Y Corff y Cynrychiolwyr

Beth y mae Corff y Cynrychiolwyr yn ei wneud?

Mae Corff y Cynrychiolwyr yn gyfrifol am warchod asedau’r Eglwys yng Nghymru i sicrhau bod adnoddau ar gael er budd yr Eglwys gyfan. Mae’r adeiladau sy’n eiddo iddo yn galluogi aelodau’r Eglwys i ddod ynghyd i addoli ac i gynnal cyfarfodydd eraill, ac yn cartrefu clerigion yr Eglwys. Defnyddir yr incwm o’r buddsoddiadau y mae’n eu dal i roi grantiau i gynnal gwaith yr Eglwys ym mhob esgobaeth, ac i dalu at bensiynau clerigion.

Mae Corff y Cynrychiolwyr yn gweithio mewn partneriaeth â’r esgobaethau a’r plwyfi, gan mai trwy gyfuno arbenigedd ac adnoddau canolog â gwybodaeth pobl leol y ceir y canlyniadau gorau. Enghraifft dda o hyn yw cynnal adeiladau eglwysig a mynwentydd; eiddo Corff y Cynrychiolwyr yw’r rhain, y plwyfi sy’n gofalu amdanynt, ac mae Corff y Cynrychiolwyr yn rhoi cymorth trwy gynghori ar sut i gael grantiau at atgyweirio, neu sut i gydymffurfio â deddfwriaeth, e.e. y Ddeddf Anffafrio Anabledd, a gofynion eraill iechyd a diogelwch.

Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn, ac unwaith gyda’r esgobion a chynrychiolwyr yr esgobaethau. Gwneir llawer o fanylion ei waith gan nifer o bwyllgorau mewn meysydd megis buddsoddiadau, eiddo ac adnoddau dynol.

Statws Cyfreithiol

Mae Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru yn dal asedau mewn ymddiriedolaeth ar ran Archesgob, Esgobion, Clerigion a Lleygion yr Eglwys yng Nghymru – ar hyn o bryd, oddeutu 1,500 o eglwysi, 650 o bersondai a gwerth £370 miliwn o fuddsoddiadau. Mae ganddo statws elusen a rhaid iddo ufuddhau i’r gyfraith ar ymddiriedolaethau ac elusennau.

Fel sefydliad elusennol, mae rheidrwydd cyfreithiol ar Gorff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru i amlhau ei asedau i’r eithaf at ei ddibenion. Enghraifft dda yw pan osodir adeilad eglwysig ar werth, pan y mae rheidrwydd ar Gorff Cynrychiolwyr i sicrhau’r pris gwerthiant uchaf posibl.

O ble y daeth asedau Corff y Cynrychiolwyr?

Pan ffurfiwyd yr Eglwys yng Nghymru yn 1920 allan o Eglwys sefydledig Loegr (ac ar wahân iddi), caniatawyd iddi gadw ei hadeiladau, ond fe gymerwyd y rhan fwyaf o’i hasedau eraill oddi arni a’u rhoi i’r awdurdodau lleol i’w gweinyddu (o dan Ddeddf Cronfeydd Eglwys Cymru, sy’n dal mewn grym). Gadawyd i’r Eglwys £1 miliwn, sydd bellach wedi cynyddu i £370 miliwn. Bu hyn yn bosibl am ddau reswm:

Yn gyntaf, mae Corff y Cynrychiolwyr bob amser wedi dilyn strategaeth fuddsoddi wyliadwrus. Mae’n ystyried bod y cronfeydd a ddeil ar ran yr Eglwys yn rhy bwysig i’w peryglu trwy fentro gormod, ac mae felly wedi llwyddo i osgoi colledion enfawr (er enghraifft, y swigen dot-com).

Yn ail, ond yn bwysicaf oll, trefnwyd dwy ymgyrch fawr i godi arian – un yn y 1920au a’r llall yn y 1950au cynnar – y cyfrannodd pobl Cymru yn hynod o hael atynt. Mae Corff y Cynrychiolwyr wedi bod yn ymwybodol iawn erioed o’r cyfrifoldeb sydd arno i warchod yr etifeddiaeth hon.

Nid er ei fwyn ei hun y mae Corff y Cynrychiolwyr yn gwarchod yr asedau hyn. Mae traean ohonynt yn ffurfio’r Cynllun Pensiwn Clerigion, a defnyddir yr incwm o’r gweddill i gynnal cenhadaeth a gweinidogaeth yr holl esgobaethau.

Pwy yw aelodau Corff y Cynrychiolwyr?

Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn ac y mae iddo 26 o aelodau o bob rhan o’r Eglwys. Mae rhai (er enghraifft, yr Archesgob a Chadeiryddion Byrddau Cyllid yr Esgobaethau) yn aelodau yn rhinwedd eu swydd, eraill am fod ganddynt brofiad arbennig mewn maes perthnasol (eiddo, bancio, buddsoddi), ac etholir bron i hanner yr aelodau gan yr esgobaethau – un person lleyg ac un clerig o bob esgobaeth.