Cyfrol II: Adran 1.1 – Canonau’r Eglwys yng Nghymru

Taflen Cynnwys

(Dyddiadau Cyhoeddi mewn cromfachau)

1. Sefydlu Cyd-Gymundeb Rhwng yr Eglwys yng Nghymru a’r Hen Gatholigion

(30 Medi 1937)

2. Ar Gyfer Defnyddio’n Arbrofol y Ffurfiau Diwygiedig a A24wgrymir ar Gyfer y Llyfr Gweddi Gyffredin ac a Gymeradwyir Dros Dro gan Fainc yr Esgobion

(29 Medi 1955)

3. Dileu Amheuaeth ynglŷn ag Afreoleidd-dra Geni fel Rhwystr i Dderbyniad i Urddau Sanctaidd

(28 Medi 1961)

4. Sefydlu Cyd-Gymundeb Rhwng yr Eglwys yng Nghymru ac Eglwys Annibynnol Ynysoedd Philip

(29 Medi 1966)

5. Sefydlu Cyd-Gymundeb Rhwng yr Eglwys yng Nghymru ac Eglwys Esgobol Ddiwygiedig Sbaen

(29 Medi 1966)

6. Sefydlu Cyd-Gymundeb Rhwng yr Eglwys yng Nghymru a’r Eglwys Lwsitanaidd

(29 Medi 1966)

7. Ar Gyfer Sefydlu Cymundeb Llawn Rhwng yr Eglwys yng Nghymru ac Eglwys De India

(26 Ebrill 1973)

8. Ar Gyfer Sefydlu Cymundeb Llawn Rhwng yr Eglwys yng Nghymru ac Eglwys Gogledd India

(27 Medi 1973)

9. Ar Gyfer Sefydlu Cymundeb Llawn Rhwng yr Eglwys yng Nghymru ac Eglwys Pakistan

(27 Medi 1973)

10. Ar Gyfer Cyfamodi Rhwng yr Eglwys yng Nghymru ac Eglwysi Eraill ar Gyfer Undeb yng Nghymru

(1 Mai 1974)

11. I Ganiatáu Defnyddio yng Ngwasanaethau’r Eglwys yng Nghymru unrhyw Gyfieithiad o’r Beibl a Gymeradwyir gan Fainc yr Esgobion

(2 Mai 1974)

12. Ar Gyfer Sefydlu Cymundeb Llawn Rhwng yr Eglwys yng Nghymru ac Eglwys Syriaidd Mar Thoma

(24 Medi 1975)

13. Ar Gyfer Sefydlu Cymundeb Llawn Rhwng yr Eglwys yng Nghymru ac Eglwys Bangladesh

(23 Medi 1976)

14. Ar Gyfer Cyfamodi Rhwng yr Eglwys yng Nghymru a Rhai Eglwysi Bedyddwyr ar Gyfer Undeb yng Nghymru

(21 Medi 1977)

15. I Alluogi Ordeinio Benywod yn Ddiaconiaid

(16 Ebrill 1980)

16. Am Ddarparu ar Gyfer Periglorion Methedig

(21 Ebrill 1982)

17. Darparu Penodi Dyddiau i Ordeinio yn yr Eglwys yng Nghymru

(15 Medi 1982)

18. I Hyrwyddo Perthynas Ecwmenaidd (Glân Briodas)

(19 Medi l985)

19. I Ddiwygio’r Gyfraith Ganon ynglŷn ag Anallu Clerigion

(19 Ebrill 1990)

20. I Ddiwygio’r Gyfraith Ganon ynglŷn ag Oed Ordeinio i’r Offeiriadaeth

(19 Ebrill 1990)

21. I Ganiatáu Sefydlu Prosiectau Ecwmenaidd Lleol

(26 Medi 1991)

22. Cyflawni Datganiad Porvoo

(28 Medi 1995)

23. I Alluogi Ordeinio Benywod yn Offeiriaid

(19 Medi 1996)

24. I Ddileu Amheuaeth ynglŷn â Phriodi Wedi Ysgariad FEL
RHWYSTR DERBYNIAD I URDDAU SANCTAIDD

(13 Medi 1998)

25. I Gyflawni Cytundeb Reuilly

(27 Ebrill 2000)

26. I Gefnogi Cydberthynas ag Eglwysi Eraill

(7 Ebrill 2005)

27. I Ganiatáu Sefydlu a Chefnogi Partneriaethau Ecwmenaidd Lleol

(7 Ebrill 2005)

28. Adolygu’r Ddarpariaeth at Amodau Gwaith Deiliaid Swyddi Eglwysig yn yr Eglwys yng Nghymru

(23 Medi 2010)

29. I Newid Pennod IX Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru

(23 Medi 2010)

30. I Alluogi Ordeinio merched yn Esgobion

(12 Medi 2013)

31. I ymgorffori yn y Llyfr Gweddi Gyffredin Ordinal Amgen

(18 Medi 2014)

32. I Allluogi Ychwanegu Eglwysi at ail atodlen Canon Datganiad Porvoo 1995 Trwy Gynnig Syml

(7 Ebrill 2016)

33. I ddiwygio pennod ix cyfansoddiad Yr eglwys yng nghymru

(22 Ebrill 2017)

34. I Ymgorffori yn Y Llyfr Gweddi Gyffredin Gwasanathau Angladd Amgen

(2 mai 2019)

 

CANONAU’R EGLWYS YNG NGHYMRU

 

RHAN I

SEFYDLU CYD-GYMUNDEB RHWNG YR EGLWYS
YNG NGHYMRU A’R HEN GATHOLIGION

(Cyhoeddwyd 30 Medi 1937)

GAN i Dŷ Uchaf Confocasiwn Talaith Caer-gaint ar 2 Ionawr 1932 benderfynu:

“Fod y Tŷ hwn yn cymeradwyo’r datganiadau canlynol, y cytunwyd arnynt gan gynrychiolwyr yr Eglwysi Hen-Gatholig ac Eglwysi’r Cyfundeb Anglicanaidd mewn Cynhadledd a gynhaliwyd yn Bonn ar 2 Gorffennaf 1931:

1. Mae’r ddau Gyfundeb yn cydnabod catholigrwydd ac annibyniaeth ei gilydd, ac yn cynnal yr eiddynt eu hunain.

2. Mae’r ddau Gyfundeb yn cytuno i dderbyn aelodau ei gilydd i gyfranogi o’r Sacramentau.

3. Nid yw Cyd-gymuno yn gofyn gan y naill Gyfundeb dderbyn y cwbl sy’n nodweddu’r llall mewn tybiaeth athrawiaethol, defosiwn sagrafennol, neu arfer litwrgïol, ond mae’n golygu fod y naill yn credu fod y llall yn arddel holl hanfodion y Ffydd Gristnogol.

Ac mae’r Tŷ hwn yn cytuno â sefydlu Cyd-gymundeb rhwng Eglwys Loegr a’r Hen Gatholigion ar y telerau hyn.”

A CHAN i Dŷ Isaf Confocasiwn Talaith Caer-gaint ar 22 Ionawr 1932 benderfynu:

“Fod y Tŷ hwn yn cyd-fynd â sefydlu Cyd-gymundeb rhwng Eglwys Loegr a’r Hen Gatholigion ar delerau’r penderfyniad a anfonwyd i lawr gan y Tŷ Uchaf.”

A CHAN i Dŷ Confocasiwn Caerefrog ar 21 Ionawr 1932 basio penderfyniad unfath â’r hwn a basiwyd yn Nhŷ Uchaf Confocasiwn Caer-gaint fel y traethwyd ef yma eisoes.

A CHAN fod penderfyniad y Tŷ Uchaf, a anfonwyd i lawr ar gyfer cydsyniad Tŷ Isaf Confocasiwn Caerefrog, wedi’i basio’n unfrydol yn y Tŷ Isaf.

DEDDFER drwy’r Bil hwn fod yr Eglwys yng Nghymru’n cytuno i sefydlu Cyd-gymundeb rhwng yr Eglwys yng Nghymru a’r Hen Gatholigion ar y telerau canlynol:
(a) Mae’r ddau Gyfundeb yn cydnabod catholigrwydd ac annibyniaeth ei gilydd, ac yn cynnal yr eiddynt eu hunain.
(b) Mae’r ddau Gyfundeb yn cytuno i dderbyn aelodau ei gilydd i gyfranogi o’r Sacramentau.
(c) Nid yw Cyd-gymuno yn gofyn gan y naill Gyfundeb dderbyn y cwbl sy’n nodweddu’r llall mewn tybiaeth athrawiaethol, defosiwn sagrafennol, neu arfer litwrgïol, ond mae’n golygu fod y naill yn credu fod y llall yn arddel holl hanfodion y Ffydd Gristnogol.
Yn ôl I Tabl Cynnwys

 

AR GYFER DEFNYDDIO’N ARBROFOL Y FFURFIAU

DIWYGIEDIG A AWGRYMIR AR GYFER Y LLYFR GWEDDI GYFFREDIN

AC A GYMERADWYIR DROS DRO GAN FAINC YR ESGOBION*

 

(Cyhoeddwyd 29 Medi 1955)

GAN i Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru, yn ei gyfarfod ar 13 Ebrill 1950 ofyn i’w Ras yr Archesgob benodi Comisiwn a elwid “Y Comisiwn Litwrgaidd Sefydlog” a fyddai dan ddyletswydd i gyflwyno o bryd i’w gilydd argymhellion i Fainc yr Esgobion ynglŷn â’r diwygiadau a fyddai’n angenrheidiol neu’n ddymunol yng nghyfraith addoliad yr Eglwys.

A CHAN FOD Comisiwn o’r fath wedi’i sefydlu ac y bydd o bryd i’w gilydd yn cyflwyno i Fainc yr Esgobion argymhellion am ddiwygio rhannau o’r LLyfr Gweddi Gyffredin.

A CHAN FOD pennod II o’r Cyfansoddiad yn rhoddi i’r Corff Llywodraethol awdurdod i wneud cyfnewidiadau yn y Llyfr Gweddi Gyffredin ar yr amod na wneir unrhyw gyfnewidiad ond trwy fil a gefnogir ac a gyflwynir yn y Corff Llywodraethol gan fwyafrif o Urdd yr Esgobion.

A CHAN FOD Mainc yr Esgobion o’r farn y dichon fod yn ddymunol, cyn i Fainc yr Esgobion gyflwyno bil ar gyfer diwygio rhan neu rannau o’r Llyfr Gweddi Gyffredin i’w ystyried gan y Corff Llywodraethol, fod defnyddio’r ffurf ddiwygiedig a gynigir yn arbrofol yn y plwyfi dros gyfnod cyfyngedig.

DEDDFER DRWY HYN:

1.

Bydd gan Esgob Cadeiriol hawl i awdurdodi defnyddio’n arbrofol yn yr eglwysi yn ei esgobaeth unrhyw ffurfiau diwygiedig a gynigir ar ran neu rannau o’r Llyfr Gweddi Gyffredin a gymeradwywyd dros dro gan Fainc yr Esgobion, ar yr amod mai dros gyfnod cyfyngedig heb fod yn fwy na deng mlynedd yr awdurdodir y fath ddefnyddio, ac ar yr amod fod y Corff Llywodraethol wedi cydsynio â’r defnydd arbrofol ar y ffurf ddiwygiedig a gynigir, heb ei newid.

2.

Ni chaiff Esgob Cadeiriol weithredu dan gymal 1 o hynyma tan wedi’r cyfarfod nesaf o’r Corff Llywodraethol ar ôl dosbarthu i aelodau’r Corff Llywodraethol gopïau print o’r ffurf ddiwygiedig a gynigir.

Yn ôl I Tabl Cynnwys

 

DILEU AMHEUAETH YNGLŶN AG AFREOLEIDD-DRA

GENI FEL RHWYSTR I DDERBYNIAD I URDDAU SANCTAIDD

 

(Cyhoeddwyd 28 Medi 1961)

GAN FOD amheuaeth a yw afreoleidd-dra geni yn rhwystr y dylid o’i herwydd wrthod derbyn person* i Urddau Sanctaidd.

A CHAN MAI dymunol yw dileu unrhyw amheuaeth o’r fath.

DEDDFER A CHYHOEDDER DRWY HYN na fydd afreoleidd-dra geni mwyach yn rhwystr canonaidd y dylid o’i herwydd wrthod derbyn person* i Urddau Sanctaidd yn yr Eglwys yng Nghymru.

Yn ôl I Tabl Cynnwys

 

SEFYDLU CYD-GYMUNDEB RHWNG

YR EGLWYS YNG NGHYMRU

AC EGLWYS ANNIBYNNOL YNYSOEDD PHILIP

 

(Cyhoeddwyd 29 Medi 1966)

GAN MAI dymunol fyddai diffinio’r berthynas rhwng yr Eglwys yng Nghymru ac Eglwys Annibynnol Ynysoedd Philip.

DEDDFER A CHYHOEDDER DRWY HYN fod yr Eglwys yng Nghymru yn cytuno i sefydlu Cymundeb Llawn rhwng yr Eglwys yng Nghymru ac Eglwys Annibynnol Ynysoedd Philip ar sail cyd-dderbyn y Concordat hwn:

(a) Mae’r ddau Gyfundeb yn cydnabod catholigrwydd ac annibyniaeth ei gilydd, ac yn cynnal yr eiddynt eu hunain.

(b) Mae’r ddau Gyfundeb yn cytuno i dderbyn aelodau ei gilydd i gyfranogi o’r Sacramentau.

(c) Nid yw Cyd-gymuno yn gofyn gan y naill Gyfundeb dderbyn y cwbl sy’n nodweddu’r llall mewn tybiaeth athrawiaethol, defosiwn sagrafennol, neu arfer litwrgïol, ond mae’n golygu fod y naill yn credu fod y llall yn arddel holl hanfodion y Ffydd Gristnogol.

Yn ôl I Tabl Cynnwys

SEFYDLU CYD-GYMUNDEB RHWNG

YR EGLWYS YNG NGHYMRU

AC EGLWYS ESGOBOL DDIWYGIEDIG SBAEN

 

(Cyhoeddwyd 29 Medi 1966)

GAN MAI dymunol fyddai diffinio’r berthynas rhwng yr Eglwys yng Nghymru ac Eglwys Esgobol Ddiwygiedig Sbaen.

DEDDFER A CHYHOEDDER DRWY HYN fod yr Eglwys yng Nghymru yn cytuno i sefydlu Cymundeb Llawn rhwng yr Eglwys yng Nghymru ac Eglwys Esgobol Ddiwygiedig Sbaen ar sail cyd-dderbyn y Concordat hwn:

(a) Mae’r ddau Gyfundeb yn cydnabod catholigrwydd ac annibyniaeth ei gilydd, ac yn cynnal yr eiddynt eu hunain.

(b) Mae’r ddau Gyfundeb yn cytuno i dderbyn aelodau ei gilydd i gyfranogi o’r Sacramentau.

(c) Nid yw Cyd-gymuno yn gofyn gan y naill Gyfundeb dderbyn y cwbl sy’n nodweddu’r llall mewn tybiaeth athrawiaethol, defosiwn sagrafennol, neu arfer litwrgïol, ond mae’n golygu fod y naill yn credu fod y llall yn arddel holl hanfodion y Ffydd Gristnogol.

Yn ôl I Tabl Cynnwys

SEFYDLU CYD-GYMUNDEB RHWNG

YR EGLWYS YNG NGHYMRU

A’R EGLWYS LWSITANAIDD

 

(Cyhoeddwyd 29 Medi 1966)

GAN MAI dymunol fyddai diffinio’r berthynas rhwng yr Eglwys yng Nghymru a’r Eglwys Lwsitanaidd.

DEDDFER A CHYHOEDDER DRWY HYN fod yr Eglwys yng Nghymru yn cytuno i sefydlu Cymundeb Llawn rhwng yr Eglwys yng Nghymru a’r Eglwys Lwsitanaidd ar sail cyd-dderbyn y Concordat hwn:

(a) Mae’r ddau Gyfundeb yn cydnabod catholigrwydd ac annibyniaeth ei gilydd, ac yn cynnal yr eiddynt eu hunain.

(b) Mae’r ddau Gyfundeb yn cytuno i dderbyn aelodau ei gilydd i gyfranogi o’r Sacramentau.

(c) Nid yw Cyd-gymuno yn gofyn gan y naill Gyfundeb dderbyn y cwbl sy’n nodweddu’r llall mewn tybiaeth athrawiaethol, defosiwn sagrafennol, neu arfer litwrgïol, ond mae’n golygu fod y naill yn credu fod y llall yn arddel holl hanfodion y Ffydd Gristnogol.

Yn ôl I Tabl Cynnwys

AR GYFER SEFYDLU CYMUNDEB LLAWN RHWNG

YR EGLWYS YNG NGHYMRU AC

EGLWYS DE INDIA

 

(Cyhoeddwyd 26 Ebrill 1973)

GAN MAI dymunol yw ail-ystyried y berthynas rhwng yr Eglwys yng Nghymru ac Eglwys De India fel y rheolir hi gan y Canon a gyhoeddwyd ar 26 Medi 1957.

A CHAN FOD Eglwys De India wedi dod i fodolaeth yn Eglwys unedig ar sail cytundeb yn y Ffydd Apostolaidd.

A CHAN FOD Eglwys De India dan awdurdod Esgobion yn yr olyniaeth hanesyddol.

A CHAN FOD pob ordeiniad yn Eglwys De India yn esgobol a phob gweinidog mewn cymundeb â’i Esgob.

DEDDFER DRWY HYN fel y canlyn:

1.

Mae’r Eglwys yng Nghymru yn cytuno I sefydlu Cymundeb Llawn rhwng yr Eglwys yng Nghymru ac Eglwys De India ac o ganlyniad:

(a) Gellir derbyn cymunwyr Eglwys De India i’r Cymun Bendigaid yn yr Eglwys yng Nghymru a gall cymunwyr yr Eglwys yng Nghymru dderbyn y Cymun Bendigaid yn Eglwys De India;

(b) O fod dan oruchwyliaeth yr Esgob Cadeiriol, gall Esgobion, Presbyterion a Diaconiaid Eglwys De India ar ymweliad â Thalaith Cymru ymarfer eu gweinidogaeth yn Litwrgi yr Eglwys yng Nghymru;

(c) O fod yn ddarostyngedig i Gyfansoddiad Eglwys De India, gall Esgobion, Offeiriaid a Diaconiaid yr Eglwys yng Nghymru ar ymweliad â De India ymarfer eu gweinidogaeth yn Litwrgi Eglwys De India.

2.

Diddymir drwy hyn y Canon ar gyfer rheoli’r berthynas rhwng yr Eglwys yng Nghymru ac Eglwys De India a gyhoeddwyd ar 26 Medi 1957.

Yn ôl I Tabl Cynnwys

AR GYFER SEFYDLU CYMUNDEB LLAWN RHWNG

YR EGLWYS YNG NGHYMRU AC

EGLWYS GOGLEDD INDIA

 

(Cyhoeddwyd 27 Medi 1973)

&nbsp:
GAN FOD rhai o esgobaethau Eglwys India, Pakistan, Burma a Ceylon, a’r Eglwys honno gynt mewn Cymundeb Llawn â’r Eglwys yng Nghymru, wedi uno ag eglwysi eraill i ffurfio Eglwys Gogledd India.

A CHAN MAI sail yr undeb yw cytundeb yn y Ffydd Apostolaidd.
&nbsp:
A CHAN FOD gweinidogaethau’r eglwysi a oedd yn uno wedi eu cyfannu â’r esgobawd hanesyddol ar ddechrau’r undeb drwy weithred ddigonol o uniad.

A CHAN FOD pob ordeiniad yn Eglwys Gogledd India yn esgobol a phob gweinidog mewn cymundeb â’i Esgob.

DEDDFER DRWY HYN fod yr Eglwys yng Nghymru mewn perthynas o Gymundeb Llawn ag Eglwys Gogledd India ac o ganlyniad:

(a) Gellir derbyn cymunwyr Eglwys Gogledd India i’r Cymun Bendigaid yn yr Eglwys yng Nghymru a gall cymunwyr yr Eglwys yng Nghymru dderbyn y Cymun Bendigaid yn Eglwys Gogledd India;

(b) O fod dan oruchwyliaeth yr Esgob Cadeiriol, gall Esgobion, Presbyterion a Diaconiaid Eglwys Gogledd India ymarfer eu gweinidogaeth yn Nhalaith Cymru;

(c) O fod yn ddarostyngedig i Gyfansoddiad Eglwys Gogledd India gall Esgobion, Offeiriaid a Diaconiaid yr Eglwys yng Nghymru ymarfer eu gweinidogaeth yn Eglwys Gogledd India.

Yn ôl I Tabl Cynnwys

AR GYFER SEFYDLU CYMUNDEB LLAWN RHWNG

YR EGLWYS YNG NGHYMRU AC

EGLWYS PAKISTAN

 

(Cyhoeddwyd 27 Medi 1973)

GAN FOD rhai o esgobaethau Eglwys India, Pakistan, Burma a Ceylon, a’r Eglwys honno gynt mewn Cymundeb Llawn â’r Eglwys yng Nghymru, wedi uno ag eglwysi eraill i ffurfio Eglwys Pakistan.

A CHAN MAI sail yr undeb yw cytundeb yn y Ffydd Apostolaidd.

A CHAN FOD gweinidogaethau’r eglwysi a oedd yn uno wedi eu cyfannu â’r esgobawd hanesyddol ar ddechrau’r undeb drwy weithred ddigonol o uniad.

A CHAN FOD pob ordeiniad yn Eglwys Pakistan yn esgobol a phob gweinidog mewn cymundeb â’i Esgob.

DEDDFER DRWY HYN fod yr Eglwys yng Nghymru mewn perthynas o Gymundeb Llawn ag Eglwys Pakistan ac o ganlyniad:
(a) Gellir derbyn cymunwyr Eglwys Pakistan i’r Cymun Bendigaid yn yr Eglwys yng Nghymru a gall cymunwyr yr Eglwys yng Nghymru dderbyn y Cymun Bendigaid yn Eglwys Pakistan;
(b) O fod dan oruchwyliaeth yr Esgob Cadeiriol, gall Esgobion, Presbyterion a Diaconiaid Eglwys Pakistan ymarfer eu gweinidogaeth yn Nhalaith Cymru;
(c) O fod yn ddarostyngedig i Gyfansoddiad Eglwys Pakistan, gall Esgobion, Offeiriaid a Diaconiaid yr Eglwys yng Nghymru ymarfer eu gweinidogaeth yn Eglwys Pakistan.

Yn ôl I Tabl Cynnwys

AR GYFER CYFAMODI RHWNG

YR EGLWYS YNG NGHYMRU AC

EGLWYSI ERAILL AR GYFER UNDEB YNG NGHYMRU

 

(Cyhoeddwyd 1 Mai 1974)

GAN FOD rhai Eglwysi yng Nghymru sy’n aelodau o Gyngor Eglwysi Cymru wedi codi Cyd-bwyllgor Cyfamodi, a hwnnw wedi paratoi’r Ffurf ar Gyfamod a draethir yn yr Atodlen Gyntaf i hwn, ac wedi cofnodi ei gytundeb y dylai’r Eglwysi hynny a gynrychiolir ar y Cyd-bwyllgor wneud cyfamod â’i gilydd ar y telerau hyn.

A CHAN FOD Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru wedi penderfynu gwneud y cyfamod hwnnw yn y modd a ymddengys yma rhag llaw.

DEDDFER DRWY HYN fod yr Eglwys yng Nghymru yn y ffurf a draethir yn yr Atodlen Gyntaf i hwn yn difrifol gyfamodi â’r cyfryw Eglwysi hynny ag a enwir yn Rhan Gyntaf yr Ail Atodlen i hwn ac â’r Eglwysi hynny sy’n perthyn i’r Undeb a enwir yn Ail Ran yr Atodlen honno ac sydd eisoes wedi cyfamodi, neu a fydd rhag llaw’n cyfamodi, i’r un perwyl â’r Eglwys yng Nghymru. Eithr ni chaiff dim a gynhwysir yma effeithio ar ffydd, disgyblaeth, erthyglau, datganiadau athrawiaethol, defodau, seremonïau neu ffurfiaduron o eiddo’r Eglwys yng Nghymru na’i gyfrif yn effeithio arnynt.

YR ATODLEN GYNTAF Y CYFEIRIWYD ATI EISOES

 

Y CYFAMOD

Gan gyffesu ein ffydd yn Iesu Grist fel Arglwydd a Gwaredwr, a chan adnewyddu ein hewyllys i’w wasanaethu ef mewn cenhadaeth yn y byd, y mae ein gwahanol eglwysi wedi eu dwyn i berthynas newydd â’i gilydd. Gyda’n gilydd diolchwn am y cwbl sydd gennym yn gyffredin rhyngom. Gyda’n gilydd yr ydym yn edifarhau am y pechod o barhau ein hymraniad. Gyda’n gilydd gwnawn yn hysbys pa fodd yr ydym yn deall yr ufudd-dod y’n gelwir iddo.

1.

(a) Cydnabyddwn yn ein gilydd yr un ffydd yn efengyl Iesu Grist yr hon a geir yn yr Ysgrythur Lân, yr hon y bwriadwyd i gredoau’r Eglwys gynnar a chyffesiadau hanesyddol eraill ei gwarchod. Cydnabyddwn yn ein gilydd yr un awydd i gynnal y ffydd hon yn ei chyflawnder.

(b) Bwriadwn weithredu, llefaru a gwasanaethu gyda’n gilydd mewn ufudd-dod i’r efengyl yn y fath fodd ag i ddysgu mwy o’i chyflawnder a’i gwneuthur yn hysbys i eraill mewn iaith gyfoes a thrwy dystiolaeth gredadwy.

2.

(a) Cydnabyddwn yn ein gilydd yr un ymwybyddiaeth o alwad Duw i wasanaethu ei bwrpas grasol ar gyfer dynoliaeth oll, gyda chyfrifoldeb arbennig am y wlad a’r bobl hyn.

(b) Bwriadwn gydweithio er mwyn cyfiawnder a heddwch gartref ac oddi cartref ac er mwyn ffyniant ysbrydol a materol a rhyddid personol yr holl bobloedd.

3.

(a) Cydnabyddwn ein gilydd ein bod o fewn i un Eglwys Iesu Grist, wedi ymdynghedu i wasanaethu ei Deyrnas, ac yn cyfranogi o undeb yr Ysbryd.

(b) Bwriadwn drwy gymorth yr un Ysbryd oresgyn yr ymraniadau sy’n niweidio ein tystiolaeth, yn llesteirio cenhadaeth Duw, ac yn cuddio efengyl iechydwriaeth dyn, a bwriadwn amlygu’r undeb hwnnw sy’n unol ag ewyllys Crist.

4.

(a) Cydnabyddwn aelodau ein holl eglwysi yn aelodau o Grist yn rhinwedd eu bedydd cyffredin a’u galwad gyffredin i gyfranogi yng ngweinidogaeth yr holl Eglwys.

(b) Bwriadwn geisio ffurf ar fywyd cyffredin a alluoga bob aelod i arfer y doniau a roddwyd iddo yng ngwasanaeth Teyrnas Crist.

5.

(a) Cydnabyddwn weinidogaethau ordeiniedig ein holl eglwysi yn weinidogaethau gwirioneddol y gair a’r sacramentau, trwy y rhai y cyhoeddir Cariad Duw, y cyfryngir ei ras, ac y gweinyddir ei ofal Tadol.

(b) Bwriadwn geisio patrwm o weinidogaeth ordeiniedig y cytunir arno, yr hwn a wasanaetha’r efengyl mewn undeb, a arddengys ei pharhad drwy’r oesoedd, ac a dderbynnir cyn belled ag y gellir gan yr Eglwys drwy’r byd oll.

6.

(a) Cydnabyddwn yn ein gilydd batrymau o addoliad a bywyd sacramentaidd, arwyddion sancteiddrwydd a sêl sydd yn amlwg yn rhoddion Crist.

(b) Bwriadwn wrando ar ein gilydd a chydastudio tystiolaeth ac arfer ein gwahanol draddodiadau, fel y diogeler ar gyfer yr Eglwys unedig a geisiwn y trysorau a ymddiriedwyd inni pan oeddem ar wahân.

7.

(a) Cydnabyddwn yn ein gilydd yr un gofal am iawn lywodraeth yn yr Eglwys er cyflawni ei chenhadaeth.

(b) Bwriadwn geisio ffurf ar lywodraeth Eglwysig a fydd yn diogelu y gwerthoedd cadarnhaol y mae pob un wedi sefyll drostynt, fel y bydd i’r Eglwys ffurfio meddwl cytûn a gweithredu arno fel un corff ar bob lefel o gyfrifoldeb drwy offerynnau cyfansoddiadol.

Ni wyddom eto pa ffurf a gymer undeb. Down at ein tasg yn agored i’r Ysbryd. Credwn yr arwain Duw ei Eglwys i ffyrdd gwirionedd a thangnefedd, gan ei chywiro, ei chyfnerthu a’i hadnewyddu yn unol â meddwl Crist. Am hynny yr ydym yn cymell ein holl aelodau i dderbyn ei gilydd yn yr Ysbryd Glân fel y mae Iesu Grist yn ein derbyn ni, ac i ddal ar bob cyfle i gyd-dyfu drwy gydweddïo a chydaddoli gyda dealltwriaeth a chariad o bob tu fel yr adnewydder hwy ym mhob lle ar gyfer cenhadu.

Gan hynny gwnawn y Cyfamod difrifol hwn yn awr gerbron Duw a chyda’n gilydd, i weithio a gweddïo, mewn ufudd-dod unol i’n Harglwydd Iesu Grist, fel y caffom drwy’r Ysbryd Glân ein dwyn i un Eglwys weledig i wasanaethu gyda’n gilydd mewn cenhadaeth er gogoniant Duw Dad.

YR AIL ATODLEN Y CYFEIRIWYD ATI EISOES

 

RHAN 1

Eglwys Methodistiaid Calfinaidd Cymru neu Eglwys Bresbyteraidd Cymru.

Yr Eglwys Fethodistaidd.

Eglwys Unedig Ddiwygiedig Lloegr a Chymru (Gynulleidfaol a Phresbyteraidd).

RHAN 2

Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.

Yn ôl I Tabl Cynnwys

I GANIATAU DEFNYDDIO YNG NGWASANAETHAU’R

EGLWYS YNG NGHYMRU UNRHYW GYFIEITHIAD O’R BEIBL A

GYMERADWYIR GAN FAINC YR ESGOBION

 

(Cyhoeddwyd 2 Mai 1974)

GAN FOD gan Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru allu dan ddarpariaethau pennod II o’r Cyfansoddiad i wneud yn y modd a drefnir yno gyfnewidiadau yn y Llyfr Gweddi Gyffredin a ddefnyddir yn yr Eglwys yng Nghymru.

A CHAN FOD gan Esgob Cadeiriol allu i awdurdodi ar gyfer ei defnyddio’n arbrofol yn yr eglwysi yn ei esgobaeth unrhyw ffurf ddiwygiedig ar ran o’r Llyfr Gweddi Gyffredin a gymeradwywyd dros dro gan Fainc yr Esgobion yn unol â’r Canon i’r pwrpas a gyhoeddwyd ar 29 Medi 1955.

A CHAN MAI buddiol yw caniatáu defnyddio unrhyw gyfieithiad o’r Beibl a gymeradwywyd gan Fainc yr Esgobion ar gyfer y rhannau o’r Ysgrythur y gorchmynnir eu darllen, eu dweud neu eu canu, yn y Llyfr Gweddi Gyffredin neu mewn unrhyw wasanaeth diwygiedig megis y dywedwyd eisoes.

DEDDFER DRWY HYN fel y canlyn:

1.

Pa le bynnag y traethir darn o’r Ysgrythur, neu ei benodi i’w ddarllen, ei ddweud, neu ei ganu, yn y Llyfr Gweddi Gyffredin neu mewn gwasanaeth diwygiedig o eiddo’r Eglwys yng Nghymru a awdurdodwyd i’w ddefnyddio’n arbrofol yn unol â’r Canon ar gyfer Defnyddio’n Arbrofol y Ffurfiau Diwygiedig a awgrymir ar gyfer y Llyfr Gweddi Gyffredin ac a gymeradwyir dros dro gan Fainc yr Esgobion, sef Canon a gyhoeddwyd ar 29 Medi 1955, bydd gan Esgob Cadeiriol allu o fewn ei esgobaeth i awdurdodi defnyddio yn ôl dewis y gweinidog y rhan gyfatebol o unrhyw gyfieithiad o’r Beibl neu o ran o’r Beibl a gymeradwyir ar y pryd i’r pwrpas gan Fainc yr Esgobion, yn lle’r hyn a draethir neu a benodir yn y Llyfr Gweddi Gyffredin neu yn y gwasanaeth diwygiedig y cyfeiriwyd ato.

2.

Yn y Canon hwn mae Y Llyfr Gweddi Gyffredin yn golygu’r Llyfr Gweddi Gyffredin a ddefnyddir ar y pryd yn yr Eglwys yng Nghymru.

Yn ôl I Tabl Cynnwys

AR GYFER SEFYDLU CYMUNDEB

LLAWN RHWNG YR EGLWYS YNG NGHYMRU

AC EGLWYS SYRIAIDD MAR THOMA

 

(Cyhoeddwyd 24 Medi 1975)

GAN MAI dymunol yw diffinio’r berthynas rhwng yr Eglwys yng Nghymru ac Eglwys Syriaidd Mar Thoma.

DEDDFER A CHYHOEDDER DRWY HYN fod yr Eglwys yng Nghymru yn cytuno i sefydlu Cymundeb Llawn rhwng yr Eglwys yng Nghymru ac Eglwys Syriaidd Mar Thoma ar sail cyd-dderbyn y Concordat hwn:

(a) Mae’r ddau Gyfundeb yn cydnabod catholigrwydd ac annibyniaeth ei gilydd, ac yn cynnal yr eiddynt eu hunain.

(b) Mae’r ddau Gyfundeb yn cytuno i dderbyn aelodau ei gilydd i gyfranogi o’r Sacramentau.

(c) Nid yw Cymundeb Llawn yn gofyn gan y naill Gyfundeb dderbyn y cwbl sy’n nodweddu’r llall mewn tybiaeth athrawiaethol, defosiwn sagrafennol, neu arfer litwrgïol, ond mae’n golygu fod y naill yn credu fod y llall yn arddel holl hanfodion y Ffydd Gristnogol.

Yn ôl I Tabl Cynnwys

AR GYFER SEFYDLU CYMUNDEB

LLAWN RHWNG YR EGLWYS YNG NGHYMRU

AC EGLWYS BANGLADESH

 

(Cyhoeddwyd 23 Medi 1976)

GAN FOD yr Eglwys yng Nghymru wedi dod i berthynas o Gymundeb Llawn ag Eglwys Pakistan yn unol â darpariaethau’r Canon ar gyfer Sefydlu Cymundeb Llawn rhwng yr Eglwys yng Nghymru ac Eglwys Pakistan a gyhoeddwyd ar 27 Medi 1973.

A CHAN FOD esgobaeth Dacca yn rhan o Eglwys Pakistan nes ei gwahanu’n ffurfiol oddi wrth yr Eglwys honno gan benderfyniad Synod Eglwys Pakistan ym mis Mai 1974 sef bod esgobaeth Dacca i benderfynu drostynt eu hunain ynglŷn â’u dyfodol naill ai i fod yn Eglwys Bangladesh neu i ymgysylltu ag unrhyw Eglwys unedig arall mewn cymundeb ag Eglwys Pakistan.

A CHAN FOD esgobaeth Dacca wedi dod bellach yn Eglwys Bangladesh.

A CHAN FOD Eglwys Bangladesh yn parhau yn y Ffydd Apostolaidd.

A CHAN FOD pob ordeiniad yn Eglwys Bangladesh yn esgobol a phob gweinidog mewn cymundeb â’i Esgob.

DEDDFER DRWY HYN fod yr Eglwys yng Nghymru mewn perthynas o Gymundeb Llawn ag Eglwys Bangladesh ac o ganlyniad:

(a) Gellir derbyn cymunwyr Eglwys Bangladesh i’r Cymun Bendigaid yn yr Eglwys yng Nghymru a gall cymunwyr yr Eglwys yng Nghymru dderbyn y Cymun Bendigaid yn Eglwys Bangladesh;

(b) O fod dan oruchwyliaeth yr Esgob Cadeiriol, gall Esgobion, Presbyterion a Diaconiaid Eglwys Bangladesh ymarfer eu gweinidogaeth yn Nhalaith Cymru;

(c) O fod yn ddarostyngedig i Gyfansoddiad Eglwys Bangladesh, gall Esgobion, Offeiriaid a Diaconiaid yr Eglwys yng Nghymru ymarfer eu gweinidogaeth yn Eglwys Bangladesh.

Yn ôl I Tabl Cynnwys

AR GYFER CYFAMODI RHWNG

YR EGLWYS YNG NGHYMRU A

RHAI EGLWYSI BEDYDDWYR AR GYFER UNDEB YNG NGHYMRU

 

(Cyhoeddwyd 21 Medi 1977)

GAN FOD yr Eglwys yng Nghymru dan ddarpariaethau’r Canon ar gyfer cyfamodi rhwng yr Eglwys yng Nghymru ac Eglwysi eraill ar gyfer Undeb yng Nghymru (a elwir yma rhag llaw “y Prif Ganon”) a gyhoeddwyd ar 1 Mai 1974 wedi difrifol gyfamodi ar y telerau a draethir yn Atodlen Gyntaf y Prif Ganon â’r cyfryw Eglwysi a enwir yn Rhan 1 o’r Ail Atodlen honno, ac â’r cyfryw Eglwysi a berthyn i’r Undeb a enwir yn Rhan 2 o’r Ail Atodlen honno ac a oedd wedi cyfamodi ar ddyddiad y cyhoeddi rhagddywededig neu a allai wedi hynny gyfamodi felly â’r Eglwys yng Nghymru dan yr amod a gynhwysir yno.

A CHAN FOD rhai Eglwysi Bedyddwyr oddi ar gyhoeddi’r Prif Ganon wedi datgan dymuniad i wneud cyfamod â’r Eglwys yng Nghymru ar delerau cyffelyb i’r rhai a draethir yn y Prif Ganon.

A CHAN FOD Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru wedi penderfynu gwneud y cyfamod hwnnw yn y modd a ymddengys yma rhag llaw.

DEDDFER DRWY HYN fod yr Eglwys yng Nghymru yn y ffurf a draethir yn Atodlen Gyntaf y Prif Ganon yn difrifol gyfamodi â’r cyfryw Eglwysi a berthyn i Undeb Bedyddwyr Prydain ac Iwerddon ag sydd eisoes wedi cyfamodi, neu a fydd rhag llaw’n cyfamodi, i’r un perwyl â’r Eglwys yng Nghymru. Eithr ni chaiff dim a gynhwysir yma effeithio ar ffydd, disgyblaeth, erthyglau, datganiadau athrawiaethol, defodau, seremonïau neu ffurfiaduron o eiddo’r Eglwys yng Nghymru na’i gyfrif yn effeithio arnynt.

Yn ôl I Tabl Cynnwys

I ALLUOGI ORDEINIO BENYWOD YN DDIACONIAID

 

(Cyhoeddwyd 16 Ebrill 1980)

GAN FOD y gyfraith ganon fel y derbynnir hi gan yr Eglwys yng Nghymru hyd yn hyn wedi gwrthod derbyn benywod i Urddau Sanctaidd.

A CHAN MAI dymunol yn yr Eglwys yng Nghymru fyddai derbyn benywod i Urdd Sanctaidd Diaconiaid.

DEDDFER DRWY HYN fel y canlyn:

1.

O hyn allan yn yr Eglwys yng Nghymru ni chaiff y ffaith mai benyw fo ymgeisydd am Urdd Sanctaidd Diaconiaid fod yn rhwystr canonaidd rhag ei derbyn felly.

2.

Diwygir Canon dileu amheuaeth ynglŷn ag afreoleidd-dra geni fel rhwystr i dderbyniad i Urddau Sanctaidd, a gyhoeddwyd 28 Medi 1961, gan roi’r gair “person” yn lle’r gair “dyn” yn llinell 2 o’r adroddeb gyntaf ac yn llinell 3 o gymal gweithredol y Canon hwnnw.

Yn ôl I Tabl Cynnwys

 

AM DDARPARU AR GYFER PERIGLORION METHEDIG

 

(Cyhoeddwyd 21 Ebrill 1982)

GAN MAI dymunol darparu at gynnal y weinidogaeth mewn plwyf a threfnu talu am hynny pan fo’r Periglor yn fethedig, a phenderfynu tâl Periglor methedig yn ystod ei salwch.

A CHAN MAI dymunol paratoi cynllun lle gellid mynnu bod Periglor methedig yn ymddangos gerbron bwrdd meddygol.

DEDDFER DRWY HYN fel y canlyn:

1.

Bydd y Rheoliadau ynglŷn â thaliadau i Beriglorion methedig a’r Rheoliadau ynglŷn â byrddau meddygol a draethir yn yr Atodlen Gyntaf a’r Ail o hynyma yn rhwymo holl Beriglorion yr Eglwys yng Nghymru.

2.

Yn y Canon hwn a’r Atodlenni hyn:
(a) ac eithrio lle mae cyfeiriad penodol at “Periglor bywoliaeth” bydd y gair periglor yn cynnwys ac yn cyfeirio at berson yng ngweinidogaeth amser-llawn yr Eglwys yng Nghymru ond ni chymhwysir darpariaethau yr Ail Atodlen o hynyma at yr Archesgob neu Esgob Cadeiriol;
(b) lle bo’n addas bydd geiriau a fo’n cyfleu’r rhyw wrywaidd yn golygu’r rhyw fenywaidd hefyd.

3.

Dileu’r geiriau “neu ym marn y Bwrdd Nawdd a ddiffinnir yn adran 10 ei fod wedi’i analluogi gan lesgedd dros dro i gyflawni’r dyletswyddau’n ddyladwy,” yn yr ail hyd y bedwaredd linell o adran 56(2) pennod VII[1] y Cyfansoddiad.

YR ATODLEN GYNTAF Y CYFEIRIWYD ATI EISOES

Fel y’i diwygir dan ddarpariaethau’r Canon (Diwygiad) Periglorion Methedig 1985 i ddod i rym o 1 Mehefin 1996 a’r Canon Amwrywiol Newidiadau (Pennod XI[2] a Pheriglorion Methedig) 2006 i ddod i rym o 20 Medi 2006.

Rheoliadau ynglŷn â thaliadau i Beriglorion Methedig

 

1.

(1) Os bydd Periglor yn fethedig, rhaid iddo ar unwaith hysbysu’r corff neu’r sawl sy’n gyfrifol am dalu ei gyflog am y dyddiad yr aeth gyntaf yn fethedig a natur ei salwch, ond gellir derbyn gwybodaeth i’r perwyl hwn a ddelo ryw ffordd arall, a bod hysbysu’r Periglor mewn ysgrifen o hynny, fel petai’r wybodaeth yn dod oddi wrtho ef ei hun.

(2) Ar dderbyn gwybodaeth yn unol ag is-reoliad (1) o hynyma, rhaid i’r corff neu’r sawl sy’n gyfrifol am dalu cyflog y Periglor anfon ffurflen datgan absenoldeb iddo, a rhaid i’r Periglor lenwi a dychwelyd y ffurflen i’r sawl a’i hanfonodd pan fydd ef yn abl i ymgymryd â’i ddyletswyddau arferol.

(3) Os pery methiant Periglor am fwy na saith niwrnod, rhaid anfon tystysgrif gymwys meddyg i’r corff neu’r sawl sy’n gyfrifol am dalu cyflog y Periglor, ac wedi hynny tystysgrifau meddygol pellach, fel y bo’r cyfryw gorff neu berson yn gofyn, hyd y daw’r methiant i ben.

2.

(1) Os bydd i Beriglor (nad yw’n Beriglor bywoliaeth gysylltiedig â chadeirlan) fynd yn fethedig, hysbyser y Deon Gwlad.

(2) Pan fo’r Periglor methedig yn Ddeon Gwlad, hysbyser yr Archddiacon. Pan fo’r Periglor methedig yn Archddiacon, hysbyser yr Esgob.

3.

Yn ystod chwe wythnos ar hugain gyntaf ei fethiant bydd hawl gan Beriglor i dderbyn ei gyflog yn llawn ynghyd ag unrhyw daliadau cyson am dreuliau, ac eithrio unrhyw fudd-daliadau salwch y mae ganddo hawl iddynt yn ystod y cyfnod hwnnw.

4.

Yn ystod unrhyw gyfnod o fethiant a fo’n parhau yn hwy na’r chwe wythnos ar hugain gyntaf bydd gan y Periglor hawl i hanner y gyflog a fyddai’n daladwy iddo pe na bai’n fethedig, ac eithrio unrhyw fudd-daliadau salwch y mae ganddo hawl iddynt yn ystod y cyfnod hwnnw.

5.

(1) Os bydd methiant Periglor bywoliaeth nad yw’n gysylltiedig â chadeirlan yn mynnu hynny, rhaid i’r Deon Bro drefnu cynnal y weinidogaeth yn y cyfryw fywoliaeth. Pan fo’r Periglor methedig yn Ddeon Bro rhaid i’r Archddiacon drefnu cyflawni ei ddyletswyddau. Pan fo’r Periglor methedig yn Archddiacon, rhaid i’r Esgob drefnu cyflawni ei ddyletswyddau.

(2) Ar ddiwedd pob chwarter neu ar ddiwedd methiant Periglor bywoliaeth, pa un bynnag a ddigwydd gyntaf, rhaid i’r Deon Bro neu’r Archddiacon, yn ôl fel y digwydd, anfon i Fwrdd Cyllid yr Esgobaeth fantolen cost cynnal y weinidogaeth, a thelir y cyfryw gost gan Gronfa Cynnal y Weinidogaeth yr esgobaeth honno. Graddfa taliadau a threuliau a ddarparwyd ar gyfer bywiolaethau gwag a ddefnyddir.

6.

Fe fydd yn ddyletswydd ar Beriglor, o fewn y cyfnod penodedig, hawlio pob budd-daliad statudol salwch sy’n ddyledus iddo ac, os gofynnir iddo, rhaid iddo hysbysu Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth o faint y swm.

7.

Bernir bod methiant Periglor yn dod i ben naill ai pan allo (ar dystiolaeth llenwi a dychwelyd ffurflen datgan absenoldeb, ac, os bu’r cyfnod pan oedd yn fethedig yn hwy na saith niwrnod, ar dystiolaeth tystysgrif cliriad meddyg) ymgymryd â’i ddyletswyddau arferol, neu pan ymddeolo, pa un bynnag a ddigwyddo gyntaf.

 

 

YR AIL ATODLEN Y CYFEIRIWYD ATI EISOES

 

Rheoliadau ynglŷn â byrddau meddygol

 

1.

Pan fo Periglor yn fethedig oherwydd afiechyd corfforol neu feddyliol am gyfnod parhaol o fwy na phedair wythnos, neu am gyfanswm o wyth niwrnod ar hugain o fewn unrhyw gyfnod o dri mis, gall yr Esgob fynnu iddo ymddangos gerbron bwrdd meddygol (a elwir yma rhag llaw y Bwrdd), a dynodir aelodau hwnnw isod.

2.

Aelodau’r Bwrdd fydd Archddiacon, a dau leygwr sydd yn feddygon cofrestredig. Bydd y Bwrdd yn ôl ei farn yn cynghori’r Esgob a ydyw’r Periglor yn analluog i gyflawni dyletswyddau ei swydd dros dro neu yn barhaol oherwydd methiant meddwl neu gorff.

3.

Rhaid i bob Esgob Cadeiriol enwebu o’i esgobaeth ef, ar restr (a elwir yma rhag llaw y Rhestr Daleithiol) Archddiacon, a dau leygwr sydd yn feddygon cofrestredig. Erys enwau’r cyfryw dri pherson ar y Rhestr Daleithiol am gyfnod o dair blynedd, a gellir eu hailenwebu. Bydd yr Esgob yn llenwi unrhyw le gwag ar y Rhestr Daleithiol trwy enwebu ymhellach am dair blynedd. Gall unrhyw un ymddiswyddo oddi ar y Rhestr Daleithiol trwy hysbysu Ysgrifennydd Corff y Cynrychiolwyr mewn ysgrifen.

4.

Pan fynnir i Beriglor ymddangos gerbron y Bwrdd rhaid i Ysgrifennydd Corff y Cynrychiolwyr, o weithredu yn Ysgrifennydd y Bwrdd, ddewis o’r Rhestr Daleithiol aelodau’r Bwrdd am y tro hwnnw, eithr ni fydd ar y Bwrdd hwnnw unrhyw un wedi ei enwebu o’r esgobaeth y bo’r cyfryw Beriglor yn gwasanaethu ynddi.

5.

Rhoddir o leiaf bedwar diwrnod ar ddeg o rybudd mewn ysgrifen i Beriglor y mynnir iddo ymddangos gerbron y Bwrdd, a bydd ganddo hawl i gael un person i’w gynrychioli neu fod yn gwmni iddo.

6.

Rhaid i’r Bwrdd, o fewn pedwar diwrnod ar ddeg o ddiwedd ei ymgyngoriadau, draethu ei farn i’r Esgob a’r Periglor ar yr un pryd. Os bydd anghytuno rhwng aelodau’r Bwrdd, barn y mwyafrif a saif. Rhaid i’r Bwrdd ddatguddio’r rhesymau am ei farn i’r Periglor, os dymuna efe hynny.

7.

Os mynn y Bwrdd hynny, rhaid i Beriglor ofyn i’w feddyg ei hun roi gerbron y Bwrdd dystiolaeth am ei gyflwr meddygol perthnasol i’w fethiant, a gall y Bwrdd ofyn i Beriglor gytuno i gael archwiliad meddygol annibynnol.

8.

Telir yr holl gostau yr aeth y Bwrdd a’r Periglor iddynt yn unol â’r Atodlen hon gan Gorff y Cynrychiolwyr.

Yn ôl I Tabl Cynnwys

DARPARU PENODI DYDDIAU I ORDEINIO

YN YR EGLWYS YNG NGHYMRU

 

(Cyhoeddwyd 15 Medi 1982)

 

GAN MAI buddiol darparu penodi pan fydd yn gynfreithlon ordeinio i’r Weinidogaeth Sanctaidd yn yr Eglwys yng Nghymru

DEDDFER TRWY HYN fel y canlyn:

1.

O’r dyddiad a bennir yma rhag llaw ar gyfer dyfod o’r Canon hwn i rym ac effaith, bydd yn gyfreithlon yn a thrwy holl Dalaith Cymru ordeinio i’r Weinidogaeth Sanctaidd ar y cyfryw ddyddiau a benodir i’r pwrpas o bryd i’w gilydd gan Fainc yr Esgobion.

2.

Diddymir drwy hyn y Canon ar gyfer ychwanegu at nifer y dyddiau y gellir gwneud Diaconiaid ac urddo Offeiriaid yn yr Eglwys yng Nghymru, a gyhoeddwyd ar 27 Medi 1973, ond ni cheir cymryd bod dim o hynyma yn adnewyddu unrhyw Ganon blaenorol a ddiddymwyd gan y Canon hwnnw a gyhoeddwyd ar 27 Medi 1973.

3.

Daw darpariaethau’r Canon hwn i rym ac effaith ar y cyfryw ddiwrnod a benodir gan Fainc yr Esgobion.

Yn ôl I Tabl Cynnwys

I HYRWYDDO PERTHYNAS ECWMENAIDD

(GLÂN BRIODAS)

 

(Cyhoeddwyd 19 Medi 1985)

GAN FOD yr Eglwys yng Nghymru wedi ymrwymo i gyfamodi gydag eglwysi eraill i weithio a gweddïo er undeb yng Nghymru, a thrwy hynny yn cydnabod aelodau yr holl gyfryw eglwysi yn aelodau yng Nghrist yn rhinwedd eu bedydd cyffredin a’r alwad gyffredin i gyfranogi yng ngweinidogaeth yr holl Eglwys.

A CHAN ei bod yn awr yn ddymunol hyrwyddo perthynas ecwmenaidd trwy ganiatáu i glerigion yr Eglwys yng Nghymru weinyddu mewn gwasanaethau priodas yn y cyfryw addoldai a nodir isod.

DEDDFER TRWY HYN FEL Y CANLYN:

1.

Ar ac o’r dydd cyntaf o Hydref 1985, bydd yn gyfreithlon o fewn a thrwy holl Dalaith Cymru i glerig o’r Eglwys yng Nghymru weinyddu mewn gwasanaeth priodas mewn addoldy a gofrestrwyd fel adeilad cofrestredig i ddiben gweinyddu priodas yn unol â Deddf Priodas 1949 neu unrhyw Ddeddf sy’n diwygio neu’n ail-ddeddfu y cyfryw.

Dan yr amod:

(a) bod gan y clerig drwydded oddi wrth Esgob ei esgobaeth yn rhoi caniatâd iddo weinyddu yn y cyfryw wasanaethau yn y plwyf lle mae’r adeilad cofrestredig wedi ei leoli;

(b) bod y ffurf-wasanaeth sydd i’w ddefnyddio wedi ei gymeradwyo gan Esgob yr esgobaeth;

(c) bod ymddiriedolwyr neu gorff llywodraethol yr adeilad cofrestredig yn caniatáu i’r clerig weinyddu yn y cyfryw fodd;

(d) bod y clerig wedi ei awdurdodi i weinyddu yn y cyfryw fodd yn yr adeilad cofrestredig dan ddarpariaethau Deddf Priodas 1949 neu unrhyw Ddeddf sy’n diwygio neu’n ail-ddeddfu y cyfryw, neu ynteu ei fod yn gweinyddu’r briodas ym mhresenoldeb cofrestrydd y dosbarth cofrestriad lle mae’r adeilad cofrestredig wedi ei leoli;

(e) nad oes unrhyw rwystr i briodas y ddeuddyn yn unol â chyfraith ganon yr Eglwys yng Nghymru.

2.

Gall Esgob yr esgobaeth dynnu’n ôl drwydded yn caniatáu i glerig weinyddu yn unol â chymal 1 y Canon hwn trwy rybudd ysgrifenedig ar unrhyw adeg.

3.

Ni ellir ystyried na dehongli bod un dim yn y Canon hwn yn caniatáu gweinyddu priodas mewn adeilad cofrestredig yn dilyn cyhoeddi gostegion neu’n unol â defodau na’r Eglwys yng Nghymru nac Eglwys Loegr.

Yn ôl I Tabl Cynnwys

 

I DDIWYGIO’R GYFRAITH GANON YNGLŶN AG ANALLU CLERIGION

 

(Cyhoeddwyd 19 Ebrill 1990)


GAN FOD Deddf yr Eglwys yng Nghymru, 1914, wedi rhoi galluoedd i’r Eglwys yng Nghymru newid a goleddfu cyfraith eglwysig, gan gynnwys y gallu i newid neu oleddfu y cyfryw gyfraith fel y mae wedi eu hymgorffori mewn Deddfau Seneddol.

A CHAN EI BOD yn ddymunol fod Deddf Anallu Clerigwyr, 1870, yn peidio â ffurfio rhan o Gyfraith Ganon yr Eglwys yng Nghymru a bod darpariaethau yn caniatáu cofrestru yn Swyddfa Cofrestrydd Arglwydd Archesgob Cymru Weithredoedd Ildio Urddau Sanctaidd yn cymryd ei lle.

A CHAN EI BOD yn ddymunol darparu moddion y gellir drwyddynt ddileu am reswm da Weithred Ildio Urddau Sanctaidd.

A CHAN EI BOD yn ddymunol darparu ar gyfer diarddel o Urddau Sanctaidd a deol o swydd glerigion yr Eglwys yng Nghymru a farnwyd yn euog o flaen Llys y Dalaith o ymddygiad oedd yn rhoi achos cyfiawn i gywilydd neu dramgwydd.

DEDDFER DRWY HYNYMA fel a ganlyn:

1.

Bydd i Ddeddf Anallu Clerigwyr, 1870, beidio ar unwaith â ffurfio rhan o gyfraith Eglwysig yr Eglwys yng Nghymru, a bydd i baragraffau (d) i (j) adran 36 pennod XI[3] Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru gael ei hailrifo yn (e) i (k) a bydd i baragraff newydd (d) gael ei osod i mewn yn darllen:
(d) Deddf Anallu Clerigwyr, 1870;

 

2.

 

(1) Gall unrhywun a dderbyniwyd (cyn neu wedi cyhoeddi’r Canon hwn) i swydd clerig yn yr Eglwys yng Nghymru, wedi iddo ymddiswyddo o’r cyfryw swydd neu o unrhyw a phob penodiad a ddaliwyd ganddo ef neu ganddi hi yn yr Eglwys yng Nghymru gyflawni Gweithred Ildio yn ôl y ffurf a osodir yn yr atodlen i’r Canon hwn.

(2) O fewn wyth dydd ar hugain wedi cyflawni’r cyfryw weithred rhaid i’r dywededig glerig:

(a) beri i’r cyfryw gael ei chofrestru yn Swyddfa Arglwydd Archesgob Cymru;

(b) drosglwyddo copi swyddfa o’r cyfryw gofrestriad i Esgob yr esgobaeth lle’r oedd ef neu hi’n dal penodiad ddiwethaf, neu os nad yw ef neu hi wedi dal unrhyw benodiad yna i Esgob yr esgobaeth lle mae ef neu hi yn byw ar y pryd, gan nodi yn y naill achos a’r llall lle mae ef neu hi in byw ar hyn o bryd;

(c) wedi cyflwyno copi swyddfa i Esgob Esgobaeth yn unol ag is-adran (2)(b) o hynyma roi rhybudd o wneud hynny i Archesgob y dalaith lle mae’r esgobaeth;
oni wneir hyn bydd y Weithred yn cael ei hystyried yn ddiddim.

(3) Ar ddiwedd chwe mis wedi i gopi swyddfa o gofrestriad Gweithred Ildio gael ei drosglwyddo yn y modd hwn i Esgob, bydd iddo ef neu ei olynydd yn y swydd, ar gais ysgrifenedig y sawl sy’n cyflawni’r Weithred, beri i’r Weithred gael ei chofrestru yn Swyddfa Cofrestrydd yr esgobaeth, ac ar hynny ac wedi hynny (ond nid cyn hynny) bydd i’r canlyniadau a ganlyn ddilyn ynglŷn â’r sawl sy’n cyflawni’r Weithred:

(a) ni fydd ef neu hi yn alluog i weinyddu neu weithredu mewn unrhyw fodd fel clerig o’r Eglwys yng Nghymru, nac i gymryd neu ddal unrhyw benodiad ynddi, a bydd yn peidio â mwynhau pob hawliau, breintiau, manteision a rhyddfreintiau sy’n perthyn i swydd clerig yn y Eglwys yng Nghymru;

(b) bydd pob trwydded, swydd, a lle a ddaliwyd ganddo neu ganddi y mae’n gymhwyster anhepgor yn ôl y gyfraith fod y sawl sy’n dal y cyfryw yn glerig o’r Eglwys yng Nghymru ipso facto yn cael eu terfynu a’u gwneud yn ddi-rym;

(c) bydd ef neu hi yn rhinwedd y Canon hwn yn cael ei ryddhau neu ei rhyddhau ac yn rhydd o bob anallu, anghymhwyster, rhwystr a gwaharddiad y byddai ef neu hi, pe na bai’r Canon hwn neu Ddeddf Anallu Clerigwyr, 1870, wedi eu cyhoeddi, drwy rym unrhyw ddeddfiad a nodwyd yn atodlen gyntaf Deddf Anallu Clerigwyr, 1870, neu unrhyw gyfraith arall, yn ddarostyngedig iddynt fel un a dderbyniwyd i swydd clerig yn yr Eglwys yng Nghymru, ac o bob awdurdod, cosb, cerydd, a gweithrediad y byddai neu y gallai ef neu hi, pen na bai’r Canon hwn wedi ei gyhoeddi, dan unrhyw o’r cyfryw ddeddfiadau neu unrhyw gyfraith arall, fod yn atebol neu’n agored iddynt o ganlyniad iddo neu iddi gael ei dderbyn neu ei derbyn yn y cyfryw fodd, ac o unrhyw weithred neu beth a wnaeth neu a adawodd ef neu hi heb ei wneud wedi’r cyfryw dderbyniad.
Dan yr amod os na fydd y cyfryw gais ysgrifenedig wedi ei dderbyn ar ddiwedd naw mis wedi’r cofrestriad, bydd y Weithred yn cael ei hystyried yn ddiddim a’r Weithred wreiddiol yn cael ei chadarnhauyn unol â hynny.

(4) I bwrpas unrhyw achosion cyfreithiol a gychwynnwyd o fewn y dywededig gyfnod o chwe mis yn erbyn un sy’n cyflawni Gweithred Ildio o dan y Canon hwn, dylai gwasanaeth unrhyw wŷs, rhybudd neu ddogfennau eraill yn y lle a nodwyd ganddo neu ganddi yn unol â’r Canon hwn fod yn wasanaeth digonol.

(5) Bydd copi o’r cofnod yn Swyddfa Cofrestrydd esgobaeth o Weithred Ildio dan y Canon hwn, wedi ei gymryd yn briodol a’i ardystio gan y Cofrestrydd, yn dystiolaeth fod y Weithred wedi ei chyflawni, ei chofrestru a’i chofnodi, a bod holl ofynion y Canon hwn wedi eu cwblhau ynglŷn â hynny. Bydd i’r Cofrestrydd, ar gais y sawl sy’n cyflawni’r Weithred, roi iddo neu iddi gopi o’r cofnod ohoni wedi ei gymryd a’i ardystio’n briodol, ar dderbyn taliad am y cofnodi a’r copi o hynny.

(6) Ni fydd i un dim yn y Canon hwn ryddhau unrhywun na’i ystad rhag unrhyw rwymedigaeth ynglŷn ag adfeiliad nac o unrhyw ddyled neu gyfrifoldeb ariannol arall a achoswyd neu a ddigwyddodd na chyn nac wedi iddo neu iddi gyflawni Gweithred Ildio dan y Canon hwn, a gellir gorfodi ac adfeddiannu’r cyfryw fel pe na bai’r Canon hwn neu Ddeddf Anallu Clerigwyr, 1870, wedi eu cyhoeddi.

3.

(1) Gall unrhywun a ildiodd hawliau, breintiau, manteision a rhyddfreintiau swydd clerig yn yr Eglwys yng Nghymru yn y modd a ddarperir gan Ddeddf Anallu Clerigwyr, 1870, neu’r Canon hwn, ar unrhyw adeg wedi i’r Weithred Ildio a gyflawnwyd ganddo neu ganddi gael ei chofnodi yn Swyddfa Cofrestrydd esgobaeth, gyflwyno i Archesgob y Dalaith lle mae’r cyfryw esgobaeth ddeiseb ysgrifenedig wedi ei gwireddu gan ddatganiad statudol yn gosod allan:

(a) yr amgylchiadau a’r rhesymau y cyflawnodd ef neu hi’r Weithred Ildio o’u herwydd;

(b) natur y gwaith neu’r gorchwyl yr oedd ef neu hi’n ymwneud ag ef a’r lle neu’r lleoedd y bu ef neu hi’n byw ynddynt ar ôl cyflawni’r Weithred Ildio;

(c) yr amgylchiadau a’r rhesymau y mae ef neu hi yn dymuno ailafael mewn swydd clerig gweinyddol o’u herwydd.

(2) Bydd i’r Archesgob ar ôl ymgynghori ag Esgob yr esgobaeth, nad yw’n ei esgobaeth ef ei hun, lle cofnodwyd y Weithred Ildio, ac ar ôl unrhyw ymholi ac ymgynghori arall y bydd ef yn ystyried eu bod yn angenrheidiol yn cyfleu ei benderfyniad i’r deisebydd, a gall, os bydd yn ystyried hynny’n gymwys, naill ai ar unwaith neu ymhen ysbaid, mewn ysgrifen dan ei law a’i sêl archesgobol, ofyn am ddileu cofrestru’r Weithred Ildio a gyflawnwyd gan y deisebydd.

(3) Ar dderbyn y cyfryw gais bydd i’r cyfryw gofrestriad, yn ddarostyngedig i gydymffurfio ag unrhyw ddeddfau Llys, gael ei ddileu.

(4) Wedi dileu cofrestriad Gweithred Ildio dan y Canon hwn, neu Ddeddf Anallu Clerigwyr, 1870, bydd i Esgob yr esgobaeth y mae’r cyfryw weithred wedi ei chofnodi yn Swyddfa ei Chofrestrydd beri bod dileu ei chofrestriad yn yr un modd yn cael ei gofnodi yn y cyfryw Swyddfa ac ar hynny, ynglŷn â’r sawl a gyflawnodd y Weithred, bydd i’r canlyniadau a nodwyd ym mharagraffau (1) a (3) adran 4 Deddf Anallu Clerigwyr, 1870, neu baragraffau (a) a (c) adran 2 y Canon hwn, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Canon hwn, beidio â bod yn effeithiol.

(5) Ni fydd Clerig a gyflawnodd Weithred Ildio, y cofnodwyd dileu ei chofrestriad dan y Canon hwn, yn ystod cyfnod o ddwy flynedd wedi cofnodi’r dilead, yn alluog i ddal unrhyw fywoliaeth na phenodiad arall, gan gynnwys swydd ciwrad a drwyddedwyd dan sêl, ond, yn ddarostyngedig fel y dywedwyd uchod, gall i’r cyfryw raddau a than y cyfryw amodau ag y penderfyno Esgob unrhyw esgobaeth, weinyddu fel clerig yn y cyfryw esgobaeth gyda chaniatâd y cyfryw Esgob.

(6) Wedi’r cyfnod dywededig o ddwy flynedd bydd y cyfryw glerig yn alluog i ddal unrhyw fywoliaeth neu benodiad fel y dywedwyd uchod y mae ef neu hi yn addas i’w dal o fewn darpariaethau Cyfansoddiad neu Gyfraith Ganon yr Eglwys yng Nghymru yn unrhyw esgobaeth, yn ddarostyngedig i dderbyn yn gyntaf ganiatâd Esgob y cyfryw esgobaeth, ac fel y gall y caniatâd a roir dan yr is-adran hon fod naill ai yn ganiatâd cyffredinol neu’n ganiatâd a roddwyd ar gyfer rhyw fywoliaeth neu benodiad neilltuol.

(7) Bydd copi o gofnod yn Swyddfa Cofrestrydd esgobaeth yn dileu dan y Canon hwn gofrestru Gweithred Ildio wedi ei gymryd yn briodol a’i ardystio gan Gofrestrydd yr esgobaeth yn brawf o’r cyfryw ddilead ac o gofnodi’r cyfryw ddilead.

(8) Bydd i Gofrestrydd yr esgobaeth, ar gais y Clerig dan sylw, roi iddo neu iddi gopi o’r cyfryw gofnod wedi ei gymryd a’i ardystio’n briodol, ar dderbyn taliad.

4.

Ailrifer is-adrannau (2) i (4) adran 25[4] Pennod XI Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru yn is-adrannau (3) i (5), a gosod i mewn yr is-adran (2) newydd a ganlyn:
(2) Pan fo cyhuddiad dan adran 18(e)(ii) o hynyma am ymddygiad sy’n rhoi achos cyfiawn i gywilydd neu dramgwydd wedi ei ddwyn yn erbyn clerig o’r Eglwys yng Nghymru gan Esgob yr esgobaeth lle mae ef neu hi yn dal swydd neu’n byw, gall dyfarniad, dedfryd neu orchymyn Llys y Dalaith gynnwys argymhelliad i’r dywededig Esgob fod y clerig yn cael ei ddiswyddo neu ei diswyddo o Urddau Sanctaidd a’i ddiarddel neu ei diarddel o swydd clerig yr Eglwys yng Nghymru, a gall yr Esgob wneud y cyfryw orchymyn ar yr argymhelliad fel y barno ef yn gymwys, dan yr amod bob amser os bydd iddo wneud gorchymyn diswyddo a diarddel:

(a) fod iddo gyflawni Gweithred Diswyddo a Diarddel;

(b) fod iddo beri i’r cyfryw gael ei chofrestru yn Swyddfa Cofrestrydd Arglwydd Archesgob Cymru;

(c) fod Cofrestrydd yr Archesgob ar unwaith yn trosglwyddo copi swyddfa o’r cofrestriad i Esgob yr esgobaeth a’r clerig, ac yn rhoi rhybudd i’r Archesgob ei fod wedi gwneud hynny.

O fewn chwe mis wedi cofrestru’r Weithred, gall y clerig apelio mewn rhybudd ysgrifenedig wedi ei drosglwyddo i Gofrestrydd yr Archesgob yn erbyn dyfarniad yr Esgob at Synod Daleithiol yr Eglwys yng Nghymru, a bydd ei dyfarniad hi yn derfynol. Ar ddiwedd y chwe mis wedi cofrestru’r Weithred neu, pe digwyddai apêl yn uniongyrchol wedi dyfarnu’r cyfryw apêl gan y Synod Daleithiol bydd i’r Esgob neu ei olynydd yn ei swydd beri i’r Weithred gael ei chofnodi yn Swyddfa Cofrestrydd yr esgobaeth, ac ar hynny ac wedi hynny (ond nid cyn hynny) bydd i’r un canlyniadau ddilyn ynglŷn â’r sawl a ddiswyddwyd ac a ddiarddelwyd yn y Weithred â phe bai ef neu hi wedi cyflawni, cofrestru a chofnodi Gweithred Ildio.

5.

Gellir dileu Gweithred Diswyddo a Diarddel a gyflawnwyd yn unol ag adran 25(2) [5] pennod XI Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru yn yr un ffurf a modd, a chyda’r un effaith, â Gweithred Ildio, yn unol â darpariaethau adran 3 o hynyma.

6.

Dileër adran 34[6] pennod XI y Cyfansoddiad a gosod a ganlyn yn ei lle:

34.

Yn ddarostyngedig I ddarpariaethau’r Cyfansoddiad bydd o fewn gallu’r Archesgob, Esgob Cadeiriol, Llys y Dalaith, Llys Arbennig y Dalaith a’r Goruchel Lys gyhoeddi dedfryd o rybudd, ataliad neu ddeoliad o swydd mewn Urddau Sanctaidd, neu ddiarddel o Urddau Sanctaidd a deol o swydd, glerig yn yr Eglwys yng Nghymru.

7.

Y mae’r Canon hwn i’w ddyfynnu fel Canon Anallu Clerigion, 1990.

Yr Atodlen

 

Ffurf Gweithred Ildio

Bydded hysbys i bawb drwy’r presenolion hyn, fy mod i

A.B o
wedi cael fy nerbyn i swydd offeiriad (neu ddiacon fel y bo’r achos) yn yr Eglwys yng Nghymru ac wedi ymddiswyddo (yma gosoder disgrifiad o’r penodiad diwethaf, os oedd un) drwy hynyma, yn unol â’r Canon Anallu Clerigion, 1990, yn datgan fy mod yn ildio pob hawliau, breintiau, manteision a rhyddfreintiau y swyddi sydd drwy gyfraith yn perthyn iddi.

YN DYST I HYN yr wyf yn gosod fy llaw a’m sêl ar hynyma
y dydd hwn o 20

(Arwyddwyd) A.B.
(Seliwyd)

Cyflawnwyd gan A.B. ym mhresenoldeb
C.D.
o (cyfeiriad y tyst)

Yn ôl I Tabl Cynnwys

I DDIWYGIO’R GYFRAITH GANON

YNGLŶN AG OED ORDEINIO I’R OFFEIRIADAETH

 

(Cyhoeddwyd 19 Ebrill 1990)

GAN FOD Deddf yr Eglwys yng Nghymru, 1914, wedi rhoi galluoedd i’r Eglwys yng Nghymru newid a goleddfu cyfraith eglwysig, gan gynnwys y gallu i newid neu oleddfu y cyfryw gyfraith fel y mae wedi ei hymgorffori mewn Deddfau Seneddol.

A CHAN EI BOD yn ddymunol fod Deddf Ordeinio Clerigwyr, 1804, yn peidio â ffurfio rhan o gyfraith ganon yr Eglwys yng Nghymru ac y dylid ystyried iddi beidio â ffurfio rhan o gyfraith ganon yr Eglwys yng Nghymru oddi ar adeg y Datgysylltiad.

A CHAN EI BOD yn ddymunol awdurdodi Archesgob Cymru i gyhoeddi Caniatâd fel y gall rhai sydd heb gyrraedd pedair blwydd ar hugain oed gael eu hordeinio i’r offeiriadaeth dan yr amod eu bod wedi cyrraedd tair blwydd ar hugain oed.

DEDDFER DRWY HYN fel y canlyn:

1.

(1) Bydd Deddf Ordeinio Clerigwyr, 1804, yn peidio â ffurfio rhan o gyfraith eglwysig yr Eglwys yng Nghymru, ac ystyrir iddi beidio â ffurfio rhan o gyfraith eglwysig yr Eglwys yng Nghymru oddi ar 30 Mawrth 1920.

(3) Ailrifer paragraffau (a) i (k) adran 36[7] Pennod XI Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru yn (b) i (l) a gosod i mewn baragraff newydd (a) yn darllen:
(a) Deddf Ordeinio Clerigwyr, 1804;

2.

Bydd yn gyfreithlon i Archesgob Cymru ganiatáu Hawleb i’r sawl sydd dros dair ar hugain oed gael ei dderbyn yn Offeiriad mewn unrhyw Esgobaeth yn Nhalaith Cymru a phregethu a gweinyddu’r Sacramentau er nad yw’r cyfryw wedi cyrraedd yr oed llawn o bedair blwydd ar hugain.

3.

Dyfynner y Canon hwn fel Canon Oed Ordeinio, 1990.

Yn ôl I Tabl Cynnwys

 

I GANIATÁU SEFYDLU PROSIECTAU ECWMENAIDD LLEOL

 

(Cyhoeddwyd 26 Medi 1991)

GAN FOD yr Eglwys yng Nghymru wedi ymrwymo i gyfamodi gydag Eglwysi eraill i weithio a gweddïo er undeb yng Nghymru, a thrwy hynny yn cydnabod aelodau yr holl gyfryw eglwysi yn aelodau yng Nghrist yn rhinwedd eu bedydd cyffredin a’r alwad gyffredin i gyfranogi yng ngweinidogaeth yr holl Eglwys.

A CHAN fod perthynas ecwmenaidd yng Nghymru eisoes wedi elwa ar gydweithredu ecwmenaidd lleol y mae’r Eglwys yng Nghymru wedi cymryd rhan ynddo dan awdurdod cyfiawn.

A CHAN ei bod yn ddymunol sefydlu prosiectau ecwmenaidd lleol dan drwydded esgob yr esgobaeth i hyrwyddo undeb llwyrach ymhlith holl Gristnogion Cymru.

DEDDFER DRWY HYNYMA fel a ganlyn:

1.

Wedi dod i gytundeb gydag awdurdodau priodol pob Eglwys sy’n cymryd rhan, bydd yn gyfreithlon i esgob esgobaeth yn yr Eglwys yng Nghymru awdurdodi drwy ddatganiad ysgrifenedig sefydlu prosiect ecwmenaidd mewn plwyf neu blwyfi, neu mewn rhan neu rannau o blwyf neu blwyfi, o fewn ei esgobaeth.
Dan yr amod na fydd i’r cyfryw brosiect gael ei sefydlu oni bai:

(a) fod Mainc Esgobion yr Eglwys yng Nghymru wedi cytuno arno;

(b) fod Cynhadledd Esgobaethol yr esgobaeth lle mae’r prosiect i’w sefydlu wedi cytuno arno;

(c) fod Cyngor neu Gynghorau Plwyf Eglwysig y plwyf neu’r plwyfi lle mae’r prosiect i’w sefydlu wedi cytuno drwy benderfyniad arno ac wedi cyfleu’r penderfyniad mewn ysgrifen i esgob yr esgobaeth;

(d) fod Periglor neu Beriglorion y plwyf neu’r plwyfi lle mae’r prosiect i’w sefydlu wedi cytuno arno;

2.

(1) Bydd yn gyfreithlon i esgob esgobaeth yn yr Eglwys yng Nghymru awdurdodi’r canlynol i weinyddu o fewn prosiect ecwmenaidd lleol:
(i) clerigion, diaconesau, darllenwyr trwyddedig ac aelodau eraill o’r Eglwys yng Nghymru yn unol ag adran 5 o hynyma;
(ii) gweinidogion a awdurdodwyd yn rheolaidd ac aelodau eraill Eglwysi, heblaw’r Eglwys yng Nghymru neu Eglwys sydd mewn cymundeb â’r Eglwys yng Nghymru, ac sy’n addef y Ffydd Drindodol ac sy’n gweinyddu sacramentau Bedydd a Chymun Bendigaid yn unol ag adran 7 o hynyma.

(2) Rhaid i glerigion, diaconesau, darllenwyr trwyddedig ac aelodau o’r Eglwys yng Nghymru sydd i weinyddu’n rheolaidd o fewn prosiect ecwmenaidd lleol ddal trwydded yn unol â darpariaethau adran 5 o hynyma.

(3) Rhaid i glerigion, diaconesau, darllenwyr trwyddedig ac aelodau o’r Eglwys yng Nghymru neu o Eglwysi mewn cymundeb â’r Eglwys yng Nghymru sydd i weinyddu’n achlysurol o fewn prosiect ecwmenaidd lleol gael caniatâd ysgrifenedig esgob yr esgobaeth i weinyddu yno gan ddefnyddio dim ond y ffurfiau gwasanaeth a gymeradwywyd gan esgob yr esgobaeth.

(4) Rhaid i weinidogion a awdurdodwyd yn rheolaidd ac aelodau Eglwysi eraill fel y nodwyd uchod sydd i weinyddu’n gyson o fewn prosiect ecwmenaidd lleol ddal awdurdod mewn ysgrifen yn unol ag adran 7 o hynyma.

3.

Wedi ymgynghori ag awdurdodau priodol pob Eglwys sy’n cymryd rhan, gall Mainc Esgobion yr Eglwys yng Nghymru, o bryd i’w gilydd, wneud rheoliadau ynglŷn â gweinyddu prosiect ecwmenaidd lleol.

4.

Wedi ymgynghori ag awdurdodau priodol pob Eglwys sy’n cymryd rhan, gellir terfynu prosiect ecwmenaidd lleol a sefydlwyd fel y deddfir yma ar unrhyw amser drwy benderfyniad esgob yr esgobaeth, a bydd i’r cyfryw benderfyniad gael ei gyfleu i bob un a awdurdodwyd i weinyddu o fewn y prosiect ac i bob un neu bob corff yr oedd angen ei ganiatâd er mwyn ei sefydlu.

5.

Bydd yn gyfreithlon o fewn a thrwy holl Dalaith Cymru i glerig, diacones, darllenydd trwyddedig neu aelod arall o’r Eglwys yng Nghymru weinyddu mewn unrhyw un neu fwy o’r gwasanaethau a nodir yn yr Atodlen Gyntaf i’r Canon hwn yn y cyfryw addoldy neu addoldai crefyddol heb fod yn perthyn i’r Eglwys yng Nghymru ag a ganiateir dan drwydded gan esgob yr esgobaeth.
Dan yr amod:

(a) fod y clerig, diacones, darllenydd trwyddedig neu aelod arall o’r Eglwys yng Nghymru yn dal trwydded oddi wrth esgob yr esgobaeth yn caniatáu iddo ef neu hi weinyddu yn y cyfryw wasanaethau yn y plwyf neu’r plwyfi lle mae’r addoldy neu’r addoldai crefyddol a enwyd yn y drwydded wedi eu lleoli;

(b) fod y ffurf neu’r ffurfiau gwasanaeth i’w defnyddio wedi eu cymeradwyo gan esgob yr esgobaeth;
(c) fod ymddiriedolwyr neu gorff llywodraethol yr addoldy neu’r addoldai crefyddol yn cytuno i’r clerig, diacones, darllenydd trwyddedig neu aelod arall o’r Eglwys yng Nghymru weinyddu yn y cyfryw fodd;

(d) na all clerig, diacones, darllenydd trwyddedig neu aelod arall o’r Eglwys yng Nghymru gyflawni dim ond dyletswydd gyffelyb i’r un y mae ef neu hi wedi ei awdurdodi neu ei hawdurdodi i’w chyflawni yn yr Eglwys yng Nghymru.

6.

Gall clerig, diacones, darllenydd trwyddedig neu aelod o’r Eglwys yng Nghymru sy’n gweinyddu yn unol â darpariaethau adran 5 o hynyma gael caniatâd gan esgob yr esgobaeth i fod yn bresennol, siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd y cyfryw Eglwys neu Eglwysi y gwahoddwyd ef neu hi iddynt yn rhinwedd ei weinidogaeth neu ei gweinidogaeth o fewn telerau adran 5 o hynyma.

7.

Bydd yn gyfreithlon o fewn a thrwy holl Dalaith Cymru i weinidog a awdurdodwyd yn rheolaidd neu aelod arall o Eglwys, heblaw’r Eglwys yng Nghymru neu Eglwys sydd mewn cymundeb ’r Eglwys yng Nghymru, ac sy’n addef y Ffydd Drindodol ac sy’n gweinyddu sacramentau Bedydd a Chymun Bendigaid weinyddu mewn un neu fwy o’r gwasanaethau a nodir yn yr Ail Atodlen i’r Canon hwn yn y cyfryw blwyf neu blwyfi ag a ddynodir drwy awdurdod mewn ysgrifen oddi wrth esgob yr esgobaeth lle mae’r plwyf neu’r plwyfi.
Dan yr amod:

(a) fod y sawl a nodwyd uchod yn dal awdurdod mewn ysgrifen oddi wrth esgob yr esgobaeth yn caniatáu iddo neu iddi weinyddu yn y cyfryw wasanaeth neu wasanaethau yn y plwyf neu’r plwyfi a enwyd ynddo;

(b) mai’r ffurf neu’r ffurfiau gwasanaeth a ddefnyddir ac eithrio’r Cymun Sanctaidd fydd y rhai a gynhwysir yn y Llyfr Gweddi Gyffredin i’w arfer yn yr Eglwys yng Nghymru neu a ganiateir mewn rhyw fodd arall gan awdurdod cyfreithlon neu a gymeradwyir gan esgob yr esgobaeth;

(c) mai gweinidog a awdurdodwyd yn rheolaidd fydd yn llywyddu yng ngwasanaeth y Cymun Sanctaidd ac mai’r ffurf wasanaeth ar gyfer gweinyddu’r Cymun Sanctaidd fydd Gwasanaeth y Cymun Sanctaidd a baratowyd gan Gomisiwn yr Eglwysi Cyfamodol;

(d) fod yr esgob yn sicrhau mai gwasanaeth y Cymun Bendigaid yn ôl defod yr Eglwys yng Nghymru a weinyddir ar Ddydd Nadolig, Dydd y Pasg, Dydd Iau’r Dyrchafael a Dydd y Pentecost o fewn y plwyf neu’r plwyfi arbennig lle gofynnir am hyn gan gymunwyr o fewn y prosiect;

(e) fod awdurdod neu awdurdodau Eglwys arbennig y sawl a nodwyd uchod wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig iddo neu iddi gael gweinyddu o fewn yr Eglwys yng Nghymru;

(f) fod Cyngor neu Gynghorau Plwyf Eglwysig y plwyf neu’r plwyfi lle mae’r sawl a nodwyd uchod i weinyddu wedi cytuno drwy benderfyniad i dderbyn ei weinidogaeth neu ei gweinidogaeth ac wedi cyfleu’r penderfyniad mewn ysgrifen i esgob yr esgobaeth;

(g) na all y sawl a nodwyd uchod gyflawni o fewn yr Eglwys yng Nghymru dim ond dyletswydd yr awdurdodwyd ef neu hi i’w chyflawni o fewn ei Eglwys neu ei Heglwys ei hun.

(h) fod y sawl a nodwyd uchod mewn cytundeb ysgrifenedig wedi ymrwymo i gadw cyfarwyddiadau esgob yr esgobaeth neu’r cyfryw awdurdod cyfreithiol arall y gall Mainc Esgobion yr Eglwys yng Nghymru ei ystyried yn fuddiol gyda golwg ar ei weithgarwch neu ei gweithgarwch dan awdurdod mewn ysgrifen.

8.

(1) Gall Mainc Esgobion yr Eglwys yng Nghymru, o bryd i’w gilydd, ynglŷn â gweinyddu plwyf neu blwyfi lle mae gweinidog a awdurdodwyd yn rheolaidd neu aelod o Eglwys, heblaw’r Eglwys yng Nghymru neu Eglwys sydd mewn cymundeb â’r Eglwys yng Nghymru, yn gweinyddu yn unol ag adran 7 o hynyma, lle nad yw’r cyfryw blwyf neu blwyfi yn rhan o brosiect ecwmenaidd lleol wneud rheoliadau i ddarparu ar gyfer:

(a) ei hawl ef neu hi i fod yn bresennol, siarad a phleidleisio yng nghyfarfodydd y Festri, Cyngor Plwyf Eglwysig, Cynhadledd Deoniaeth Wlad, Cabidwl Deoniaeth a chyrff eraill o’r fath;

(b) enwebu’r warden sydd i’w benodi gan y Periglor yn unol ag adran 17 pennod VI[8] y Cyfansoddiad;

(c) dyletswyddau byw yn y persondy a chynnal y cyfryw;

(d) cymhwyso rheolau a rheoliadau ynglŷn â chladdu a chladdfeydd o fewn y plwyf;

(e) y cyfryw faterion eraill ynglŷn â gweinyddu’r plwyf ag a ystyria Mainc yr Esgobion, o bryd i’w gilydd, yn fuddiol.

(2) Ni fydd rheoliadau a wnaed yn unol ag is-adran 1 o hynyma yn gyfreithlon ond pan gymeradwyir hwy gan Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru, eithr ni fydd adrannau 37[9] a 439 pennod II y Cyfansoddiad i’w cymhwyso at drefn cais am y cyfryw ganiatâd.

9.

Gall esgob yr esgobaeth, mewn ysgrifen, dynnu’n ôl, ar unrhyw adeg, drwydded a roddwyd yn unol ag adran 5 o hynyma neu awdurdod mewn ysgrifen yn unol ag adran 7 o hynyma.

10.

(1) Lle bydd clerig, diacones, darllenydd trwyddedig neu aelod arall o’r Eglwys yng Nghymru wedi ei benodi neu ei phenodi gan esgob yr esgobaeth drwy drwydded i swydd amhlwyfol o fewn gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru, bydd yn gyfreithlon i esgob yr esgobaeth, wedi dod i gytundeb ag awdurdodau priodol pob Eglwys sy’n cymryd rhan, drwy ddatganiad mewn ysgrifen awdurdodi o fewn ei esgobaeth sefydlu prosiect ecwmenaidd lleol yn cynnwys y cyfryw weinidogaeth amhlwyfol.

(2) Bydd i baragraffau (a) a (b) yr amod i adran 1 o hynyma, ac adrannau 2 i 9 o hynyma gael eu cymhwyso mewn perthynas â phrosiectau ecwmenaidd lleol a awdurdodwyd yn rhinwedd yr adran hon, ac eithrio bod paragraff (f) amod adran 7, ac adran 8 i’w dileu.

11.

(1) Nid yw dim a gynhwysir yn y Canon hwn i’w gymryd yn effeithio ar neu i’w ystyried yn effeithio ar:
(i) y datganiad o ufudd-dod canonaidd y bydd clerig yn yr Eglwys yng Nghymru yn ei wneud;
(ii) y datganiad a wnaed ac a arwyddwyd gan glerig yn yr Eglwys yng Nghymru yn unol ag adran 66 pennod VII[10] Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru;
(iii) ffydd, disgyblaeth, erthyglau, datganiadau athrawiaethol, defodau, seremonïau a ffurfiaduron yr Eglwys yng Nghymru.

(2) Ni fydd darpariaethau adran 4, pennod I[11] y Cyfansoddiad i’w cymhwyso at y Canon hwn.

12.

Dyfynner y Canon hwn fel Canon Prosiectau Ecwmenaidd Lleol, 1991.

YR ATODLEN GYNTAF

Gwasanaethau lle gall clerigion, diaconesau, darllenwyr trwyddedig ac aelodau o’r Eglwys yng Nghymru weinyddu ynddynt dan ddarpariaethau adran 5 y Canon hwn.

Y Cymun Sanctaidd

Bedydd Sanctaidd

Conffyrmasiwn/Gwasanaeth Derbyn

Oedfa’r Bore

Oedfa’r Hwyr

Gweinidogaeth Iacháu

Claddedigaeth y Meirw

YR AIL ATODLEN

Gwasanaethau lle gall gweinidog a awdurdodwyd yn rheolaidd ac aelodau enwadau eraill wasanaethu yn unol â darpariaethau adran 7 y Canon hwn.

Y Cymun Sanctaidd yn ôl Gwasanaeth y Cymun Sanctaidd a baratowyd gan Gomisiwn yr Eglwysi Cyfamodol

Bedydd Sanctaidd

Y Foreol Weddi

Yr Hwyrol Weddi

Y Litani

Cymun y Claf

Claddedigaeth y Meirw

Yn ôl I Tabl Cynnwys

 

I GYFLAWNI CYHOEDDIAD PORVOO

 

(Cyhoeddwyd 28 Medi 1995)

GAN FOD Eglwysi Anglicanaidd Prydain ac Iwerddon ac Eglwysi Lutheraidd y gwledydd Nordic a Baltic wedi cyrraedd dealltwriaeth gyffredin am natur a diben yr Eglwys, cytundeb sylfaenol ar ffydd a chytundeb ynghylch esgobyddiaeth yng ngwasanaeth apostoligrwydd yr Eglwys.

A CHAN MAI dymunol fod yr Eglwys yng Nghymru yn uno gyda’r Eglwysi eraill i wneud cyhoeddiad ynghylch cydnabod ac ymroddiad o’r ddwy ochr.

DEDDFER A CHYHOEDDER DRWY HYNYMA FOD yr Eglwys yng Nghymru yn cytuno i ymuno â’r Eglwysi a restrir yn yr Ail Atodlen i hynyma i wneud y Cyhoeddiad a osodir allan yn yr Atodlen Gyntaf i hynyma.

 

YR ATODLEN GYNTAF

CYHOEDDIAD PORVOO

Yr ydym ni, Eglwys Denmarc, Eglwys Loegr, Eglwys Efengylaidd-Lutheraidd Estonia, Eglwys Efengylaidd-Lutheraidd Ffinland, Eglwys Efengylaidd-Lutheraidd Ynys-yr-Iâ, Eglwys Iwerddon, Eglwys Efengylaidd-Lutheraidd Latfia, Eglwys Efengylaidd-Lutheraidd Lithuania, Eglwys Norwy, Eglwys Esgobaethol yr Alban, Eglwys Sweden a’r Eglwys yng Nghymru, ar sail ein dealltwriaeth gyffredin am natur a diben yr Eglwys, cytundeb sylfaenol ar ffydd a’n cytundeb ar esgobyddiaeth yng ngwasanaeth apostoligrwydd yr Eglwys, a gynhwysir ym Mhenodau II-IV The Porvoo Common Statement yn gwneud y cydnabyddiaethau a’r ymroddiadau a ganlyn:

(a) (i) yr ydym yn cydnabod eglwysi’r naill y llall yn eglwysi’n perthyn i Un Eglwys, Lân, Gatholig ac Apostolig Iesu Grist ac sy’n gwir gyfranogi yng nghenhadaeth apostolig holl bobl Dduw;
(ii) yr ydym yn cydnabod fod Gair Duw’n cael ei bregethu’n ddiffuant yn ein holl eglwysi, a sacramentau bedydd a’r cymun bendigaid yn cael eu gweinyddu’n ddyladwy;
(iii) yr ydym yn cydnabod fod ein holl eglwysi’n cyfranogi yng nghyffes gyffredinol y ffydd apostolig;
(iv) yr ydym yn cydnabod fod gweinidogaethau ordeiniedig y naill a’r llall yn cael eu rhoi gan Dduw fel gweithredoedd o’i ras ac yn cynnwys nid yn unig alwad fewnol yr Ysbryd, ond hefyd gomisiwn Crist drwy ei gorff, yr Eglwys;
(v) yr ydym yn cydnabod fod arolygiaeth (episcope) bersonol, golegol a rhanbarthol wedi ei hymgorffori ac yn cael ei gweithredu yn ein holl eglwysi mewn amryfal ffyrdd, er parhâd bywyd, cenhadaeth a gweinidogaeth apostolig;
(vi) yr ydym yn cydnabod fod y swydd esgobol yn cael ei gwerthfawrogi a’i chynnal yn ein holl eglwysi fel arwydd gweladwy yn mynegi ac yn gwasanaethu undod a pharhâd yr Eglwys, mewn bywyd, cenhadaeth a gweinidogaeth apostolig.

(b) Yr ydym yn ymrwymo:
(i) i rannu bywyd cyffredin mewn cenhadaeth a gwasanaeth, i weddïo dros a chyda’n gilydd, ac i rannu adnoddau;
(ii) i groesawu aelodau’n gilydd i dderbyn gweinidogaethau sacramentaidd a bugeiliol eraill;
(iii) i ystyried aelodau bedyddiedig ein holl eglwysi fel aelodau o’n heglwysi ni ein hunain;
(iv) i groesawu cynulleidfaoedd eglwysi a chwalwyd (diaspora) i fywyd yr eglwysi cynhenid, er cyfoethogi’r naill a’r llall;
(v) i groesawu’r rhai a ordeiniwyd gan esgob unrhyw un o’n heglwysi i swydd esgob, offeiriad neu ddiacon, i wasanaethu trwy wahoddiad ac yn unol ag unrhyw reoliadau a allai fod mewn grym o bryd i’w gilydd, yn y weinidogaeth honno yn yr eglwys sy’n eu derbyn heb eu hail-ordeinio;
(vi) i wahodd esgobion y naill a’r llall i gymryd rhan yn rheolaidd mewn arddodiad dwylo wrth ordeinio esgobion fel arwydd o undod a pharhâd yr eglwys;
(vii) i weithio tuag at ddealltwriaeth gyffredin o weinidogaeth ddiaconaidd;
(viii) i sefydlu ffurfiau priodol o ymgynghori ar lefel coleg a chyngor ar faterion pwysig ffydd, trefn, bywyd a gwaith;
(ix) i gefnogi ymgynghori rhwng cynrychiolwyr ein heglwysi, a hyrwyddo dysgu a chyfnewid syniadau a gwybodaeth ar faterion diwinyddol a bugeiliol;
(x) i sefydlu grwp cysylltiol i feithrin ein twf mewn cymundeb ac i gyd-drefnu cyflawni’r cytundeb hwn.

 

YR AIL ATODLEN

Eglwys Loegr
Eglwys Efengylaidd-Lutheraidd Estonia
Eglwys Efengylaidd-Lutheraidd Ffinland
Eglwys Efengylaidd-Lutheraidd Ynys-yr-Iâ
Eglwys Iwerddon
Eglwys Efengylaidd-Lutheraidd Latfia
Eglwys Efengylaidd-Lutheraidd Lithuania
Eglwys Norwy
Eglwys Esgobaethol yr Alban
Eglwys Sweden

Yn ôl I Tabl Cynnwys

 

I ALLUOGI ORDEINIO BENYWOD YN OFFEIRIAID

 

(Cyhoeddwyd 19 Medi 1996)

GAN FOD y gyfraith ganon fel y derbynnir hi gan yr Eglwys yng Nghymru yn gwrthod derbyn benywod i Urddau Sanctaidd.

A CHAN FOD yr Eglwys yng Nghymru wedi darparu ar gyfer derbyn benywod i Urdd Sanctaidd Diaconiaid.

A CHAN MAI priodol yn awr yn yr Eglwys yng Nghymru fod benywod yn cael eu hordeinio yn Offeiriaid.

A CHAN MAI bwriad yr Eglwys yng Nghymru yw parhau gweinidogaeth yr Eglwys yn ei hurdd driphlyg Esgobion, Offeiriaid a Diaconiaid a pharhau’n rhan o’r Un Eglwys Lân, Gatholig ac Apostolig.

A CHAN FOD Mainc yr Esgobion yn ymrwymo’n unfrydol i weithredu ynghyd er mwyn sicrhau lle parhaol ym mywyd yr Eglwys yng Nghymru i bobl gydag argyhoeddiadau cydwybodol gwahanol ar y mater hwn, ac wedi cyhoeddi egwyddorion bugeiliol i’r perwyl hwn.

A CHAN FOD yr Eglwys yng Nghymru, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r gyfraith sifil ynglŷn â chamwahaniaethu rhywiol, yn dymuno parchu’r rhai sydd oherwydd cydwybod yn methu derbyn ordeinio benywod yn Offeriaid.

DEDDFER DRWY HYNYMA fel a ganlyn:

1.

O hyn allan yn yr Eglwys yng Nghymru gellir ordeinio benywod yn Offeiriaid.

2.

Ni fydd yn orfodol ar unrhyw Esgob ddod ag achosion o flaen Llys y Dalaith dan ddarpariaethau adran 18(e)(i) na (ii) Pennod XI[12] y Cyfansoddiad ynglŷn â chlerig neu aelod arall o’r Eglwys yng Nghymru a fydd yn anghydsynio oherwydd cydwybod â thelerau adran 1 o hynyma.

3.

Pa le bynnag yng Nghyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru, y Llyfr Gweddi Gyffredin i’w arfer yn yr Eglwys yng Nghymru neu unrhyw ffurf wasanaeth a awdurdodwyd yn gyfreithiol i’w arfer yn yr Eglwys yng Nghymru y bydd cyfeiriad at Offeiriad, ystyrir bod y cyfeiriad yn cynnwys benywod a ordeiniwyd yn Offeiriaid lle bo’r cyfryw ddehongliad yn unol â dibenion adran 1 o hynyma.

4.

Daw darpariaethau’r Canon hwn i rym ac effaith ar y cyfryw ddiwrnod ag a benodir gan Fainc yr Esgobion.

Yn ôl I Tabl Cynnwys

 

I DDILEU AMHEUAETH YNGLŶN Â PHRIODI WEDI YSGARIAD FEL
RHWYSTR DERBYNIAD I URDDAU SANCTAIDD

 

(Cyhoeddwyd 13 Medi 1998)

GAN FOD amheuaeth a yw priodi yn dilyn ysgariad a’r cyn-briod yn dal yn fyw neu briodi â pherson a gafodd ysgariad a chyn-briod y person hwnnw yn dal yn fyw yn rhwystr pam na ddylai person o’i herwydd gael ei dderbyn i Urddau Sanctaidd ai peidio.

A CHAN MAI dymunol yw dileu unrhyw amheuaeth o’r fath.

DEDDFER A CHYHOEDDER DRWY HYNYMA o’r dydd a benodir gan Fainc yr Esgobion i’r Canon hwn ddod i rym ac effaith y bydd:

(a) priodi yn dilyn ysgariad yn ystod bywyd cyn-briod; a

(b) priodi â pherson a gafodd ysgariad yn ystod bywyd cyn-briod y person hwnnw,

yn cael eu cydnabod yn rhwystrau canonaidd yn yr Eglwys yng Nghymru na ellir o’u herwydd dderbyn person i Urddau Sanctaidd;

dan yr amod y bydd gan Fainc yr Esgobion y gallu i ganiatáu eithriadau i’r rhwystrau hyn yn dilyn trafodaeth gyda phanel taleithiol o gynghorwyr wedi ei benodi dan awdurdod y Canon hwn ac yn cynnwys cynrychiolaeth o bob esgobaeth.

Yn ôl I Tabl Cynnwys

 

I GYFLAWNI CYTUNDEB REUILLY

 

(Cyhoeddwyd 27 Ebril 2000)

GAN FOD yr Eglwys o Gyffes Augsburg Alsace a Lorraine, Eglwys Efengylaidd-Lutheraidd Ffrainc, Eglwys Ddiwygiedig Alsace a Lorraine, Eglwys Ddiwygiedig Ffrainc, Eglwys Loegr, Eglwys Iwerddon, Eglwys Esgobaethol yr Alban a’r Eglwys yng Nghymru ar sail eu cytundeb sylfaenol ar ffydd, dealltwriaeth gyffredin ar natur a diben yr Eglwys a chydgyfeiriant ar apostoligrwydd yr Eglwys a’r weinidogaeth a gynhwysir ym Mhenodau II-VI Datganiad Cyffredinol Reuilly wedi gwneud cydnabyddiaethau ac ymrwymiadau penodedig

A CHAN MAI dymunol fod yr Eglwys yng Nghymru yn uno gyda’r Eglwysi eraill i wneud cyhoeddiad ynghylch y cyfryw gydnabyddiaethau ac ymrwymiadau o’r ddwy ochr

DEDDFER A CHYHOEDDER DRWY HYNYMA FOD yr Eglwys yng Nghymru yn cytuno i ymuno â’r Eglwysi eraill y cyfeiriwyd atynt uchod yn hynyma i wneud y cyhoeddiad a osodir allan yn yr Atodlen i hynyma.

YR ATODLEN

CYTUNDEB REUILLY

(a) Cydnabyddiaethau
(i) Yr ydym yn cydnabod eglwysi’r naill y llall yn eglwysi’n perthyn i Un Eglwys Lân, Gatholig ac Apostolig Iesu Grist ac sy’n gwir gyfranogi yng nghenhadaeth apostolig holl bobl Dduw.
(ii) Yr ydym yn cydnabod fod Gair Duw’n cael ei bregethu’n ddiffuant yn ein holl eglwysi, a sacramentau bedydd a’r cymun bendigaid yn cael eu gweinyddu’n ddyladwy.
(iii) Yr ydym yn cydnabod fod ein holl eglwysi’n cyfranogi yng nghyffes gyffredinol y ffydd apostolig.
(iv) Yr ydym yn cydnabod fod gweinidogaethau ordeiniedig y naill a’r llall yn cael eu rhoi gan Dduw fel gweithredoedd o ras er cenhadaeth ac undod yr Eglwys ac er cyhoeddi’r Gair a gweinyddu’r sacramentau.
(v) Yr ydym yn cydnabod fod gweinidogaeth ordeiniedig y naill a’r llall yn cynnwys nid yn unig alwad fewnol yr Ysbryd ond hefyd gomisiwn Crist drwy’r Eglwys, ac edrychwn ymlaen at yr amser pan fydd undod gweladwy llawnach ein heglwysi yn gwneud cydgyfnewid gweinidogion yn bosibl.
(vi) Yr ydym yn cydnabod fod arolygiaeth (episkope) bersonol, golegol a rhanbarthol wedi ei hymgorffori ac yn cael ei gweithredu yn ein holl eglwysi mewn amryfal ffyrdd, fel arwydd gweladwy yn mynegi ac yn gwasanaethu undod a pharhâd yr Eglwys mewn bywyd, cenhadaeth a gweinidogaeth apostolig.

(b) Ymrwymiadau
Yr ydym yn ymrwymo i rannu bywyd a chenhadaeth gyffredin. Cymerwn gamau tuag at gymdeithas agosach mewn cynifer o adrannau bywyd a thystiolaeth Gristnogol ag sy’n bosibl, fel y gall ein holl aelodau ynghyd symud ymlaen ar hyd y ffordd tuag at undod gweladwy llawn. Fel camau nesaf cytunwn:
(i) i geisio ffyrdd priodol o rannu bywyd cyffredin mewn cenhadaeth a gwasanaeth, o weddïo dros a chyda’n gilydd, ac o weithio tuag at rannu adnoddau ysbrydol a dynol;
(ii) i groesawu aelodau’n gilydd i addoldai ein gilydd a derbyn gweinidogaethau bugeiliol;
(iii) i groesawu aelodau’n gilydd i fywyd cynulleidfaol eglwysi’n gilydd;
(iv) i gefnogi rhannu addoliad. Pan fernir bod addoli ewcharistig yn briodol, gall fynd ymhellach na chroesawu unigolion i’r cymun bendigaid. Byddai cymryd rhan gan weinidogion ordeiniedig yn adlewyrchu presenoldeb dwy neu fwy o eglwysi gan ddatgan eu hundod agosach mewn ffydd a bedydd ac yn profi ein bod yn parhau i ymdrechu tuag at wneud yn fwy gweladwy undod yr Un Eglwys Lân, Gatholig ac Apostolig. Er hynny y mae’r cyfryw gyfranogi yn parhau’n fyr o lwyr ymgyfnewid gweinidogion. Y ddefod i’w defnyddio fyddai un yr Eglwys y mae’r gweinidog sy’n llywyddu yn perthyn iddi, a’r gweinidog hwnnw a ddylai ddweud y weddi ewcharistaidd;
(v) i groesawu gweinidogion ordeiniedig ein heglwysi i wasanaethu yn eglwysi’n gilydd, yn unol â disgyblaeth ein priod eglwysi, i’r graddau a wneir yn bosibl drwy’n cytundeb;
(vi) i barhau trafodaethau diwinyddol rhwng ein heglwysi i weithio ar faterion heb eu penderfynu sy’n rhwystro cymundeb llawnach, pa un ai o’r ddwy ochr ynteu ar fframwaith ecwmenaidd Ewropeaidd ehangach;
(vii) i weithio tuag at berthynas agosach rhyngom ein gilydd mewn eglwysi a chwalwyd (diaspora);
(viii) i gefnogi ymweliadau ecwmenaidd, gefeillio a chyfnewid;
(ix) i sefydlu grwp cysylltu i feithrin ein twf mewn cymundeb, i hyrwyddo cydymgynghori rheolaidd ar faterion o bwys, ac i gyd-drefnu cyflawni’r cytundeb hwn.

I GEFNOGI CYDBERTHYNAS AG EGLWYSI ERAILL

 

(Cyhoeddwyd 7 Ebrill 2005)

GAN FOD y broses ryng-eglwysig yn cael ei mynegi’n ymarferol ar lefel leol yn ymrwymiad yr Eglwysi i’w gilydd.

A CHAN FOD yr Eglwys yng Nghymru wedi cyfamodi ag Eglwysi eraill i weithio a gweddïo am undeb yng Nghymu.

A CHAN EI BOD yn ddymunol gwneud darpariaeth ar gyfer addoli ecwmenaidd drwy’r holl Dalaith.

DEDDFER DRWY HYNYMA fel a ganlyn:

1.

(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau is-adran (3) o hynyma o fewn a thrwy’r Eglwys yng Nghymru gall gweinidog neu berson lleyg sydd wedi ei fedyddio ac sy’n aelod cymeradwy o Eglwys arall sy’n addef y Ffydd Drindodol ac yn gweinyddu Sacramentau Bedydd a Chymun Sanctaidd gael ei wahodd gan beriglor plwyf i gyflawni’r cyfan neu unrhyw rai o’r dyletswyddau a ganlyn o fewn y plwyf hwnnw:
(i) arwain y Foreol neu’r Hwyrol Weddi neu unrhyw wasanaeth di-sacrament arall;
(ii) darllen yr Ysgrythur Lân mewn unrhyw wasanaeth;
(iii) pregethu mewn unrhyw wasanaeth;
(iv) darllen y Litani, arwain yr ymbiliau yn y Cymun Bendigaid ac arwain gweddïau mewn gwasanaethau eraill;
(v) cymryd gwasanaeth Bedydd Sanctaidd;
(vi) cynorthwyo mewn gwasanaeth Glân Briodas, ac eithrio gweinyddu’r briodas;
(vii) cymryd gwasanaeth claddedigaeth y meirw;
(viii) cynorthwyo gyda gweinyddu’r elfennau yn y Cymun Bendigaid;
(ix) llywyddu mewn gwasanaeth o’r Cymun Sanctaidd yn ôl y ffurf neu’r ffurfiau gwasanaeth a awdurdodwyd gan Gomisiwn yr Eglwysi Cyfamodol;

Dan yr amod:
(a) fod y gweinidog neu’r person lleyg a nodwyd uchod wedi ei awdurdodi i gyflawni’r un ddyletswydd neu ddyletswydd gyffelyb yn ei Eglwys ef neu ei Heglwys hi ei hun;

(b) yn achos is-baragraffau (v), (vi) a (vii) uchod, fod y personau dan sylw wedi gofyn i’r periglor roi’r gwahoddiad;

(c) yn achos is-baragraff (ix) uchod, mai un neu fwy o weinidogion y Gair a’r Sacramentau fydd yn llywyddu mewn gweinyddiad o’r Cymun Sanctaidd; a bod hysbysrwydd am gynnal y cyfryw wasanaeth wedi ei roi, hyd y mae’n ymarferol, ar y Sul nesaf o’i flaen, gan nodi i ba enwad y mae’r gweinidog neu’r gweinidogion sydd i lywyddu yn perthyn;

(d) yn achos is-baragraffau (i), (viii) a (ix) uchod, os yw’r cyfryw ddyletswydd i’w chyflawni’n aml fod caniatâd yr esgob esgobaethol wedi ei dderbyn.

(2) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau is-adran (3) o hynyma, gall periglor plwyf wahodd aelod cymeradwy o Gymdeithas Grefyddol y Cyfeillion neu Fyddin yr Iachawdwriaeth i gyflawni o fewn y plwyf hwnnw unrhyw rai neu’r cyfan o’r dyletswyddau a nodir yn is-adran (1) uchod, ac eithrio is-baragraffau (v), (viii) a (ix), dan yr amod:

(a) yn achos aelod o Fyddin yr Iachawdwriaeth ei fod ef neu ei bod hi wedi ei awdurdodi neu ei hawdurdodi i gyflawni’r un ddyletswydd neu ddyletswydd gyffelyb ym Myddin yr Iachawdwriaeth;

(b) yn achos dyletswyddau a nodir yn is-baragraffau (1)(vi) a (vii) uchod, fod y personau dan sylw wedi gofyn i’r periglor roi’r gwahoddiad;

(c) yn achos paragraff (1)(iii) uchod, os gwahoddiad i bregethu mewn gwasanaeth o’r Cymun Sanctaidd neu Fedydd Sanctaidd ydyw, fod yr esgob esgobaethol wedi ei fodloni fod amgylchiadau arbennig ym mhob cyfryw achlysur sy’n cyfiawnhau rhoi’r cyfryw wahoddiad;

(d) os yw’r cyfryw ddyletswydd i’w chyflawni’n aml, fod caniatâd yr esgob esgobaethol wedi ei dderbyn.

(3) Dim ond esgob esgobaethol a all roi gwahoddiad i gyflawni dyletswydd dan isadrannau (1) neu (2) uchod mewn perthynas â gwasanaeth ordeinio neu gonffyrmio a dim ond os bydd caniatâd y periglor a’r cyngor plwyf eglwysig wedi ei dderbyn.

2.

Gall esgob sy’n derbyn gwahoddiad i gymryd rhan mewn gwasanaeth ecwmenaidd neu wasanaeth enwad arall yn ystod y gwasanaeth hwnnw gyflawni unrhyw ddyletswydd a neilltuir iddo dan yr amod:

(a) fod y ddyletswydd yr un neu’n gyffelyb i un yr awdurdodwyd ef i’w chyflawni yn yr Eglwys yng Nghymru; a

(b) ei fod, cyn derbyn y gwahoddiad, wedi ymgynghori â pheriglor y plwyf lle mae’r gwasanaeth i’w gynnal, ac yn achos gwahoddiad i gymryd rhan mewn gwasanaeth mewn esgobaeth arall ei fod wedi derbyn caniatâd esgob yr esgobaeth honno; a

(c) yn achos gwahoddiad i gymryd rhan mewn ordeinio neu gysegru gweinidog o Eglwys arall, neu gymryd rhan mewn gwasanaeth o gonffyrmasiwn, neu lywyddu mewn Cymun Sanctaidd heblaw’r ffurf neu’r ffurfiau gwasanaeth a awdurdodwyd gan Gomisiwn yr Eglwysi Cyfamodol, ei fod wedi derbyn caniatâd esgobion esgobaethol yr Eglwys yng Nghymru.

3.

Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth unrhyw Ganon, gall clerig neu weinidog lleyg trwyddedig neu aelod arall o’r Eglwys yng Nghymru sy’n derbyn gwahoddiad i gymryd rhan mewn gwasanaeth ecwmenaidd neu wasanaeth enwad arall, yn ystod y gwasanaeth hwnnw gyflawni unrhyw ddyletswydd a neilltuir iddo neu iddi, dan yr amod:

(a) fod y ddyletswydd yr un neu’n gyffelyb i un y mae ef neu hi wedi ei awdurdodi neu ei hawdurdodi i’w chyflawni yn yr Eglwys yng Nghymru; a

(b) ei fod ef neu ei bod hi, cyn derbyn y gwahoddiad, wedi cael caniatâd periglor y plwyf lle mae’r gwasanaeth i’w gynnal; a

(c) yn achos gwahoddiad i gymryd rhan mewn ordeinio neu gysegru gweinidog o Eglwys arall, neu i lywyddu yn y Cymun Sanctaidd heblaw’r ffurf neu’r ffurfiau gwasanaeth a awdurdodwyd gan Gomisiwn yr Eglwysi Cyfamodol, ei fod ef neu ei bod hi wedi derbyn caniatâd esgob yr esgobaeth lle mae’r gwasanaeth i’w gynnal; a

(d) yn achos gwahoddiad i gymryd rhan mewn unrhyw wasanaeth yn aml, ei fod ef neu ei bod hi wedi derbyn caniatâd esgob yr esgobaeth a pheriglor a chyngor plwyf eglwysig y plwyf lle mae’r gwasanaeth i’w gynnal.

4.

Ni chaiff esgob neu offeiriad sydd wedi derbyn gwahoddiad i gymryd rhan mewn ordeinio neu gysegru gweinidog o Eglwys arall, drwy arddodi dwylo neu unrhyw ffordd arall, wneud unrhyw weithred sy’n arwydd cyflwyno urddau sanctaidd, oni bai fod yr Eglwys honno’n Eglwys esgobol y mae’r Eglwys yng Nghymru mewn cymundeb llawn â hi.

5.

Gall periglor plwyf, gyda chaniatâd y cyngor plwyf eglwysig a’r esgob esgobaethol, wahodd aelodau o Eglwys arall neu Eglwysi eraill i ddefnyddio adeilad eglwysig yn y plwyf i addoli’n unol â ffurfiau gwasanaeth ac ymarfer yr Eglwys arall honno (neu’r Eglwysi eraill hynny) ar y cyfryw achlysuron ag a nodir yn y caniatâd a roddir gan yr esgob.

6.

Bydd i ganiatâd a roddir gan esgob esgobaethol dan y Canon hwn fod mewn ysgrifen ac yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a wneir o bryd i’w gilydd gan Fainc Esgobion yr Eglwys yng Nghymru.

7.

Yn y Canon hwn y mae’r ymadrodd “periglor” yn cynnwys:
(i) mewn perthynas â phlwyf gwag (a lle nad yw paragraff (ii) isod i’w gymhwyso) y Deon Bro, a
(ii) mewn perthynas â phlwyf gwag lle mae perigloriaeth y cyfryw wedi ei dileu, yr offeiriad mewn gofal a benodwyd gan yr esgob esgobaethol.

8.

Dyfynner y Canon hwn fel Canon i Gefnogi Cydberthynas ag Eglwysi eraill, 2005.

Yn ôl I Tabl Cynnwys

 

I GANIATÁU SEFYDLU A CHEFNOGI PARTNERIAETHAU

ECWMENAIDD LLEOL

 

(Cyhoeddwyd 7 Ebrill 2005)

GAN FOD y Canon Prosiectau Ecwmenaidd Lleol 1991 yn gwneud darpariaeth ar gyfer sefydlu prosiectau ecwmenaidd lleol (a adwaenir yn awr fel partneriaethau ecwmenaidd lleol), a bod cydberthynas ecwmenaidd yng Nghymru wedi elwa oddi wrth nifer o gyfryw bartneriaethau y mae’r Eglwys yng Nghymru wedi cymryd rhan ynddynt dan awdurdod cyfiawn.

A CHAN FOD yr Eglwys yng Nghymru wedi ymrwymo i gyfamodi ag Eglwysi eraill i weithio a gweddïo am undeb yng Nghymru, a thrwy hynny yn cydnabod aelodau yr holl gyfryw Eglwysi yn aelodau yng Nghrist yn rhinwedd eu bedydd cyffredin a galwad gyffredin i gyfranogi yng ngweinidogaeth yr holl Eglwys.

A CHAN EI BOD yn ddymunol parhau i sefydlu a chynnal partneriaethau ecwmenaidd lleol dan drwydded yr esgob esgobaethol i hyrwyddo undeb llwyrach ymhlith yr holl Gristnogion yng Nghymru.

DEDDFER DRWY HYNYMA fel a ganlyn:

1.

(1) Bydd yn gyfreithlon i esgob esgobaethol yn yr Eglwys yng Nghymru awdurdodi drwy ddatganiad mewn ysgrifen sefydlu partneriaeth ecwmenaidd leol mewn plwyf neu blwyfi neu mewn rhan neu rannau o’r cyfryw o fewn ei esgobaeth, wedi dod i gytundeb gydag awdurdodau priodol pob Eglwys sy’n cymryd rhan sy’n addef y Ffydd Drindodol ac yn gweinyddu Sacramentau Bedydd a Chymun Sanctaidd.
Dan yr amod fod yr esgob esgobaethol wedi derbyn caniatâd mewn ysgrifen:

(a) Mainc Esgobion yr Eglwys yng Nghymru;

(b) Cynhadledd Esgobaethol yr esgobaeth lle mae’r bartneriaeth i’w sefydlu;

(c) Cyngor neu Gynghorau Plwyf Eglwysig y plwyf neu’r plwyfi lle mae’r bartneriaeth i’w sefydlu; a

(d) periglor neu beriglorion y plwyf neu’r plwyfi y mae’r bartneriaeth i’w sefydlu ynddo neu ynddynt.

(2) Bydd i bob cyfryw bartneriaeth ecwmenaidd leol gael cyfansoddiad neu gyfamod mewn ysgrifen wedi ei gymeradwyo gan yr esgob esgobaethol.

2.

Bydd yn gyfreithlon i esgob esgobaethol yn yr Eglwys yng Nghymru wedi ymgynghori ag awdurdodau priodol pob Eglwys sy’n cymryd rhan awdurdodi’r canlynol i weinyddu o fewn partneriaeth ecwmenaidd leol:
(i) clerigion, gweinidogion lleyg trwyddedig ac aelodau eraill o’r Eglwys yng Nghymru yn unol ag adran 6 o hynyma;
(ii) gweinidogion neu aelodau bedyddiedig eraill o Eglwysi sy’n cymryd rhan yn unol ag adran 8 o hynyma.

3.

Wedi ymgynghori ag awdurdodau priodol pob Eglwys sy’n cymryd rhan, gall Mainc Esgobion yr Eglwys yng Nghymru, o bryd i’w gilydd, wneud rheoliadau ynglŷn â gweinyddu partneriaeth ecwmenaidd leol.

4.

Bydd i’r esgob esgobaethol, mewn cydweithrediad ag awdurdodau priodol pob Eglwys sy’n cymryd rhan, gynnal arolygiadau cyfnodol o bob partneriaeth ecwmenaidd leol.

5.

Gellir terfynu ymrwymiad yr Eglwys yng Nghymru mewn partneriaeth ecwmenaidd leol a sefydlwyd fel y deddfir yn hynyma ar unrhyw amser drwy benderfyniad yr esgob esgobaethol wedi ymgynghori ag awdurdodau priodol pob Eglwys sy’n cymryd rhan, a bydd i’r cyfryw benderfyniad gael ei gyfleu i bob un a phawb a awdurdodwyd i weinyddu o fewn y bartneriaeth ac i bob un neu bob corff yr oedd angen ei ganiatâd er mwyn ei sefydlu.

6.

Bydd yn gyfreithlon o fewn partneriaeth ecwmenaidd leol i glerig, gweinidog lleyg trwyddedig neu aelod arall o’r Eglwys yng Nghymru a awdurdodwyd yn unol â darpariaethau adran 2(i) o hynyma, weinyddu neu gyflawni unrhyw ddyletswydd a neilltuwyd iddo neu iddi mewn gwasanaeth ecwmenaidd neu wasanaeth enwad arall sy’n cymryd rhan.
Dan yr amod:

(a) fod y ddyletswydd yr un neu’n gyffelyb i un y mae ef neu hi wedi ei awdurdodi neu ei hawdurdodi i’w chyflawni o fewn yr Eglwys yng Nghymru; a

(b) yn achos gwasanaeth y Cymun Sanctaidd, y ffurf wasanaeth i’w ddefnyddio fydd defod awdurdodedig unrhyw Eglwys sy’n cymryd rhan neu Gomisiwn yr Eglwysi Cyfamodol; a

(c) yn achos gwahoddiad i gymryd rhan mewn ordeinio neu gysegru gweinidog o Eglwys arall, neu i lywyddu yn y Cymun Sanctaidd heblaw un sy’n unol ag amod (b) o hynyma, ei fod ef neu ei bod hi wedi derbyn caniatâd esgob yr esgobaeth.

7.

Gall clerig, gweinidog lleyg trwyddedig neu unrhyw aelod o’r Eglwys yng Nghymru a awdurdodwyd yn unol â darpariaethau adran 2(i) o hynyma fod yn bresennol, siarad a phleidleisio mewn cyfarfodydd o’r Eglwys neu’r Eglwysi arbennig sy’n cymryd rhan.

8.

Bydd yn gyfreithlon o fewn partneriaeth ecwmenaidd leol i weinidog neu aelod bedyddiedig arall o Eglwys sy’n cymryd rhan a awdurdodwyd yn unol â darpariaethau adran 2(ii) o hynyma gyflawni’r cyfan neu unrhyw rai o’r dyletswyddau a ganlyn:
(i) arwain y Foreol neu’r Hwyrol Weddi neu unrhyw wasanaeth di-sacrament arall;
(ii) darllen yr Ysgrythur Lân mewn unrhyw wasanaeth;
(iii) pregethu mewn unrhyw wasanaeth;
(iv) darllen y Litani, arwain yr ymbiliau yn y Cymun Bendigaid ac arwain gweddïau mewn gwasanaethau eraill;
(v) cymryd gwasanaeth Bedydd Sanctaidd;
(vi) cynorthwyo mewn gwasanaeth Glân Briodas, ac eithrio gweinyddu’r briodas;
(vii) cymryd gwasanaeth claddedigaeth y meirw;
(viii) cynorthwyo gyda gweinyddu’r elfennau yn y Cymun Bendigaid;
(ix) llywyddu mewn gwasanaeth o’r Cymun Sanctaidd yn ôl y ffurf neu’r ffurfiau gwasanaeth a awdurdodwyd gan Gomisiwn yr Eglwysi Cyfamodol neu unrhyw un o’r Eglwysi sy’n cymryd rhan;
(x) gweinyddu Cymun y Claf.
Dan yr amod:

(a) fod y person a nodwyd uchod wedi ei awdurdodi neu ei hawdurdodi i gyflawni dyletswydd gyffelyb yn ei Eglwys neu ei Heglwys ei hun;

(b) mai gweinidog ordeiniedig y Gair a’r Sacramentau fydd yn llywyddu dros weinyddu’r Cymun Sanctaidd;

(c) mae’n ymarferol, ar y Sul nesaf o’i flaen, gyda gwybodaeth am ffurf y gwasanaeth sydd i’w ddefnyddio a’r enwad y mae’r gweinidog sydd i lywyddu yn perthyn iddo;

(d) fod yr esgob yn sicrhau mai gwasanaeth y Cymun Bendigaid yn unol â defod yr Eglwys yng Nghymru fydd i’w weinyddu ar Ddydd Nadolig, Dydd y Pasg, Dydd Iau’r Dyrchafael a’r Pentecost o fewn y plwyf neu’r plwyfi dan sylw lle gofynnir am hyn gan gymunwyr o fewn y bartneriaeth;

(e) fod awdurdod neu awdurdodau Eglwys y sawl a nodwyd uchod wedi cydsynio iddo ef neu iddi hi gael caniatâd i weinyddu yn y cyfryw fodd;

(f) fod y person a nodwyd uchod wedi cytuno i gael ei ymrwymo neu ei hymrwymo gan gyfansoddiad neu gyfamod y bartneriaeth ecwmenaidd leol dan sylw, fel y cytunwyd arno gan esgob yr esgobaeth.

9.

(1) Gall Mainc Esgobion yr Eglwys yng Nghymru, o bryd i’w gilydd, wneud rheoliadau ynglŷn â gweinyddu plwyf neu blwyfi lle mae gweinidog neu aelod bedyddiedig arall o Eglwys wedi ei awdurdodi i weinyddu yn unol â darpariaethau adran 2(ii) o hynyma, lle mae’r cyfryw blwyf neu blwyfi yn neu’n rhan o bartneriaeth ecwmenaidd leol, gan ddarparu ar gyfer:

(a) ei hawl ef neu ei hawl hi i fod yn bresennol, siarad a phleidleisio yng nghyfarfod y Festri, Cyngor Plwyf Eglwysig, Cynhadledd Deoniaeth, Cabidwl Deoniaeth a chyrff eraill o’r fath;

(b) enwebu warden sydd i’w benodi gan y periglor yn unol ag adran 17 Pennod VI y Cyfansoddiad;

(c) dyletswyddau byw yn y persondy a chynnal y cyfryw;

(d) cymhwyso rheolau a rheoliadau ynglŷn â chladdu a chladdfeydd o fewn y plwyf;

(e) y cyfryw faterion eraill ynglŷn â gweinyddu’r plwyf ag a ystyria Mainc yr Esgobion, o bryd i’w gilydd, yn fuddiol.

(2) Ni fydd rheoliadau a wnaed yn unol ag is-adran (1) o hynyma yn gyfreithlon ond pan gymeradwyir hwy gan Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru, eithr ni fydd adrannau 36, 37 a 43 Pennod II y Cyfansoddiad i’w cymhwyso at drefn cais am y cyfryw ganiatâd.

10.

Gall esgob esgobaethol ar unrhyw adeg mewn ysgrifen dynnu’n ôl awdurdod a roddwyd yn unol ag adran 2 o hynyma.

11.

(1) Wedi ymgynghori â pheriglor neu beriglorion a Chyngor neu Gynghorau Plwyf neu Blwyfi Eglwysig partneriaeth ecwmenaidd leol, a chydag awdurdodau priodol pob Eglwys arall sy’n cymryd rhan, gall esgob esgobaethol gydnabod cyfarfod lleol o Gymdeithas Grefyddol y Cyfeillion neu gynulliad o Fyddin yr Iachawdwriaeth fel aelodau cyswllt o’r bartneriaeth honno.

(2) O fewn partneriaeth ecwmenaidd leol lle mae cydnabyddiaeth wedi ei rhoi dan yr adran hon, gall aelod cymeradwy o Gymdeithas Grefyddol y Cyfeillion neu o Fyddin yr Iachawdwriaeth gyflawni o fewn y bartneriaeth rai neu’r cyfan o’r dyletswyddau a nodwyd yn adran (8) o hynyma, ac eithrio is-baragraffau (v), (viii), (ix) a (x), dan yr amod:
(a) yn achos aelod o Fyddin yr Iachawdwriaeth ei fod ef neu ei bod hi wedi ei awdurdodi neu ei hawdurdodi i gyflawni’r un neu gyffelyb ddyletswydd ym Myddin yr Iachawdwriaeth;
(b) yn achos y dyletswyddau a nodwyd gan is-baragraffau (vi) a (vii) adran 8 fod y personau dan sylw wedi gofyn i’r periglor roi’r gwahoddiad;
(c) fod awdurdod neu awdurdodau Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion neu Fyddin yr Iachawdwriaeth, fel y bo’r achos, wedi cydsynio iddo ef neu iddi hi gael caniatâd i weinyddu; a
(d) ei fod ef neu ei bod hi wedi cytuno i gael ei ymrwymo neu ei hymrwymo gan gyfansoddiad neu gyfamod y bartneriaeth ecwmenaidd leol arbennig, fel y cymeradwywyd gan yr esgob esgobaethol.

12.

(1) Lle bydd clerig, gweinidog lleyg trwyddedig neu aelod arall o’r Eglwys yng Nghymru wedi ei benodi neu ei phenodi gan esgob esgobaethol drwy drwydded i swydd amhlwyfol o fewn gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru, bydd yn gyfreithlon i’r esgob esgobaethol, wedi dod i gytundeb ag awdurdodau priodol pob Eglwys sy’n cymryd rhan, drwy ddatganiad mewn ysgrifen, awdurdodi o fewn yr esgobaeth sefydlu partneriaeth ecwmenaidd leol yn cynnwys y cyfryw weinidogaeth amhlwyfol.

(2) Bydd i baragraffau (a) a (b) yr amod i adran 1(1) o hynyma, ac adrannau 2 i 10 o hynyma, ac eithrio is-adrannau (b), (c), (d) ac (e) adran 9 o hynyma, gael eu cymhwyso mewn perthynas â phartneriaethau ecwmenaidd lleol a awdurdodwyd yn rhinwedd yr adran hon.

13.

Nid yw dim a gynhwysir yn y Canon hwn i’w gymryd yn effeithio ar neu i’w ystyried yn effeithio ar
(i) y datganiad o ufudd-dod canonaidd a wneir gan glerig yn yr Eglwys yng Nghymru;
(ii) y datganiad a wnaed ac a arwyddwyd gan glerig yn yr Eglwys yng Nghymru yn unol ag adran 66 Penod VII[13] Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru;
(iii) ffydd, disgyblaeth, erthyglau, datganiadau athrawiaethol, defodau, seremonïau a ffurfiaduron yr Eglwys yng Nghymru.

14.

Dileir y Canon i Ganiatáu Sefydlu Prosiectau Ecwmenaidd Lleol 1991 drwy hynyma.

15.

Yn y Canon hwn y mae’r ymadrodd “periglor” yn cynnwys:
(i) mewn perthynas â phlwyf gwag (a lle nad yw paragraff (ii) isod i’w gymhwyso) y Deon Bro; a
(ii) mewn perthynas â phlwyf gwag lle mae perigloriaeth y cyfryw wedi ei dileu, yr offeiriad mewn gofal a benodwyd gan yr esgob esgobaethol.

16.

Dyfynner y Canon hwn fel Canon Partneriaethau Ecwmenaidd Lleol, 2005.

Yn ôl I Tabl Cynnwys

 

ADOLYGU’R DDARPARIAETH AT AMODAU GWAITH DEILIAID SWYDDI EGLWYSIG YN YR EGLWYS YNG NGHYMRU

 

(Cyhoeddwyd 23 Medi 2010)

GAN FOD Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru wedi penderfynu y dylid adolygu sail Amodau Gwaith deiliaid Swyddi Eglwysig yn yr Eglwys yng Nghymru yn unol ag amodau’r Canon hwn.

DEDDFER TRWY HYNYMA fel a ganlyn:

DALIADAETH GYFFREDIN

1.

(1) Y mae’r amodau gwaith y deil y personau y mae a wnelo’r Canon hwn â hwy eu swyddi danynt i’w hadnabod fel Daliadaeth Gyffredin.

(2) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r adran hon, bydd a wnelo’r Canon hwn â phob un o’r deiliaid swyddi eglwysig a ganlyn a fydd yn achos unrhyw berson y cyfeirir ato ym mharagraffau (a) i (h):
(i) wedi’i benodi i swydd ar ôl i’r adran hon ddod i rym, ac
(ii) yn dal swydd pan ddaw’r adran hon i rym ac wedi cytuno bod y Canon hwn i’w gymhwyso ato ef neu ati hi yn unol ag isadrannau (5) a (6)

(3) Y deiliaid swyddi eglwysig y cyfeirir atynt yn isadran (2) yw:

(a) Archesgob Cymru (y cyfeirir ato wedi hyn yn y Canon hwn fel “yr Archesgob”);

(b) unrhyw esgob esgobaeth;

(c) unrhyw esgob cynorthwyol;

(d) unrhyw ddeon, canon neu berson arall mewn urddau sanctaidd sy’n dal swydd daledig mewn eglwys gadeiriol;

(e) unrhyw archddiacon;

(f) unrhyw beriglor;

(g)unrhyw berson arall mewn urddau sanctaidd sy’n ymarfer swydd neu weinidogaeth yn unol â thrwydded oddi wrth esgob yr esgobaeth y gweithredir y swydd ynddi; ac

(h) unrhyw ddiacones, darllenydd neu weithiwr lleyg sy’n ymarfer swydd neu weinidogaeth yn unol â thrwydded oddi wrth esgob yr esgobaeth y gweithredir y swydd ynddi ac sy’n derbyn tâl neu enillion eraill (yn cynnwys llety) am ei swydd.

(4) Bydd pob un y cymhwysir ato Ddaliadaeth Gyffredin yn dal ei swydd yn unol â’r Datganiad Amodau Gwaith dan Ddaliadaeth Gyffredin a wneir o dan Adran 2.

(5) Cyn gynted ag y bo modd wedi i’r is-adran hon ddod i rym:

(a) bydd yr Archesgob yn hysbysu, mewn ysgrifen, bob esgob esgobaeth a fydd yn dal swydd yn yr Eglwys yng Nghymru ar y dyddiad hwnnw,

(b) bydd yr Esgob Hynaf yn hysbysu’r Archesgob mewn ysgrifen, a

(c) bydd pob esgob esgobaeth yn hysbysu, mewn ysgrifen, bob esgob cynorthwyol a phawb y cyfeirir atynt yn isadrannau (3)(d) i (h) sy’n dal swydd yn ei esgobaeth ar y dyddiad hwnnw,
ac yn gofyn iddynt fynegi mewn ysgrifen a ydynt yn cytuno i’r Ddaliadaeth Gyffredin ac, os felly, i ddatgan hynny mewn ysgrifen.

(6) O’r dyddiad pan dderbynia’r Archesgob, yr Esgob Hynaf neu Esgob yr Esgobaeth, yn ôl y digwydd, y datganiad ysgrifenedig y cyfeirir ato yn isadran (5) yn datgan bod person yn cytuno i gymhwyso Daliadaeth Gyffredin ato neu ati, fe’i cymhwysir felly o’r dyddiad hwnnw.

GWEITHREDU

2.

(1) Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn paratoi ac yn cyhoeddi Datganiad o Amodau Gwaith dan Ddaliadaeth Gyffredin a fydd, heb beryglu cyffredinolrwydd yr ymrwymiad hwn, yn cynnwys darparu at:

(a) amodau a thelerau gwaith;

(b) datrys anghydfod;

(c) datblygu a chynnal staff; a

(d) chyhoeddi gwybodaeth ac ymgynghori ar hyn.

(2) Gosodir y Datganiad o Amodau Gwaith y cyfeirir ato yn isadran (1) ac unrhyw welliant a gynigir iddo gerbron y Corff Llywodraethol ac ni ddaw i rym nes i’r Corff Llywodraethol ei gymeradwyo.

TEITL BYR

 

3.

Gellir cyfeirio at y Canon hwn fel y Canon Amodau Gwaith Clerigion 2010.

CYCHWYN

 

4.

Daw’r Canon hwn i rym ar y diwrnod a benodir gan Fainc yr Esgobion a gellir penodi diwrnodau gwahanol at wahanol ddarpariaethau.

Yn ôl I Tabl Cynnwys

 

I NEWID PENNOD IX CYFANSODDIAD YR EGLWYS YNG NGHYMRU

 

(Cyhoeddwyd 23 Medi 2010)

 

GAN FOD Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru wedi penderfynu newid Pennod IX Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru yn y modd a ymddengys yma wedi hyn,

DEDDFER TRWY HYNYMA fel a ganlyn:
1. Yn lle Pennod IX Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru rhoddir yr testun a draethir yn yr Atodlen i’r Canon hwn.

2. Daw’r Canon hwn i rym ar unwaith.

3. Y mae’r Canon hwn i’w adnabod fel Canon (Newid) Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru Pennod IX 2010.

Yr Atodlen y cyfeiriwyd ati o’r blaen
(Y ffurf newydd a gynigir ar Bennod IX)
Yn ôl I Tabl Cynnwys

 

I ALLUOGI ORDEINIO MERCHED YN ESGOBION

 

(Cyhoeddwyd 12 Medi 2013)

GAN NAD YW Cyfraith a Chyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru hyd yma wedi caniatáu ordeinio merched yn Esgobion

A CHAN EI BOD yn awr yn briodol yn yr Eglwys yng Nghymru bod merched yn gymwys i’w cysegru i Urdd Sanctaidd Esgob

A CHAN MAI bwriad yr Eglwys yng Nghymru yw parhau gweinidogaeth yr eglwys gyffredinol yn ei thair urdd o Esgobion, Offeiriaid a Diaconiaid a pharhau’n rhan o’r Un Eglwys Lân Gatholig ac Apostolig

A CHAN FOD yr Eglwys yng Nghymru, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r gyfraith sifil ar gydraddoldeb a materion perthnasol eraill, yn dymuno parchu’r rhai hynny na allant o gydwybod dderbyn bod merched yn gymwys i’w cysegru i Urdd Sanctaidd Esgob

DEDDFER TRWY HYNYMA fel a ganlyn:

1.

O hyn allan yn yr Eglwys yng Nghymru bydd yn gyfreithlon cysegru merched yn esgobion.

2.

Lle bynnag yng Nghyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru, y Llyfr Gweddi Gyffredin i’w ddefnyddio yn yr Eglwys yng Nghymru neu unrhyw drefn gwasanaeth a awdurdodwyd yn gyfreithlon i’w defnyddio yn yr Eglwys yng Nghymru y cyfeirir at esgob, ystyrir bod y cyfeiriad yn cynnwys merched a gysegrwyd yn esgobion.

3.

Daw darpariaethau’r Canon hwn i rym flwyddyn ar ôl cyhoeddi’r Canon hwn.

4.

Wrth gymeradwyo’r Canon hwn, mae’r Corff Llywodraethol yn ymddiried i Fainc yr Esgobion i gytuno yn ddi-oed ar Gôd Ymarfer a fydd yn rhwymo’r Fainc i wneud darpariaethau i sicrhau holl aelodau’r Eglwys yng Nghymru, gan gynnwys y rhai hynny sy’n gwrthwynebu o gydwybod ddarpariaeth Adran 1, fod yr Eglwys yng Nghymru yn eu derbyn a’u gwerthfawrogi.

Yn ôl I Tabl Cynnwys

 

I YMGORFFORI YN Y LLYFR GWEDDI GYFFREDIN

ORDINAL AMGEN

 

(Cyhoeddwyd 18 Medi 2014)

GAN FOD gan y Corff Llywodraethol, dan ddarpariaethau Pennod II o Gyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru, y gallu i lunio erthyglau newydd, datganiadau athrawiaethol, defodau, seremonïau a ffurfiau gwasanaeth, ac i newid y rhai hynny sy’n bodoli o bryd i’w gilydd,

A CHAN EI BOD yn fuddiol mabwysiadu ac awdurdodi’r Ordinal Amgen a draethir yn dilyn hyn i’w ddefnyddio yn yr Eglwys yng Nghymru,

DEDDFER TRWY HYNYMA fel a ganlyn:

1.

Awdurdodir yr Ordinal Amgen a draethir yn Atodlen i’r Canon hwn i’w ddefnyddio yn yr Eglwys yng Nghymru a bydd yn rhan o’r Llyfr Gweddi Gyffredin a newidir o ganlyniad.

2.

Dehonglir bod pob sôn a phob cyfeiriad at y Llyfr Gweddi Gyffredin yng Nghyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru ac ym mhob rheol, rheoliad, canon, deddf, gweithred a dogfen arall yn ymwneud â’r Eglwys yng Nghymru yn cyfeirio ato fel y diwygir ef gan y Canon hwn.

3.

Argreffir yr Ordinal a draethir yn yr Atodlen i’r Canon hwn a’i gyhoeddi i’w ddefnyddio yn yr Eglwys yng Nghymru.

4.

Daw’r Canon hwn i rym ar unwaith.

5.

Adwaenir y Canon hwn fel Canon (Diwygio’r) Llyfr Gweddi Gyffredin 2014.

YR ATODLEN Y CYFEIRIR ATI UCHOD

I’w chyhoeddi ar wahân

Yn ôl I Tabl Cynnwys

 

I ALLUOGI YCHWANEGU EGLWYSI AT AIL ATODLEN CANON DATGANIAD PORVOO 1995 TRWY GYNNIG SYML

 

(Cyhoeddwyd 7 Ebrill 2016)

 

GAN FOD Eglwysi Anglicanaidd Prydain ac Iwerddon ac Eglwysi Lutheraidd y gwledydd Nordig a Baltig wedi cyrraedd dealltwriaeth gyffredin am natur a diben yr Eglwys, cytundeb sylfaenol ar ffydd a chytundeb ar esgobyddiaeth yng ngwasanaeth apostoligrwydd yr Eglwys

A CHAN FOD yr Eglwys yng Nghymru, dan ddarpariaethau’r Canon i Gyflawni Datganiad Porvoo a gyhoeddwyd ar 28 Medi 1995 (ac y cyfeirir ato wedi hyn fel “Canon Datganiad Porvoo 1995”), wedi cytuno i ymuno â’r Eglwysi a enwir yn yr Atodlen Gyntaf i’r Canon hwnnw i wneud y Datganiad o gydnabod a chydymrwymo a draethir ynddi

A CHAN FOD yn awr ddymuniad i ganiatáu i eglwysi ychwanegol ymuno â’r Eglwys yng Nghymru a’r Eglwysi a enwir yn yr Ail Atodlen i Ganon Datganiad Porvoo 1995 i wneud y Datganiad a draethir yn yr Atodlen Gyntaf i’r Canon hwnnw
DEDDFER A CHYHOEDDER BOD:

1.

Yr Eglwys yng Nghymru yn cytuno i’r Eglwys Lutheraidd ym Mhrydain Fawr, Eglwys Efengylaidd Lutheraidd Latfia Dramor, Eglwys Denmarc, Eglwys Esgobol Ddiwygiedig Sbaen ac Eglwys Lusitanaidd Portiwgal i ymuno â hi a’r Eglwysi a enwir yn yr Ail Atodlen i Ganon Datganiad Porvoo 1995 i wneud y Datganiad a draethir yn yr Atodlen Gyntaf i’r Canon hwnnw a bod ychwanegu eu henwau at yr Ail Atodlen

2.

Yr Eglwys yng Nghymru yn cytuno ymhellach i Eglwysi ychwanegol ymuno â hi a’r Eglwysi a enwir yn yr Ail Atodlen i Ganon Datganiad Porvoo 1995 i wneud y Datganiad a draethir yn yr Atodlen Gyntaf i’r Canon hwnnw

3.

Yr Eglwys yng Nghymru yn cytuno ymhellach i ychwanegu Eglwysi a wnaeth yn unol ag adran 2 uchod y datganiad yn Ail Atodlen Canon Datganiad Porvoo 1995 trwy i’r Corff Llywodraethol basio cynnig syml a gynigir ac a eilir gan aelodau o Fainc yr Esgobion

4.

Pan fo’r Corff Llywodraethol wedi penderfynu cytuno i’r Eglwys yng Nghymru ymuno ag Eglwys neu Eglwysi ychwanegol i wneud y datganiad a draethir yn yr Atodlen Gyntaf i’r Canon hwnnw, bydd y penderfyniad hwnnw’n ddigonol i ddiwygio Canon Datganiad Porvoo 1995, a ddiwygir i gynnwys yr Eglwys ychwanegol neu’r Eglwysi ychwanegol yn y rhestr o Eglwysi a enwir yn yr Ail Atodlen i Ganon Datganiad Porvoo 1995

5.

Gellir galw’r Canon hwn yn Ganon Diwygio Datganiad Porvoo 2016, a gellir ei alw ef a Chanon Datganiad Porvoo 1995 gyda’i gilydd yn Ganonau Datganiad Porvoo

6.

Daw’r Canon hwn i rym ar y dydd y cyhoeddir ef

Yn ôl I Tabl Cynnwys

 

YR AIL ATODLEN

Eglwys Loegr
Eglwys Efengylaidd Lutheraidd Estonia
Eglwys Efengylaidd Lutheraidd y Ffindir
Eglwys Efengylaidd Lutheraidd Ynys yr Iâ
Eglwys Iwerddon
Eglwys Efengylaidd Lutheraidd Lithuania
Eglwys Norwy
Eglwys Esgobol yr Alban
Eglwys Sweden
Yr Eglwys Lutheraidd ym Mhrydain Fawr
Eglwys Efengylaidd Lutheraidd Latfia Dramor
Eglwys Denmarc
Eglwys Esgobol Ddiwygiedig Sbaen
Eglwys Lusitanaidd Portiwgal

Yn ôl I Tabl Cynnwys

I DDIWYGIO PENNOD IX CYFANSODDIAD YR EGLWYS YNG NGHYMRU

(Cyhoeddwyd 22 Ebrill 2017)

GAN FOD Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru wedi penderfynu diwygio Pennod IX Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru yn y modd a ymddengys o hyn ymlaen,

DEDDFER TRWY HYNYMA fel a ganlyn:

1.

Yn lle Adran 9 Pennod IX Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru gosoder y testun a draethir yn yr Atodlen i’r Canon hwn

2.

Daw’r Canon hwn i rym ar unwaith

3.

Mae’r Canon hwn i’w adnabod fel Canon (Diwygio Pennod IX) Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru, 2017

Yr Atodlen y cyfeiriwyd ati
(Y ffurf newydd a gynigir i Bennod IX)

 

<I YMGORFFORI YN Y LLYFR GWEDDI GYFFREDIN

<GWASANATHAU ANGLADD AMGEN

 

(Cyhoeddwyd 2 Mai 2019)

 

GAN FOD gan y Corff Llywodraethol, dan ddarpariaethau Pennod II o Gyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru, y gallu i lunio erthyglau newydd, datganiadau athrawiaethol, defodau, seremonïau a ffurfiau gwasanaeth, ac i newid y rhai hynny sy’n bodoli o bryd i’w gilydd,

 

A CHAN EI BOD yn fuddiol mabwysiadu ac awdurdodi’r Ordinal Amgen a draethir yn dilyn hyn i’w ddefnyddio yn yr Eglwys yng Nghymru,

 

DEDDFER TRWY HYNYMA fel a ganlyn:

 

  1. Awdurdodir yr Gwasanathau Angladd Amgen a draethir yn Atodlen i’r Canon hwn i’w ddefnyddio yn yr Eglwys yng Nghymru a bydd yn rhan o’r Llyfr Gweddi Gyffredin a newidir o ganlyniad.

 

  1. Dehonglir bod pob sôn a phob cyfeiriad at y Llyfr Gweddi Gyffredin yng Nghyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru ac ym mhob rheol, rheoliad, canon, deddf, gweithred a dogfen arall yn ymwneud â’r Eglwys yng Nghymru yn cyfeirio ato fel y diwygir ef gan y Canon hwn.

 

  1. Argreffir yr Gwasanathau Angladd a draethir yn yr Atodlen i’r Canon hwn a’i gyhoeddi i’w ddefnyddio yn yr Eglwys yng Nghymru.

 

  1. Daw’r Canon hwn i rym ar unwaith.

 

  1. Adwaenir y Canon hwn fel Canon (Diwygio’r) Llyfr Gweddi Gyffredin 2019.

 

 

YR ATODLEN Y CYFEIRIR ATI UCHOD

I’w chyhoeddi ar wahân

 

Yn ôl I Tabl Cynnwys


[1]

Yn awr is-adran 26(2) Pennod VI ac wedi ei weithredu’n barod

[2]

Yn awr Pennod IX

[3]

Yn awr adran 5 Pennod 1

[4]

Yn awr adrannau 18, 19, 40 a 42 Pennod IX

[5]

Yn awr adran 18 Pennod IX

[6]

Yn awr adrannau 8 ac 18 Pennod IX

[7]

Yn awr adran 5 Pennod 1

[8]

Yn awr adran 13 a Rheoliad 14 Pennod IV C

[9]

Yn awr adran 11 Pennod II

[10]

Yn awr adran 10 Pennod VI

[11]

Hepgorwyd adran 4

[12]

Yn awr adran 9 Pennod IX

[13]

Yn awr adran 10 Pennod VI

Yn ôl I Tabl Cynnwys