y gadeirlan ag a dybio’n rhesymol, o ymgynghori â’r Deon.

 

5.

 

Bydd yn ddyletswydd ar y Deon a’r Canoniaid gynorthwyo’r Esgob, os mynn ef hynny, ym mhob gwasanaeth neu weinyddiadau yn y gadeirlan y byddo ef yn brif weinyddwr ynddynt.

 

6.

 

Pan fo galw am hynny, gall yr Esgob alw’r Cabidwl i’w gyfarfod yn y cabidyldy; mewn cyfarfodydd felly gyda’r Cabidwl yr Esgob fydd yn llywyddu, ond gall ef ymgilio tra bo’r Cabidwl yn penderfynu ateb i’w gynigion neu i’w gwestiynau. Bydd yn ddyletswydd ar bob aelod o’r Cabidwl ddod i’r cyfarfodydd hynny.

 

7.

 

Gall yr Esgob, gyda chydsyniad y Cabidwl, ddiddymu, newid, talfyrru, helaethu, dehongli neu ychwanegu at Gyfansoddiad, Statudau neu Ddeddfiadau’r gadeirlan, neu ddileu unrhyw Arferiad o’i heiddo, cyn belled bob amser ag na bo’r cyfryw allu yn ymyrryd ag unrhyw beth a gynhwysir yn y Cynllun hwn.

 

Adran IV

 

Y DEON

 

1.

 

Bydd i’r gadeirlan Ddeon, a hwnnw yn rhywun heblaw’r Esgob.  Y Deon yw prif aelod y Cabidwl.

 

2.

 

Rhaid i’r Deon fod yn drigiannol am o leiaf wyth mis ym mhob blwyddyn.

 

3.

 

Yn ystod ei gyfnod trigiannol rhaid i’r Deon weinyddu yn y cyfryw wasanaethau a phregethu ar y cyfryw achlysuron yn y gadeirlan ag a gyd-drefnir ganddo ef a’r Cabidwl o bryd i’w gilydd.

 

4.

 

Yn ystod ei gyfnod trigiannol rhaid i’r Deon fyw a chysgu yn y tŷ swyddogol cyslltiedig â’r Ddeoniaeth, neu yn y cyfryw le arall ag a benodir o bryd i’w gilydd gan y Cabidwl, a rhaid iddo fynychu gwasanaethau’r gadeirlan yn gyson ar y Suliau a dyddiau’r wythnos.

 

5.

 

Y Deon fydd yn llywyddu yn holl gyfarfodydd y Cabidwl, a lle bo’r pleidleisio yn gyfartal bydd ganddo ail bleidlais neu bleidlais fwrw.

 

6.

 

Rhaid i’r Deon hyfforddi, cynghori neu rybuddio unrhyw rai o blith yr Urddasolion, Canoniaid, Is-Ganoniaid, Organyddion, gweision neu weithwyr y Cabidwl, er mwyn iddynt gyflawni eu dyletswyddau priodol yn rhagorach, ond ni chaiff weithredu ymhellach heb ganiatâd y Cabidwl.

 

7.

 

Rhaid i’r Cabidwl o bryd i’w gilydd enwi aelod neu aelodau o’r Cabidwl i weithredu yn lle’r Deon pa bryd bynnag na bo hwnnw’n drigiannol, neu pan na allo gyflawni ei ddyletswyddau oherwydd afiechyd neu ryw achos pwysig arall.

 

8.

 

Pan fo swydd Deon yn wag, gall yr Esgob o bryd i’w gilydd enwi aelod neu aelodau o’r Cabidwl i weithredu yn lle’r Deon.

 

Adran V

 

YR URDDASOLION A’R CANONIAID

 

1.

 

(1)     Rhaid i’r Cabidwl, gyda chydsyniad yr Esgob, bob amser fabwysiadu un o’r cynlluniau yn y drefn a draethir yn Rhannau 1 a 2 a 3 o’r Atodlen i’r Cynllun hwn.

 

(2)     Gyda chydsyniad yr Esgob, gall y Cabidwl o bryd i’w gilydd fabwysiadu’r cynllun a draethir yn Rhan 3 o’r Atodlen honno, yn ogystal ag un o’r cynlluniau a draethir yn Rhannau 1 a 2.  Os bydd i’r Cabidwl fabwysiadu Rhannau 2 a 3 o’r Atodlen honno, ni fydd yr amod ynglŷn â pheidio â thrigiannu a gynhwysir yn Rhan 2 yn berthnasol i’r Canon Trigiannol y mae darpariaeth ar ei gyfer neu ar ei chyfer yn Rhan 3.

 

2.

 

Cyflawnir dyletswyddau Pencantor gan yr aelod hwnnw o’r Cabidwl a benodir gan y Cabidwl o bryd i’w gilydd.

 

3.

 

Bydd yn ddyletswydd ar aelodau’r Cabidwl fynychu pob cyfarfod ohono, oni esgusodir hwy gan y Deon am ryw achos pwysig.

 

Adran VI

 

Y CABIDWL

 

1.

 

Bydd dau gyfarfod arferol o’r Cabidwl ym mhob blwyddyn.  Penderfynir dyddiadau’r ddau gyfarfod yn ail gyfarfod y Cabidwl yn y flwyddyn flaenorol.  Gellir galw cyfarfodydd eraill yn ôl dewis y Deon, neu drwy gais ysgrifenedig pedwar neu ragor o aelodau’r Cabidwl, a hwnnw wedi ei gyfeirio naill ai at y Deon neu, yn ei absen, at Glerc y Cabidwl.

 

2.

 

Bydd wyth aelod o’r Cabidwl yn bresennol yn unrhyw gyfarfod yn gwneud corwm, a derbynnir penderfyniad mwyafrif y Cabidwl a fo’n bresennol ac yn pleidleisio yn benderfyniad y Cabidwl cyfan, a bydd yn rhwymo pawb ohonynt.  Cyfrifir penderfyniadau felly yn Actau’r Cabidwl.

 

3.

 

Rhaid i’r Cabidwl wneud y cyfryw orchmynion, rheoliadau ac is-ddeddfau ag a fo’n angenrheidiol i weithredu’r Cynllun hwn, a gall ddiwygio, diddymu neu ychwanegu at y gorchmynion, rheoliadau ac is-ddeddfau hynny.

 

Adran VII

 

YR IS-GANONIAID

 

1.

 

Bydd yn ddyletswydd ar yr Is-Ganoniaid fynychu’r gwasanaethau yn y gadeirlan yn gyson ar y Suliau a dyddiau’r wythnos ac i gymryd eu rhan ynddynt, i bregethu ar yr amserau hynny a enwo’r Deon, ac i wneud y cyfryw ddyletswyddau eraill ynglŷn â’r gadeirlan ag a orchmynno’r Deon.

2.

 

Bydd hefyd yn ddyletswydd ar yr Is-Ganoniaid ymgymryd â’r dyletswyddau hynny y tu allan i’r gadeirlan ag a osodo’r Cabidwl arnynt gyda chydsyniad yr Esgob.

 

YR ATODLEN

 

Rhan 1

 

1.

 

Rhaid i bob un o’r deuddeg Canon fod yn drigiannol am y cyfryw gyfnod ym mhob blwyddyn ag a benno’r Cabidwl o bryd i’w gilydd.

 

2.

 

Rhaid i bob Canon, yn ystod ei gyfnod neu ei chyfnod trigiannol, fyw a chysgu yn y cyfryw le ag a benno’r Cabidwl o bryd i’w gilydd, mynychu gwasanaethau’r gadeirlan yn gyson ar y Suliau a dyddiau’r wythnos, a phregethu yn y cyfryw wasanaethau ag a drefno’r Deon gydag ef neu hi, a bod hynny’n gymeradwy gan y Cabidwl.

 

3.

 

Trefnir cyfnodau trigiant y Canoniaid mewn cyfarfod o’r Cabidwl; eithr gall unrhyw ddau Ganon o bryd i’w gilydd gyfnewid eu cyfnodau trigiant hwy eu hunain, a bod hynny’n gymeradwy gan y Deon.

 

Rhan 2

 

1.

 

Ni ofynnir i unrhyw un o Ganoniaid y gadeirlan gadw cyfnod trigiannu.

 

2.

 

Rhaid i un Canon, wedi ei enwi neu wedi ei henwi o bryd i’w gilydd gan y Cabidwl, fod yn bresennol yng ngwasanaethau’r gadeirlan ar bob Sul, a rhaid iddo neu iddi gymryd y cyfryw ran ynddynt yn ôl gorchymyn y Deon, yn unol â rheoliadau’r Cabidwl.

 

3.

 

Rhaid i’r Canon a fo’n bresennol felly yn y gadeirlan bregethu mor aml ar y Sul hwnnw ag a osodo’r Cabidwl arno neu arni o bryd i’w gilydd, ond gall draddodi pregethau ychwanegol ar gais y Deon neu gyda’i ganiatâd.

4.      Rhaid i’r Cabidwl geisio sicrhau fod o leiaf un o’i nifer yn bresennol yn y Foreol a’r Hwyrol Weddi yn y gadeirlan, bob dydd drwy’r flwyddyn.

 

Rhan 3

 

1.

 

Bydd un Canon Trigiannol amser llawn, a hwnnw yn y swydd am gyfnod neu gyfnodau heb fod yn hwy na deuddeng mlynedd at ei gilydd.

 

2.

 

Rhaid i’r Canon Trigiannol hwnnw fyw a chysgu yn y cyfryw le ac am y cyfryw gyfnod neu gyfnodau ym mhob blwyddyn ag a fynno’r Esgob.

 

3.

 

Rhaid i’r Canon Trigiannol hwnnw ymgymryd â’r cyfryw orchwylion yn yr esgobaeth ac yn y gadeirlan ag a fynno’r Esgob o ymgynghori â’r Deon.

 

 

CYNLLUN CADEIRLAN TYDDEWI

 

Adran I

 

Y RHAGAIR

 

1.

 

Cadarnheir a pharhau yma Gyfansoddiad, Statudau, Deddfiadau ac Arferiadau cadeirlan Tyddewi y rhai sy’n gweithredu ar hyn o bryd, onid yn unig lle bônt yn groes i’r hyn a ganlyn neu’n anghyson â hynny.

 

2.

 

Daw’r Cynllun hwn i weithredu ar 1 Ionawr 1974.

 

Adran II

 

Y CORFF CADEIRIOL

 

1.

 

Rheolir cadeirlan Tyddewi, fel o’r blaen, gan Gabidwl y gadeirlan (a elwir yn gyffredin y Deon a’r Cabidwl ac a elwir yma rhag llaw y Cabidwl), a hwnnw yn ddarostyngedig bob amser i’r gyfraith eglwysig fel y derbynnir neu y deddfir hi gan Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru.

 

2.

 

Aelodau’r Cabidwl fydd y Deon (a hwnnw fydd y Pencantor, fel ar hyn o bryd), y Trysorydd, y Canghellor, Archddiaconiaid Tyddewi, Caerfyrddin, a Cheredigion, a hwy i flaenori yn y drefn yna, ac wedyn Prebendariaid neu Ganoniaid Llanhuadain, Llandysilio Gogo, Trefloden, Sant Nicolas, Llan-faes, Llan-gan, Mathri, Llanddewi Aber-arth, Clydau, Caerfarchell, Caer-fai, a’r chwe Phrebendari neu Ganon Cwrsal, a’r rhain i flaenori yn ôl dyddiad eu penodi.

 

3.

 

Cedwir seddau’r Teyrn, yr Esgob, y Deon, yr Urddasolion, yr Archddiaconiaid a’r Prebendariaid neu Ganoniaid fel y maent ar hyn o bryd. Bydd y ddau Ficer-Offeiriad yn cymryd seddau Ficer yr Esgob a’r Is-gantor.

 

4.

 

O’i benodi neu o’i phenodi ac ar gyflwyno Gorchymyn yr Esgob, gosodir pob aelod o’r Cabidwl gan y Deon a’i dderbyn neu a’i derbyn i’r Cabidwl wedi iddo neu iddi ddarllen ar goedd ac arwyddo’r datganiad a fynnir gan Statudau’r gadeirlan.

 

5.

 

Rhaid i bob Prebendari neu Ganon sy’n Beriglor neu mewn rhyw swydd arall yn yr esgobaeth ymddiswyddo o’r brebend neu’r ganoniaeth pan beidio â bod yn Beriglor neu ddal y swydd arall honno, oni phenderfyno’r Esgob yn wahanol.

 

6.

 

Gall yr Esgob, wrth gyflwyno prebend neu ganoniaeth i glerig sydd mewn rhyw swydd y tu allan i’r gadeirlan heblaw bywoliaeth blwyfol, roi yn y llythyrau penodi bod y sawl sy’n derbyn y penodiad hwnnw i ymddiswyddo rhag blaen o’r brebend neu’r ganoniaeth honno pan beidio â bod yn y cyfryw swydd.

 

7.

 

Os ar unrhyw amser y bydd tâl ychwanegol (gan gynnwys er enghraifft ryddhad neu leihad rhent tŷ) wedi ei bennu i unrhyw Brebendari neu Ganon yn unig yn rhinwedd y brebend neu’r ganoniaeth honno, gall yr Esgob, gyda chaniatâd y Cabidwl, osod ar y Prebendari neu’r Canon hwnnw, trwy lythyr a chopi ohono i’w gadw yn archifau’r Cabidwl, y cyfryw ddyletswydd ychwanegol o fewn y gadeirlan, o dan gyfarwyddyd y Deon, ag a dybio’r Esgob yn rhesymol.

 

Adran III

 

YR ESGOB

 

1.

 

Bydd galluoedd presennol yr Esgob fel Ymwelydd, a’i Awdurdod Esgobol dros y gadeirlan a’r Cabidwl, yn parhau fel o’r blaen.

 

2.

 

Pan ddaw’r Esgob i’w orseddu, rhaid i’r Deon alw pob aelod o’r Cabidwl i fod yn bresennol a chymryd ei ran neu ei rhan yn y gweithrediadau o’u dechrau i’w diwedd.

 

3.

 

Gall yr Esgob gynnal Ordeiniadau, Conffyrmasiynau, Synodau ac Ymweliadau yn y gadeirlan ar y cyfryw amserau ac yn y cyfryw fodd ag a benderfyno; gall hefyd gynnal gwasanaethau arbennig eraill yn y gadeirlan, o ymgynghori â’r Deon.

 

4.

 

Bydd gan yr Esgob hawl i gymryd y cyfryw ran mewn Gwasanaeth Dwyfol ac i bregethu ar y cyfryw amserau yn y gadeirlan ag a dybio’n rhesymol, o ymgynghori â’r Deon.

 

5.

 

Bydd yn ddyletswydd ar y Deon, y Prebendariaid a’r Canoniaid gynorthwyo’r Esgob, os mynn ef hynny, ym mhob gwasanaeth neu weinyddiadau yn y gadeirlan y byddo ef yn brif weinyddwr ynddynt.

 

6.

 

Pan dybio bod angen hynny, gall yr Esgob alw’r Cabidwl i’w gyfarfod, ac yn y cyfryw gyfarfodydd yr Esgob fydd yn llywyddu.  Bydd yn ddyletswydd ar bob aelod o’r Cabidwl fynychu’r cyfarfodydd hynny.

 

7.

 

Gall yr Esgob, gyda chydsyniad y Cabidwl, ddiddymu, newid, helaethu, dehongli neu ychwanegu at Gyfansoddiad, Statudau neu Ddeddfiadau’r gadeirlan, neu ddileu unrhyw Arferiad o’i heiddo, cyn belled bob amser ag na bo’r cyfryw allu yn ymyrryd ag unrhyw beth a gynhwysir yn y Cynllun hwn.

 

Adran IV

 

Y DEON

 

1.

 

Y Deon yw Pen Swyddogol y Cabidwl.

 

2.

 

Rhaid i’r Deon fod yn drigiannol am o leiaf wyth mis ym mhob blwyddyn, ac yn ystod y cyfnod hwnnw rhaid iddo fyw a chysgu yn y tŷ swyddogol cysylltiedig â’r ddeoniaeth a mynychu gwasanaethau’r gadeirlan yn gyson.

 

3.

 

Yn ystod ei gyfnod trigiannol rhaid i’r Deon weinyddu yn y cyfryw wasanaethau a phregethu ar y cyfryw achlysuron ag a drefno’r Cabidwl gydag ef o bryd i’w gilydd.

 

4.

 

Y Deon fydd yn llywyddu yn holl gyfarfodydd y Cabidwl, a lle bo’r pleidleisio yn gyfartal bydd ganddo ail bleidlais neu bleidlais fwrw.

 

5.

 

Rhaid i’r Deon hyfforddi, cynghori neu rybuddio unrhyw rai o blith yr Urddasolion, Prebendariaid neu Ganoniaid, Is-Ganoniaid, gweision neu weithwyr y Cabidwl er mwyn iddynt gyflawni eu dyletswyddau priodol yn rhagorach, ond ni chaiff weithredu ymhellach heb ganiatâd y Cabidwl.

 

6.

 

Bydd y Deon yn gyfrifol i’r Cabidwl am ofalu bod ei reoliadau yn hysbys i bawb a fo’n ymwneud â hwy, a bod y rheini’n eu cadw yn ddyladwy.

 

7.

 

Rhaid i’r Cabidwl o bryd i’w gilydd enwi aelod neu aelodau o’r Cabidwl i weithredu yn lle’r Deon pa bryd bynnag na bo hwnnw’n drigiannol, neu pan na allo gyflawni ei ddyletswyddau oherwydd afiechyd neu ryw achos pwysig arall.

 

8.

 

Pan fo swydd Deon yn wag, gall yr Esgob o bryd i’w gilydd enwi aelod neu aelodau o’r Cabidwl i weithredu yn lle’r Deon.

 

Adran V

 

YR URDDASOLION, PREBENDARIAID NEU GANONIAID

 

1.

 

(1)     Rhaid i’r Cabidwl, gyda chydsyniad yr Esgob, bob amser fabwysiadu un o’r cynlluniau yn y drefn a draethir yn Rhannau 1 a 2 a 3 o’r Atodlen i’r Cynllun hwn.

 

(2)     Gyda chydsyniad yr Esgob, gall y Cabidwl o bryd i’w gilydd fabwysiadu’r cynllun a draethir yn Rhan 3 o’r Atodlen honno, yn ogystal ag un o’r cynlluniau a draethir yn Rhannau 1 a 2. Os bydd i’r Cabidwl fabwysiadu Rhannau 2 a 3 o’r Atodlen honno, ni fydd yr amod ynglŷn â pheidio â thrigiannu a gynhwysir yn  Rhan 2 yn berthnasol i’r Canon Trigiannol y mae darpariaeth ar ei gyfer neu ar ei chyfer yn Rhan 3.

 

2.

 

Y Pencantor fydd yn gyfrifol am wasanaethau corawl y gadeirlan, am ddewis y gerddoriaeth a’r emynau, ac am hyfforddiant cerddorol y côr.

 

3.

 

Y Trysorydd, neu yn ei absen neu yn ei habsen y Deon, fydd â gofal llestri, gwisgoedd, dodrefn a holl angenrheidiau Gwasanaeth Dwyfol y gadeirlan.

 

4.

 

Cyn belled ag y bo modd cyflawnir y dyletswyddau yr oedd y Canghellor gynt yn gyfrifol amdanynt gan Glerc y Cabidwl a chan bwy bynnag a benodir yn ddyladwy i’r pwrpas.

 

5.

 

Oni esgusodir ef gan y Deon, rhaid i bob aelod o’r Cabidwl fynychu pob cyfarfod ohono a chymryd rhan ddyladwy yn ei weithrediadau.

 

Adran VI

 

Y CABIDWL

 

1.

 

Cynhelir cyfarfod blynyddol y Cabidwl yn Ninas Tyddewi ar ôl y Foreol Weddi ar ŵyl Sant Iago, neu ar y cyfryw ddiwrnod o fewn ei wythaid ag a benno’r Cabidwl o bryd i’w gilydd. Gellir cynnal cyfarfodydd eraill yng Nghaerfyrddin, oni orchmynno’r Cabidwl yn wahanol. Cynhelir y cyfryw gyfarfodydd eraill yn ôl dewis y Deon neu ar gais ysgrifenedig unrhyw bedwar aelod o’r Cabidwl.

 

2.

 

Bydd wyth aelod o’r Cabidwl yn bresennol yn ddigon i wneud cyfarfod Cabidwl.

 

3.

 

Derbynnir penderfyniad mwyafrif y Cabidwl a fo’n bresennol ac yn pleidleisio yn benderfyniad y cyfangorff a bydd yn rhwymo pawb ohonynt. Cyfrifir y penderfyniadau hynny yn Actau’r Cabidwl.

 

4.

 

Rhaid i’r Cabidwl wneud y cyfryw orchmynion, rheoliadau ac is-ddeddfau ag a fo’n angenrheidiol i weithredu’r Cynllun hwn, a hefyd gall ddiwygio, diddymu neu ychwanegu at y gorchmynion, rheoliadau neu is-ddeddfau hynny.

 

5.

 

Rhaid i’r Cabidwl benodi Clerc y Cabidwl, a rhaid i hwnnw ei hunan, neu ddirprwy iddo neu iddi a fo’n gymeradwy gan y Cabidwl, fynychu holl gyfarfodydd y Cabidwl a chadw cofnodion o’r gweithrediadau yno, a rhaid iddo neu iddi gyflawni’r dyletswyddau eraill hynny a draethir yn y gorchmynion, rheoliadau ac is-ddeddfau a nodwyd eisoes.

 

6.

 

Yng nghyfarfod blynyddol y Cabidwl, rhaid i’r Cabidwl benodi Meistr yr Adeiladwaith, a’i ddyletswyddau fydd:

(a)     archwilio, neu ofalu bod archwilio, o leiaf ddwywaith y flwyddyn, adeiladwaith y gadeirlan a phob adeilad sydd yng ngofal y Cabidwl;

(b)     pa bryd bynnag y bo newid deiliad, archwilio, neu ofalu bod archwilio, unrhyw adeilad a roddwyd i ofal y Cabidwl;

(c)     dwyn adroddiad o ganlyniadau’r archwiliadau hyn i’r Cabidwl.

 

7.

 

Bydd y Deon yn gyfrifol am gadw’n ddiogel yr holl lyfrau, gweithredoedd a phapurau sydd o fewn y gadeirlan ac yn eiddo i’r Cabidwl, ac eithrio’r rheini a roddwyd i ofal Clerc y Cabidwl.

 

Adran VII

 

Y FICER-OFFEIRIAID

 

Rhaid i’r Ficer-Offeiriaid, wedi eu gosod gan y Deon, gyflawni’r cyfryw orchwylion a mynychu’r cyfryw wasanaethau yn y gadeirlan ag a orchmynno’r Deon gyda chydsyniad y Cabidwl.

 

YR ATODLEN

 

Rhan 1

 

1.

 

Rhaid i aelodau’r Cabidwl (heblaw’r Deon) bob un fod yn drigiannol am y cyfryw gyfnod ym mhob blwyddyn ag a benno’r Cabidwl o bryd i’w gilydd. Rhaid i’r aelodau hynny eu hunain, neu trwy ddirprwy, yn nhrefn eu blaenoriaeth, ddewis eu cyfnodau trigiant am y flwyddyn ddilynol yng nghyfarfod blynyddol y Cabidwl. Yn ystod ei gyfnod neu ei chyfnod trigiannol rhaid i aelod o’r Cabidwl (heblaw’r Deon) fyw a chysgu yn lle bynnag y bo i’r Cabidwl o bryd i’w gilydd benderfynu. Os na all yr aelod hwnnw am ryw reswm drigiannu yn ystod ei gyfnod neu ei chyfnod, rhaid i’r Deon enwi aelod arall o’r Cabidwl i gymryd ei le neu ei lle.

 

2.

 

Rhaid i aelod o’r Cabidwl a fo’n drigiannol gymryd y cyfryw ran yng ngwasanaethau’r gadeirlan ag a orchmynno’r Deon, yn unol â rheoliadau’r Cabidwl.

 

3.

 

Ar y Suliau, rhaid i’r aelod o’r Cabidwl a fo’n drigiannol draddodi pregeth yn un o wasanaethau’r gadeirlan, yn ôl gorchymyn y Deon.

 

Rhan 2

 

1.

 

Ni ofynnir i unrhyw aelod o Gabidwl y gadeirlan, heblaw’r Deon, gadw cyfnod trigiannu.

 

2.

 

Rhaid i aelod felly o’r Cabidwl wedi ei enwi neu wedi ei henwi o bryd i’w gilydd gan y Cabidwl, fod yn bresennol yng ngwasanaethau’r gadeirlan ar bob Sul, a rhaid iddo neu iddi gymryd y cyfryw ran ynddynt yn ôl gorchymyn y Deon, yn unol â rheoliadau’r Cabidwl.

 

3.

 

Rhaid i’r aelod o’r Cabidwl fo’n bresennol felly yn y gadeirlan bregethu mor aml ar y Sul hwnnw ag a osodo’r Cabidwl arno neu arni o bryd i’w gilydd, ond gall draddodi pregethau ychwanegol ar gais y Deon neu gyda’i ganiatâd.

 

4.

 

Rhaid i’r Cabidwl geisio sicrhau fod o leiaf un o’i nifer yn bresennol yn y Foreol a’r Hwyrol Weddi yn y gadeirlan, bob dydd drwy’r flwyddyn.

 

Rhan 3

 

1.

 

Bydd un Canon Trigiannol amser llawn, a hwnnw yn y swydd am gyfnod neu gyfnodau heb fod yn hwy na deuddeng mlynedd at ei gilydd.

 

2.

 

Rhaid i’r Canon Trigiannol hwnnw fyw a chysgu yn y cyfryw le ac am y cyfryw gyfnod neu gyfnodau ym mhob blwyddyn ag a fynno’r Esgob.

 

3.

 

Rhaid i’r Canon Trigiannol hwnnw ymgymryd â’r cyfryw orchwylion yn yr esgobaeth ac yn y gadeirlan ag a fynno’r Esgob o ymgynghori â’r Deon.

 

 

CYNLLUN CADEIRLAN LLANDÂF

 

Adran I

 

Y RHAGAIR

 

1.

 

Cadarnheir a pharhau yma Gyfansoddiad, Statudau, Deddfiadau ac Arferiadau cadeirlan Llandâf y rhai sy’n gweithredu ar hyn o bryd, onid yn unig lle bônt yn groes i’r hyn a ganlyn neu’n anghyson â hynny.

 

2.

 

Daw’r Cynllun hwn i rym 19 Medi 2001.

 

Adran II

 

Y CORFF CADEIRIOL

 

1.

 

Rheolir cadeirlan Llandâf, fel o’r blaen, gan Gabidwl y gadeirlan (a elwir yn gyffredin y Deon a’r Cabidwl ac a elwir yma rhag llaw y Cabidwl), a hwnnw yn ddarostyngedig bob amser i’r gyfraith eglwysig fel y derbynnir neu y deddfir hi gan Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru.

 

2.

 

Aelodau’r Cabidwl fydd Deon ac un ar bymtheg o Brebendariaid neu Ganoniaid, ac ohonynt:

(a)     Cyfrifir Archddiacon Llandâf bob amser yn bennaf, nesaf at y Deon, a bydd Archddiacon Margam ac Archddiacon Morgannwg i’w rhestru nesaf at Archddiacon Llandâf yn y drefn a nodir gan yr Esgob;

(b)     Cyfrifir y Trysorydd, y Canghellor a’r Pencantor yn y drefn hon neu yn y cyfryw drefn ag a nodir gan yr Esgob, bob amser yn nesaf at yr Archddiaconiaid;

(c)     Bydd y deg Prebendari neu Ganon arall, sef rhai Llangwm, Fairwell, Warthacwm, Fairwater, St. Nicholas, Caerau, St. Dyfrig, Holy Cross       St. Andrew a St. Teilo, i’w cyfrif yn y drefn y derbyniwyd hwy i’r Cabidwl, yn nesaf at y Trysorydd, y Canghellor a’r Pencantor.

 

3.

 

Fel ar hyn o bryd, y sedd gyntaf ar ochr ddeheuol y côr, o gyfrif o gorff yr Eglwys, fydd sedd y Deon. Fel o’r blaen, y sedd gyntaf ar ochr ogleddol y côr, yn union gyferbyn ag un y Deon, fydd sedd Archddiacon Llandâf. Neilltuir seddau yn y Côr i Archddiacon Margam, Archddiacon Morgannwg, y Trysorydd, y Canghellor, y Pencantor a’r deg Prebendari arall gan y Deon ar ôl ymgynghori â’r Esgob.

 

4.

 

O’i benodi neu o’i phenodi ac ar gyflwyno Gorchymyn yr Esgob, gosodir pob aelod o’r Cabidwl gan y Deon a’i dderbyn neu a’i derbyn i’r Cabidwl, wedi iddo neu iddi yn gyntaf ddarllen ar goedd ac arwyddo datganiad y bydd iddo neu iddi  gadw’n ffyddlon Gyfansoddiad, Statudau, Deddfiadau ac Arferiadau’r gadeirlan, a’r Cynllun hwn, a dyfal gyflawni’r cyfan a fynnir ganddo neu ganddi gan y Cabidwl o fod yn aelod ohono.

 

5.

 

Rhaid i bob Prebendari neu Ganon sy’n Beriglor neu mewn rhyw swydd arall yn yr esgobaeth ymddiswyddo o’r brebend neu’r ganoniaeth pan beidio â bod yn Beriglor neu ddal y swydd arall honno, oni phenderfyno’r Esgob yn wahanol.

 

6.

 

Gall yr Esgob, wrth gyflwyno prebend neu ganoniaeth i glerig sydd mewn rhyw swydd y tu allan i’r gadeirlan heblaw bywoliaeth blwyfol, roi yn y llythyrau penodi bod y sawl sy’n derbyn y penodiad hwnnw i ymddiswyddo rhag blaen o’r brebend neu’r ganoniaeth honno pan beidio â bod yn y cyfryw swydd.

 

7.

 

Os ar unrhyw amser y bydd tâl ychwanegol (gan gynnwys er enghraifft ryddhad neu leihad rhent tŷ) wedi ei bennu i unrhyw Brebendari neu Ganon yn unig yn rhinwedd y brebend neu’r ganoniaeth honno, gall yr Esgob, gyda chaniatâd y Cabidwl, osod ar y Prebendari neu’r Canon hwnnw, trwy lythyr a chopi ohono i’w gadw yn archifau’r Cabidwl, y cyfryw ddyletswydd ychwanegol o fewn y gadeirlan, o dan gyfarwyddyd y Deon, ag a dybio’r Esgob yn rhesymol.

 

Adran III

 

YR ESGOB

 

1.

 

Bydd galluoedd presennol yr Esgob fel Ymwelydd, a’i Awdurdod Esgobol dros y gadeirlan a’r Cabidwl, yn parhau fel o’r blaen.

 

2.

 

Pan ddaw’r Esgob i’w orseddu, rhaid i’r Deon alw pob aelod o’r Cabidwl i fod yn bresennol a chymryd ei ran neu ei rhan yn y gweithrediadau o’u dechrau i’w diwedd.

 

3.

 

Gall yr Esgob gynnal Ordeiniadau, Conffyrmasiynau, Synodau ac Ymweliadau yn y gadeirlan ar y cyfryw amserau ac yn y cyfryw fodd ag a benderfyno; gyda chaniatâd y Deon gall hefyd gynnal gwasanaethau arbennig eraill yn y gadeirlan, ond iddynt beidio ag ymyrryd â gwasanaethau arferol y gadeirlan.

 

4.

 

Bydd gan yr Esgob hawl i gymryd y cyfryw ran mewn Gwasanaeth Dwyfol ac i bregethu ar y cyfryw amserau yn y gadeirlan ag a dybio’n rhesymol, o ymgynghori â’r Deon.

 

5.

 

Bydd yn ddyletswydd ar y Deon, y Prebendariaid a’r Canoniaid gynorthwyo’r Esgob, os mynn ef hynny, ym mhob gwasanaeth neu weinyddiadau yn y gadeirlan y byddo ef yn brif weinyddwr ynddynt.

 

6.

 

Mae gan yr Esgob hawl i gynnal Llys Eglwysig yn y gadeirlan.

 

7.

 

Pan fo galw am hynny, gall yr Esgob alw’r Cabidwl i’w gyfarfod yn y cabidyldy; mewn cyfarfodydd felly gyda’r Cabidwl yr Esgob fydd yn llywyddu, ond gall ef ymgilio tra bo’r Cabidwl yn penderfynu ateb i’w gynigion neu i’w gwestiynau. Bydd yn ddyletswydd ar bob aelod o’r Cabidwl ddod i’r cyfarfodydd hynny.

 

8.

 

Gall yr Esgob, gyda chydsyniad y Cabidwl, ddiddymu, newid, talfyrru, helaethu, dehongli neu ychwanegu at Gyfansoddiad, Statudau neu Ddeddfiadau’r gadeirlan, neu ddileu unrhyw Arferiad o’i heiddo, cyn belled bob amser ag na bo’r cyfryw allu yn ymyrryd ag unrhyw beth a gynhwysir yn y Cynllun hwn.

 

Adran IV

 

Y DEON

 

1.

 

Y Deon yw prif aelod y Cabidwl am mai ef yw’r blaenaf o’u nifer, ac yn dechnegol fe gaiff y teitl Blaenor y Nifer.

 

2.

 

Rhaid i’r Deon fod yn drigiannol am o leiaf wyth mis ym mhob blwyddyn. I fod yn drigiannol felly rhaid cael dau beth: yn gyntaf, rhaid iddo fyw a chysgu yn y tŷ swyddogol sy’n gysylltiedig â’r ddeoniaeth, ac yn ail, rhaid iddo fynychu’r Gwasanaeth Dwyfol yn y gadeirlan yn gyson trwy gydol cyfnod ei drigiant.

 

3.

 

Rhaid i’r Deon, pan fo’n drigiannol, weinyddu yn y cyfryw wasanaethau a phregethu ar y cyfryw achlysuron yn y gadeirlan ag a drefno gyda’r Cabidwl o bryd i’w gilydd.

 

4.

 

Y Deon fydd yn llywyddu yn holl gyfarfodydd y Cabidwl, a lle bo’r pleidleisio yn gyfartal bydd ganddo ail bleidlais neu bleidlais fwrw.

 

5.

 

Rhaid i’r Deon hyfforddi, cynghori neu rybuddio unrhyw rai o blith yr Urddasolion, Prebendariaid neu Ganoniaid, Caplaniaid, gweision neu weithwyr y Cabidwl er mwyn iddynt gyflawni eu dyletswyddau priodol yn rhagorach, ond ni chaiff weithredu ymhellach heb ganiatâd y Cabidwl.

 

6.

 

Bydd y Deon yn gyfrifol i’r Cabidwl am ofalu bod ei reoliadau yn hysbys i bawb a fo’n ymwneud â hwy, ac yn cael eu gweithredu ganddynt.

 

7.

 

Rhaid i’r Cabidwl o bryd i’w gilydd enwi aelod neu aelodau o’r Cabidwl i weithredu yn lle’r Deon pa bryd bynnag na bo hwnnw’n drigiannol, neu pan na allo gyflawni ei ddyletswyddau oherwydd afiechyd neu ryw achos pwysig arall.

 

8.

 

Pan fo swydd Deon yn wag, gall yr Esgob o bryd i’w gilydd enwi aelod neu aelodau o’r Cabidwl i weithredu yn lle’r Deon.

 

Adran V

 

YR URDDASOLION, PREBENDARIAID NEU GANONIAID

 

1.

 

(1)     Rhaid i’r Cabidwl, gyda chydsyniad yr Esgob, bob amser fabwysiadu un o’r cynlluniau yn y drefn a draethir yn Rhannau 1 a 2 a 3 o’r Atodlen i’r Cynllun hwn.

 

(2)     Gyda chydsyniad yr Esgob, gall y Cabidwl o bryd i’w gilydd fabwysiadu’r cynllun a draethir yn Rhan 3 o’r Atodlen honno, yn ogystal ag un o’r cynlluniau a draethir yn Rhannau 1 a 2. Os bydd i’r Cabidwl fabwysiadu Rhannau 2 a 3 o’r Atodlen honno, ni fydd yr amod ynglŷn â pheidio â thrigiannu a gynhwysir yn  Rhan 2 yn berthnasol i’r Canon Trigiannol y mae darpariaeth ar ei gyfer neu ar ei chyfer yn Rhan 3.

 

2.

 

Y Trysorydd neu’r Sacrydd, yng nghyfnod ei drigiant neu ei thrigiant, fydd yn gyfrifol i’r Cabidwl am gadwraeth holl ddodrefn symudol neu sefydlog y gadeirlan  a gofalu eu bod mewn cyflwr da; ar adegau eraill y Deon sydd i wneud y dyletswyddau hynny.

 

3.

 

Hyd oni waddolir y Bencantoriaeth yn ddigonol, cyflawnir dyletswyddau’r swydd hon gan y sawl a benodir gan y Deon, ac o dan ei gyfarwyddyd ef.

 

4.

 

Hyd oni waddolir y Gangelloriaeth yn ddigonol ym marn y Cabidwl, cyflawnir dyletswyddau’r swydd hon, dan gyfarwyddyd y Deon, gan Glerc y Cabidwl neu gan rywun neu rywrai eraill a benodir gan y Cabidwl i’r diben hwnnw.

 

5.

 

Bydd yn ddyletswydd ar bob aelod o’r Cabidwl fynychu pob cyfarfod ohono,  a chymryd rhan ddyladwy yn ei weithrediadau.

 

Adran VI

 

Y CABIDWL

 

1.

 

Bydd pedwar cyfarfod arferol o’r Cabidwl ym mhob blwyddyn ar ddyddiadau cymeradwy gan y Cabidwl, ond gellir, am reswm digonol, newid dyddiadau’r cyfarfodydd hynny yn ôl dewis y Deon.

 

2.

 

Gellir galw cyfarfodydd arbennig o’r Cabidwl ar unrhyw amserau eraill pan   fo materion y gadeirlan, ym marn y Deon, yn gofyn am hynny, ac yn yr un modd  ar gais ysgrifenedig unrhyw bedwar aelod o’r Cabidwl.

 

3.

 

Bydd pum aelod o’r Cabidwl yn bresennol yn ddigon i wneud cyfarfod o’r Cabidwl, ond ni chânt benderfynu unrhyw fater y bo cydsyniad mwyafrif y Cabidwl yn ofynnol arno.

 

4.

 

Gan mai Coleg neu Gymdeithas yw’r Cabidwl, derbynnir penderfyniad mwyafrif yr aelodau yn benderfyniad y cyfangorff a bydd yn rhwymo pawb ohonynt.

 

5.

 

Cyfrifir pob penderfyniad a gafodd gydsyniad wyth aelod o’r Cabidwl yn bresennol ac yn pleidleisio yn Act y Cabidwl.

 

6.

 

Rhaid i’r Cabidwl wneud y cyfryw orchmynion, rheoliadau ac is-ddeddfau ag a fo’n angenrheidiol i weithredu’r Cynllun hwn, a gall ddiwygio, diddymu neu ychwanegu at y gorchmynion, rheoliadau ac is-ddeddfau hynny.

 

7.

 

Rhaid i’r Cabidwl benodi Clerc Cabidwl, a bydd i hwnnw ei hunan, neu ddirprwy iddo neu iddi a fo’n gymeradwy gan y Cabidwl, fynychu holl gyfarfodydd y Cabidwl a chadw cofnodion o’i weithrediadau, a chyflawni’r cyfryw ddyletswyddau eraill ag a draethir yn y gorchmynion, rheoliadau neu is-ddeddfau a nodwyd eisoes.

 

8.

 

O fewn terfynau darpariaethau cymal 5 o adran V o’r Cynllun hwn, Canghellor y gadeirlan fydd yn gyfrifol am gadw’n ddiogel holl lyfrau, gweithredoedd a phapurau o fewn y gadeirlan ac yn eiddo’r Cabidwl, ac eithrio’r rheini a roddwyd i ofal Clerc y Cabidwl.

 

Adran VII

 

YR IS-GANONIAID

 

Rhaid i’r Is-Ganoniaid gyflawni’r gorchwylion hynny o fewn neu oddi allan i’r gadeirlan ag a benno’r Deon, o fewn terfynau unrhyw reoliadau a wnaed gan y Cabidwl.

 

YR ATODLEN

 

Rhan 1

 

Rhaid i bob Prebendari neu Ganon fod yn drigiannol am y cyfryw gyfnod ym mhob blwyddyn, ac yn y cyfryw drefn, ag a benderfyno’r Cabidwl o bryd i’w gilydd.  Bydd y trigiant hwnnw’n golygu: byw a chysgu yn y lle a fynno’r Cabidwl o bryd i’w gilydd, mynychu Gwasanaeth Dwyfol yn y gadeirlan yn gyson trwy gydol cyfnod y trigiant, a phregethu mor aml yn y gadeirlan ag a fynno’r Cabidwl, ond gall y Prebendari neu’r Canon a fo’n drigiannol draddodi pregethau ychwanegol yn y gadeirlan ar gais y Deon neu gyda’i ganiatâd.

 

Rhan 2

 

1.

 

Ni ofynnir i unrhyw un o Brebendariaid neu Ganoniaid y gadeirlan gadw cyfnod trigiannu.

 

2.

 

Rhaid i un Prebendari neu Ganon, wedi ei enwi neu wedi ei henwi o bryd i’w gilydd gan y Cabidwl, fod yn bresennol yng ngwasanaethau’r gadeirlan ar bob Sul, a rhaid iddo neu iddi gymryd y cyfryw ran ynddynt yn ôl gorchymyn y Deon, yn unol â rheoliadau’r Cabidwl.

 

3.

 

Rhaid i’r Prebendari neu’r Canon a fo’n bresennol felly yn y gadeirlan bregethu mor aml ar y Sul hwnnw ag a osodo’r Cabidwl arno neu arni o bryd i’w gilydd, ond gall draddodi pregethau ychwanegol ar gais y Deon neu gyda’i ganiatâd.

 

4.

 

Rhaid i’r Cabidwl geisio sicrhau fod o leiaf un o’i nifer yn bresennol yn y Foreol a’r Hwyrol Weddi yn y gadeirlan, bob dydd drwy’r flwyddyn.

 

Rhan 3

 

1.

 

Bydd un Canon Trigiannol amser llawn, a hwnnw yn y swydd am gyfnod neu gyfnodau heb fod yn hwy na deuddeng mlynedd at ei gilydd.

 

2.

 

Rhaid i’r Canon Trigiannol hwnnw fyw a chysgu yn y cyfryw le ac am y cyfryw gyfnod neu gyfnodau ym mhob blwyddyn ag a fynno’r Esgob.

 

3.

 

Rhaid i’r Canon Trigiannol hwnnw ymgymryd â’r cyfryw orchwylion yn yr esgobaeth ac yn y gadeirlan ag a fynno’r Esgob o ymgynghori â’r Deon.

 

 

CYNLLUN CADEIRLAN MYNWY

 

Adran 1

 

Y RHAGAIR

 

1.

 

Cadarnheir a pharhau yma Arferiadau cadeirlan Sant Gwynllyw, Casnewydd, y rhai sy’n gweithredu ar hyn o bryd, onid yn unig lle bônt yn groes i’r hyn a ganlyn neu’n anghyson â hynny.

 

2.

 

Daw’r Cynllun hwn i weithredu ar 1 Ionawr 1974.

 

Adran II

 

Y CORFF CADEIRIOL

 

1.

 

Rheolir cadeirlan Sant Gwynllyw, Casnewydd, fel o’r blaen, gan Gabidwl y gadeirlan (a elwir yn gyffredin y Deon a’r Cabidwl ac a elwir yma rhag llaw y Cabidwl), a hwnnw yn ddarostyngedig bob amser i’r gyfraith eglwysig fel y derbynnir neu y deddfir hi gan Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru.

 

2.

 

Deon y gadeirlan, y ddau Archddiacon (a bydd y rheini’n Ganoniaid ex-officio), a deg Canon arall fydd y Cabidwl.

 

3.

 

O’i benodi neu o’i phenodi ac ar gyflwyno Gorchymyn yr Esgob, gosodir pob aelod o’r Cabidwl gan y Deon a’i dderbyn neu a’i derbyn i’r Cabidwl, wedi iddo neu iddi ddarllen ar goedd ac arwyddo datganiad y bydd iddo neu iddi’n ffyddlon gadw Arferiadau’r gadeirlan, a’r Cynllun hwn, a dyfal gyflawni’r dyletswyddau a fynnir ganddo neu ganddi o fod yn aelod o’r Cabidwl.

 

4.

 

Rhaid i bob Canon sy’n Beriglor neu mewn rhyw swydd arall yn yr esgobaeth ymddiswyddo o’r ganoniaeth pan beidio â bod yn Beriglor neu ddal y swydd arall honno, oni phenderfyno’r Esgob yn wahanol.

 

5.

 

Gall yr Esgob, wrth gyflwyno canoniaeth i glerig sydd mewn rhyw swydd y tu allan i’r gadeirlan heblaw bywoliaeth blwyfol, roi yn y llythyrau penodi fod y sawl sy’n derbyn y penodiad hwnnw i ymddiswyddo rhag blaen o’r ganoniaeth honno pan beidio â bod yn y cyfryw swydd.

 

6.

 

Os ar unrhyw amser y bydd tâl ychwanegol (gan gynnwys er enghraifft ryddhad neu leihad rhent tŷ) wedi ei bennu i unrhyw Ganon yn unig yn rhinwedd ei ganoniaeth neu ei chanoniaeth, gall yr Esgob, gyda chaniatâd y Cabidwl, osod ar y Canon hwnnw, trwy lythyr a chopi ohono i’w gadw yn archifau’r Cabidwl, y cyfryw ddyletswydd ychwanegol o fewn y gadeirlan, o dan gyfarwyddyd y Deon, ag a dybio’r Esgob yn rhesymol.

 

Adran III

 

Y GADEIRLAN

 

1.

 

(1)     Bydd eglwys Sant Gwynllyw, Casnewydd, yn gadeirlan Esgobaeth Mynwy a hefyd yn eglwys blwyf Sant Gwynllyw, ond y plwyf fydd yn cynnal yr adeiladwaith.

 

(2)     Bydd treuliau cyffredin cynnal gwasanaethau yn eglwys Sant Gwynllyw i’w dwyn gan y plwyf. Bydd unrhyw dreuliau arbennig yn gyslltiedig â gwasanaethau cadeiriol neu rai esgobaethol arbennig i’w dwyn gan y Cabidwl.

 

2.

 

Swyddogion eglwys Sant Gwynllyw, yn Glerigion, Organydd, Côr a Gofalwyr fydd swyddogion y gadeirlan.

 

Adran IV

 

YR ESGOB

 

1.

 

Yr Esgob fydd Ymwelydd y gadeirlan a’r Cabidwl.

 

2.

 

Pan ddaw’r Esgob i’w orseddu, rhaid i’r Deon alw pob aelod o’r Cabidwl i fod yn bresennol a chymryd ei ran neu ei rhan yn y gweithrediadau o’u dechrau i’w diwedd.

 

3.

 

Gall yr Esgob, o roi rhybudd i’r Deon, gynnal neu orchymyn cynnal yn y gadeirlan Ordeiniadau, Conffyrmasiynau, Synodau, Ymweliadau a gwasanaethau arbennig eraill ar y cyfryw amserau ac yn y cyfryw fodd ag a benderfyno, ond iddynt beidio ag ymyrryd yn ormodol â’r gwasanaethau arferol.

 

4.

 

Bydd gan yr Esgob hawl i gymryd y cyfryw ran mewn Gwasanaeth Dwyfol ac i bregethu ar y cyfryw amserau yn y gadeirlan ag a dybio’n rhesymol, o ymgynghori â’r Deon.

 

5.

 

Bydd yn ddyletswydd ar y Deon a’r Canoniaid gynorthwyo’r Esgob, os mynn ef hynny, ym mhob gwasanaeth neu weinyddiadau yn y gadeirlan y byddo ef yn brif weinyddwr ynddynt.

 

6.

 

Yn y cyfryw wasanaethau cadeiriol neu esgobaethol rhaid i swyddogion y gadeirlan fod yn bresennol ac yn barod i gymryd rhan, os dymunir hynny gan yr Esgob.

 

7.

 

Pan fo galw am hynny, gall yr Esgob alw’r Cabidwl i’w gyfarfod; yn y cyfryw gyfarfodydd yr Esgob fydd yn llywyddu. Bydd yn ddyletswydd ar bob aelod o’r Cabidwl ddod i’r cyfarfodydd hynny.

 

8.

 

Rhaid cyfeirio i’r Esgob unrhyw gwestiwn neu amheuaeth ynglŷn â dehongli’r Cynllun hwn, a hynny’n cynnwys y berthynas rhwng eglwys blwyf Sant Gwynllyw a’r gadeirlan, a bydd ei ddyfarniad ef yn rhwymo pawb a fo’n ymwneud â’r mater.

 

Adran V

 

Y DEON

 

1.

          Y Deon yw prif aelod y Cabidwl.

 

2.

 

Rhaid i’r Cabidwl o bryd i’w gilydd enwi aelod neu aelodau o’r Cabidwl i weithredu yn lle’r Deon pa bryd bynnag na bo hwnnw’n drigiannol, neu pan na allo gyflawni ei ddyletswyddau oherwydd afiechyd neu ryw achos pwysig arall.

 

3.

 

Pan fo swydd Deon yn wag, gall yr Esgob o bryd i’w gilydd enwi aelod neu aelodau o’r Cabidwl i weithredu yn lle’r Deon.

 

 

Adran VI

 

YR URDDASOLION A’R CANONIAID

 

1.

 

(1)     Rhaid i’r Cabidwl, gyda chydsyniad yr Esgob, bob amser fabwysiadu un o’r cynlluniau yn y drefn a draethir yn Rhannau 1 a 2 a 3 o’r Atodlen i’r Cynllun hwn.

 

(2)     Gyda chydsyniad yr Esgob, gall y Cabidwl o bryd i’w gilydd fabwysiadu’r cynllun a draethir yn Rhan 3 o’r Atodlen honno, yn ogystal ag un o’r cynlluniau a draethir yn Rhannau 1 a 2. Os bydd i’r Cabidwl fabwysiadu Rhannau 2 a 3 o’r Atodlen honno, ni fydd yr amod ynglŷn â pheidio â thrigiannu a gynhwysir yn  Rhan 2 yn berthnasol i’r Canon Trigiannol y mae darpariaeth ar ei gyfer neu ar ei chyfer yn Rhan 3.

 

2.

 

Rhaid i’r Deon alw cyfarfodydd o’r Cabidwl, ac efe fydd yn llywyddu yn y cyfarfodydd hyn. Bydd yn ddyletswydd ar bob aelod o’r Cabidwl fynychu’r cyfarfodydd hynny, oni esgusodir ef neu hi gan y Deon. Rhaid i’r Deon ofalu fod cofnodion cyfarfodydd y Cabidwl yn cael eu cadw’n briodol a’u diogelu.

 

3.

 

Rhaid i’r Cabidwl wneud y cyfryw orchmynion, rheoliadau ac is-ddeddfau ag a fo’n angenrheidiol i weithredu’r Cynllun hwn, a gall ddiwygio, diddymu neu ychwanegu at y gorchmynion, rheoliadau ac is-ddeddfau hynny o bryd i’w gilydd, o roi rhybudd i bob aelod o’r Cabidwl o leiaf bedwar diwrnod ar ddeg cyn y cyfarfod o’i fwriad i ddefnyddio’r gallu hwnnw.

 

 

YR ATODLEN

 

Rhan 1

 

Rhaid i’r Canoniaid fod yn drigiannol am y cyfryw gyfnod ym mhob blwyddyn, ac yn y cyfryw drefn, ag a benderfyno’r Cabidwl o bryd i’w gilydd.  Bydd y trigiant hwnnw’n golygu: byw a chysgu yn y lle a fynno’r Cabidwl o bryd i’w gilydd, mynychu Gwasanaeth Dwyfol yn y gadeirlan yn gyson trwy gydol cyfnod y trigiant, a phregethu mor aml yn y gadeirlan ag a fynno’r Cabidwl, ond gall y Canon a fo’n drigiannol draddodi pregethau ychwanegol yn y gadeirlan ar gais y Deon neu gyda’i ganiatâd.

 

Rhan 2

 

Ni ofynnir i unrhyw un o Ganoniaid y gadeirlan gadw cyfnod trigiannu, ond rhaid i bob Canon, drwy gyd-drefnu â’r Deon, bregethu yn y gadeirlan mor aml ag a benderfyno’r Cabidwl o bryd i’w gilydd.

 

Rhan 3

 

1.

 

Bydd un Canon Trigiannol amser llawn, a hwnnw yn y swydd am gyfnod neu gyfnodau heb fod yn hwy na deuddeng mlynedd at ei gilydd.

 

2.

 

Rhaid i’r Canon Trigiannol hwnnw fyw a chysgu yn y cyfryw le ac am y cyfryw gyfnod neu gyfnodau ym mhob blwyddyn ag a fynno’r Esgob.

 

3.

 

Rhaid i’r Canon Trigiannol hwnnw ymgymryd â’r cyfryw orchwylion yn yr esgobaeth ac yn y gadeirlan ag a fynno’r Esgob o ymgynghori â’r Deon.

 

 

CYNLLUN CADEIRLAN ABERHONDDU

 

 

Adran I

 

Y RHAGAIR

 

1.

 

Cadarnheir a pharhau yma Arferiadau cadeirlan Sant Ioan Efengylwr, Aberhonddu, y rhai sy’n gweithredu ar hyn o bryd, onid yn unig lle bônt yn groes i’r hyn a ganlyn neu’n anghyson â hynny.

 

2.

 

Daw’r Cynllun hwn i weithredu ar 1 Ionawr 1974.

 

Adran II

 

Y CORFF CADEIRIOL

 

1.

 

Rheolir cadeirlan Sant Ioan Efengylwr, Aberhonddu, fel o’r blaen, gan Gabidwl y gadeirlan (a elwir yn gyffredin y Deon a’r Cabidwl ac a elwir yma rhag llaw y Cabidwl), a hwnnw yn ddarostyngedig bob amser i’r gyfraith eglwysig fel y derbynnir neu y deddfir hi gan Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru.

 

2.

 

Y Deon a deuddeg Canon fydd y Cabidwl.

 

3.

 

Seddau’r Canoniaid fydd rhai’r Canghellor, y Trysorydd, Archddiacon Aberhonddu, Archddiacon Gŵyr, y Pencantor, Buellt, Elfael, Crucywel, Maeliennydd, Y Gelli, Abertawe, a Gorllewin Gŵyr.

 

4.

 

Bydd y Canoniaid yn blaenori yn y drefn hon, sef Canghellor, y Trysorydd, Archddiacon Aberhonddu, Archddiacon Gŵyr, y Pencantor, ac yna’r Canoniaid eraill yn nhrefn eu penodi.

 

5.

 

O’i benodi neu o’i phenodi ac ar gyflwyno Gorchymyn yr Esgob, gosodir pob aelod o’r Cabidwl gan y Deon a’i dderbyn neu a’i derbyn i’r Cabidwl, wedi iddo neu iddi yn gyntaf ddarllen ar goedd ac arwyddo datganiad y bydd iddo neu iddi yn ffyddlon gadw holl Arferiadau’r gadeirlan, a’r Cynllun hwn, a dyfal gyflawni’r cyfan a fynnir ganddo neu ganddi gan y Cabidwl o fod yn aelod ohono.

 

6.

 

Rhaid i bob Canon sy’n Beriglor neu mewn rhyw swydd arall yn yr esgobaeth ymddiswyddo o’r ganoniaeth pan beidio â bod yn Beriglor neu ddal y swydd arall honno, oni phenderfyno’r Esgob yn wahanol.

 

7.

 

Gall yr Esgob, wrth gyflwyno canoniaeth i glerig sydd mewn rhyw swydd y tu allan i’r gadeirlan heblaw bywoliaeth blwyfol, roi yn y llythyrau penodi fod y sawl sy’n derbyn y penodiad hwnnw i ymddiswyddo rhag blaen o’r ganoniaeth honno pan beidio â bod yn y cyfryw swydd.

 

8.

 

Os ar unrhyw amser y bydd tâl ychwanegol (gan gynnwys er enghraifft ryddhad neu leihad rhent tŷ) wedi ei bennu i unrhyw Ganon yn unig yn rhinwedd ei ganoniaeth neu ei chanoniaeth, gall yr Esgob, gyda chaniatâd y Cabidwl, osod ar y Canon hwnnw, trwy lythyr a chopi ohono i’w gadw yn archifau’r Cabidwl, y cyfryw ddyletswydd ychwanegol o fewn y gadeirlan, o dan gyfarwyddyd y Deon, ag a dybio’r Esgob yn rhesymol.

 

Adran III

 

YR ESGOB

 

1.

 

Bydd galluoedd presennol yr Esgob fel Ymwelydd, a’i Awdurdod Esgobol dros y gadeirlan a’r Cabidwl, yn parhau fel o’r blaen.

 

2.

 

Pan ddaw’r Esgob i’w orseddu, rhaid i’r Deon alw pob aelod o’r Cabidwl i fod yn bresennol a chymryd ei ran neu ei rhan yn y gweithrediadau o’u dechrau i’w diwedd.

 

3.

 

Gall yr Esgob gynnal Ordeiniadau, Conffyrmasiynau, Synodau ac Ymweliadau yn y gadeirlan ar y cyfryw adegau ac yn y cyfryw fodd ag a benderfyno; gyda chaniatâd y Deon gall hefyd gynnal gwasanaethau arbennig eraill yn y gadeirlan, ond iddynt beidio ag ymyrryd â gwasanaethau arferol y gadeirlan.

 

4.

 

Bydd gan yr Esgob hawl i gymryd y cyfryw ran mewn Gwasanaeth Dwyfol ac i bregethu ar y cyfryw amserau yn y gadeirlan ag a dybio’n rhesymol, o ymgynghori â’r Deon.

 

5.

 

Bydd yn ddyletswydd ar y Deon a’r Canoniaid gynorthwyo’r Esgob, os mynn ef hynny, ym mhob gwasanaeth a gweinyddiad yn y gadeirlan y byddo ef yn brif weinyddwr ynddo.

 

6.

 

Pan dybio’r Esgob bod angen hynny, gall alw aelodau’r Cabidwl i’w gyfarfod, ac yn y cyfryw gyfarfodydd yr Esgob fydd yn llywyddu.

 

Adran IV

 

Y DEON

 

1.

 

Y Deon fydd Pen Swyddogol y Cabidwl.

 

2.

 

Rhaid i’r Deon fod yn drigiannol am o leiaf wyth mis ym mhob blwyddyn, ac yn ystod y cyfnod hwnnw rhaid iddo fyw a chysgu yn y tŷ swyddogol sy’n gysylltiedig â’r ddeoniaeth, a mynychu’n gyson y Gwasanaeth Dwyfol yn y gadeirlan.

 

3.

 

Pan fo’n drigiannol rhaid i’r Deon weinyddu yn y cyfryw wasanaethau a phregethu ar y cyfryw achlysuron yn y gadeirlan ag a drefno’r Cabidwl gydag ef o bryd i’w gilydd.

 

4.

 

Y Deon fydd yn llywyddu yn holl gyfarfodydd y Cabidwl, a lle bo’r pleidleisio yn gyfartal bydd ganddo ail bleidlais neu bleidlais fwrw.

 

5.

 

Y Deon fydd yn gyfrifol i’r Cabidwl fod y Canoniaid, yr Is-Ganoniaid a swyddogion lleyg y Cabidwl yn gwneud eu gwaith yn ddyladwy; bydd iddo ofalu bod y rheoliadau ynglŷn â’u dyletswyddau yn hysbys iddynt, a bydd iddo eu hyfforddi, eu cynghori, a’u rhybuddio os bydd galw, er mwyn iddynt gyflawni eu dyletswyddau’n ddyladwy; ond ni chaiff weithredu ymhellach heb ganiatâd y Cabidwl.

 

6.

 

Rhaid i’r Cabidwl o bryd i’w gilydd enwi aelod neu aelodau o’r Cabidwl i weithredu yn lle’r Deon pa bryd bynnag na bo hwnnw’n drigiannol, neu pan na allo gyflawni ei ddyletswyddau oherwydd afiechyd neu ryw achos pwysig arall.

 

7.

 

Pan fo swydd Deon yn wag, gall yr Esgob o bryd i’w gilydd enwi aelod neu aelodau o’r Cabidwl i weithredu yn lle’r Deon.

 

Adran V

 

YR URDDASOLION A’R CANONIAID

 

1.

 

(1)     Rhaid i’r Cabidwl, gyda chydsyniad yr Esgob, bob amser fabwysiadu un o’r cynlluniau yn y drefn a draethir yn Rhannau 1 a 2 a 3 o’r Atodlen i’r Cynllun hwn.

 

(2)     Gyda chydsyniad yr Esgob, gall y Cabidwl o bryd i’w gilydd fabwysiadu’r cynllun a draethir yn Rhan 3 o’r Atodlen honno, yn ogystal ag un o’r cynlluniau a draethir yn Rhannau 1 a 2. Os bydd i’r Cabidwl fabwysiadu Rhannau 2 a 3 o’r Atodlen honno, ni fydd yr amod ynglŷn â pheidio â thrigiannu a gynhwysir yn  Rhan 2 yn berthnasol i’r Canon Trigiannol y mae darpariaeth ar ei gyfer neu ar ei chyfer yn Rhan 3.

 

2.

 

Bydd yn ddyletswydd ar bob aelod o’r Cabidwl fynychu pob cyfarfod ohono.

 

Adran VI

 

Y CABIDWL

 

1.

 

Bydd o leiaf ddau gyfarfod arferol ym mhob blwyddyn ar ddyddiadau cymeradwy gan y Cabidwl, ond gellir newid y dyddiadau hynny yn ôl dewis y Deon. Gall y Deon alw’r cyfryw gyfarfodydd eraill ag a farno’n angenrheidiol.

 

2.

 

Bydd pum aelod o’r Cabidwl yn bresennol yn ddigon i wneud cyfarfod o’r Cabidwl, ond ni chânt benderfynu unrhyw fater sy’n gofyn cydsyniad mwyafrif y Cabidwl.

 

3.

 

O fewn terfynau Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru ac unrhyw reoliadau a wnaed gan y Corff Llywodraethol neu Gorff y Cynrychiolwyr, rhaid i’r Cabidwl wneud y cyfryw orchmynion, rheoliadau ac is-ddeddfau ag a fo’n angenrheidiol i weinyddu’r gadeirlan, a gall ddiwygio, diddymu neu ychwangegu at y gorchmynion, rheoliadau ac is-ddeddfau hynny.

 

Adran VII

 

YR IS-GANONIAID

 

Rhaid i’r Is-Ganoniaid fynychu’r gwasanaethau yn y gadeirlan yn gyson ar y Suliau a dyddiau’r wythnos, a chymryd y cyfryw ran ynddynt a chyflawni’r cyfryw ddyletswyddau eraill yn gysylltiedig, â’r gadeirlan ag a orchmynno’r Deon, yn ôl rheoliadau’r Cabidwl.

 

YR ATODLEN

 

Rhan 1

 

1.

 

Rhaid i’r Canoniaid bob un fod yn drigiannol am y cyfryw gyfnod ym mhob blwyddyn ac yn y cyfryw drefn ag a benderfyno’r Cabidwl o bryd i’w gilydd.

 

2.

 

Yn ystod ei gyfnod neu ei chyfnod trigiannol rhaid i bob Canon fyw a chysgu yn y cyfryw le ag a fynno’r Cabidwl iddo neu iddi o bryd i’w gilydd.

 

3.

 

Yn ystod ei gyfnod trigiannol rhaid i bob Canon fynychu gwasanaethau’r gadeirlan yn gyson ar y Suliau a dyddiau’r wythnos, a phregethu yn y gwasanaethau hynny a orchmynno’r Deon, yn ôl rheoliadau’r Cabidwl. Rhaid i’r Canon Trigiannol gyflawni’r cyfryw ddyletswyddau eraill yn gysylltiedig â’r gadeirlan ag a orchmynno’r Cabidwl iddo o bryd i’w gilydd.

 

Rhan 2

 

1.

 

Ni ofynnir i unrhyw un o Ganoniaid y gadeirlan gadw cyfnod trigiannu.

 

2.

 

Rhaid i un Canon, wedi ei enwi neu wedi ei henwi o bryd i’w gilydd gan y Cabidwl, fod yn bresennol yng ngwasanaethau’r gadeirlan ar bob Sul, a rhaid iddo neu iddi gymryd y cyfryw ran ynddynt yn ôl gorchymyn y Deon, yn unol â rheoliadau’r Cabidwl.

 

3.

 

Rhaid i’r Canon a fo’n bresennol felly yn y gadeirlan bregethu mor aml ar y Sul hwnnw ag a osodo’r Cabidwl arno neu arni o bryd i’w gilydd, ond gall draddodi pregethau ychwanegol ar gais y Deon neu gyda’i ganiatâd.

 

4.

 

Rhaid i’r Cabidwl geisio sicrhau fod o leiaf un o’i nifer yn bresennol yn y Foreol a’r Hwyrol Weddi yn y gadeirlan, bob dydd drwy’r flwyddyn.

 

Rhan 3

 

1.

 

Bydd un Canon Trigiannol amser llawn, a hwnnw yn y swydd am gyfnod neu gyfnodau heb fod yn hwy na deuddeng mlynedd at ei gilydd.

 

2.

 

Rhaid i’r Canon Trigiannol hwnnw fyw a chysgu yn y cyfryw le ac am y cyfryw gyfnod neu gyfnodau ym mhob blwyddyn ag a fynno’r Esgob.

 

3.

 

Rhaid i’r Canon Trigiannol hwnnw ymgymryd â’r cyfryw orchwylion yn yr esgobaeth ac yn y gadeirlan ag a fynno’r Esgob o ymgynghori â’r Deon.

 

 


[1] Yn awr Rhan II yr Atodlen i’r Cynllun hwn

[2] Yn awr Rheoliad 14 Pennod VII

[3] Yn awr y Pwyllgor Adnoddau Dynol

[4] Yn awr y Pwyllgor Adnoddau Dynol

[5] Yn awr y Pwyllgor Adnoddau Dynol

[6] Yn awr y Pwyllgor Adnoddau Dynol