Cronfa Efengylu’r Eglwys yng Nghymru

Cronfa Efengylu’r Eglwys yng Nghymru

Canllawiau i Esgobaethau

 

Cyflwyniad

Sefydlwyd Cronfa Efengylu’r Eglwys yng Nghymru gan Gorff y Cynrychiolwyr yn 2018 i ddarparu cyllid sylweddol i esgobaethau fel y gallent weithredu eu strategaethau ar efengylu a thwf eglwysi. Dyrannwyd £10 miliwn i’r Gronfa i ddechrau.

Nod yr adran hon yw nodi protocolau gweithredu’r Gronfa a rhoi canllawiau i esgobaethau ar wneud ceisiadau i’r Gronfa.

 

Pwy all wneud cais i’r Gronfa Efengylu?

Dim ond esgobaethau all wneud cais ac mae’n rhaid i’r cais gael ei gefnogi’n ffurfiol gan yr esgob a’i uwch dîm, Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth a’r Pwyllgor Sefydlog. Dylai pob prosiect sy’n derbyn cefnogaeth gan y Gronfa gynnwys elfen briodol o adnoddau gan yr esgobaeth. Ni sefydlwyd y Gronfa i dderbyn ceisiadau gan blwyfi.

Cydnabyddir nad yw amcanion efengylu o bosib yn perthyn yn daclus o fewn ffiniau eglwysig bob amser, felly derbynnir ceisiadau ar y cyd gan ddwy esgobaeth neu fwy. Yn yr un modd, anogir esgobaethau i rannu syniadau a gwersi pan fyddant yn gweithio ar brosiectau tebyg. Ni fyddai prosiect sy’n golygu gweithio gydag eglwysi eraill yn cael ei ddiystyru.

 

Pa fath o brosiectau all y Gronfa eu cefnogi?

Prosiectau gyda’r nodau canlynol fydd yn cael eu hariannu:

  • Creu twf mewn niferoedd ymysg pobl o grwpiau oedran sydd heb eu cynrychioli’n ddigonol yn ein heglwysi.
  • Creu mathau newydd o ‘eglwys’ a fydd yn ddeniadol i’r rhai nad yw ein heglwysi presennol yn apelio atynt.
  • Creu newidiadau cadarnhaol sylweddol yn niwylliant yr eglwys.
  • Dylanwadu ar esgobaeth gyfan, gan gefnogi strategaeth yr esgobaeth yn glir a darparu gwersi i’r dalaith gyfan.

Nod y Gronfa hon yw galluogi gwaith gan bobl gyda phobl. Nid cronfa adeiladau yw hi. Byddai’n rhaid i unrhyw gyllid ar gyfer gwaith i adeiladau fod yn waith sy’n cefnogi nodau’r prosiect yn glir a bod yn elfen fechan o’r holl gost. Fel arfer, byddai’n rhaid i gyllid ar gyfer gwaith i adeiladau ddod yn gyfan gwbl o’r elfen o’r cyllid a ddarperir gan yr esgobaeth.

Gellir darparu cyllid i ddatblygu ac ategu prosiectau sydd eisoes ar waith, cyn belled eu bod yn bodloni telerau’r Gronfa.

 

Sut fydd grantiau’n cael eu dyrannu?

Bydd y Gronfa’n gweithredu drwy roi grantiau mewn ymateb i geisiadau sydd wedi’u llunio’n dda. Pwyllgor y Gronfa Efengylu [link to page] fydd yn asesu a phenderfynu ar y ceisiadau, gyda staff y dalaith yn trafod gydag esgobaethau gydol y broses ymgeisio. Wrth ddarparu grantiau, cydnabyddir bod mentrau newydd yn cyflwyno risg a bod rhaid asesu a rheoli’r risg honno, ond nid ei hofni. Y nod yw cael proses ymgeisio am grant gadarn sy’n gofyn cwestiynau treiddgar ond nad yw’n rhy anodd i atal esgobaeth fechan gydag adnoddau cyfyngedig rhag ymgeisio. Gall y dalaith ddarparu cymorth i ddatblygu strategaeth ac ysgrifennu cais am grant.

Yr isafswm y gellir gwneud cais amdano yw £250,000 a’r uchafswm yw £3 miliwn, er y byddwn yn ystyried cynigion rhagorol sy’n uwch na’r uchafswm. Rydym yn cydnabod nad oes gan yr un esgobaeth gapasiti’n weddill i reoli datblygiad prosiect mawr, felly dylai pob cais gynnwys cost cyflogi rheolwr prosiect cymwysedig a phrofiadol.

Yn ystod deunaw mis cyntaf y cynllun bydd derbyn grant yn atal esgobaeth rhag gwneud cais eto. Ar ôl i’r amser hwnnw fynd heibio, ni fydd unrhyw beth yn gwahardd esgobaethau rhag cyflwyno cymaint o geisiadau ag y dymunant.

 

Y Dull Cyffredinol: Sgwrs, Cydweithio a Chydgefnogaeth

Mae Corff y Cynrychiolwyr yn credu bod y gronfa benodol hon yn diwallu angen brys yn yr Eglwys yng Nghymru. O ganlyniad, mae’n awyddus i’r gronfa gael ei defnyddio’n llawn, cyn belled â bod modd sicrhau bod yr holl brosiectau sy’n derbyn cymorth yn bodloni amcanion y Gronfa, wedi’u cynllunio a’u profi’n ofalus, ac yn cynrychioli lefel risg a gwariant sy’n dderbyniol.

O ystyried bod ceisiadau wedi’u cyfyngu i chwe esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru, a bod digon o gyllid yn cael ei ddyrannu i alluogi pob esgobaeth i elwa (yn amodol ar gyflwyno ceisiadau boddhaol), pwrpas cyflwyno system ymgeisio yw sicrhau bod pob cynnig wedi’i gynllunio’n ofalus a’i fod “cystal ag y gall fod”. Nid oes rhaid iddi fod yn system ymgeisio gystadleuol; yn hytrach, y gobaith yw y bydd y broses yn digwydd ar ffurf cyfres o sgyrsiau ag esgobaethau wrth i’r ceisiadau ddatblygu.

Bydd Pwyllgor y Gronfa’n monitro prosiectau llwyddiannus yn rheolaidd wrth iddynt ddatblygu ac yn eu gwerthuso’n flynyddol unwaith y byddant ar waith i sicrhau bod: a) unrhyw broblemau posibl yn cael eu nodi a’u datrys yn gynnar; b) Corff y Cynrychiolwyr yn cael sicrwydd bod arian yr Eglwys yn cael ei ddefnyddio’n briodol; a, c) gwersi a allai fod o fudd i’r Eglwys yng Nghymru yn cael eu nodi.

 


Y Broses Ymgeisio

Rydym yn gwahodd esgobaethau i gymryd rhan yn y broses ymgeisio mewn tri cham. Fel yr eglurwyd eisoes, rydym yn gobeithio y bydd y broses yn debycach i sgwrs ddatblygol rhwng cydweithwyr na phroses ymgeisio ffurfiol sy’n cynnwys trydydd partïon. Cynlluniwyd y broses dri cham i hwyluso sgwrs, cydweithio a chydgefnogaeth.

 

Cam Cyntaf 

Yn gyntaf, bydd lle’n cael ei ddarparu ar gyfer syniadau cychwynnol am geisiadau gan esgobaethau i’w hystyried gan uwch dimau staff esgobaethau gydag Ysgrifennydd y Dalaith, ac fel y gellir gofyn am gyngor gan swyddogion y dalaith a/neu eraill fel bo angen i helpu i benderfynu:

  • A yw’r cnewyllyn o gais yn dod o fewn telerau’r Gronfa Efengylu ai peidio;
  • Pa waith pellach a allai fod yn angenrheidiol – efallai gyda chymorth y dalaith neu gymorth allanol – i ddatblygu cais cychwynnol;
  • A oes syniadau tebyg yn cael eu datblygu gan esgobaethau eraill, a chyfle i esgobaethau gydweithio/dysgu oddi wrth ei gilydd.

Amcan y cam cychwynnol hwn yn darparu pob cymorth i esgobaethau i ddatblygu eu syniadau, ac i bennu yn gynnar a oes yna unrhyw rwystrau neu anawsterau posibl, cyn cyflwyno cais ffurfiol. Bydd y drafodaeth gydag Ysgrifennydd y Dalaith yn ystyried manylion y cynnig sy’n ofynnol ar gyfer y cais ffurfiol yng Ngham 1 (gweler isod0. Bydd y trafodaethau cyntaf yn cael eu trefnu ar gyfer Hydref/Gaeaf 2018.

Ein bwriad ni yw mai dim ond cynigion sydd â siawns gwirioneddol o lwyddo fydd yn cael symud ymlaen i wneud cais ffurfiol. Nid yw gweld esgobaethau sydd ag adnoddau prin yn gwneud gwaith ychwanegol ac yn gwario ar gynigion sy’n annhebygol o fodloni’r Gronfa Efengylu o fudd i neb. I bwysleisio: mae Corff y Cynrychiolwyr yn awyddus i’r Gronfa gael ei defnyddio, a bydd yn darparu pob cymorth i esgobaethau i sicrhau eu bod yn gallu manteisio’n llawn ar y cyfle newydd hwn.


Cais Cam 1

Evangelism-Fund-Application-Form-Stage-One-Welsh

Yna, mae yna ddau gam ffurfiol ar gyfer ceisiadau. Cynnig cymharol fyr yw’r cyntaf, drwy ffurflen gais sy’n nodi cyd-destun strategol y cynnig, disgrifiad byr o amcanion cyflawni’r prosiect, a gwybodaeth ariannol sylfaenol.

Beth fydd disgwyl i esgobaethau ei ddarparu?

  • Disgrifiad o’r prosiect;
  • Esboniad o sut mae’r prosiect yn rhan o strategaeth yr esgobaeth ac yn ei chefnogi;
  • Manylion y swm y gofynnir amdano, cyfanswm cost y rhaglen a hyd arfaethedig y rhaglen;
  • Esboniad o’r canlyniadau bwriedig (yn cynnwys metrics sylfaenol i ddiffinio “llwyddiant”);
  • Nodi a oes posibilrwydd y bydd angen cyllid datblygu (gweler isod);
  • Crynodeb ariannol, a fyddai’n cynnwys manylion cyllid arall (er enghraifft, gan yr esgobaeth).

Beth sy’n digwydd nesaf?

Bydd y Pwyllgor yn ystyried y ceisiadau gyda chyngor gan swyddogion, a bydd esgobaethau’n cael cyfle i gyflwyno’u cais i’r Pwyllgor yng Ngham 1 a Cham 2.

Ar ddiwedd Cam 1 bydd yr esgobaeth yn derbyn asesiad clir o’r cais gan y Pwyllgor, yn enwedig manylion am unrhyw feysydd sydd angen rhagor o waith neu wybodaeth ychwanegol ar gyfer Cam 2.

 

Cyllid Datblygu

Mae Pwyllgor y Gronfa Efengylu’n gallu rhyddhau cyllid i alluogi esgobaethau i ddatblygu eu cynnig. Cyflwynir ceisiadau am gyllid o’r fath yng Ngham 1 i helpu i hwyluso’r gwaith o baratoi’r cais terfynol (Cam 2).


Cais Cam 2

Yng Ngham 2 gwahoddir esgobaethau i gyflwyno cynnig manylach, gyda chymorth fel bo angen gan staff y dalaith. Bydd angen i hyn gynnwys unrhyw eitemau o wybodaeth ychwanegol penodol a nodwyd gan y Pwyllgor yng Nghymru, a’r canlynol hefyd:

  • Crynodeb o’r prosiect – dim mwy nag un ochr o A4.

 

  • Disgrifiad o’r prosiect, yn cynnwys rhai pwyntiau a nodwyd yng Ngham 1:
  • Cysylltiadau clir â strategaeth yr esgobaeth;
  • Allbynnau a chanlyniadau bwriedig a sut y bydd y rhain yn cael eu cyflawni.

 

  • Manylion trefniadau rheoli a llywodraethu’r prosiect:
  • Sut (a thrwy pwy) y mae’r esgobaeth yn bwriadu rheoli’r prosiect, yn cynnwys y disgrifiad swydd/manyleb person ar gyfer rheolwr y prosiect;
  • Trefniadau llywodraethu ymarferol, yn cynnwys llinellau adrodd parhaus;
  • Problemau capasiti posibl;
  • Amserlen y prosiect o gyllido i weithredu;
  • Disgrifiadau swyddi ar gyfer unrhyw swyddi sy’n cael eu creu gan y prosiect;
  • Ystyriaeth o broblemau rheoli newid/diwylliant sy’n deillio o’r prosiect.

 

  • Cynllun ariannol manwl, a fydd yn cynnwys:
  • Manylion am sut bydd grant y Gronfa Efengylu’n cael ei defnyddio;
  • Ffynonellau cyllid eraill (yn cynnwys yr esgobaeth), a sut byddant yn cael eu defnyddio;
  • Gwahaniaeth rhwng eitemau cyfalaf ac eitemau nad ydynt yn gyfalaf;
  • Ystyriaeth i gynaliadwyedd y prosiect y tu hwnt i’r cyfnod cyllido;
  • Gwybodaeth glir am ba orbenion sydd wedi’u cynnwys.

 

  • Asesiad risg syml, lle mae risgiau’n cael eu nodi mewn perthynas â’u tebygolrwydd a’u heffaith bosibl, a’r mesurau a fydd yn cael eu cyflwyno i liniaru’r risgiau hynny.

 

  • Tystiolaeth fod y prosiect arfaethedig yn debygol o gyflawni’r canlyniadau dymunol, a allai fod ar ffurf enghreifftiau o brosiectau tebyg sydd eisoes ar waith mewn mannau eraill, neu ddadl wedi’i mynegi’n glir sy’n dangos rhesymeg y dull bwriedig.
  • Cynllun gwerthuso yn nodi’r mesurau ar gyfer penderfynu llwyddiant neu fethiant y prosiect. Gallai’r rhain gynnwys:
  • Beth yw’r allbynnau a’r canlyniadau[1]?
  • Beth sydd wedi a heb ddigwydd yn unol â’r disgwyl?
  • A gafodd y prosiect ei newid o gwbl wrth ei ddatblygu neu yn ystod ei oes?
  • Pa wersi allai eraill yn yr Eglwys eu dysgu o’ch profiad gyda’r prosiect hwn?

 

  • Cynllun i rannu gwersi o’r prosiect o fewn yr esgobaeth a chyda’r Eglwys yng Nghymru yn ehangach. Sut ydych chi’n bwriadu lledaenu gwersi a ddysgwyd gydag eraill?

 

  • Manylion cyfraniad yr esgobaeth at waith datblygu’r cynnig hwn, yn cynnwys penderfyniadau cymorth ffurfiol gan brif gyrff gwneud penderfyniadau’r esgobaeth, er enghraifft, Pwyllgor Sefydlog yr Esgobaeth neu Fwrdd Cyllid yr Esgobaeth.

[1] Canlyniadau uniongyrchol yw “Allbynnau”, er enghraifft y nifer sy’n mynychu digwyddiad Llan Llanast; Canlyniadau tymor canolig yw “Canlyniadau”, er enghraifft twf mewn niferoedd sy’n dod i gael eu bedyddio neu i gael conffyrmasiwn drwy Llan Llanast.


Cyfathrebu

Ar ddechrau’r broses ymgeisio, dyrennir aelod o staff y dalaith i bob esgobaeth a fydd yn gweithredu fel eu cyswllt a’u prif swyddog cysylltu yn ystod y cais. Er mwyn sicrhau cyfathrebu clir rhwng Pwyllgor y Gronfa a’r esgobaeth, yn cynnwys trosglwyddo penderfyniadau ac asesiadau o geisiadau, bydd cyfathrebu’n digwydd rhwng swyddogion cysylltu’r staff nid aelodau’r Pwyllgor.

Ers ei lansio ym Mhentecost 2018, mae’r Gronfa Efenglyu – a’r cyfle mae’n ei roi – wedi dal dychymyg aelodau’r eglwys ledled Cymru. Rydym yn gobeithio gallu rhannu gwybodaeth am brosiectau sy’n derbyn cefnogaeth gan y Gronfa – yn cynnwys yn ystod y cam gweithredu lle bo’n briodol – gyda’r Eglwys yn ehangach a thu hwnt drwy’r cyfryngau cymdeithasol a gwefan yr Eglwys yng Nghymru. Bydd tîm cyfathrebu’r Dalaith yn pennu trefniadau ar gyfer gwneud hynny bob tro mewn ymgynghoriad â Swyddog Cyfathrebu priodol yr Esgobaeth ac arweinwyr/rheolwyr y prosiect.


Amserlen ar gyfer Ceisiadau

Bydd Pwyllgor y Gronfa Efengylu’n cyfarfod [deirgwaith] bob blwyddyn i ystyried ceisiadau am grantiau. Bydd sgyrsiau gydag esgobaethau – drwy staff awdurdodedig y dalaith – yn parhau rhwng cyfarfodydd.

Evangelism-Fund-Application-Form-Stage-One-Welsh

 

Cyfarfod 6 Chwefror 2019

Anfon ceisiadau erbyn 11 Ionawr;

Hysbysu esgobaethau am ganlyniad y cyfarfod erbyn 8 Chwefror.

 

Cyfarfod 11 Ebrill 2019

Anfon ceisiadau erbyn 15 Mawrth;

Hysbysu esgobaethau am ganlyniad y cyfarfod erbyn 12 Ebrill.

 

Cyfarfod 6 Mehefin 2019

Anfon ceisiadau erbyn 10 Mai;

Hysbysu esgobaethau am ganlyniad y cyfarfod erbyn 7 Mehefin.

 

Cyfarfod 1 Hydref 2019

Anfon ceisiadau erbyn 6 Medi;

Hysbysu esgobaethau am ganlyniad y cyfarfod erbyn 4 Hydref.

 


Pwyllgor y Gronfa Efengylu

Penodwyd gan Gorff y Cynrychiolwyr yn 2018
mewn ymgynghoriad ag esgobaethau

Y Gwir Barchedig Andrew John, Esgob Bangor (Cadeirydd Dros Dro, Bangor)

Mr Geraint Davies(Annibynnol) 

Parchedig Dr Trystan Hughes (Llandaf)

Dr Mike Nussbaum (Mynwy)   

Mrs Beci Ratcliffe (Llanelwy)

Syr Paul Silk (Abertawe ac Aberhonddu) 

Dr Cass Meurig Thomas (Llanelwy)   

Pwyllgor y Gronfa Efengylu