Datganiadau taleithiol i’r wasg

Gwydr lliw o’r oesoedd canol yn dychwelyd i eglwys yng Nghonwy

Caiff pum panel ffenestr gwydr lliw hynafol eu dangos mewn eglwys ger Bae Colwyn ar ôl cael eu hadfer diolch i grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Canfuwyd darnau o’r pum ffenestr, sy’n dyddio’n ôl i’r bymthegfed ganrif, wedi’u lapio mewn blancedi dan y pulpud yn Eglwys Cystennin Sant yn Llangystennin ger Mochdre a chawsant eu hanfon i Amgueddfa Llandudno i’w cadw’n ddiogel. Nawr ar ôl i wirfoddolwyr o’r eglwys godi arian, cafodd y ffenestri eu hadfer gan gwmni Recclesia o Sandycroft a’u dychwelyd i’r eglwys mewn cabinet arddangos gwydr a derw.

Mae’r paneli’n dangos Sant Siôr yn lladd y ddraig, Sant Nicolas, Santes Catherine, Sant Pedr ac Atgyfodiad Crist. Dyfarnwyd grant o £9,400 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, gyda’r eglwys yn cyfrannu £1,000 arall.

Margaret Hodgkiss, Trysorydd Eglwys Cystennin Sant, oedd yng ngofal y prosiect adfer. Dywedodd, “Rwyf wrth fy modd ein bod wedi medru adfer y dreftadaeth yma a’i dychwelyd i’r Eglwys. Mae’r rhain yn ddarnau amhrisiadwy o’n hanes a fyddai wedi cael lle amlwg iawn, yn dweud y stori Gristnogol, drwy gydol yr oesoedd canol. Mae’r ffenestri yma’n hŷn na’r Eglwys ei hunan, a ailadeiladwyd yn 1843 ond gwyddom y bu safle addoliad Cristnogol yma ers 338AD.”

Bu Recclesia, sy’n arbenigo mewn cadwraeth adeiladau hanesyddol a gwydr, yn adfer y darnau gwydr yn ofalus iawn dros nifer o fisoedd, gan gatalogio pob adran a gosod plwm newydd. Cafodd gwaith adfer blêr blaenorol a wnaed ei dynnu a gosodwyd gwydr gwyrdd plaen yn lle’r adrannau coll. Katherine Walton oedd yn arwain y tîm o bump o gadwraethwyr gwydr. Dywedodd: “Mae wedi cymryd tua mis i ddychwelyd y paneli gwydr hyn i’w gogoniant. Mae rhai rhannau’n dal ar goll ond mae’r manylion yn y gwaith gwydr a’r peintio yn wych.”

Dywedodd Jamie Moore, Rheolwr Gyfarwyddwr Recclesia: “Roeddem yn falch iawn cael contract i wneud y gwaith cadwraeth yma. I ddechrau gofynnwyd i ni asesu arwyddocâd y paneli ac fe wnaethom ysgrifennu llythyr i gefnogi’r cais am gyllid heb godi ffi a heb unrhyw ddisgwyliad o’r gwaith. Mae hyn yn dangos ein hethos a’n dymuniad i sicrhau cadwraeth ein treftadaeth er budd, dealltwriaeth a mwynhad cenedlaethau i ddod.

“Mae’r rhain yn enghreifftiau gwych o wydr lliw o’r oesoedd canol, eto mewn rhai ffyrdd maent yn wahanol i ffenestri eraill ac felly’n arwyddocaol iawn. Mae arddull y celfwaith yn dangos ceffyl Sant Siôr yn debyg i wydr lliw yn Norfolk ac mae’r eurgylch o amgylch pennau’r seintiau yn wahanol i enghreifftiau lleol eraill.

“Credir hefyd y gallai fod chweched panel yn dangos yr Archangel Mihangel gyda’r Forwyn Fair, yn pwyso eneidiau ond ni chanfuwyd unrhyw ddarnau hyd yma”.

Mae casgliad mawr o wydr lliw o’r oesoedd canol yng Ngogledd Cymru gydag enghreifftiau rhagorol mewn eglwysi yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Credir fod pellter yr ardal o Lundain wedi helpu i osgoi torri ffenestri gwydr lliw a mathau eraill o eiconograffeg pan ddiddymwyd mynachlogydd yn yr unfed ganrif ar bymtheg.”

Mae Sant Cystennin yn Eglwys yr Eglwys yng Nghymru gyda rhestriad gradd II ac ar lwybrau seiclo a cherdded rhwng Mochdre a Glanwydden.