Datganiadau taleithiol i’r wasg

‘Dangoswch i bobl rym ein ffydd’ – Archesgob yn herio eglwysi

Byddai pobl ifanc yn rhoi pump-uchel i’r proffwyd Job ac yn tynnu hunlun gyda Iesu pe byddent yn deall Cristnogaeth yn iawn, meddai Archesgob Cymru newydd heddiw.

Yn ei anerchiad yn ei orseddiad fel 13eg Archesgob Cymru, heriodd John Davies eglwysi i ‘adsefydlu ac adfywio’ sut yr esboniant neges yr Efengyl, yn neilltuol i bobl ifanc. Dywedodd nad oedd bod yn Gristion yn ymwneud yn unig â mynd i’r eglwys.

Dywedodd: “Ni chawn bob amser ein gweld am y daioni a wnawn, na’r achosion cyfiawn a gefnogwn neu a hyrwyddwn, nac am y cyfiawnder a’r gwirionedd y galwn amdano.”

Roedd Cadeirlan Aberhonddu yn llawn gyda thua 600 o bobl o bob rhan o Gymru ar gyfer gorseddiad yr Archesgob John brynhawn Sadwrn. Dechreuodd y gwasanaeth gyda gorymdaith hir yn cynnwys clerigwyr, esgobion gwadd, swyddogion cyfreithiol esgobaethol, gwesteion eciwmenaidd a rhyng-ffydd a chynrychiolwyr sefydliadau academaidd.

Yn ystod y gwasanaeth, gwnaeth yr Archesgob ei ddatganiad a llw ar Feibl hanesyddol William Morgan, a gludwyd yn arbennig o Gadeirlan Llanelwy ar gyfer yr achlysur, a chafodd ei osod ar y gadair Archesgobol (neu orsedd) gan Esgob Bangor, yr Uwch Esgob, a’i cyflwynodd i’r gynulleidfa wedyn.

Cynhaliwyd y gwasanaeth ar wylnos tymor yr Adfent, Blwyddyn Newydd yr Eglwys. Yn ei anerchiad galwodd yr Archesgob ar eglwysi i wneud Addunedau Blwyddyn Newydd i helpu pobl i ddeall hanfod eu ffydd.

Dywedodd, “Gadewch i’r eglwys benderfynu mynd i’r afael â’r caricatur o fod yn sefydliad sy’n canolbwyntio’n bennaf ar ddim ond goroesi a gwrthwynebu pethau.

“Gadewch i eglwysi a’u helusennau fod yn falch i ddatgan cynlluniau gofalgar, cariadus a hael sydd, yn aml mewn partneriaeth gydag eraill y maent eisoes yn eu cymryd, yn cefnogi a chadarnhau cymunedau a phobl anghenus. Gweithiant drwy bethau fel canolfannau teulu, banciau bwyd, llochesi nos a phrosiectau i’r digartref, mewn caplaniaethau ac ysgolion, mewn trefi a dinasoedd drwy waith bugeiliaid stryd, drwy asiantaethau cymorth gan ailadeiladu cymunedau chwilfriw a helbulus mewn lleoedd anghyfannedd nad yw rhai ohonom hyd yn oed erioed wedi clywed amdanynt, ac mewn cynifer o ffyrdd eraill. Yn aml aiff y gwaith rhagddo yn y dirgel, ynghyd â llawer iawn o waith cyffredin ond cefnogol ymgysylltu â’r gymuned adref. Ond mewn ffyrdd o’r fath daw’r hyn a ddywed eglwysi yn gnawd, ag ystyr gwirioneddol, ac mae’r deyrnas yn dyfod. Mae’n rhaid i ni fod yn barod, a pheidio ofni neu gywilyddio dweud hynny ac esbonio felly.

“Dylai hynny ddod yn rhan o’r hyn y credaf sy’n rhaid iddo fod yn ymrwymiad i ymgyrch hir-ddisgwyliedig i adsefydlu ac adfywio sut yr esboniwn neges yr Efengyl, gan helpu eraill i wirioneddol ddeall nad yw’n ymwneud yn unig â mynd i’r eglwys.”

Dywedodd yr Archesgob ‘gonsyrn egnïol a dwfn’ i ddwyn tystiolaeth i bobl ifanc nad oedd yn cysylltu neges yr Efengyl gyda’u hymdeimlad cryf eu hunain o iawn.

Dywedodd, “Mae’n amlwg fod gan gynifer ohonynt ymdeimlad dwfn a chlir o hawl moesol. Maent yn ymwybodol iawn o’r angen am gyfiawnder cymdeithasol ac economaidd, gofalu am y greadigaeth, a chyfle cyfartal; maent yr un mor ymwybodol o’r angen am gymdeithas yn rhydd rhag unrhyw fath o ragfarn ac a wreiddiwyd yn unrhyw beth sy’n rhan o hunaniaeth unigol, rhywedd, hil, tarddiad, crefydd neu gyfeiriadedd unrhyw un.

“Yn ddiddorol, mae ganddynt hefyd edmygedd dwfn am ddelfrydau sydd mewn gwirionedd i’w gweld yn yr ysgrythur – byddent yn rhoi pump-uchel neu hyd yn oed yn cofleidio Job, byddent yn annog y Colosiaid i wisgo côt uchaf cariad gwaetgoch; byddent yn gwirioni ar ddysgeidiaeth radical Iesu, y Bugail Da – ac os gallent, byddent bron yn sicr yn tynnu hunlun gydag ef! Efallai, fodd bynnag, nad ydynt yn cysylltu ein heglwysi sydd weithiau’n cael trafferthion gyda’r pethau hyn, neu’n clywed yr eglwysi hynny yn dweud ‘clywch clywch’ digon clir wrthynt.

Anogodd yr Archesgob John hefyd bawb i siarad yn erbyn anghyfiawnder a gorthrwm.

Dywedodd, “Tu hwnt i’r eglwys a chrefydd, oni allwn ni gyd benderfynu’n syml, yn ein cymdeithas gynyddol ranedig, dryslyd ac anwastad, i amwisgo mewn daioni, i alw i gyfrif ac annog diwygio unigolion a chyrff sy’n mynd ati’n fwriadol neu’n llechwraidd, yn esgeulus neu’n ddiofal i gynllwynio i orthrymu lleiafrifoedd, gosod baich tlawd a dwyn eu hurddas oddi ar unigolion”.

Mwy o wybodaeth am y gwasanaeth gorseddu  

Mwy o wybodaeth am etholiad yr Archesgob John a’i fywgraffiad