Cyfrol II: Adran 2 – Rheolau a Rheoliadau

Taflen Cynnwys

 

1.      DEDDF YR EGLWYS YNG NGHYMRU (CLADDFEYDD), 1945

Rheolau

Atodlen Gyntaf:          Rhybudd am Gladdu

Ail Atodlen:                 Taliadau ynglŷn â Chladdu Taliadau am yr Hawl i Godi Cofebau a Cherrig Beddau

 

2       RHEOLIADAU AR GYFER GWEINYDDU MYNWENTYDD

 

3       RHEOLIADAU YNGLŶN Â SYMUD YMAITH GOFEBAU A CHERRIG BEDDAU

Rhagymadrodd

Rheoliadau

 

4.      RHEOLIADAU AR GYFER DEFNYDDIO PRIS GWERTHU EGLWYSI, MANNAU AT EGLWYSI A MYNWENTYDD

 

5.      RHEOLIADAU YNGLŶN Â CHRONFEYDD ATGYWEIRIO CANGHELLAU AR GYFER STOC A RODDWYD I GORFF Y CYNRYCHIOLWYR DAN ADRAN 31 O DDEDDF DDEGWM 1936

 

6.      RHEOLIAD AR GYFER GWEINYDDU ELFENNAU’R CYMUN BENDIGAID GAN LEYGWR

 

7.      RHEOLIADAU CADW CYFRIFON YR EGLWYS YNG NGHYMRU

Rheoliadau

Atodlen

 

8.      RHEOLIADAU ADEILADWAITH EGLWYSIG (Eglwysi ar wahân i Eglwysi Cadeiriol)

 

9.      RHEOLIADAU EGLWYSI DIANGEN

 

10.    CYFANSODDIAD PWYLLGORAU EGLWYSI A BUGEILIOL ESGOBAETHAU

 

11.    RHEOLAU COMISIWN CADEIRLANNAU AC EGLWYSI

Egwyddorion cyffredinol

Sefydliad a Swyddogaethau Comisiwn Cadeirlannau ac Eglwysi

Sefydliad a Swyddogaethau Pwyllgorau Cynghori Adeiladwaith Cadeirlan

Darpariadau Amrywiol

 

12.    RHEOLIADAU YNGLŶN Â DARPARU ADNODDAU TUAG AT HYFFORDDI AR GYFER Y WEINIDOGAETH ORDEINIEDIG YN YR EGLWYS YNG NGHYMRU

 

 

DEDDF YR EGLWYS YNG NGHYMRU (CLADDFEYDD), 1945

 

RHEOLAU

 

A WNAED GAN GORFF CYNRYCHIOLWYR

YR EGLWYS YNG NGHYMRU

YN UNOL AG ADRAN 4(2) O’R DDEDDF DDYWEDEDIG

 

1.

 

At amcanion y Rheolau hyn bydd y gair Periglor yn golygu ac yn cynnwys Rheithor neu Ficer plwyf neu Reithor bywoliaeth reithorol neu, pan fo perigloriaeth yn wag neu wedi ei hatal, neu pan fo’r Periglor yn fethedig, y Deon Bro neu ryw glerig arall a benodir gan Esgob yr esgobaeth i ofalu am blwyf neu fywoliaeth reithorol.

 

2.

 

Rhaid rhoi rhybudd am gladdu i Beriglor y plwyf lle y mae’r gladdfa, o leiaf wyth awr a deugain cyn claddu mewn bedd di-furiau ac o leiaf drigain awr cyn claddu mewn bedd muriedig, a chyflwyno’r rhybudd rhwng 10 a.m. ac 1 p.m. neu rhwng 2.30 a 4 p.m. ar ddyddiau o ddydd Llun hyd ddydd Gwener neu rhwng 10 a.m. a 12 hanner dydd ar y Sadwrn.  Ni cheir cyflwyno’r un rhybudd am gladdu ar y Sul, ar Ddydd Gwener y Groglith neu Ddydd Nadolig nac ar unrhyw ŵyl gyhoeddus arall neu ŵyl banc, onid am reswm digonol sy’n bodloni’r Periglor.

 

3.

 

Gall y Periglor ganiatáu cyfnod byrrach nag wyth awr a deugain neu drigain awr (yn ôl y digwydd) os barn yn addas, a rhaid iddo ganiatáu cyfnod byrrach mewn achos brys, ar dystysgrif meddyg.

 

4.

 

Rhaid rhoi rhybudd yn y ffurf a draethir yn yr Atodlen Gyntaf i hwn, a rhaid i’r sawl sy’n gofalu am yr angladd lanw’r holl fanylion a’u harwyddo.  Gellir cael copi o ffurf y rhybudd gan y Periglor.

 

 

5.

 

Rhaid trefnu amser yr angladd gyda’r Periglor, ac ni cheir claddu mewn claddfa ar bwys eglwys ar adeg yr arferir cynnal gwasanaeth yn yr eglwys.

 

6.

 

Ni cheir claddu ar y Sul nac ar Ddydd Gwener y Groglith nac ar Ddydd Nadolig ac eithrio mewn achos brys, a ardystir fel y cyfryw gan Grwner neu feddyg cofrestredig.

 

7.

 

Megis y traethir yn yr Ail Atodlen i hwn y bydd y taliadau am gladdu, ac ni cheir codi dim taliadau eraill.  Pan weinyddir y gwasanaeth claddu yn ôl defodau’r Eglwys yng Nghymru, telir yr holl daliadau i’r Periglor. Pan na weinyddir y gwasanaeth claddu felly, i’r Gweinidog sy’n gweinyddu y telir taliadau am y gwasanaeth a roddir ganddo, ac i’r Periglor bob taliad arall. Adeg rhoddi rhybudd am y claddu y telir y taliadau i’r Periglor, a’r taliadau i unrhyw Weinidog arall yn union cyn neu wedi’r claddu. Y sawl sy’n gofalu am yr angladd a wna’r holl drefniadau angenrheidiol gyda’r Gweinidog sy’n gweinyddu.

 

8.

 

Ni cheir codi unrhyw gofeb neu garreg fedd oni wnaed y taliad priodol i’r Periglor ymlaen llaw.

 

9.

 

Daw’r Rheolau a’r Atodlenni a ganlyn i rym ar y dydd cyntaf o Ebrill 1984, ac o’r dyddiad hwnnw cymerant le pob Rheolau, Atodlenni ac Atodlenni diwygiedig blaenorol a wnaed dan is-adran (2) adran 4 Deddf yr Eglwys yng Nghymru (Claddfeydd), 1945, a diddymir pob cyfryw Reolau, Atodlenni ac Atodlenni diwygiedig blaenorol o’r dyddiad hwnnw.

 

YR ATODLEN GYNTAF

 

Plwyf…………………………………………………………………………

 

RHYBUDD AM GLADDU

 

1.      Enw neu enwau bedydd a chyfenw’r sawl a gleddir, a chyfeiriad

 

2.      Disgrifiad (sef galwedigaeth, crefft, neu’r cyfryw) y sawl a gleddir (os un dan oed, enw a chyfeiriad y rhieni

 

3.      Oedran y sawl a gleddir (os mewn blynyddoedd, ar y pen-blwydd diwethaf)

 

4.      Dyddiad marw (dydd o’r mis a’r flwyddyn)

 

5.      Plwyf lle y bu farw

 

6.      Dydd o’r wythnos a dyddiad o’r mis y cleddir

 

7.      Awr o’r dydd y bydd yr angladd yn cyrraedd y gladdfa

 

8.      *Enw a chyfeiriad y Gweinidog a fydd yn gwasanaethu

 

9.      (a)     Manylion er adnabod y man-claddu a fwriedir

(b)     Dyddiad y claddu diwethaf yno(os bu un)

 

10.    Ai mewn bedd muriedig ai mewn bedd di-furiau

 

11.    Mesuriadau allanol yr arch os oes angen gofod ychwanegol

 

12.    Enw a chyfeiriad yr angladdwr

 

Llofnod y Ceisiedydd………………………………………………………………………………………………….

 

Cyfeiriad……………………………………………………………………………………………………………………..

 

……………………………………………………………………………………………………………………………………

 

……………………………………………………………………………………………………………………………………

 

Dyddiad………………………………………………………………………………………………………………………

 

*Pan fydd y gwasanaeth yn ôl defodau’r Eglwys yng Nghymru, y Periglor a fydd yn gweinyddu oni wnaed trefniadau arbennig ganddo ef neu gyda’i gydsyniad.

 

 

AIL ATODLEN

 

TALIADAU YNGLŶN Â CHLADDU

Taliadau
£ p
Am y gwasanaethau a roddir gan y Periglor neu gan Weinidog arall a fo’n gweinyddu wrth gladdu 85.00
At Gronfa Cadwraeth y Fynwent am gladdu mewn bedd neu gladdgell 473.00
Ni fydd tâl am gladdu baban marw-anedig na phlentyn dan 18 mlwydd oed nac, yn gysylltiedig â hynny, am wasanaeth y Periglor neu Weinidog arall i weinyddu’r gladdedigaeth, nac am gofrestru’r gladdedigaeth.
Am dorri bedd, ac am furio os bydd angen, telir y gost wirioneddol ac angenrheidiol, eithr onid oes taliad ar wahân i’w wneud i’r sawl a wnaeth y gwaith, codir y tâl sydd ym marn y Periglor yn rhesymol yng ngoleuni cost llafur yn yr ardal.
* Pan weinyddir claddedigaeth neu gladdu gweddillion amlosgedig gan weinidog neu rywun arall heb fod y sawl a weinyddodd y gwasanaeth angladd, codir ffi gweinidog o £22.00 am y traddodi ac am gofrestru’r gladdedigaeth.

 

TALIADAU AM YR HAWL I GODI COFEBAU

A CHERRIG BEDDAU

Taliadau

£ p

Croes bren blaen

24.00

Carreg fedd ar ei gorwedd, neu’n sefyll wrth y pen 179.00
Carreg fflat syml, y tir heb fod yn fwy na

  • 12” (305mm) wrth 12” (305mm) wedi ei gosod yn is na lefel gyffredin

neu garreg fedd unionsyth heb fod yn fwy na

  • 18″ (457mm) o uchder wrth 12″ (305mm) o led

neu garreg lethrog heb fod yn fwy na

  • 18″ (457mm) o hyd wrth 12″ (305mm) o led a
  • 4″ (102mm) o uchder wrth y pen
  • yn coffáu rhywun a amlosgwyd

Ysgrifen ychwanegol ar unrhyw gofeb

 

 

 

 

 

 

 

 

95.00

43.00

 

Cofebau neu gerrig beddau heblaw’r uchod: y tâl sydd ym marn y Periglor yn rhesymol, ond heb fod yn fwy na 10 y cant o gost y gwaith i’r prynwr.

 

 

NODIADAU

 

(1)     Gan blwyfolion yn unig (sef y rhai sy’n byw fel arfer yn y plwyf), y rhai sy’n marw yn y plwyf, y rhai a fu’n byw yno a’r rhai na fuont yn byw yno y dymunir agor beddau neu gladdgelloedd teuluol ar eu cyfer a pherthnasau agos iddynt wedi eu claddu yn y fynwent eglwys, a’r rhai sydd ar rol yr etholwyr ar ddyddiad eu marwolaeth y mae’r hawl gyfreithiol i gael eu claddu yng nghladdfa’r plwyf.

 

(2)     Ac eithrio i’r graddau y mae’r Ddeddf a enwyd yn cadw hawliau, ni cheir gwahaniaethu rhwng claddu aelodau o’r Eglwys yng Nghymru a phersonau eraill.

 

 

RHEOLIADAU AR GYFER GWEINYDDU

MYNWENTYDD

 

Cadwraeth Mynwentydd

 

1.

 

Bydd y Cyngor Plwyf Eglwysig yn gyfrifol i Gorff y Cynrychiolwyr am ofal priodol, cynnal a chadw pob mynwent yn y plwyf gan gynnwys y muriau, llidiardau, cloddiau, llwybrau, glaswellt a choed, ac am atgyweirio unrhyw niwed iddynt pa fodd bynnag yr achoswyd ef, a rhaid iddo ddarparu yswiriant priodol a digonol ar gyfer hynny gydag yswiriantwyr penodedig yr Eglwys yng Nghymru.

 

2.

 

O fewn termau’r Rheoliadau hyn, bydd pob agwedd ar gadwraeth mynwentydd yn ofal a dyletswydd Cynghorau Plwyf Eglwysig.

 

3.

 

Rhaid i’r Archddiacon anfon neu beri anfon i Gorff y Cynrychiolwyr (pan ofynnir am hynny gan Gorff y Cynrychiolwyr) adroddiad ar unrhyw fynwent yn ei archddiaconiaeth gan nodi ei chyflwr a datgan a yw’r cyfryw fynwent neu unrhyw ran ohoni wedi peidio â chael ei defnyddio.

 

Taliadau a Chronfa Cadwraeth Mynwent

 

4.

 

O’r taliadau sy’n ddyledus yn ôl y Rheolau (ac eithrio’r taliadau hynny sy’n ddyledus i’r Periglor dan reoliad 5 o hynyma), rhaid i’r Cyngor Plwyf Eglwysig, neu yn achos cadeirlan nad yw’n eglwys plwyf y Deon a’r Cabidwl, sefydlu Cronfa Cadwraeth Mynwent, a gymhwysir yn unol â rheoliad 1 o hynyma.  Pan ofynnir am hynny, rhaid i’r Cyngor roi cyfrif i Gorff y Cynrychiolwyr am bob derbyniadau a thaliadau.

 

 

5.

 

Gyda golwg ar y taliadau sydd i’w talu dan yr Ail Atodlen i’r Rheolau:

(a)     bydd pob taliadau am wasanaeth y Periglor ac am gofestru claddu i’w talu i’r Periglor, ac eithrio pan yw’r Periglor yn ddeon cadeirlan neu yn archddiacon, pan fydd y cyfryw daliadau yn achos cadeirlan nad yw’n eglwys plwyf i’w talu i’r Deon a’r Cabidwl, ond fel arall i’r Cyngor Plwyf Eglwysig;

(b)     y mae pob tâl am gladdu mewn bedd neu gladdgell i’w dalu i Gronfa Cadwraeth y Fynwent; ac

(c)     y mae’r taliadau am yr hawl i godi cofebau a cherrig beddau, gan gynnwys rhai’n perthyn i weddillion corff a losgwyd, i’w talu i Gronfa Cadwraeth y Fynwent ac i’r Periglor, yn y cyfryw gyfrannau ag y penderfyna Corff y Cynrychiolwyr neu’r pwyllgor priodol ohono o bryd i’w gilydd.

 

Beddau

 

6.

 

Yn ddarostyngedig i reoliad 1 o hynyma, bydd y Periglor yn gyfrifol am arolygu’n gyffredinol bob mynwent yn y plwyf,  am briodoli lle beddau ac am gadw cofnodion a fydd, hyd y mae’n rhesymol ymarferol, yn galluogi lleoli’r lleoedd hynny.

 

7.

 

Ni cheir gwneud nac agor na bedd na chladdgell heb ganiatâd y Periglor.  Telir cost gwneud neu agor bedd neu gladdgell gan y sawl a ofynnodd am wneud y gwaith.

 

8.

 

Ni ellir cael hawl barhaol neu lwyrneilltuol i gladdu mewn unrhyw fedd neu gladdgell ond drwy Hawleb.

 

9.

 

Ac eithrio drwy Hawleb ni cheir claddu na daearu gweddillion corff a losgwyd o fewn 12′ (3658mm) i adeiladwaith eglwys nac o fewn 6′ (1829mm) i fur terfyn y fynwent oddieithr mewn claddgell sydd eisoes yn bod neu fedd a nodwyd.

 

 

10.

 

Rhaid i gaead arch a gladdwyd mewn bedd fod o leiaf 3′ (914mm) islaw lefel gyffredin y tir.

 

Tystysgrifau a Rhybuddion

 

11.

 

Cyn claddu rhaid cyflwyno i’r Periglor neu ei gynrychiolydd dystysgrif cofrestru’r farwolaeth, neu, lle bo cwest, Orchymyn y Crwner.

 

12.

 

Wrth roi rhybudd am fwriadu claddu plentyn marw-anedig, rhaid cyflwyno tystysgrif a roddwyd gan y Cofrestrydd, neu, os bu cwest, Orchymyn y Crwner, fel y gofynnir gan adran 5 o Ddeddf Cofrestru Geni a Marw, 1926, a rhaid cofnodi’r claddu yng Nghofrestr y Claddedigaethau.

 

Gweddillion Corff a Losgwyd

 

13.

 

(1)     Yn ddarostyngedig i’r hyn a nodir isod, gall y Periglor ganiatáu daearu mewn mynwent weddillion corff a losgwyd, ond ni cheir gwasgar gweddillion o’r fath.

 

(2)     Yn ddarostyngedig i ganiatâd Hawleb, gall Cyngor Plwyf Eglwysig, gyda chaniatâd y Periglor, lwyrneilltuo rhan neu rannau o’r fynwent ar gyfer claddu gweddillion cyrff a losgwyd, wedi eu daearu naill ai heb lestr neu mewn llestr a fydd yn pydru’n gyflym, ac mewn rhan o’r fath ni cheir codi mwy nag un gofeb a gymeradwywyd gan Hawleb dros yr holl weddillion a ddaearwyd yn y modd hwn.

 

(3)     Yn ychwanegol neu yn lle darpariaethau rheoliad 13(2) o hynyma, yn ddarostyngedig i ganiatâd Hawleb, gall Cyngor Plwyf Eglwysig, gyda chaniatâd y Periglor, lwyrneilltuo rhan neu rannau o’r fynwent ar gyfer claddu mewn darnau tir unigol weddillion cyrff a losgwyd wedi eu daearu heb lestr neu mewn llestr a fydd yn pydru’n gyflym neu mewn llestr pren, a gellir nodi darnau tir unigol o’r fath â cherrig fflat syml yn unig, heb fod yn fwy na 12″ (305mm) wrth 12″ (305mm), wedi eu gosod yn is na lefel gyffredin y tir, neu garreg ben union heb fod yn fwy na 18″ (457mm) o uchder wrth 12″ (305mm) o led neu gerrig llethrog heb fod yn fwy na 18″ (457mm) o hyd wrth 12″ (305mm) o led a 4″ (102mm) o uchder yn y pen.

(4)     Ar wahân i hyn ni cheir daearu gweddillion corff a losgwyd ond mewn bedd neu gladdgell.

 

(5)     Y mae darpariaethau rheoliadau 14 a 15 ynghylch trefn derbyn, deunydd cofebau a cherrig beddau a’r geiriad arnynt, i’w cymhwyso at y cerrig fflat, cerrig pen, neu gerrig llethrog a nodwyd yn rheoliad 13(3) o hynyma.

 

(6)     Ni chaniateir mewn unrhyw amgylchiad dderbyn i fynwent lestri wedi eu gwneud yn llwyr neu’n rhannol o blastig.

 

(7)     Rhaid cofnodi enwau’r unigolion y claddwyd gweddillion llosgedig eu cyrff a manylion eraill perthnasol yng Nghofrestr y Claddedigaethau, neu ynteu yng nghofnodion y plwyf, gan nodi mai gweddillion corff a losgwyd ydynt.

 

(8)     (a)     Bydd y taliadau i’r Periglor neu Offeiriad arall am ei wasanaeth yr un â’r taliadau cyfatebol ynglŷn â chladdu;

(b)    Bydd £150 y tâl ar gyfer cadwraeth mynwent a godir am ddaearu gweddillion corff a losgwyd, ac eithrio lle rhoddir gweddillion corff a losgwyd mewn bedd neu gladdgell newydd o faintioli llawn, pan fydd y tâl yr un ag am gladdu.

Codi Cofebau a Cherrig Beddau

 

14.

 

(1)     Rhaid i bob cais am ganiatâd i godi neu i newid cofeb neu garreg fedd, neu i newid neu i ychwanegu at ei geiriad, gan gynnwys y rhai hynny sy’n perthyn i weddillion corff a losgwyd, gael ei wneud i’r Periglor ar y ffurflen a ddarparwyd gan Gorff y Cynrychiolwyr ac wedi ei harwyddo gan y ceisiedydd, a rhaid cynnwys yr union eiriad a fwriedir ac arddull y llythrennu.

 

(2)     Ac eithrio lle gorchmynnir yn wahanol gan un o Lysoedd yr Eglwys yng Nghymru y sawl sy’n gwneud y cais a fydd yn gyfrifol am yr holl gostau ynglŷn â chais am godi cofeb neu garreg fedd, neu am wneud, newid neu ychwanegu at y geiriad.

 

(3) Rhaid ymgymryd â phob gwaith gosod neu newid cofeb yn unol â Safon Prydeinig 8415 y gellir ei ddiwygio o bryd i’w gilydd.

 

15.

 

(1)     Wedi cael caniatâd ysgrifenedig y Periglor gellir derbyn i fynwent garreg fedd

(a)     a fydd yn cynnwys naill ai

(i)      carreg pen gymwys heb fod yn fwy na 4′ (1219mm) o uchder; neu

(ii)     groes gymwys heb fod yn fwy na 4′ (1219mm) o uchder; neu

(iii)     garreg fedd syml, wedi ei gosod yn is na lefel gyffredin y tir;  neu

(iv)     garreg lethrog i nodi darn tir unigol lle daearwyd gweddillion corff a losgwyd.

(b)     heb fod wedi ei gwneud na’n llwyr na’n rhannol o faen wedi ei atgynhyrchu, metel na cherameg; ac

(c)     yn cynnwys un neu fwy neu’r cyfan o’r canlynol:

(i)      croes syml;

(ii)     geiriad syml a gweddus;

(iii)    motiff gweddus.

 

(2)     Gellir derbyn i fynwent gyda chaniatâd ysgrifenedig yr Archddiacon:

(a)     garreg fedd o fewn y disgrifiad uchod ond a wrthodwyd gan y Periglor;

(b)     garreg fedd heb fod yn cydymffurfio â rheoliad 15(1) o hynyma ond er hynny’n cynnwys dim ond carreg ben, croes neu garreg fflat, gyda geiriad gweddus a heb fod wedi ei gwneud na’n llwyr na’n rhannol o faen wedi ei atgynhyrchu, metel na cherameg;

(c)     garreg fedd sydd yn cynnwys engrafiad neu lun syml a gweddus o’r marw.

 

(3)     Ar wahân i hyn ni cheir codi na chofeb na charreg fedd mewn mynwent, gan gynnwys y rhai hynny sy’n perthyn i weddillion corff a losgwyd, heb Hawleb.

 

(4)     Mewn achos lle bo cais am gydsyniad yr Archddiacon ynglÿn â charreg fedd fel y nodwyd yn rheoliad 15(2) o hynyma, rhaid i’r Archddiacon, o fewn wyth niwrnod ar hugain, gyfleu, mewn ysgrifen, i’r sawl sy’n gwneud y cais ac i’r Periglor ei ganiatâd neu ei wrthwynebiad.

 

(5)     Ni chaiff unrhyw ran o sylfaen goncrid fod yn uwch na lefel gyffredin y tir.

 

16.

 

(1)     Ymdrinir â chais am adnewyddu cofeb neu garreg fedd neu roi un arall yn ei lle dan reoliadau 14 a 15 o hynyma.

 

(2)     Y mae symud cofeb neu garreg fedd o’i lle mewn mynwent i le gwahanol yn y fynwent honno neu i unrhyw fynwent arall yn golygu gwneud cais o’r newydd am godi neu newid o fewn rheoliadau 14 a 15.

 

17.

 

Ac eithrio blodau sidan a phabi Dydd y Cofio, ni cheir gosod unrhyw dorchau na blodau ffug, llwyni, fasys na llestri blodau sefydlog, addurniadau, cerrig mâl, graean, cerrig palmant na cherbau ar nac o amgylch unrhyw fedd neu lecyn mewn mynwent a neilltuwyd ar gyfer gweddillion cyrff a losgwyd.

 

Coed

 

18.

 

Ni cheir plannu coed mewn mynwent heb ganiatâd ysgrifenedig yr Archddiacon.

 

19.

 

Gyda chaniatâd y Periglor gall y Cyngor Plwyf Eglwysig wneud cais i’r Archddiacon am ganiatâd i gwympo coed mewn mynwent, a heb amharu ar hawliau Corff y Cynrychiolwyr, ac yn ddarostyngedig i unrhyw Orchymyn er Diogelu Coed neu Reolaethau Ardal Cadwraeth, bydd gan yr Archddiacon hawl i roi’r cyfryw ganiatâd. Bydd unrhyw elw a wneir wrth werthu’r cyfryw goed yn eiddo i gronfa briodol y plwyf.

Dehongli

 

20.

 

Yn y Rheoliadau hyn:

(a)     cynhwysa’r gair plwyf fywiolaethau rheithorol ac ardaloedd confensiynol;

(b)     cynhwysa’r gair mynwent bob tir a ddelir gan Gorff y Cynrychiolwyr gydag eglwys neu gapel yn sefyll arno, pob claddfa ar wahân, a phob wal derfyn a waliau eraill, gwrychoedd, cloddiau a llidiardau o amgylch neu ar y cyfryw dir neu’r claddfeydd;

(c)     golyga’r gair Rheolau y Rheolau a wnaed gan Gorff y Cynrychiolwyr, yn unol ag is-adran 4(2) o Ddeddf yr Eglwys yng Nghymru (Claddfeydd), 1945, neu unrhyw Ddeddf yn diwygio neu’n cymryd lle’r Ddeddf honno;

(d)     yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Rheolau, lle bo bywiolaethau’n wag ystyrir mai’r Deon Bro yw’r Periglor at amcanion y Rheoliadau hyn; ac

(e)     ymyl, wedi ei gwneud o unrhyw ddeunydd, sy’n amlinellu neu’n amlinellu’n rhannol safle bedd yw cerb.

 

 

RHAGYMADRODD I’R RHEOLIADAU YNGLŶN Â SYMUD YMAITH

GOFEBAU A CHERRIG BEDDAU

 

Rhaid i Gynghorau Plwyf Eglwysig sy’n bwriadu tacluso mynwent neu gladdfa y maent yn gyfrifol amdani drwy symud ymaith neu newid safle cerrig beddau neu gofebau eraill gydsynio â rheol 32 o Reolau’r Llysoedd Esgobaethol drwy ymgynghori â Phwyllgor Cynghori’r Esgobaeth cyn ymgymryd ag unrhyw gynllun arbennig.  Dylent wneud hynny drwy gyflwyno i Gofrestrydd yr esgobaeth ddisgrifiad byr o’u cynigion, gyda phlan syml. Bydd hyn yn arbed Cynghorau Plwyf Eglwysig rhag mynd i’r ymdrech a’r gost o hysbysebu, cysylltu â pherthnasau’r meirw a pharatoi cynlluniau manwl dim ond i ddarganfod nad yw Hawleb yn debyg o gael ei chaniatáu.

 

Dylai Cynghorau Plwyf Eglwysig a Phwyllgorau Cynghori Esgobaethau roi ystyriaeth i’r egwyddorion a ganlyn:

(a)     Lle bo amgylchiadau’n caniatáu, dylid tacluso mynwentydd a chladdfeydd heb symud ymaith gofebau neu gerrig beddau.

(b)     Lle tybir bod rhyw gymaint o symud ymaith yn angenrheidiol, dylid rhoi’r ystyriaeth fwyaf gofalus i gwestiwn symud ymaith unrhyw gofeb neu garreg fedd arbennig. Y mae mynwent yn gefndir i’r eglwys, a’r eglwys, fel rheol, yw’r adeilad hynaf, mwyaf diddorol ei bensaernïaeth yn y gymdogaeth. Y mae mynwentydd yn bwysig am resymau archaeolegol, aesthetig ac ecolegol, a dylid cadw eu cymeriad er mwyn y cenedlaethau sydd i ddod. Y mae cofebau a cherrig beddau, a’u lleoliad, yn dystiolaeth bwysig i hanes cymdeithas.

(c)     Er cydnabod y gall mynwent aflêr fod yn ddolur llygad, y mae’n bosibl ei thacluso i’r fath raddau nes atgynhyrchu nodweddion gwaethaf gardd ddinesig. Os yw symud ymaith neu ail-leoli cofeb neu garreg fedd, neu wastatáu cistfedd yn gymorth i’r Cyngor Plwyf Eglwysig gadw’r fynwent yn weddol daclus, yna, mewn egwyddor, gellir caniatáu’r cyfryw gwrs, ond nid yw Hawleb i symud y cyfan yn debyg o gael ei chaniatáu.

(d)     Ni ddylid caniatáu ad-drefnu sy’n ymwneud â’r cofebau a’r cerrig beddau hynaf yn unig.  Dylid ystyried hefyd, lle bo hynny’n gymwys, symud ymaith gofebau, cerrig beddau, cerbau, cledrau, cadwyni a physt mwy diweddar.  Ni ddylai’r rheol hanner can mlynedd gael ei hystyried yn ddigon ynddi ei hun i ganiatáu ac awdurdodi symud ymaith gofebau a cherrig beddau cynharach na hynny.

(e)     Dylid ystyried yn ofalus beth i’w wneud â’r cofebau a’r cerrig beddau sydd i’w symud ymaith. Gellir claddu neu symud ymaith yn llwyr a dinistrio cofebau a cherrig beddau sydd wedi eu niweidio’n rhy ddrwg i’w hatgyweirio neu â’r geiriad yn annarllenadwy, os nad oes iddynt unrhyw werth nac aesthetig na hanesyddol nac achyddol: ar wahân i hyn ni ddylid dinistrio unrhyw garreg.  Ni ddylid pentyrru cerrig beddau fel rwbel. Am y cerrig a symudwyd ond sydd i’w cadw, gellir eu hail-leoli, eu gosod yn fflat, neu, os ydynt yn gymwys, eu defnyddio i balmantu: ni ddylid eu gosod yn rhengoedd clos mewn mynwent nac o amgylch cloddiau terfyn, neu yn erbyn mur yr eglwys lle maent yn edrych yn hyll ac yn casglu chwyn a mieri. Gellid defnyddio cerbau a fwriwyd ymaith i ymylu llwybrau.

 

Dylid cofio mai cynghori yw swyddogaeth Pwyllgor Cynghori’r Esbgobaeth ac nid yw’r Canghellor yn rhwym i’w argymhellion. Os yw’r Cyngor Plwyf Eglwysig a’r Pwyllgor yn methu cytuno ar gynllun, y mae gan y Cyngor Plwyf Eglwysig hawl i gael gwrandawiad yn Llys yr Esgobaeth.

 

Pan dderbyn Cofrestrydd esgobaeth gynnig oddi wrth Gyngor Plwyf Eglwysig dylai holi a oes bwriad i ail-ddatblygu’r tir a gliriwyd ai peidio. Os oes, yna dylai dynnu sylw’r Cyngor Plwyf Eglwysig at ddarpariaethau’r Deddfau Claddfeydd Wedi Eu Cau, 1884 a 1981.

 

RHEOLIADAU YNGLŶN Â SYMUD YMAITH

GOFEBAU A CHERRIG BEDDAU

 

1.

 

Cyn cyflwyno deiseb am Hawleb er symud ymaith neu ail-leoli cofebau neu gerrig beddau (deiseb a ddylai, hyd y mae’n bosibl, ymgorffori’r egwyddorion a osodwyd yn y Rhagymadrodd i’r Rheoliadau hyn) rhaid i Gyngor Plwyf Eglwysig gyflwyno, drwy Gofrestrydd yr esgobaeth, ddisgrifiad byr o’r cynigion ynghyd â phlan syml, i’w hystyried gan Bwyllgor Cynghori’r Esgobaeth. O fewn hanner cant a chwech o ddyddiau ar ôl cyflwyno’r cyfryw ddisgrifiad a phlan rhaid i Bwyllgor Cynghori’r Esgobaeth roi gwybod i’r Cyngor Plwyf Eglwysig, drwy Gofrestrydd yr esgobaeth, a yw’r Pwyllgor yn barod, mewn egwyddor, i gymeradwyo ai peidio y cynigion y bwriedir eu cyflawni.

 

2.

 

Wrth wneud cais am Hawleb o’r fath, rhaid i Gofrestrydd yr esgobaeth roi i Ysgrifennydd Corff y Cynrychiolwyr, ynghyd â chopi o’r Ddeiseb ac unrhyw fanylion sydd i’w chanlyn, dystysgrif oddi wrth y Cofrestrydd yn datgan:

(a)     bod plan o’r fynwent wedi ei baratoi yn dangos safle’r cofebau a’r cerrig beddau y mae’r Deisebwyr yn bwriadu eu symud ymaith neu eu hail-leoli, ynghyd â chopi o bob geiriad darllenadwy ar y cyfryw gofebau neu gerrig beddau, copi o’r cynigion, beth y bwriedir ei wneud â’r cofebau a’r cerrig beddau ar ôl eu symud ymaith, ac unrhyw fanylion eraill y gall Cofrestrydd yr esgobaeth ofyn amdanynt;

(b)     bod plan, ynghyd â’r papurau a nodwyd uchod, wedi eu cyflwyno i Gofrestrydd yr esgobaeth a bod copi ohonynt ar gael gan y Periglor ar gyfer eu harchwilio;

(c)     bod Cofrestrydd yr esgobaeth wedi darparu rhybudd am y cynigion a hwnnw wedi’i ddangos ar brif ddrws eglwys y plwyf am gyfnod heb fod yn llai nag un diwrnod ar hugain, a bod rhybudd am y cynigion wedi’i gynnwys ddau dro mewn newyddiadur lleol, a dyddiad yr ail dro heb fod yn llai na phedwar diwrnod ar ddeg na mwy nag un diwrnod ar hugain ar ôl y tro cyntaf.  Rhaid i’r rhybuddion hynny draethu’r cynigion yn glir a chyfeirio at y plan y gellir ei weld yn y persondy neu yng Nghofrestrfa’r esgobaeth, a hefyd fynnu bod pob achwyniad a gwrthwynebiad yn cael ei gyflwyno yng Nghofrestrfa’r esgobaeth o fewn chwe wythnos i ddyddiad yr ail rybudd yn y newyddiadur.  Os nad mynwent eglwys y plwyf yw’r fynwent dan sylw, rhaid dangos y cyfryw rybudd ar brif ddrws yr eglwys arbennig dan sylw yn ogystal ag ar brif ddrws eglwys y plwyf;

(d)     bod yr ymchwiliadau llawnaf posibl wedi eu gwneud er darganfod enwau a chyfeiriadau’r rhai sy’n hawlio unrhyw fuddiant yn yr eiddo yr effeithir arno gan y cynigion, ynghyd ag ymchwiliadau i unrhyw ymddiriedolaeth ynglŷn ag unrhyw un o’r beddau yr effeithir arnynt;

(e)     pan fo’r cynigion yn effeithio ar unrhyw gofeb, carreg fedd neu wrthrych arall a godwyd yn ystod cyfnod o hanner can mlynedd yn union cyn dyddiad y Ddeiseb, neu sy’n cynnwys geiriad yn coffáu unigolyn a fu farw yn ystod y cyfryw gyfnod, fod caniatâd ysgrifenedig i’r cynigion wedi ei dderbyn oddi wrth bob un sydd â hawliau i’r cyfryw gofeb, carreg fedd, gwrthrych neu eiriad, ac yn achos unrhyw gofeb, carreg fedd neu wrthrych arall bod pob un sy’n hawlio ac yn cadarnhau buddiant ynddo neu ynddi wedi rhoi ei ganiatâd, mewn ysgrifen, i’r cynigion;

(f)      lle bo hynny’n angenrheidiol, bod caniatâd priodol ar gyfer unrhyw gofeb gofrestredig neu adeilad rhestredig, fel y bo’r achos, wedi ei dderbyn ynglŷn ag unrhyw gofeb, carreg fedd neu wrthrych arall y mae’r cynigion yn effeithio arno neu arni; a

(g)     bod darpariaethau Deddfau Claddfeydd Wedi Eu Cau, 1884 a 1981, yn cael eu cadw ynglŷn ag unrhyw dir y bwriedir ei ail-ddatblygu ar ôl ei glirio.

 

3.

 

Mewn unrhyw achos lle na roddwyd y cyfryw dystysgrif a nodwyd uchod gan Gofrestrydd yr esgobaeth i Gorff y Cynrychiolwyr, bydd i’r Corff hwnnw, neu’r pwyllgor perthnasol o’r Corff hwnnw, wneud cais ysgrifenedig i’r Canghellor am atal y Ddeiseb.

 

4.

 

Pan fo’r Archddiacon yn barnu fod gweithred o’r fath yn angenrheidiol, gall awdurdodi, mewn ysgrifen, symud ymaith gadwyni, pyst a cherbau heb eiriad arnynt, a gosod cerrig beddau yn fflat ar fedd ond wedi eu gosod yn is na lefel gyffredin y tir.

 

 

RHEOLIADAU AR GYFER DEFNYDDIO PRIS GWERTHU EGLWYSI,

MANNAU AT EGLWYSI A MYNWENTYDD

 

1.

 

(1)     Yn ddarostyngedig i unrhyw ymddiriedolaethau arbennig sy’n effeithio ar yr eiddo ac i reoliad 1(2) o hynyma bydd y pris net a gafwyd am ymadael ag unrhyw fudd mewn mynwent neu gladdfa neu unrhyw ran o’r cyfryw mewn plwyf, i’w ddefnyddio i ddibenion buddsoddi gan Gorff y Cynrychiolwyr mewn Cronfa Adeiladwaith Eglwysig a Chadwraeth Mynwent, a bydd yr incwm oddi wrth hynny i’w ddefnyddio tuag at atgyweirio neu gynnal unrhyw le o addoliad, mynwent, claddfa neu neuadd eglwys yn y cyfryw blwyf.

 

(2)     Os bydd y cyfryw bris net yn fwy na £7,500 (neu’r cyfryw swm arall y bydd i Gorff y Cynrychiolwyr benderfynu arno o bryd i’w gilydd) gall Corff y Cynrychiolwyr ddelio â’r cyfryw arian gweddill, neu unrhyw ran ohono, yn unol â rheoliad 2 o hynyma fel pe bai’n bris gwerthu eglwys neu fan at eglwys.

 

2.

 

Mewn plwyf, lle bo eglwys neu fan at eglwys neu unrhyw ran o’r cyfryw, a ddelir gan Gorff y Cynrychiolwyr, wedi ei chyhoeddi/ei gyhoeddi yn ddiangen ac wedi ei gwerthu/ei werthu, bydd pris gwerthu’r cyfryw eglwys a’i chynnwys gweddilliol neu fan at eglwys neu unrhyw ran o’r cyfryw i’w ddefnyddio i’r dibenion a ganlyn ac yn y drefn flaenoriaeth a ganlyn:

(a)     i ad-dalu holl ffioedd a chostau’r gwerthiant;

(b)     i ad-dalu unrhyw fenthyciad a wnaed gan Fwrdd Cyllid yr Esgobaeth yn ymwneud â’r eglwys honno neu’r man at eglwys hwnnw, ynghyd â llog llawn arno;

(c)     i dalu unrhyw gostau a gafwyd gan Gorff y Cynrychiolwyr wrth gynnal, gwneud yn ddiogel, yswirio, dymchwel ac ailsefydlu y man at yr eglwys wreiddiol cyn ymadael ag ef;

(d)     i ymdrîn â’r gost o dalu arbenigwyr â gymeradwyd gan Gorff y Cynrychiolwyr i gynorthwyo’r Plwyf reoli a chynllunio’r gwaith o fynd i’r afael a chynhwysion yr Eglwys.

(e)     tuag at gost ail-leoli eitemau o’r eglwys ddiangen mewn eglwysi eraill yn ddarostyngedig i gadarnhad Corff y Cynrychiolwyr, gyda chyngor Pwyllgor Cynghori’r Esgobaeth a Phwyllgor Eglwysi a Bugeiliol yr Esgobaeth;

(f)     20% o weddill derbyniadau’r gwerthiant ar ôl didynnu’r eitemau y cyfeirir atynt yn Rheoliad 2 (a) – (e) uchodi Gronfa Eglwysi Diangen y Dalaith at gadw, diogelu, yswirio, adfer neu ddymchwel eglwysi diangen yn y Dalaith;

(g)     tuag at gost darparu neu addasu lle arall i addoli (a ddelir hefyd neu a fydd i’w ddal gan Gorff y Cynrychiolwyr) yn yr un plwyf, neu gasgliad o blwyfi y mae’r cyfryw blwyf yn ffurfio rhan ohono, os yw hynny, ym marn yr Esgob, yn angenrheidiol, neu, gyda chymeradwyaeth yr Esgob at gost darparu neu addasu lle arall i addoli yn yr Esgobaeth (a ddelir hefyd neu a fydd i’w ddal gan Gorff y Cynrychiolwyr);

(h) tuag at gost y gwaith negyddu unrhyw perygl sylweddol a gall peri niwed corfforol i berson neu difrod i eiddo sydd yn bodoli mewn unrhyw fynwent neu gladdfa (gan gynnwys ei ffiniau) o fewn yr un plwyf neu grŵp o blwyfi sy’n cynnwys y plwyf hwnnw;

(i) tuag at gost hyrwyddo rhannu adeiladau eglwysig gydag enwadau eraill yn unol â Deddf Rhannu Adeiladau Eglwysig 1969.

 

3.

 

Bydd i unrhyw gais dan y rheoliadau uchod am gael defnyddio arian tuag at gost darparu neu addasu lle arall o addoliad mewn plwyf gael ei wneud o fewn cyfnod o ddeunaw mis o’r dyddiad yr hysbysir y plwyf a’r Esgob bod yr arian wedi ei dderbyn gan Gorff y Cynrychiolwyr.

 

4.

 

Lle na bo incwm o drwydded, prydles neu drefniad arall yngln â phlwyf yn fwy na’r swm o £7,500 y flwyddyn (neu’r cyfryw swm arall y bydd i Gorff y Cynrychiolwyr benderfynu arno o bryd i’w gilydd) bydd i’r swm hwn gael ei dalu i’r plwyf tuag at gynnal lle o addoliad yn y plwyf.  Lle bo’r incwm yn fwy na’r cyfryw swm bydd i Gorff y Cynrychiolwyr benderfynu sut y bydd i’r cyfryw arian gweddill gael ei ddefnyddio wedi cyd-drafod â’r plwyf.

 

5.

 

Ym mhob achos lle bo arian i gael ei ddefnyddio gan Gorff y Cynrychiolwyr yn unol â rheoliadau 2 a 4, bydd i gopi o’r cyfrifon plwyf diweddaraf a archwiliwyd gael ei gyflwyno i Gorff y Cynrychiolwyr.

 

6.

 

Ni fydd i’r rheoliadau hyn gael eu gweithredu ynglŷn ag unrhyw dderbyniadau hawliad yswiriant yn ymwneud â llwyrgolli adeilad eglwysig.

 

7.

 

Yn y rheoliadau hyn bydd i’r gair “gwerthu” ble bynnag y digwydd gynnwys ymadael â drwy roi prydles ar bremiwn.

 

 

RHEOLIADAU YNGLŶN Â CHRONFEYDD ATGYWEIRIO CANGHELLAU AR GYFER STOC A RODDWYD I GORFF Y CYNRYCHIOLWYR

DAN ADRAN 31 O DDEDDF DDEGWM 1936

 

Yn unol â pharagraff 2 yn Rhan III o’r Seithfed Atodlen i Ddeddf Ddegwm 1936, mae’r Corff Llywodraethol drwy hyn yn gorchymyn fod stoc a roddir i Gorff y Cynrychiolwyr yn rhinwedd darpariaethau adran 31 o’r Ddeddf honno i’w ddal ac i gael ymadael ag ef yn ôl y rheoliadau canlynol, sef:

 

1.

 

Yn ddarostyngedig i’r rheolau canlynol gweinyddir stoc a dderbyniwyd gan Gorff y Cynrychiolwyr (dan adran 31 ac Atodlen VII o Ddeddf Ddegwm 1936) yn iawn am gyfrifoldeb i atgyweirio canghellau at gadwraeth y gangell y rhoddwyd y stoc o’i herwydd.

 

2.

 

Cedwir yn llyfrau Corff y Cynrychiolwyr gyfrif ar wahân ar gyfer pob cangell o’r fath, dan yr enw Cronfa Atgyweirio Cangell Plwyf…

 

3.

 

Y gyfran briodol o’r treuliau a ddisgynnodd ar Gorff y Cynrychiolwyr wrth sefydlu hawl i stoc dan adran 31 ac Atodlen VII o Ddeddf Ddegwm 1936 (yn ôl awdurdod a roddwyd gan y Corff Llywodraethol ar 1 Hydref 1936) fydd yr eitem gyntaf o wariant a ddodir yn erbyn y cyfrif.

 

4.

 

Bydd y plwyf perthnasol yn gyfrifol am gadw’r gangell mewn cywair da a’i hyswirio yn erbyn y perygl o’i dinistrio gan dân, hyd at gost ei hadfer yn llawn.

 

5.

 

Fel rheol gyffredinol ni fydd ond incwm y gronfa ar gael at gadwraeth (fel y’i diffinnir yma rhag llaw) ac yswiriant, eithr:

(a)     os gwneir cais gan y Periglor a’r Wardeniaid cyn pen deuddeg mis wedi i Gorff y Cynrychiolwyr dderbyn y stoc neu wedi’r dyddiad yr â’r rheoliadau hyn yn effeithiol drwy benderfyniad y Corff Llywodraethol (yn ôl pa ddyddiad sydd ddiweddaraf), bydd y gyfran honno o’r gronfa (os oes y fath gyfran) sy’n cynrychioli cost atgyweiriadau y mae eu hangen ar unwaith (yn ôl amcangyfrif archwiliwr Corff y Cynrychiolwyr at bwrpas hawlio iawn dan Ddeddf Ddegwm 1936) ar gael ar gyfer yr atgyweiriadau hynny;

(b)     os gwneir cais gan y Periglor a’r Wardeniaid, bydd yn noethineb Corff y Cynrychiolwyr ganiatáu gwario ar gadwraeth y gangell y gyfran o’r gronfa gyfalaf a farno’n addas, ar yr amod fod Corff y Cynrychiolwyr wedi’i fodloni fod amgylchiadau arbennig sy’n cyfiawnhau’r gwario hwnnw.

 

6.

 

I ddibenion y rheolau hyn bydd cadwraeth yn golygu cadw mewn cywair da adeiladwaith y gangell (er enghraifft y muriau, y llawr, y to a’r hyn sy’n ei orchuddio, cafnau, pibelli disgyn, carthffosydd, a phyllau-dalfa ac ni fydd yn cynnwys cyfarpar dodrefn, cofebau, ffenestri lliw, ac addurniadau megis addurniadau mur a tho.

 

7.

 

Os bydd Archddiacon yr archddiaconiaeth lle y mae’r plwyf yn adrodd i Gorff y Cynrychiolwyr fod y plwyf heb wneud atgyweiriadau y mae eu hangen ar frys, bydd gan Gorff y Cynrychiolwyr awdurdod i ymgymryd â gwneud yr atgyweiriadau a farno’n angenrheidiol, a gosodir cost y rheini yn erbyn y gronfa.  Cyn gorchymyn gwneud y gwaith hwnnw rhaid i Gorff y Cynrychiolwyr roi rhybudd rhesymol am ei fwriad i’r plwyf.

 

8.

 

(1)     Y mae ceisiadau am daliadau o’r gronfa i’w gwneud mewn ysgrifen, wedi eu harwyddo gan y Periglor a’r Wardeniaid a’u cyfeirio at Ysgrifennydd Corff y Cynrychiolwyr.

 

(2)     Rhaid anfon gyda phob cais ynglŷn â gwario ar gadwraeth dystysgrif pensaer a/neu gyfrifon crefftwyr, ynghyd â thystysgrif y Periglor a’r Wardeniaid yn datgan fod y cyfrifon yn gywir a bod y gwaith wedi’i gwblhau i’w bodlonrwydd.

 

(3)     Rhaid anfon gyda phob cais ynglŷn â phremiwm ar yswiriant tân dderbynneb y Cwmni Yswiriant am y taliad.

 

9.

 

Os hysbysir Corff y Cynrychiolwyr mewn ysgrifen gan Esgob yr esgobaeth fod eglwys (a honno’n eglwys y mae Corff y Cynrychiolwyr yn dal Cronfa Atgyweirio Cangell ar ei chyfer) wedi dirywio i gyflwr adfeiliedig, ac na ddefnyddir hi mwyach at wasanaeth dwyfol, trinir y gronfa honno wedi hynny fel Cronfa Atgyweirio Cangell ar gyfer yr eglwys a enwir gan Esgob yr esgobaeth, sef eglwys sydd naill ai yn yr un plwyf â’r eglwys adfail neu mewn plwyf wedi ei gyfuno neu wedi ei uno ag ef.

 

10.

 

Gall Corff y Cynrychiolwyr ddirprwyo’i alluoedd a’i hawliau dan y rheolau hyn i bwyllgor a chanddo awdurdod i weithredu.

 

11.

 

Ni chaiff dim a gynhwysir yn y rheolau hyn effeithio ar ddarpariaethau adran 26[1] pennod III o’r Cyfansoddiad.

 

 

RHEOLIAD AR GYFER GWEINYDDU ELFENNAU’R

CYMUN BENDIGAID GAN LEYGWR

 

Gall yr Esgob ganiatáu i leygwr gynorthwyo’r Periglor neu offeiriad arall wrth weinyddu elfennau’r Cymun Bendigaid mewn plwyf arbennig, dan yr amodau hyn:

(a)     wedi ymgynghori â’r Esgob, rhaid i’r Periglor wneud cais mewn ysgrifen, gan enwi’r sawl y gofynnir am ganiatâd ar ei gyfer, a rhoi’r rheswm am ei gais;

(b)     rhaid anfon gyda chais o’r fath, gopi dilys o benderfyniad y Cyngor Plwyf Eglwysig yn cefnogi’r cais;

(c)     am flwyddyn neu gyfnod llai y rhoir caniatâd o’r fath, a gellir ei adnewyddu yn ôl barn yr Esgob.

 

 

RHEOLIADAU CADW CYFRIFON YR EGLWYS YNG NGHYMRU

 

1.

 

Bydd i bob Cyngor Plwyf Eglwysig gyflwyno, ar gyfer pob cwrdd festri blynyddol, adroddiad mewn ysgrifen ynghyd â chyfrifon y plwyf (“yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon”) am y flwyddyn yn diweddu y 31 Rhagfyr blaenorol. Anfonir copi i’r Archddiacon.

 

2.

 

Bydd yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon yn cynnwys yr wybodaeth a nodir yn yr Atodlen.

 

3.

 

(a)       Bydd ffurf y cyfrifon yn cydymffurfio â phob gofyn statudol, pob arfer da cyfredol a argymhellir gan y Comisiwn Elusennau a Llawlyfr Gweinyddu Plwyf yr Eglwys yng Nghymru.

(b)       Gall Pwyllgor Sefydlog y Corff Llywodraethol trwy reoliadau o bryd i’w gilydd amrywio trothwy’r incwm blynyddol a bair y bydd yn rhaid i Gyngor Plwyf Eglwysig gynhyrchu datganiad o weithgaredd ariannol a mantolen ar sail croniadau a archwiliwyd ac a reoleiddiwyd gan archwiliwr.

 

4.

 

Dyddir ac arwyddir yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon  gan gadeirydd y Cyngor Plwyf Eglwysig. Cymerir bod pob aelod o’r cyngor plwyf eglwysig wedi cytuno ar yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon oni nodir i’r gwrthwyneb yn yr adroddiad.

 

5.

 

Bydd y Cyngor Plwyf Eglwysig yn penodi ymchwilydd annibynnol neu archwiliwr yn unol â rheoliad 3. Bydd ef/hi yn datgan yn ei h/adroddiad fod yr ymchwiliad neu’r archwiliad wedi ei gyflawni a bod yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon yn cydymffurfio hefyd  â’r gofynion a draethir yn rheoliad 3 ac â’r Atodlen hon.

 

6.

 

Os bydd yr Archddiacon yn tybio nad yw’r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon yn cydymffurfio â rheoliad 3 ac â’r Atodlen bydd yn dwyn hyn i sylw’r Cyngor Plwyf Eglwysig a/neu’r ymchwilydd annibynnol neu’r archwiliwr ac yn ceisio eglurhad gan y Cyngor Plwyf Eglwysig a/neu’r ymchwilydd annibynnol neu’r archwiliwr.

 

ATODLEN I REOLIADAU CADW CYFRIFON

YR EGLWYS YNG NGHYMRU

 

Bydd yn rhaid i’r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon ddangos budd cyhoeddus a chynnwys:

(a)     enw llawn y Plwyf, enwau cysegriad a lleoliad ei eglwysi, ac enwau’r Ddeoniaeth Bro a’r Esgobaeth;

(b)     enwau a chyfeiriadau

(i)      y Clerig sydd â gofal y Plwyf,

(ii)     yr ymchwilwyr annibynnol neu’r archwilwyr,

(iii)    y banceriaid, ac

(iv)    unrhyw gynghorwyr proffesiynol eraill fel cyfreithwyr, pensaer neu syrfëwr eglwysig;

(c)     enwau holl aelodau’r Cyngor Plwyf Eglwysig sydd wedi gwasanaethu yn ystod y flwyddyn, a’r swydd a ddaliasant yn y plwyf;

(d)     datganiad mai cyfrifoldeb y Clerig sydd â gofal y Plwyf  a’r Cyngor Plwyf Eglwysig fydd ymgynghori a chydweithio ym mhob mater o gonsárn a phwysigrwydd i’r plwyf er hyrwyddo holl genhadaeth yr Eglwys, yn fugeiliol, efengylaidd, cymdeithasol ac ecwmenaidd yn y plwyf;

(e)     disgrifiad byr o’r modd y mae’r Cyngor Plwyf Eglwysig yn trefnu ei weithgarwch er mwyn dwyn ei amcanion i ben;

(f)      nifer y rhai ar Rôl yr Etholwyr yn ystod y flwyddyn a nifer, ar gyfartaledd, y rhai’n bresennol yn arferol yn yr eglwys yn ystod y flwyddyn;

(g)     adroddiad ar weithrediadau’r Cyngor Plwyf Eglwysig a’r gweithgareddau yn y plwyf, gan gynnwys unrhyw ddatblygiadau neu gyflawniadau arwyddocaol yn ystod y flwyddyn, ac unrhyw gynlluniau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod;

(h)     adroddiad ar weithgareddau ariannol y Cyngor Plwyf Eglwysig, gan gynnwys y modd yr ariannwyd gweithgareddau’r plwyf a sut y bwriedir eu hariannu yn y dyfodol;

(i)      datganiad a oes ôl-ddyledion ar gyfran neu gwota’r plwyf i Fwrdd Cyllid yr Esgobaeth.

 

 

RHEOLIADAU ADEILADWAITH EGLWYSIG

 

Eglwysi ar wahân i Eglwysi Cadeiriol

 

1.

 

Bydd i’r Cyngor Plwyf Eglwysig gadw pob eglwys yn y plwyf mewn cyflwr da a bydd yn gyfrifol i Gorff y Cynrychiolwyr am ofal, cynnal a chadwraeth priodol y cyfryw eglwysi a’u cynnwys. Bydd i’r Cyngor Plwyf Eglwysig gydweithio â Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth a Phwyllgor Eglwysi’r Esgobaeth yn yr arolwg pob pum mlynedd a bydd iddo, dan y rheol hon, gyflawni pob atgyweirio rhesymol a gynghorwyd gan hwnnw.

 

2.

 

Ynglŷn ag eglwysi sydd o fewn Rheolau Hawleb, ac ynglŷn â chynnwys y cyfryw eglwysi bydd i’r Cyngor Plwyf Eglwysig gadw at y cyfryw Reolau Hawleb.

 

3.

 

Ynglŷn ag eglwysi anghysegredig nad ydynt yn ddarostyngedig i drefniadaeth hawlebau bydd i’r Cyngor Plwyf Eglwysig gadw at reolau hawleb 2 a 3 ac i’r diben hwn bydd rheolau 2 a 3 i’w cymhwyso ond gyda’r term “anghysegredig” yn cael ei osod yn lle’r term “cysegredig”, ac:

(a)     ac eithrio ynglŷn â dodrefn, cyfarpar a murluniau, gyda’r geiriau “ganiatâd Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru” yn cael eu gosod yn lle’r term “ganiatâd hawleb”;

(b)     ynglŷn â dodrefn, cyfarpar a murluniau, gyda’r geiriau “ganiatâd esgob yr esgobaeth” yn cael eu gosod yn lle’r term “ganiatâd hawleb”.

 

 

4.

 

Bydd i’r wardeniaid gyflwyno’n flynyddol adroddiad mewn ysgrifen i’r Cyngor Plwyf Eglwysig ac i’r archddiacon drwy gwblhau’r ffurflen a bennwyd gan Gorff y Cynrychiolwyr:

(a)     ar gyflwr cadwraeth pob eglwys yn y plwyf a’u cynnwys ac unrhyw waith sydd heb ei gyflawni a ystyriant hwy’n angenrheidiol er mwyn eu cadw mewn cyflwr da; a

(b)     am werth cyfatebol yswiriant yr eglwysi a’u cynnwys ynghyd ag unrhyw gyngor a chyfathrebiaeth a dderbyniwyd oddi wrth yr yswiriwr.

 

5.

 

(1)     Bydd i Gorff y Cynrychiolwyr yswirio yn y cyfryw fodd ac am y cyfryw symiau ag a farna’n gymwys:

(a)     pob eglwys yn ei berchenogaeth;

(b)     pob adeilad o fewn cwrtil y cyfryw eglwysi;

(c)     cynnwys y cyfryw eglwysi ac adeiladau; ac,

(d)     ar gyfer atebolrwydd cyflogwr ac atebolrwydd tuag at drydydd partïon ynglŷn â hynny.

 

(2)

(a)     Bydd pob Cyngor Plwyf Eglwysig yn talu premiwn neu bremiymau yr yswiriant a drefnir dan Reoliad 5(1);

(b)     Telir y premiymau hyn yn y dull a’r modd a benderfyna Corff y Cynrychiolwyr o bryd i’w gilydd fel y gwêl yn dda, naill ai yn uniongyrchol i’r yswiriwr, trwy ad-dalu Corff y Cynrychiolwyr neu trwy ryw ddull arall.

 

(3)     Er gwaethaf darpariaethau  Rheoliad 5(1), gall Corff y Cynrychiolwyr, os bydd yn ystyried hynny’n gymwys, weithredu fel ei yswiriwr ei hun mewn rhan neu am y cyfan.

 

 

6.

 

Ynglŷn ag eglwysi  neu adeiladau o fewn cwrtil eglwys mewn plwyf nad ydynt yn berchenogaeth Corff y Cynrychiolwyr, bydd i’r Cyngor Plwyf Eglwysig sicrhau fod:

(a)     pob cyfryw eglwys yn y plwyf (gan gynnwys pob adeilad o fewn ei chwrtil) a’i chynnwys wedi ei hyswirio yn unol â chyngor yr yswiriwr, dan yr amod y gellir penderfynu ar delerau eraill gyda’r yswiriwr os bydd yr Archddiacon yn cydsynio â hynny, a than yr amod y gall Corff y Cynrychiolwyr fynnu bod yr yswiriant ar y cyfryw delerau ac am y cyfryw symiau ag a ystyria ef yn addas;

(b)     yr yswiriant yn cwmpasu ateboliaeth cyflogwr ac ateboliaeth ar gyfer trydydd parti ar y cyfryw delerau ac am y cyfryw symiau ag y byddo Corff y Cynrychiolwyr o bryd i’w gilydd yn eu mynnu.

 

7.

 

Nid yw’r Rheoliadau hyn i’w cymhwyso at eglwysi y cyhoeddwyd trwy ddatganiad a arwyddwyd gan yr Esgob ac sydd yng  nghadw yng Nghofrestrfa’r Esgobaeth, eu bod yn ddiangen.

 

 

 

RHEOLIADAU EGLWYSI DIANGEN

 

1.

 

Cyn cyhoeddi adeilad eglwysig yn ddiangen bydd i esgob yr esgobaeth geisio ac ystyried cyngor Pwyllgor Eglwysi’r Esgobaeth a chyngor yr archddiacon.

 

2.

 

(1)     Cyn cynghori esgob yr esgobaeth bydd i Bwyllgor Eglwysi’r Esgobaeth geisio ac ystyried cyngor

(a)     y Cyngor Plwyf Eglwysig;

(b)     y periglor a’r wardeniaid;

(c)     Corff y Cynrychiolwyr;

(d)     Pwyllgor Ymgynghori’r Esgobaeth.

 

(2)     (a)     Bydd i’r Cyngor Plwyf Eglwysig, y periglor a’r wardeniaid a Chorff y Cynrychiolwyr o fewn un diwrnod ar hugain o gael gofyn am wneud hynny gan Bwyllgor Eglwysi’r Esgobaeth gyflwyno iddo, ar wahân, eu cyngor a’u sylwadau ar y bwriad i gyhoeddi’r eglwys yn ddiangen.

(b)     Bydd i’r periglor a’r wardeniaid, o fewn un diwrnod ar hugain o gael gofyn am wneud hynny gan Bwyllgor Eglwysi’r Esgobaeth anfon i’r cyfryw bwyllgor ac i Gorff y Cynrychiolwyr infentori o holl gynnwys yr eglwys.

(c)     Bydd i Gorff y Cynrychiolwyr, o fewn un diwrnod ar hugain o gael gofyn am wneud hynny gan Bwyllgor Eglwysi’r Esgobaeth gyflwyno i’r cyfryw bwyllgor adroddiad ar yr hawl gyfreithiol i’r eglwys.

(d)     Bydd i Bwyllgor Ymgynghori’r Esgobaeth, o fewn pum deg chwech o ddyddiau o gael gofyn am wneud hynny gan Bwyllgor Eglwysi’r Esgobaeth, gyflwyno i’r cyfryw bwyllgor ac i Gorff y Cynrychiolwyr adroddiad ar werth pensaernïol, archaeolegol, artistig a hanesyddol yr eglwys a’i chynnwys.

 

(3)     Cyn cynghori esgob yr esgobaeth gall Pwyllgor Eglwysi’r Esgobaeth geisio ac ystyried cyngor y Comisiwn Cadeirlannau ac Eglwysi.

 

3.

 

Bydd i Bwyllgor Eglwysi’r Esgobaeth, o fewn wyth niwrnod ar hugain o dderbyn cyngor Pwyllgor Ymgynghori’r Esgobaeth, y Cyngor Plwyf Eglwysig, y periglor a’r wardeniaid a Chorff y Cynrychiolwyr gyflwyno i esgob yr esgobaeth gyngor ynglŷn â dyfodol yr adeilad eglwysig a’i gynnwys.

 

4.

 

O fewn wyth niwrnod ar hugain o dderbyn cyngor Pwyllgor Eglwysi’r Esgobaeth bydd i esgob yr esgobaeth mewn ysgrifen naill ai

(a)     ddatgan fod yr adeilad eglwysig yn ddiangen; neu

(b)     roi rhybudd nad yw’n bwriadu gwneud y cyfryw ddatganiad,

ac yn y naill achos a’r llall bydd iddo anfon copïau o hynny i Bwyllgor Eglwysi’r Esgobaeth, Pwyllgor Yngynghori’r Esgobaeth, y periglor a’r wardeniaid, y Cyngor Plwyf Eglwysig a Chorff y Cynrychiolwyr.

 

5.

 

Gall yr esgob, cyn gwneud datganiad bod adeilad yn ddiangen, fynnu gwybodaeth neu gyngor pellach gan Bwyllgor Eglwysi’r Esgobaeth.  Cyn cynghori’r esgob gall Pwyllgor Eglwysi’r Esgobaeth ofyn am wybodaeth neu gyngor pellach gan y Cyngor Plwyf Eglwysig, y periglor a’r wardeniaid, Pwyllgor Ymgynghori’r Esgobaeth neu Gorff y Cynrychiolwyr, a bydd y cyfnodau amser a nodwyd ym mharagraffau 2, 3 a 4 i’w cymhwyso at hynny.

 

6.

 

Pan fo hawl gyfreithiol i eglwys yn ddarostyngedig i ôl-feddiant, bydd i esgob yr esgobaeth ymgynghori â Chorff y Cynrychiolwyr cyn gwneud datganiad ei bod yn ddiangen.

 

 

7.

 

Wrth i ddatganiad bod eglwys yn ddiangen ddod i rym:

(a)     bydd rheolaeth ac yswiriant yr adeilad a oedd yn eglwys a’i gynnwys yn peidio â bod yn gyfrifoldeb y periglor, y wardeniaid a’r Cyngor Plwyf Eglwysig, ac yn dod yn gyfrifoldeb Corff y Cynrychiolwyr;

(b)     bydd i Bwyllgor Eglwysi’r Esgobaeth gynghori Corff y Cynrychiolwyr ynglŷn â defnyddio neu ymadael â’r cynnwys.

 

8.

 

Bydd cost rheolaeth ac yswirio adeilad a oedd yn eglwys i’w thalu o Gronfa Daleithiol Eglwysi Diangen.

 

NODYN EGLURHAOL

 

Nid yw’r rheoliadau hyn i’w cymhwyso at eglwysi sy’n syml wedi cau ond sydd heb eu cyhoeddi’n ddiangen.  Pan fo eglwys wedi ei chau ar gyfer addoliad cyhoeddus, bydd y wardeniaid a’r Cyngor Plwyf Eglwysig yn parhau i fod yn gyfrifol am gynnal yr adeilad, y cynnwys a’r yswiriant angenrheidiol, ac am gymryd pob cam rhesymol i ddiogelu’r adeilad a’i gynnwys, a gwneud y drysau a’r ffenestri’n ddiogel.

 

CYFANSODDIAD PWYLLGORAU EGLWYSI

A BUGEILIOL ESGOBAETHAU

 

1.

 

Ym mhob esgobaeth bydd i Bwyllgor Eglwysi’r Esgobaeth gael ei sefydlu a bydd i’w adnabod fel Pwyllgor Eglwysi a Bugeiliol Esgobaeth (enw’r esgobaeth briodol).

 

Aelodaeth

 

2.

 

Bydd i’r Pwyllgor gynnwys

(a)     archddiaconiaid yr esgobaeth;

(b)     cadeirydd neu is-gadeirydd (os bydd un) Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth ;

(c)     cadeirydd Pwyllgor Ymgynghori’r Esgobaeth neu aelod arall a enwebwyd ganddo;

(d)     tri aelod wedi eu hethol gan y Gynhadledd Esgobaethol o blith ei haelodau; ac,

(e)     tri aelod wedi eu penodi gan Esgob yr Esgobaeth.

 

3.

 

Bydd i’r aelodau a etholwyd gan y Gynhadledd Esgobaethol a’r aelodau a benodwyd gan Esgob yr Esgobaeth ddal y swydd am chwe blynedd a byddant yn agored i gael eu hail-ethol heb gyfyngu ar nifer y cyfnodau a wasanaethant; dan yr amod y bydd aelodaeth clerig yn dod i ben ar ei ben-blwydd neu ei phen-blwydd yn ddeg a thrigain, ac aelodaeth aelod lleyg ar ei ben-blwydd yn bymtheg a thrigain.

 

4.

 

Pan ddigwydd lle gwag achlysurol ymhlith yr aelodau a etholwyd bydd i Esgob yr Esgobaeth, wedi ymgynghori â Phwyllgor Sefydlog y Gynhadledd Esgobaethol, benodi aelod o’r Gynhadledd Esgobaethol i lenwi’r gwagle.  Ni fydd i’r cyfryw berson ddal y swydd ond am yr amser sy’n weddill o gyfnod swydd y sawl y bydd ef neu hi wedi ei benodi neu ei phenodi yn ei le.

 

5.

 

Gall y Pwyllgor benodi personau gyda’r cymwysterau priodol i weithredu fel ymgynghorwyr.

 

Cadeirydd

 

6.

 

(1)     Bydd i’r cadeirydd gael ei benodi o blith yr aelodau gan Esgob yr Esgobaeth, a bydd iddo ddal y swydd am dair blynedd.

 

(2)     Bydd y cadeirydd yn agored i gael ei ail-ethol heb gyfyngu ar nifer y cyfnodau a wasanaetha.

 

(3)     Yn absenoldeb y cadeirydd bydd i’r aelodau eraill sy’n bresennol ethol cadeirydd i’r cyfarfod.

 

Is-Bwyllgorau

 

7.

 

Bydd gan y Pwyllor y gallu i benodi’r cyfryw is-bwyllgorau.

 

Cworwm

 

8.

 

Cworwm y Pwyllgor ac unrhyw is-bwyllgor fydd hanner rhif ei aelodau.

 

Trefniadaeth

 

9.

 

Bydd i’r Pwyllgor gyfarfod o leiaf ddwywaith ym mhob blwyddyn; ym mhopeth arall bydd iddo benderfynu ei drefniadaeth.

 

Ysgrifennydd

 

10.

 

Bydd i’r Pwyllgor benodi ysgrifennydd, na fydd yn aelod ohono.

Swyddogaeth y Pwyllgor

 

11.

 

Bydd i’r Pwyllgor

(a)     cadw golwg ar yr angen bugeiliol am yr adeiladau eglwysig yn yr esgobaeth a chynghori Esgob yr Esgobaeth a’r Gynhadledd Esgobaethol ynglŷn â hynny;

(b)     gweinyddu cynllun arolwg pob pum mlynedd yr Eglwysi sy’n ofynnol dan y Cyfansoddiad;

(c)     gweithredu’r swyddogaethau a ofynnir ganddo dan Reoliadau Eglwysi Diangen;

(d)     cynghori Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth ac unrhyw gorff arall neu berson gydag arian i’w ddosrannu ynglŷn â thalu grantiau a benthyciadau at unrhyw ddiben yn gysylltiedig ag adeiladau eglwysig, eu cwrtil a’u cynnwys;

(e)     gweithredu unrhyw ddarpariaethau eraill ynglŷn â gofalu am Eglwysi a all gael eu gosod o bryd i’w gilydd mewn  Atodlen i hynyma;

(f)      ystyried materion a gyfeirir ato gan Bwyllgor Ymgynghori’r Esgobaeth, a cheisio’i gyngor pan fo hynny’n gymwys; a

(g)     cyflawni’r cyfryw ddyletswyddau eraill ag a ofynnir yn gymwys ganddo gan y Gynhadledd Esgobaethol.

 

 

RHEOLAU COMISIWN CADEIRLANNAU AC EGLWYSI

(sef rheolau yn ymwneud â gofalu am adeiladwaith Cadeirlannau

a darparu cyngor ynghylch gofalu am eglwysi eraill)

 

EGWYDDORION CYFFREDINOL

 

1.

 

Bydd i unrhyw gorff y cyflwynwyd swyddogaethau gofal a chadwraeth iddo gan y Rheolau hyn wrth ymarfer y swyddogaethau hynny ystyried gyda’r parch priodol mai canolfan addoliad a chenhadaeth yw eglwys a bod Cadeirlan hefyd yn cynnwys cadair esgob.

 

SEFYDLIAD A SWYDDOGAETHAU

COMISIWN CADEIRLANNAU AC EGLWYSI

 

2.

 

(1)     Bydd i gorff a elwir Comisiwn Cadeirlannau ac Eglwysi yr Eglwys yng Nghymru (y cyfeirir ato o hyn allan fel “y Comisiwn”) gael ei sefydlu a bydd ganddo’r swyddogaethau a bennir iddo gan y Rheolau hyn.

 

(2)     Bydd y Comisiwn yn bwyllgor o Gorff y Cynrychiolwyr, ond ni fydd yn ddarostyngedig nac i arweiniad na rheolaeth Corff y Cynrychiolwyr nac unrhyw bwyllgor  ohono wrth weithredu ei allu a’i ddyletswyddau dan y Rheolau hyn.

 

AELODAETH

 

3.

 

Bydd y Comisiwn yn cynnwys Cadeirydd a chwech aelod arall wedi eu penodi  yn unol â rheolau 4 o hynyma.

 

4.

 

(1)     Penodir saith aelod y Comisiwn gan Gorff y Cynrychiolwyr wedi iddo ymgynghori â Llywodraeth Cynulliad Cymru a Mainc yr Esgobion a bydd gan bob aelod wybodaeth a phrofiad cydnabyddedig o gadeirlannau ac eglwysi ac o amddiffyn a rheoli treftadaeth, yn arbennig yng Nghymru.

 

(2)     Bydd y Cadeirydd yn berson lleyg cymwys i fod yn aelod o’r Corff Llywodraethol a benodwyd gan Gorff y Cynrychiolwyr wedi iddo ymgynghori â Llywodraeth Cynulliad Cymru a Mainc yr Esgobion.

 

(3)     Ni fydd neb sy’n aelod o Gabidwl neu Bwyllgor Cynghori ar Adeiladwaith unrhyw Gadeirlan yn gymwys i’w benodi’n Gadeirydd.

 

5.

 

Bydd y Comisiwn yn penodi cynghorwyr a fydd yn arbenigwyr mewn meysydd penodol i’w gynghori fel y bo angen o bryd i’w gilydd.

 

6.

 

(1)     Bydd Cadeirydd y Comisiwn yn dal swydd am bum mlynedd, a gall fod yn gymwys i’w ailbenodi am dymhorau pellach o bum mlynedd.

 

(2)     Bydd aelodau eraill y Comisiwn  yn dal swydd am bum mlynedd a gallant fod yn gymwys i’w hailbenodi am dymhorau pellach o bum mlynedd.

 

Swyddi Gwag Achlysurol

 

7.

 

(1)     Pan ddigwydd swydd wag achlysurol ymhlith aelodau’r Comisiwn, bydd Corff y Cynrychiolwyr,wedi ymgynghori â Llywodraeth Cynulliad Cymru a Mainc yr Esgobion, yn penodi rhywun i lenwi’r swydd wag.

 

(2)     Bydd y sawl a benodwyd i lenwi swydd wag achlysurol yn dal y swyddd am yr hyn sy’n weddill o dymor swydd y sawl y penodwyd ef yn ei le a bydd yn gymwys i’w ailbenodi am dymhorau pellach o bum mlynedd.

Pwyllgorau

 

8.

 

(1)     Bydd gan y Comisiwn y gallu i benodi is-bwyllgorau.

 

(2)     Gellir penodi rhai nad ydynt yn aelodau o’r Comisiwn ar unrhyw bwyllgor ohono ond bydd i nifer y rhai a benodir i bwyllgor fod yn llai na hanner rhif cyfanswm aelodau’r pwyllgor.

 

Pleidleisio

9.

 

Ni fydd gan y rhai nad ydynt yn aelodau o’r Comisiwn yr hawl i bleidleisio.

 

Trefniadaeth

 

10.

 

Cworwm y Comisiwn fydd pedwar aelod.

 

11.

 

Yn ddarostyngedig i baragraff 10 o hynyma, gall y Comisiwn weithredu er gwaethaf unrhyw swyddi gwag yn ei aelodaeth.

 

12.

 

Gall y Comisiwn ddirprwyo i un neu fwy o’i aelodau neu ei gynghorwyr y gallu i gynghori ar ei ran ynglŷn â mater neu faterion o arbenigedd penodol mewn achos penodedig.

 

13.

 

Bydd i’r Comisiwn reoli ei drefniadaeth ei hun.

 

DYLETSWYDDAU’R COMISIWN

 

14.

 

Bydd i’r Comisiwn:

(a)     gynghori canghellor esgobaeth ar unrhyw ddeiseb am hawleb sy’n ymwneud â Chadeirlan pan fydd y cynllun yn golygu:

(i)      unrhyw waith er cadwraeth, newid neu ychwanegu at yr adeilad neu ei gynnwys a fyddai yn ei hanfod yn effeithio ar gymeriad pensaernïol, archaeolegol, artistig neu hanesyddol y Gadeirlan; neu,

(ii)     gwerthu, rhoi benthyg neu ymadael mewn ffordd arall ag unrhyw wrthrych y dynodwyd dros dro dan baragraff (d) neu reol 21(b) o hynyma ei fod o ddiddordeb arbennig yn bensaernïol, archaeolegol, artistig neu hanesyddol;

(b)     pan ofynnir iddo gan ganghellor esgobaeth, cofrestrydd neu bwyllgor cynghori esgobaeth, gynghori ynglŷn â deiseb am hawleb mewn perthynas ag eglwys heblaw Cadeirlan;

(c)     os gofynnir iddo, ac os bydd y Comisiwn yn ystyried hynny’n gymwys, gynghori unrhyw aelod neu gorff o aelodau o fewn yr Eglwys yng Nghymru ar ofal, cadwraeth, cynnal, atgyweirio a datblygu Cadeirlan neu eglwys arall;

(d)     lle na bo Pwyllgor Adeiladwaith Cadeirlan, ddynodi fel y cyfryw y gwrthrychau hynny a gynhwyswyd yn yr infentori a gasglwyd ac a gedwir ar ran y Gadeirlan dan baragraff (c) rheol 32 o hynyma y mae’n ystyried eu bod o ddiddordeb arbennig yn bensaernïol, archaeolegol, artistig neu hanesyddol;

(e)     fonitro gweithredu’r gyfundrefn hawleb yn cynnwys gweithredu Pwyllgorau Ymgynghorol yr esgobaethau, gweithdrefnau hawleb a’r broses o eithrio eglwysig;

(f)      gynghori Corff y Cynrychiolwyr ar yr adeiladau a etifeddodd.

 

15.

 

Gall y Comisiwn:

(a)     hyrwyddo cydweithio rhyngddo ef ei hun a chymdeithasau sy’n ymwneud â gofalu am ac astudio adeiladau o ddiddordeb pensaernïol, archaeolegol, artistig neu hanesyddol yng Nghymru;

(b)     cynorthwyo Corff y Cynrychiolwyr a Chabidwl Cadeirlan neu unrhyw aelod neu gorff o aelodau o fewn yr Eglwys yng Nghymru drwy gymryd rhan mewn prosiectau addysgiadol ac ymchwil a fydd yn ei farn ef yn hyrwyddo gofal, cadwraeth, cynnal, atgyweirio a datblygu adeiladau eglwysig;

(c)     cynnal llyfrgell o lyfrau, cynlluniau, dyluniadau, lluniau a defnyddiau eraill yn ymwneud ag eglwysi a’u cynnwys;

(d)     cynghori ynglŷn â phenodi penseiri, archaeolegwyr, syrfewyr ac arbenigwyr eraill;

(e)     cynghori ynghylch cael a defnyddio grantiau ar gyfer Cadeirlannau ac eglwysi eraill;

(f)      hyrwyddo’r ymarfer gorau drwy gynadleddau neu foddion eraill ar gyfer y rhai sy’n ymwneud â gofal, cadwraeth, cynnal, atgyweirio a datblygu Cadeirlannau ac eglwysi eraill.

 

SEFYDLU A SWYDDOGAETHAU

PWYLLGORAU CYNGHORI AR ADEILADWAITH CADEIRLAN

 

Sefydliad Pwyllgorau Cynghori Adeiladwaith Cadeirlan

 

16.

 

Gall Cabidwl sefydlu ar gyfer Cadeirlan gorff a elwir Pwyllgor Cynghori ar Adeiladwaith Cadeirlan a bydd iddo’r swyddogaethau a bennir iddo gan y Rheolau hyn.

 

Pwyllgor Cynghori ar Adeiladwaith Cadeirlan

 

17.

 

Bydd i Bwyllgor Cynghori ar Adeiladwaith Cadeirlan:

(a)     pan ofynnir iddo gan Gorff y Cynrychiolwyr neu’r Cabidwl, gynghori ynglŷn â gofal, cadwraeth, cynnal, atgyweirio a datblygu Cadeirlan;

(b)     dynodi fel y cyfryw y pethau hynny a gynhwyswyd yn yr infentori a gasglwyd ac a gedwir ar ran y Gadeirlan dan baragraff (c) rheol 36 o hynyma, y mae, yn dilyn ymgynghori â’r Comisiwn, yn ystyried eu bod o ddiddordeb arbennig yn bensaernïol, archaeolegol, artistig neu hanesyddol.

 

Aelodaeth Pwyllgor Cynghori ar Adeiladwaith Cadeirlan

 

18.

 

Bydd i Bwyllgor Cynghori ar Adeiladwaith gynnwys:

(a)     Deon y Gadeirlan a naill ai tri neu bedwar arall a benodwyd gan y Cabidwl, o leiaf un ohonynt i fod yn aelod o Gabidwl y Gadeirlan ac o leiaf un yn lleygwr; a

(b)     naill ai tri neu bedwar arall wedi eu penodi gan y Comisiwn yn dilyn ymgynghori â’r Cabidwl, sef personau gyda gwybodaeth arbenigol ynglŷn â gofal a chynnal adeiladau o ddiddordeb arbennig yn bensaernïol neu’n hanesyddol.

 

19.

 

Yn dilyn ymgynghori â’r Cabidwl a’r Comisiwn, bydd i’r pwyllgor benodi aelod lleyg cymwys i fod yn aelod o’r Corff Llywodraethol i fod yn Gadeirydd y pwyllgor.

 

20.

 

Ni fydd neb sydd yn dal swydd gyflogedig yn y Comisiwn yn gymwys i’w benodi’n aelod o’r pwyllgor.

 

21.

 

Bydd aelodau’r pwyllgor yn dal swydd am gyfnod o bum mlynedd a byddant yn gymwys i’w hailbenodi am dymhorau pellach o bum mlynedd.

 

22.

 

Bydd unrhyw dreuliau cyfiawn ar ran aelod ar gyfer dibenion y pwyllgor i’w had-dalu gan y Cabidwl.

 

Swyddi Gwag Achlysurol

23.

 

Pan ddigwydd swydd wag achlysurol ymhlith aelodau’r pwyllgor, gall y corff cymwys benodi rhywun i lenwi’r swydd wag, a bydd rhywun a benodwyd yn y cyfryw fodd yn dal y swydd am yr hyn sy’n weddill o dymor y sawl y penodwyd ef yn ei le.

 

Ysgrifennydd

 

24.

 

Bydd i’r pwyllgor benodi ysgrifennydd, ni raid iddo fod yn aelod o’r pwyllgor.

 

Trefniadaeth

 

25.

 

Cworwm y pwyllgor fydd dim llai na hanner nifer aelodau’r pwyllgor a bydd iddo gynnwys o leiaf ddau aelod a benodwyd gan y Comisiwn.

 

26.

 

Bydd i Bensaer y Gadeirlan a’r ymgynghorwr archaeolegol fynychu pob cyfarfod o’r pwyllgor dan yr amod y gall y Cadeirydd eu hesgusodi neu esgusodi’r naill neu’r llall ohonynt os tybia hynny’n rhesymol.

 

27.

 

Yn ddarostyngedig i reol 25 uchod, gall y pwyllgor weithredu er gwaethaf unrhyw swydd wag ymhlith ei aelodaeth.

 

28.

 

Bydd i’r pwyllgor gynnal o leiaf ddau gyfarfod bob blwyddyn, ac os bydd tri neu fwy o aelodau, drwy rybudd a anfonwyd i’r Ysgrifennydd yn gofyn hynny, bydd i gyfarfod arbennig gael ei gynnal o fewn pedair wythnos i dderbyn y rhybudd.

 

29.

 

Bydd i’r Ysgrifennydd nodi ar agenda’r cyfarfod nesaf unrhyw fater y gofynnwyd amdano gan aelod.

 

30.

 

Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau blaenorol y Rheolau hyn, bydd gan y pwyllgor y gallu i reoli ei drefniadaeth ei hun.

 

31.

 

Bydd i’r Ysgrifennydd heb fod yn ddiweddarach na saith diwrnod cyn pob cyfarfod anfon i’r Cabidwl, i’r Comisiwn ac i Gorff y Cynrychiolwyr gopi o agenda’r cyfarfod hwnnw a bydd iddo o fewn pedwar diwrnod ar ddeg wedi pob cyfarfod anfon iddynt gopi o gofnodion y cyfarfod.

Dyletswyddau Cabidylau dan y Rheolau hyn

 

32.

 

Bydd i’r Cabidwl:

(a)     penodi pensaer i’r Gadeirlan yn dilyn ymgynghori â’r Comisiwn;

(b)     penodi ymgynghorwr archaeolegol i’r Gadeirlan yn dilyn ymgynghori â’r Comisiwn ac â Cadw;

(c)     cwblhau mewn perthynas â’r Gadeirlan lyfr lóg a llyfr tir, cynllun o’r tir o’i hamgylch ac infentori o’i chynnwys ac o unrhyw bethau eraill sy’n perthyn iddi ac yn cael eu defnyddio mewn perthynas â hi;

(d)     trefnu, yn ystod y cyfnod o bum mlynedd sy’n dechrau 23 Medi 1993 ac yn ystod pob cyfnod dilynol o bum mlynedd, i bensaer y Gadeirlan, mewn ymgynghoriad â’r ymgynghorwr archaeolegol, wneud archwiliad ac adrodd mewn ysgrifen i’r Cabidwl ar y gwahanol waith y mae ef yn ystyried y bydd angen ei gyflawni mor fuan ag sy’n ymarferol mewn perthynas â’r Gadeirlan ac ar y drefn y dylid ei wneud; a bydd i bensaer y Gadeirlan anfon copi o bob cyfryw adroddiad i’r Comisiwn, i Gorff y Cynrychiolwyr, i Bwyllgor Cynghori’r Esgobaeth ac i Bwyllgor Cynghori Adeiladwaith y Gadeirlan, os oes un;

(e)     cadw cofnod am bob gwaith a wnaed mewn perthynas â’r Gadeirlan neu yn y tir o’i hamgylch.

 

DARPARIAETHAU AMRYWIOL

 

Ceisiadau am ganiatâd ar gyfer adeilad rhestredig neu gofeb restredig

 

33.

 

Pan fo’r Cabidwl yn bwriadu gwneud cais am:

(a)     caniatâd yn achos adeilad rhestredig dan adran 8 neu ganiatâd yn achos ardal gadwraeth dan adran 74 Deddf Cynllunio (Adeilad Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, neu

(b)     caniatâd yn achos cofeb restredig dan adran 2 Deddf Henebion ac Ardaloedd Archaeolegol 1979, mewn perthynas ag unrhyw adeilad neu gofeb ar y tir o amgylch y Gadeirlan,

bydd i glerc y Cabidwl anfon i’r Comisiwn, i Bwyllgor Cynghori Adeiladwaith y Gadeirlan, os oes un, ac i Gorff y Cynrychiolwyr rybudd mewn ysgrifen yn nodi y gellir cyflwyno’r gosodiadau ynglŷn â’r cais arfaethedig iddo ef cyn pen cyfnod o x o ddyddiau o roi’r rhybudd.

 

Rheolau

 

34.

 

Gall y Corff Llywodraethol neu ei Bwyllgor Sefydlog wneud y cyfryw ddarpariadau ychwanegol ag a dybia’n angenrheidiol neu’n ddymunol er mwyn rhoi effaith i’r Rheolau hyn.

 

Ac eithrio

 

35.

 

Ni chaiff un dim yn y rheolau hyn hepgor dim o ddarpariadau’r Cyfansoddiad mewn perthynas â chael neu ymadael ag eiddo nac ag unrhyw ganiatâd neu gadarnhad sy’n angenrheidiol drwy neu dan gynllun Cadeirlan.

Dehongliad

 

36.

 

(1)     Yn y Rheolau hyn, oni bo’r cyd-destun yn gofyn yn wahanol:

golyga “ymgynghorwr archaeolegol” rywun sy’n meddu’r cyfryw gymwysterau a’r wybodaeth arbenigol mewn materion archaeolegol ag y bydd y Comisiwn yn gofyn amdanynt;

golyga “pensaer” rywun sydd wedi ei gofrestru dan Ddeddfau Cofrestru Penseiri 1931-1969;

golyga “pensaer Cadeirlan”, mewn perthynas â Chadeirlan, y pensaer a benodwyd pa ffordd bynnag a ddynodwyd;

golyga “y Cabidwl” y Deon a’r Cabidwl, ac eithrio yn achos Cadeirlan Sant Gwynllyw yn Esgobaeth Mynwy lle bydd yn golygu y Cyngor Plwyf Eglwysig, a bydd cyfeiriadau at “Glerc y Cabidwl” yn achos y Gadeirlan honno yn golygu Ysgrifennydd y Cyngor Plwyf Eglwysig;

golyga “y tir o amgylch” mewn perthynas â Chadeirlan y tir o amgylch a ddynodwyd ar y cynllun sy’n ofynnol ar gyfer y Gadeirlan honno dan baragraff (c) rheol 32.

 

(2)     I ddibenion y Rheolau hyn ymdrinir ag unrhyw wrthrych neu adeiledd a sefydlwyd yn barhaol mewn Cadeirlan neu mewn unrhyw adeilad ar y tir o amgylch y Gadeirlan fel rhan o’r Gadeirlan neu adeilad yn ôl yr achos.

 

(3)     Bydd unrhyw gyfeiriad yn y Rheolau hyn at Ddeddf neu Ddeddfau Seneddol i’w cymryd i fod yn cynnwys unrhyw addasiad neu ail-ddeddfu’r Ddeddf neu’r Deddfau dan sylw ac unrhyw reoliadau a wnaed danynt.

 

Byr deitl a dechrau

 

37.

 

(1)     Dyfynner y Rheolau hyn fel Rheolau Comisiwn Cadeirlannau ac Eglwysi.

 

(2)     Daw’r darpariadau a gynhwysir yn y Rheolau hyn i rym ac effaith ar y cyfryw ddyddiad ag a bennir gan Bwyllgor Sefydlog y Corff Llywodraethol.

 

 

I rym ac effaith ar 1 Ionawr 1988

 

RHEOLIADAU YNGLŶN Â DARPARU ADNODDAU

TUAG AT HYFFORDDI AR GYFER Y WEINIDOGAETH ORDEINIEDIG

YN YR EGLWYS YNG NGHYMRU

 

Fel y diwygiwyd hwy ym mis Medi 2006

 

1.

 

Yn y Rheoliadau hyn:

(a)     bydd y Gronfa yn golygu’r Gronfa at Ddarparu Adnoddau tuag at Hyfforddi ar gyfer y Weinidogaeth Ordeiniedig yn yr Eglwys yng Nghymru;

(b)     bydd gweinidogaeth ordeiniedig yn cynnwys urdd diaconesau;

(c)     bydd ymgeisydd yn golygu person a dderbyniwyd yn amodol i’w hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth ordeiniedig yn yr Eglwys yng Nghymru gan Esgob yr esgobaeth lle bwriada’r ymgeisydd ddechrau ei weinidogaeth.

 

2.

 

Corff y Cynrychiolwyr, neu’r pwyllgor priodol ohono, fydd yn feddiannol ar y Gronfa.

 

3.

 

Bydd y Gronfa yn cynnwys, a rhoddir yn ei chyfrif:

(a)     cyfraniadau gan Fyrddau Cyllid Esgobaethau dan Reoliad 5;

(b)     gweddillion grantiau a dynnwyd yn ôl neu nas gwariwyd am ryw reswm neu’i gilydd;

(c)     y symiau eraill hynny, os bydd rhai, yr awdurdodir neu y gorchmynnir o bryd i’w gilydd eu gosod yng nghyfrif y Gronfa.

 

4.

 

Gosodir yn erbyn y Gronfa:

(a)     y grantiau hynny a ddyfernir o bryd i’w gilydd gan Fainc yr Esgobion, neu’r cyfryw bersonau neu gorff o bersonau a enwebir ganddi, tuag at hyfforddi ymgeiswyr ar gyfer gweinidogaeth ordeiniedig yr Eglwys yng Nghymru;

(b)     unrhyw dreuliau eraill a achosir o bryd i’w gilydd wrth hyrwyddo dibenion y Gronfa.

 

5.

 

Bydd Bwrdd Cyllid yr esgobaeth lle bwriedir i ymgeisydd ddechrau ei weinidogaeth yn cyfrannu tuag at gost buddged i’r ymgeisydd hwnnw. Bydd y cyfryw gyfraniad yn cael ei dalu i Gorff y Cynrychiolwyr i’w osod yng nghyfrif y Gronfa.

 


[1] Yn awr adran 23 Pennod III