Datganiadau taleithiol i’r wasg

‘Mae’r negeseuon rhybuddiol yn atseinio’n glir – mae angen inni weithredu yn wyneb angen’

Newyn, glanhau ethnig, masnachu pobl a’r amgylchedd yn cyrraedd pen ei dennyn – mae negeseuon rhybuddiol gan Dduw yn atseinio’n glir gan alw arnom i weithredu yn wyneb angen, meddai Archesgob Cymru yn ei bregeth Nadolig gyntaf fel Archesgob.

Mae John Davies, a orseddwyd yn Archesgob ddechrau’r mis hwn, hefyd yn pwysleisio ‘erchylltra’ carchardai gorlawn, gwasanaeth iechyd dan bwysau, osgoi talu trethi a’r system Credyd Cynhwysol ‘a gyflwynwyd yn drwsgl’ fel anghenion ble mae gofyn gweithredu ar frys.

Mae’n codi pryderon ynghylch arweinwyr byd sy’n gweithredu mewn dull ‘cynhennus, llwythol a gwir ofidus i ddyfodol y byd’ gan alw, yn lle hynny, am ‘sgwrsio gyda meddyliau agored’.

Mae yna ffyrdd i ddatrys y pethau hyn, meddai, ond maen nhw’n gostus ac yn cynnwys system drethu decach a chyllido realistig.

“O bedwar ban byd mae’r negeseuon rhybuddiol yn atseinio’n glir, gan alw ar y byd i weithredu yn wyneb angen. Ychydig o enghreifftiau amlwg: ym mhellafoedd byd, ond sy’n cyrraedd ein cartrefi trwy’r cyfryngau newyddion, mae miloedd ar filoedd o blant ac oedolion, mewn llefydd fel Yemen a’r Congo, yn marw o ddiffyg bwyd ac afiechydon y byddai’n hawdd eu hatal, yn marw mewn byd sydd â mwy o fwyd nag mae ei angen ond na ellir ei rannu’n iawn oherwydd gwrthdaro llwythol; pobl yn cael eu gorfodi i fynd yn ffoaduriaid neu gaethweision oherwydd masnachu pobl, tra bod eraill yn cael eu lladd oherwydd eu hil, crefydd neu gefndir ethnig; mae effaith amgylcheddol cymaint o’r hyn a gymerwyd yn ganiataol am flynyddoedd yn cyrraedd pen ei dennyn; y tu hwnt i’r pwynt hwnnw mae’n ddigon posib na fydd mor troi’n ôl os na fydd yr arwyddion rhybuddiol yn cael eu cymryd o ddifri.

“Ac yma’n nes adref: mae digartrefedd yn rhemp ar strydoedd llawer o’n dinasoedd; mae banciau bwyd yn aml yn ei chael hi’n anodd darparu; mae Credyd Cynhwysol, oedd yn edrych yn syniad da ond a gyflwynwyd mewn ffordd mor drwsgl, wedi gadael llawer o deuluoedd gyda llai o incwm yn rhy hir; y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, sy’n dal yn wasanaeth ardderchog, yn ymlafnio i ymdopi gyda gofynion poblogaeth sy’n heneiddio a gofynion anhwylderau sydd ar gynnydd fel dementia; carcharorion sydd angen cyfleoedd adsefydlu ac addysg yn treulio gormod o amser yn segur dan glo oherwydd prinder staff a gorboblogi erchyll mewn cynefinoedd Fictorianaidd; osgoi trethi yn cael ei arfer fel celfyddyd ddianrhydedd ac anonest gan rai unigolion a chorfforaethau sydd, trwy wneud hynny, yn cosbi eraill gan droi eu llygaid a’u cydwybodau oddi wrth anghenion dynol ac urddas sylfaenol y rhai eraill hynny a chymdeithas drwyddi draw.

“Ac, mewn gormod o lefydd, mae tôn ac arddull rhai o’r bobl mewn safleoedd grym yn gynhennus, llwythol ac yn destun pryder dybryd i ddiogelwch y byd. Ymhle mae’r sgwrsio rhesymol, gyda meddyliau agored sy’n chwilio am y lles cyffredin a ffyniant dynoliaeth?”

Y ffyrdd i ddatrys pethau yw cariad ymroddedig sy’n arwain at weithredu a fydd yn ei dro yn costio arian.

“Faint o’r anghenion yn ein cenedl ein hunain a’n gallu i gyfrannu at ddiwallu gofynion mewn mannau eraill sy’n codi oherwydd prinder arian, galwadau llymder a’r pwysau yn sgil hynny ar gyllidebau? Llesiant, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol,y GIG, addysg, carchardai – mae’r rhain i gyd yn fyr o arian ar adeg pan allwn eto ddod o hyd i fwy na £30 biliwn i’r Undeb Ewropeaidd i ddiwallu’n hymrwymiadau cytundebol. Mae’n ddryswch i mi.

“Ac eto, diwedd y gân yw’r geiniog: os ydyn ni’n barod nid yn unig i glywed y neges ond hefyd i weithredu arni, bydd hynny’n costio. Bydd yn costio trefn drethu decach a chyllido realistig; bydd yn golygu talu am yr hyn ydyn ni eisiau i ni’n hunain ac i eraill, a pheidio â smalio y bydd torri ar ôl torri ar ôl torri yn datrys pethau. Dyw hi ddim yn ymddangos fod y llawdriniaeth honno’n cael yr effeithiau llesol y dylai fod yn eu cael.”

Dywed yr Esgob fod neges y Nadolig yn siarad gyda phawb ohonom.
“Yr angen yw i’r hyn y mae Iesu’n ei ddweud gael ei glywed hyd yn oed yn gliriach gan bawb, ac i’r clywed gael ei drawsnewid yn weithredu ymroddgar.”

Cadeirlan Aberhonddu – Dr Mark Clavier

Bydd Archesgob John yn pregethu yng Nghadeirlan Aberhonddu ddydd Nadolig. Bydd y gwasanaeth yn dechrau am 11am ac mae croeso i bawb. Bydd testun llawn y bregeth i’w gael ar-lein ar ôl iddi gael ei thraddodi yn www.eglwysyngnghymru.org.uk