Manylion am

Statws Cyfreithiol

Mae Corff Cynrychiolwyr Yr Eglwys yng Nghymru yn dal asedau mewn ymddiriedolaeth ar ran Archesgob, Esgobion, Clerigion a Lleygwyr Yr Eglwys yng Nghymru – ar hyn o bryd ar ffurf 1,500 o eglwysi, 650 o bersondai a gwerth £370 miliwn o fuddsoddiadau.  Mae iddo statws elusennol a rhaid iddo gydymffurfio â chyfreithiau ymddiriedolaethau ac elusennau.

Fel sefydliad elusennol, mae gan Gorff Cynrychiolwyr Yr Eglwys yng Nghymru y rheidrwydd cyfreithiol i sicrhau’r pris gorau am ei hasedau er hyrwyddo ei hamcanion penodedig. Er enghraifft, pan roir adeilad eglwysig ar y farchnad, mae rheidrwydd ar Gorff y Cynrychiolwyr i gael y pris gorau am y gwerthiant hwnnw.

Beth y mae Corff y Cynrychiolwyr yn ei wneud?

Mae Corff y Cynrychiolwyr yn gyfrifol am edrych ar ôl asedau’r Eglwys yng Nghymru a sicrhau fod yr adnoddau hynny ar gael er budd yr Eglwys gyfan  Mae’r adeiladau sydd yn ei feddiant yn galluogi aelodau’r eglwys i ymgynnull i addoli ac i gynnal digwyddiadau eraill, ac yn cartrefu clerigion yr Eglwys. Defnyddir yr incwm o’r buddsoddiadau sydd yn ei feddiant i ddarparu grantiau at gefnogi gwaith yr Eglwys ym mhob esgobaeth, ac i gyfrannu’n ariannol at bensiynau clerigion.

Mae Corff y Cynrychiolwyr yn gweithio mewn partneriaeth â’r esgobaethau a’r plwyfi, fel y gellir cyfuno ei arbenigedd a’i adnoddau ef â gwybodaeth leol plwyfolion i wneud pethau yn y modd mwyaf effeithiol posibl.  Enghraifft dda yw cynnal a chadw adeiladau a mynwentydd sy’n eiddo i Gorff y Cynrychiolwyr, ond y gofelir amdanynt gan blwyfi lleol, sy’n derbyn cyngor oddi wrth Gorff y Cynrychiolwyr ar ymgeisio am grantiau at waith cynnal a chadw, neu ar gydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd a gofynion iechyd a diogelwch eraill.

Mae Corff y Cynrychiolwyr ei hun yn cyfarfod dair gwaith y flwyddyn, ac unwaith gyda’r esgobion a chynrychiolwyr yr esgobaethau.  Gwneir llawer o’i waith manwl, mewn meysydd megis buddsoddiadau, eiddo, ac adnoddau dynol, gan  nifer o bwyllgorau

O ble y daeth asedau Corff y Cynrychiolwyr?

Pan ddatgysylltwyd Y Eglwys yng Nghymru oddi wrth Eglwys Sefydledig Lloegr yn 1920, ac y daeth, felly, yn annibynnol, cafodd gadw ei hadeiladau ond rhoddwyd y rhan fwyaf o’i hasedau eraill i’w gweinyddu gan awdurdodau lleol (Cronfeydd Deddf Eglwys Cymru, sydd mewn bodolaeth o hyd).  Roedd gan yr Eglwys £1 filiwn yn weddill, sydd ers hynny wedi tyfu i fod yn £370 miliwn.  Bu hyn yn bosib am ddau reswm:

Yn gyntaf y mae Corff y Cynrychiolwyr bob amser wedi dilyn strategaeth fuddsoddi ochelgar.  Bu o’r farn fod y cronfeydd a ddeil ar ran yr Eglwys yn rhy bwysig i’w peryglu drwy hapfasnach, ac o’r herwydd llwyddodd i osgoi’r colledion gwaethaf (er enghraifft ffrwydro’r swigen dot-com).

Yn ail, ond yn bwysicaf oll, trefnwyd dwy ymgyrch godi arian sylweddol – y naill yn 1920 a’r llall yn gynnar yn y 1950au – y bu i bobl Cymru gyfrannu’n hynod hael iddynt.  Bu Corff y Cynrychiolwyr, o’r cychwyn cyntaf, yn hynod ymwybodol o’r cyfrifoldeb sydd ynghlwm â gofalu am yr etifeddiaeth hon.

Fodd bynnag, nid er eu mwyn eu hunain y bu Corff y Cynrychiolwyr yn amddiffyn yr asedau hyn. Mae traean o gyfanswm yr asedau yn ffurfio Cynllun Pensiwn y Clerigion, a’r incwm o’r asedau sy’n weddill yn cael ei ddefnyddio i gynnal a chefnogi cenhadaeth a gweinidogaeth yr esgobaethau i gyd.

Pwy sy’n aelodau o Gorff y Cynrychiolwyr?

Mae Corff y Cynrychiolwyr yn cyfarfod dair gwaith y flwyddyn ac yn cynnwys 26 o aelodau’r Eglwys o bob rhan o’r Eglwys.  Mae rhai yn aelodau yn rhinwedd eu swyddogaeth (er enghraifft yr Archesgob, neu Gadeiryddion Byrddau Cyllid yr Esgobaethau), tra bo eraill yno oherwydd eu profiad arbenigol mewn maes cysylltiedig (eiddo, bancio, buddsoddi). Etholir bron i hanner yr aelodau gan yr esgobaethau – un person lleyg ac un clerig o bob esgobaeth.