Datganiadau taleithiol i’r wasg

Cynnal gwasanaeth Diwygiadd Protestannaidd 50 mewn Cadeirlan Gatholig

Union 500 mlynedd ar ôl dechrau’r Diwygiad Protestannaidd, bydd pobl o eglwysi a chapeli Cristnogol yng Nghymru yn ymgasglu mewn cadeirlan Gatholig i ddathlu eu hundod.

Cynhelir gwasanaeth cenedlaethol o goffâd ac ymrwymiad ddydd Mawrth (31 Hydref) yng Nghadeirlan Fetropolitan Caerdydd dan arweiniad Archesgob Caerdydd gydag arweinwyr yr eglwysi a dyfodd allan o’r Diwygiad Protestannaidd, yn cynnwys Archesgob Cymru. Mae’n nodi 500 mlwyddiant y diwrnod yr hoeliodd Martin Luther, mynach  Awstinaidd o’r Almaen, y 95 Pwnc ar ddrws Eglwys yr Holl Seintiau yn Wittenberg, Sacsoni, gan brotestio yn erbyn ‘gwerthu maddeuebau’.

Bydd y gwasanaeth yn canolbwyntio ar ddatganiadau diolch am ddealltwriaeth y Diwygiad, tristwch am y rhaniadau a achosodd a diolch am y cais am undod. Bydd pob arweinydd eglwysig wedyn yn tanio cannwyll wrth iddynt ymrwymo eu hunain i dyfu mewn cymundeb, wedi eu llywio gan bump hanfod y Comisiwn Lutheraidd/Catholig ar Undod. Bydd George Stack, Archesgob Caerdydd, yn rhoi’r anerchiad.

Trefnwyd y gwasanaeth, sy’n agored i bawb, gan Cytûn ac fe’i dilynir gan ddarlith yn adeilad Cornerstone gan yr Athro Densil Morgan, o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ar etifeddiaeth y Diwygiad Protestannaidd.

Yr arweinwyr eglwysig fydd yn cymryd rhan gyda’r Archesgob George yw: Archesgob Cymru, John Davies; y Parch  Albrecht Köstlin-Büürma, Uwch Swyddog Synod Cynulleidfaoedd Diwygiedig ac Unedig Almaeneg Prydain Fawr; Rheinallt Thomas, Llywydd Cyngor Eglwysi Rhydd Cymru; y Parch Elfed Godding, Cyfarwyddwr Cynghrair Efengylaidd Cymru; y Parch Jenny Hurd, cadeirydd Synod Cymru; a’r Canon Aled Edwards, Prif Swyddog Gweithredol Cytûn.

Dywedodd John Davies, Archesgob Cymru: “Cawn ein hunain yn coffau un o’r rhaniadau mwyaf a brofodd Eglwys Duw ar adeg pan, yn baradocsaidd,  ei bod yn debyg fod perthasoedd eciwmenaidd yn gynhesach nag erioed. Er bod yr Eglwys heddiw, gyda’i gwreiddiau yn Eglwys y ganrif gyntaf, yn bodoli mewn nifer o wahanol draddodiadau, ymfalchïwn y gallwn ddathlu ein hundod yng Nghrist.

“Mae Diwygiad 500 yn rhoi cyfle i ni ddiolch, er bod hanes ysywaeth wedi tystio rhaniadau hallt a hyd yn oed dreisgar mewn diwinyddiaeth ac athrawiaeth, bod hynny wedi ein harwain, mewn ffordd braidd yn rhyfeddol, i gydnabod yn ddilynol werth parch a dealltwriaeth o’n gilydd a’r traddodiadau amrywiol hyn. Rwy’n gobeithio y byddai Martin Luther yn cael ei hunan yn medru llawenhau gyda ni fod hyn wedi digwydd.”

Dywedodd y Parch Gethin Rhys, swyddog polisi Cytûn: “Roeddem yn falch iawn i ymateb i awgrym yr Eglwys Lutheraidd Almaenaidd yng Nghymru y dylai Cristnogion yng Nghymru gyd-ddathlu 500fed mlwyddiant y traddodiad Lutheraidd a gwneud hynny yn y Gadeirlan Fetropolitaidd Gatholig. Mae hyn yn dangos pa mor bell y daethom fel eglwysi. Mae cyd-bresenoldeb, yn y Gadeirlan Gatholig, gynrychiolwyr yr holl brif eglwysi a dyfodd allan o’r Diwygiad Protestannaidd yn arwydd o’r undod a geisiwn yn amser Duw”.

Ychwanegodd Mr Rhys fod gan y Diwygiad Protestannaidd arwyddocâd neilltuol yng Nghymru. “Arweiniodd y Diwygiad Protestannaidd a ddechreuodd yn yr Almaen, 50 mlynedd yn ddiweddarach, at gyfieithiad William Salesbury o’r Testament Newydd a’r Llyfr Gweddi Gyffredin a gyhoeddwyd ill dau yn 1567. Roedd y digwyddiadau hyn yn ganolog wrth greu Cymru ddwyieithog heddiw. Mae dadl gref iawn dros ddweud na fyddai’r Gymraeg – a wnaed yn anghyfreithlon mewn gwasanaeth cyhoeddus yn 1536 – wedi goroesi yn yr hirdymor oni bai iddi gael ei gwneud yn iaith swyddogol Eglwys (Lloegr) yng Nghymru.”

Dywedodd y Parch Albrecht Köstlin-Büürm, “Rwy’n gobeithio y bydd cofio neges ganolog y Diwygiad Protestannaidd – ‘cyfiawnhad drwy ffydd’ – yn dangos ei bod yn llai pwysig i ba enwad yr ydym yn perthyn, i ba grŵp ieithyddol yr ydym yn perthyn, os yw’r eglwysi yn tyfu neu os ydynt yn llwyddiannus yn eu gwaith cymdeithasol. Yn y pen draw mae’n bwysig ein bod yn cynnig cariad Duw i bawb sy’n ymdrechu mewn bywyd bob dydd. Gallai hyn greu awyrgylch o oddefgarwch a gofal.”

Meddai Mr Thomas, “Mae dathliad y pen-blwydd hwn yn arwyddocaol iawn i Eglwysi Rhydd Cymru. Gwelodd Gymru ddiwygiadau crefyddol yn y gorffennol ac mae’r rhain wedi adlewyrchu credoau’r Diwygiad Protestannaidd, a amlygwyd bron yn llwyr o fewn yr Eglwysi Rhydd. Mae’n debyg ei bod yn wir dweud fod ganddynt fwy yn gyffredin, yn litwrgaidd ac yn ddiwinyddol, gydag Eglwysi Lutheraidd Ewrop na gydag enwadau eraill y Deyrnas Unedig., Y gobaith mawr i Gymru yw heddiw y byddwn drwy ddathlu’r Diwygiad Protestannaidd yn cofio am yr angerdd a’r berw a achosodd a bod hynny’n meithrin dyhead ynom am ddiwygiad Cristnogol arall.”

Cynhelir y gwasanaeth ddydd Mawrth 31 Hydref, i gychwyn am 11am. Mae darlith yr Athro Morgan hefyd yn rhad ac am ddim ac yn cychwyn am 2pm.