Datganiadau taleithiol i’r wasg

‘Mae harddwch a myfyrdod tawel yr eicon Uniongred yn ein herio i edrych ac i edrych eto’

Mae’r portread o’r Nadolig wedi ei ganoli ar stori’r geni yn yr efengylau. Dros y canrifoedd mae’r stori’n cael ei hadrodd o’r newydd i bob cenhedlaeth, trwy gelfyddyd, cerddoriaeth a drama. Mae rhannau penodol o’r stori’n cael eu haddurno er mwyn darparu sylwebaeth foesol, fel y pwyslais ar dlodi Iesu yn ogystal â’i dderbyniad oeraidd i’r byd.

Wrth edrych ar eicon Uniongred y geni, cawn ein cyflwyno gyda phersbectif ychydig yn wahanol. Wrth i chi syllu ar yr eicon, mae yna bobl a golygfeydd cyfarwydd ac eto nid yw pethau’n union fel y bydden ni’n eu hadnabod. Mae’r eicon wedi ei lenwi â gwahanol ddigwyddiadau personol yr enedigaeth, sy’n cael eu cyflwyno gyda haenau o ystyr. Yn gyntaf ac yn bennaf, mae’r eicon yn dangos Iesu’n cael ei eni mewn ogof, yn cael ei gynhesu gan anadl y gwartheg sy’n ei amgylchynu’n glos mewn tywyllwch dwfn. Mae’r ogof wedi ei lleoli mewn mynydd anghyfeillgar, creulon a digroeso, sy’n portreadu ei dderbyniad oeraidd i’r byd. Ond nid yw Iesu ar ei ben ei hun. Mae ei fam yn fawr uwch ei ben, yn cynnig cariad mamol ac addoliad dynol. Islaw,  mae coeden Jesse yn siarad am deulu dyn yn blodeuo i ffrwyth Iesu. Ac i’r dde, gan ddilyn traddodiad hynafol, mae dwy wraig, sef bydwraig a Salome, yn mynd ati i olchi Iesu.

Rwy’n hoffi’r ychwanegiad hwn, gan ei fod yn dangos i ni nad yw Iesu ar ei ben ei hun ac wedi ei adael, ond bod menywod y gymuned yn gofalu amdano. Efallai mai rhyw ychwanegiad addurniadol yw hyn, ond i mi mae’n siarad am gryfder a charedigrwydd dynoliaeth ac yn awgrymu nad yw popeth wedi ei golli. Mae greddfau sylfaenol trugaredd a chymorth y amlwg yn y pentref.

Ac yna ar y chwith, portread bach arall, o Joseff y tro hwn, i ffwrdd oddi wrth Mair a Iesu. Mae’n siarad gyda hen ŵr, y diafol o bosib, su’n llenwi ei feddwl gydag amheuon a dryswch.

Er gwaethaf ei oed a’i draddodiad, mae’r eicon Uniongred yn adleisio rhai o syniadau’r byd modern am eni Iesu. Mae yna gymysgedd o dderbyn a gelyniaeth gan y creadur a chan y creu. Mae Duw yn gwybod na fydd hon yn daith hwylus. Ond mae’r gwragedd yn rhoi gofal a chymorth i’r un diymadferth. Maen nhw’n cynrychioli’r hyn sy’n dda mewn dynoliaeth a pham fod Duw’n ein gweld mor gariadus.

Ar adeg pan ydyn ni  yn y gorllewin yn enwedig yn cwestiynu ac ail-archwilio dilysrwydd ein ffydd, mae’r sgwrs galed rhwng Joseff a’r hen ŵr yn adleisio ansicrwydd y byd ynghylch gwirionedd yr ymgnawdoliad. A all person dynol fod yn Dduw a Duw fod yn ddynol?

Mae harddwch a  myfyrdod tawel yr eicon yn ein herio i edrych ac i edrych eto. Daw’r gwirionedd i’r golwg yn raddol a mynnu’n sylw. Gall plentyn ddeall, efallai y bydd rhaid i oedolyn ymdrechu, ond mae modd dirnad cariad hardd a throsgynnol Duw. Mae gwyleidd-dra Iesu yn ein gwahodd ac mae croeso i ni. Daw’r Nadolig.

 

Daw’r Arglwydd doethaf i gael ei eni,

Gan dderbyn croeso gan ei greaduriaid ei hun.

Gadewch i ni ei dderbyn,

Y gall y Plentyn dwyfol yn yr ogof ein gwneud yn westeion iddo

Ym mharadwys pleserau!

 

Gyda chariad a gweddïau yn ystod yr amser sanctaidd hwn.