Cael gwybod mwy

Beth yw esgob?

Mewn eglwysi Anglicanaidd fel yr Eglwys yng Nghymru, ystyrir mai’r Esgob yw’r prif fugail neu’r gweinidog mwyaf blaenllaw. Mae hyn yn gymorth i esbonio swyddogaeth Esgob – sef arwain ac edrych ar ôl yr Eglwys yn ei esgobaeth (yr ardal ddaearyddol y mae Esgob yn gyfrifol amdani).

Gelwir Esgob i arwain a dysgu, ond i gyflawni hefyd rai tasgau pwysig eraill, megis ordeinio gweindogion yr Eglwys (offeiriad a diaconiaid), trwyddedu eraill i gyflawni mathau eraill o weinidogaeth ar ran yr Eglwys, a rhoi bedydd esgob i Gristnogion newydd.

Fel prif fugai, lmae gan Esgob swyddogaeth allweddol yn y broses o lywodraethu’r Eglwys – yn ei esgobaeth a hefyd yng nghyd-destun talaith Cymru yn ei chrynswth.  Byddwn yn trafod yma’r swyddogaeth daleithiol sydd gan Esgob.

Cliciwch yma er mwyn cael manylion bywgraffyddol am esgobion yr Eglwys yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mainc yr Esgobion

Mae gan yr Eglwys yng Nghymru chwech esgob esgobaethol (hynny yw, esgobion â chyfrifoldeb dros esgobaeth) a dau esgob cynorthwyol i roi cymorth iddynt.  Mae’r esgobion i gyd yn aelodau o’r Corff Llywodraethol, ond mae’r Eglwys wedi rhoi i’r esgobion esgobaethol yn benodol gyfrifoldeb dros faterion yn ymwneud â ffydd, cenhadaeth a gweinidogaeth, a phan fyddant yn cwrdd ynghyd fel grŵp fe’i gelwir yn Fainc yr Esgobion.  Er enghraifft, ni fydd Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru yn ystyried newid dysgeidiaeth yr Eglwys (megis y penderfyniad ym 1996 i alluogi menywod i gael eu hordeinio yn offeiriaid yn yr Eglwys yng Nghymru) heb fod Mainc yr Esgobion yn gyntaf wedi ystyried y mater a phenderfynu cefnogi’r argymhelliad.

Mae Mainc yr Esgobion yn cyfarfod 4-6 gwaith y flwyddyn er mwyn ystyried rhychwant eang o faterion ar ran yr Eglwys. Gall y rhain gynnwys, er enghraifft:

  • Cynlluniau ar gyfer patrymau amgen o weinidogaethu wrth weithredu cenhadaeth yr Eglwys yng ngwahanol esgobaethau Cymru;
  • Barn yr Eglwys ar amrywiol faterion moesol a ddaw i’r amlwg;
  • Trafod gydag eglwysi eraill Cymru a’r tu hwnt feysydd lle y gall yr eglwysi gyd-weithio er budd pawb;
  • Dethol dynion a merched yn ymgeiswyr ar gyfer urddau sanctaidd, a phenodi clerigion i swyddogaethau o fewn yr Eglwys;
  • Cynghori cyrff eraill o fewn yr Eglwys  (megis y Corff Llywodraethol a Chorff y Cynrychiolwyr) ar faterion y gall fod iddynt oblygiadau i ddysgeidiaeth, cenhadadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys;
  • Datblygu deunydd newydd at wasanaethau eglwysig.

 

Sut y mae Esgob yn cael ei ddewis?

Yn yr Eglwys yng Nghymru etholir esgobion gan grŵp o aelodau’r eglwys a elwir yn Goleg Ethol.  Mae’r Coleg yn cynnwys chwech aelod a etholir gan bob esgobaeth (tri aelod lleyg a thri chlerig), gyda deuddeg aelod etholedig o’r esgobaeth y mae’r esgob  i’w hethol iddi.  Cynhwysir hefyd yr esgobion eraill, ac felly y mae i’r Coleg 47 o aelodau.  Mae’r Coleg Ethol yn cyfarfod yn Eglwys Gadeiriol yr esgobaeth wag am hyd at dridiau, ac mae’r trafodaethau yn gyfrinachol.  Etholir esgob pan fo un ymgeisydd yn derbyn dwy ran o dair neu ragor o bleidleisiau aelodau’r Coleg.

Yr Archesgob

Etholir Archesgob Cymru o blith chwech esgob esgobaethol Cymru gan Goleg Ethol. Golyga hyn fod yr Archesgob hefyd yn esgob un o chwech esgobaeth Cymru.

Os esgob esgobaethol yw prif fugail ei esgobaeth, swyddogaeth yr Archesgob yw bod yn brif fugail i’r Eglwys yng Nghymru – yn gofalu am yr Eglwys ac yn ei harwain.

Ef sy’n cynnull Mainc yr Esgobion, ac ef yw Llywydd y Corff Llywodraethol.  Pan fo esgob esgobaethol yn ymddeol, mae’r Archesgob yn gofalu am yr esgobaeth honno (yn ogystal â’i esgobaeth ef ei hun) nes etholir esgob newydd.  Fodd bynnag, perthynas o gydraddoldeb sydd rhyngddo ef a’i gyd-esgobion, ac ni ddylai’r Archesgob ymwneud â phethau mewn esgobaeth arall oni fo’n cael cais i wneud hynny gan yr esgob esgobaethol.

Cliciwch yma i  weld rhai o bregethau neu anerchiadau’r Archesgob presennol