Esbonio termau

Plwyf

Mae’r Eglwys yng Nghymru yn cynnwys mwy na 900 o blwyfi. Os ydych yn byw yng Nghymru, yr ydych yn byw mewn plwyf. Mae pob plwyf yn ymestyn dros ardal ddaearyddol benodol a gofelir amdano gan glerig. Gallwch chwilio am y clerig a bennwyd i’ch eglwys chwi yma. Gallwch chwilio yma am yr eglwys nesaf at eich côd post, ac yma am sut i gysylltu â’r clerig sy’n gofalu amdani. Y mae gennych hawl i gael eich priodia’ch claddu yn y plwyf lle’r ydych yn byw.

Bywoliaeth

Gall clerig fod â gofal am un neu ragor o blwyfi. Bywoliaeth yw’r enw a roddir ar yr ardal y mae’r clerig yn gyfrifol amdani.

Deoniaethau/Deoniaid Bro

Mae pob bywoliaeth yn rhan o Ddeoniaeth, sef nifer o fywoliaethau wedi eu casglu at ei gilydd. Cydlynir gweithgareddau’r Ddeoniaeth gan Ddeon Bro (a elwir weithiau’n “Ddeon Gwlad”, ond na ddylid ei gamgymryd am Ddeon Cadeirlan), ac ef hefyd sy’n gyfrifol am unrhyw blwyf gwag yn y Ddeoniaeth. Fel rheol, un o glerigion hŷn y Ddeoniaeth fydd y Deon Bro.

Esgobaethau, Archddiaconiaethau ac Archddiaconiaid

Rhennir yr Eglwys yng Nghymru yn chwech esgobaeth, a gofelir am bob un gan Esgob. Ym mhob un o’r esgobaethau y mae dwy neu dair o archddiaconiaethau; fel y dangosir ar y map, y mae pymtheg archddiaconiaeth yn Yr Eglwys yng Nghymru. Penodir Archddiacon i bob un, ac y mae’r Archddiacon yn atebol i’r Esgob am eu gweinyddu. Rhennir yr Archddiaconiaethau ymhellach yn Ddeoniaethau.

Deon Cadeirlan

Y mae gan bob un o’r chwech esgobaeth yn Yr Eglwys yng Nghymru Gadeirlan. Hi yw mam-eglwys yr esgobaeth. Yma hefyd y mae ‘cadair’ yr Esgob. Yn y Gadeirlan y cynhelir digwyddiadau pwysig, megis Sefydlu Esgob newydd. Y mae i bob Cadeirlan ei Deon. Fe’i penodwyd i redeg y Gadeirlan, gyda chymorth y Siapter. Ynghyd â’r Archddiaconiaid, y mae Deon y Gadeirlan yn un o glerigion mwyaf blaenllaw’r esgobaeth ar ôl  yr Esgob.

Siapter/Canon

Rheolir pob Cadeirlan yng Nghymru gan Siapter, sy’n cynnwys y Deon a nifer o Ganoniaid, a ddewisir o blith clerigion yr esgobaeth.

Clerig

Ar y wefan hon, fe ddefnyddir y gair “clerig” i ddynodi rhywun a ordeiniwyd yn yr Eglwys Anglicanaidd ac sy’n gweinidogaethu yn Yr Eglwys yng Nghymru.

Yn draddodiadol, y mae’r rhai a alwyd gan yr Eglwys i fod yn offeiriaid yn treulio deuddeng mis yn swydd diacon cyn cael eu hordeinio’n offeiriad. Gelwir rhai i barhau yng ngweinidogaeth diacon.

Wrth ichwi chwilio am glerig fe welwch ddyddiad ei ordeinio’n ddiacon ac, os yw hynny’n berthnasol, yn offeiriad. Er mai dyma’r dyddiadau y cychwynnodd y clerig ar ei weinidogaeth, yn dilyn cyfnod o hyfforddiant, fe all y bydd wedi bod yn ymwneud â’r Eglwys mewn swyddogaeth arall cyn y dyddiadau hyn.

Curad

“Curad” yw’r enw a roddir i glerig a benodir i gynorthwyo clerig arall. Yn draddodiadol, fe ddigwydd hyn ar gychwyn gweinidogaeth.

Ficer/Rheithor

Gelwir clerig sy’n gofalu am blwyf yn Ficer neu Reithor.