Datganiadau taleithiol i’r wasg

‘Cariad yw arf grymusaf y byd’

P’un ai ydym yn gyffredin neu’n ddylanwadol, yn gyfoethog neu’n dlawd, geilw Crist ar bawb ohonom i ddangos consyrn cariadus at y rhai o’n hamgylch, meddai Archesgob Cymru yn ei neges Nadolig.

Bydd yr Archesgob John Davies yn pregethu yng Nghadeirlan Aberhonddu ar Ddydd Nadolig. Mae’r gwasanaeth yn cychwyn am 11am ac mae croeso i bawb.

P’un ai ydynt yn ffaith hanesyddol neu’n ddim ond straeon a ysgrifennwyd yn ofalus – ac rwy’n cyfaddef fod yn well gennyf yr ail opsiwn – mae gan yr adroddiadau Beiblaidd o fugeiliaid a brenhinoedd yn cael eu denu at y baban Iesu rywbeth pwysig i ddweud wrth ein cymdeithas am arwyddocad tymor y Nadolig a dechrau’r Flwyddyn Newydd.

Yn Efengyl Sant Luc y cawn stori’r bugeiliaid. Nid oedd y rhain yn unigolion dylanwadol na grymus. I’r gwrthwyneb yn wir: allan yna yn y bryniau, yn cael eu talu (ond nid rhyw lawer mae’n debyg) i ofalu am ddefaid rhywun arall. Ond i’r bobl ymddangosiadol ddibwys hyn y daw’r neges gyntaf am eni Iesu. Ystyr hyn? Yn syml, fod gan Iesu rywbeth pwysig i’w ddweud wrth y bobl gyffredin fel chi a fi. Yna trown at fersiwn Mathew o’r Efengyl lle cawn y stori am y brenhinoedd neu, os yw’n well gennych, y Doethion. Oherwydd yr anrhegion drud a symbolaidd a ddaethant, rydym i fod i ddeall fod y rhain yn bobl sylweddol; dylanwadol ac, efallai, hyd yn oed yn rymus. Deuant a chyflwyno eu hanrhegion; ond cyn gwneud hynny, dywedir wrthym iddynt ‘syrthio i lawr ac addoli’ Iesu. Ystyr hyn? Eto, yn syml, mae gan Iesu rywbeth pwysig i’w ddweud wrth bobl o ddylanwad.

P’un ai’n fugeiliaid Luc neu frenhinoedd Matthew, mae’r straeon hyfryd hyn yn cynnwys negeseuon o wirionedd, sef fod dysgeidiaeth Iesu o Nasareth, y dyn y byddai’r plentyn o Fethlehem yn tyfu i fod, yn batrwm ar gyfer pobl gyffredin ac yn batrwm ar gyfer pobl rymus. Pwy bynnag ydym, mae ganddo rywbeth i’w ddweud am y ffordd yr ydym yn byw ein bywydau a sut y gelwir arnom i ddangos consyrn cariadus, nid yn unig atom ein hunain ond at y miliynau o bobl anghenus, pobl adref a thramor, pobl yn ein cymunedau ein hunain a chymunedau pell i ffwrdd yng ngwledydd eraill y byd; pobl y mae eu straeon bywyd o angen ac anobaith yn ymddangos yn ein newyddion bob dydd: yn eu plith mae pobl ddigartref, ffoaduriaid, dioddefwyr rhyfeloedd a thlodi, erledigaeth a rhagfarn, newyn a diffyg cyfleoedd – mae’r rhestr yn ymddangos yn ddiddiwedd!

Cariad – cariad real, gwaetgoch – yw’r arf mwyaf grymus sydd gan y byd ac mae Iesu’n dangos sut y dylid ei ddefnyddio a rhaid ei ddefnyddio er lles y byd y cafodd ei eni i’w adnewyddu.

Ein neges i ni yw fod yn rhaid i ni geisio byw ein bywydau yn dangos consyrn diffuant, croesawus a chariadus at y rhai o’n hamgylch. Ei neges glir iawn i’r rhai sy’n gyfrifol am arwain a llywodraethu cymdeithasau’r byd yw y dylid gweithredu grym o fewn fframwaith y consyrn hwnnw gan yr ymddengys fod y rhaniadau rhwng y goludog a’r tlawd, hyd yn oed yn ein cymdeithas ein hun, yn cynyddu’n barhaus, ac wrth i’r lleisiau sy’n awgrymu mai dim ond at ein hunain y dylem fod â chonsyrn yn ymddangos yn fwy a mwy croch.

Dymunaf i chi’r gwir a bendith Iesu ar gyfer Tymor y Nadolig, ar gyfer y Flwyddyn Newydd a thu hwnt.