Datganiadau taleithiol i’r wasg

‘Mae’r Nadolig yn datgan nad pellennig mo Duw, nad difater mohono o ran ein anawsterau, ein ymdrechion a’n gofid’

Mae’r Nadolig ar y trothwy unwaith yn rhagor. Dyma ni eto yn paratoi ar gyfer dathlu geni Iesu mewn tŷ tafarn ym Methlehem.

Ymddengys fod natur “neis neis” cymaint o’r stori Nadoligaidd sy’n amlygu ei hun ymhob man, fel pe’n gwrth-ddweud y byd cynyddol ansicr o’n cwmpas. Mae anghyfiawnder a gormes ar waith fwyfwy ym mhellafoedd byd a hefyd ar garreg ein drws. Ffoi yw tynged pobl, gan geisio lloches yn ein mysg rhag y trais y buom yn rhannol gyfrifol amdano. Mae bywyd ym Mhrydain yn gynyddol anos i bobl ag anableddau ac i’r rheiny â’u henillion yn ddigon prin. Tybed a oes yna unrhyw beth i’w ddathlu eleni?

Bydd testun ein dathlu’r Nadolig hwn yn unol â’r hyn a ddathlwyd ers geni’r Eglwys adeg y Pentecost. Mae’r Nadolig yn datgan nad pellennig mo Duw, nad difater mohono o ran ein anawsterau, ein ymdrechion a’n gofid. Yn Iesu “gwnaed y Gair yn gnawd a thrigodd yn ein plith”. Bu yntau fyw gan ddatgan dyfodiad Teyrnas dragwyddol a diatal Duw. Ar y Groes, bu farw dros ein pechodau ni; drwy ei atgyfodiad ac yna drwy anfon yr Ysbryd Glân i’n calonnau, gellir gweld gwireddu bywyd Iesu o gariad, ynom ninnau heddiw, yn ein geiriau a’n gweithredoedd, a hynny ynghanol ein bywyd dioddefus a chymhleth.

Ar adeg y Nadolig, dathlwn rywbeth a ddigwyddodd yn y gorffennol pell, sef genedigaeth Iesu ein Gwaredwr, ond testun llawenydd mwy yw’r addewid y genir Iesu o’r newydd yn ein calonnau yn ddyddiol, er gwireddu ei gariad ynom ni; gofyn yn unig sydd raid.