Datganiadau taleithiol i’r wasg

Chwilio am hoff eglwys/capel Cymru

O gadeirlannau canoloesol i gapeli mynyddig – mae gan Gymru rai o’r adeiladau crefyddol harddaf a mwyaf hanesyddol yn y byd ac mae gennych yn awr gyfle i bleidleisio dros eich ffefryn.

I ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o dreftadaeth grefyddol Cymru, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi, yr elusen sy’n cefnogi adeiladau eglwysig  y Deyrnas Unedig, wedi lansio Cymru Sanctaidd – Sacred Wales’ drwy roi cyfle i bobl ddewis hoff eglwys neu gapel Cymru.

Gallwch ddewis o blith rhestr o 50 o adeiladau a enwebwyd gan fudiadau crefyddol a threftadaeth, yn cynnwys yr Eglwys yng Nghymru.

Maent yn cynnwys Cadeirlan Tyddewi; Capel Als, yr addoldy Anghydffurfiol cyntaf yn Llanelli; a chysegrfa Gwenffrewi yn Nhreffynnon sy’n nodi’r man lle dienyddwyd Gwenffrewi gan Caradog yn y 7fed ganrif ac un o’r safleoedd hynaf o bererindod parhaus ym Mhrydain.

Gallwch bleidleisio ar-lein yn www.sacredwales.org.uk tan 31 Awst 2017.

Cyhoeddir enw’r eglwys neu gapel buddugol ar 28 Medi a bydd yn derbyn tlws ‘Cymru Sanctaidd’, ynghyd â siec am £500.

Mae Alex Glanville, pennaeth gwasanaethau eiddo yr Eglwys yng Nghymru, yn annog pobl i bleidleisio. Dywedodd, “Mae gan Gymru dreftadaeth hynod o adeiladau crefyddol. Mae cynllun Cymru Sanctaidd gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi yn gyfle gwych i ddathlu’r dreftadaeth honno ac ymchwilio rhai o’n lleoedd arbennig iawn. Mae hefyd yn ein hatgoffa bod gwirfoddolwyr lleol yn gweithio’n galed ym mhob cynulleidfa i ofalu am y dreftadaeth werthfawr hon ac rydym yn ddyledus iawn iddynt fel cenedl.

“Rydym wedi gweithio’n agos gydag Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi a Fforwm Addoldai Hanesyddol Cymru i ddatblygu a hyrwyddo Arolwg Cefnogi Addoldai Cymru 2017 sydd wedi dynodi’r 50 hoff eglwys a chapel ar y rhestr. Er ei bod yn ddi-os bod llawer o ffefrynnau eraill ledled Cymru, mae’r rhestr yn groestoriad diddorol tu hwnt o addoldai Cymru.”

Cafodd pwysigrwydd cadw treftadaeth grefyddol Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ei danlinellu gan y darlledwr Huw Edwards yn lansiad Cymru Sanctaidd.  Dywedodd “Dylai treftadaeth eglwysi a chapeli sy’n helpu i ddweud stori Cymru fod yn bwysig i ni gyd. Felly gadewch i ni gydweithio i’w cadw’n fyw.

“Os ydych yn edrych am safle i gynnal digwyddiad neu gyngerdd neu weithgaredd cymunedol, beth am ddewis un o’ch eglwysi neu gapeli lleol. Os ydych yn dda gyda’ch llaw, beth am wirfoddoli i wneud ychydig o waith atgyweirio. Neu os ydych yn edrych am ddiwrnod mas mewn rhan arall o Gymru, pam na alwch heibiio eglwys neu gapel a darganfod yr hanes diddorol.

“Mae treftadaeth grefyddol Cymru yn eiddo i bawb ohonom. Felly gadewch i ni ei dathlu.”

Mae Claire Walker, Prif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi, yn galw am drafodaeth genedlaethol am ddyfodol eglwysi a chapeli Cymru. Dywedodd, “Mae tua 4,500 o eglwysi a chapeli yng Nghymru. Cafodd tua 45% ohonynt eu rhestru oherwydd eu harwyddocâd hanesyddol a phensaernïol.

“Fodd bynnag, gyda chynulleidfaoedd yn prinhau, nid yw eu dyfodol wedi ei warantu. Dyna pam fod angen trafodaeth genedlaethol am eu dyfodol. Mae’r cwestiynau allweddol sydd angen atebion yn cynnwys: pa un yw’r ffordd orau o’u hariannu; sut y gallant ddenu mwy o ymwelwyr; a sut y gellir troi mwy ohonynt yn hybiau cymunedol, sy’n lleoliad i swyddfeydd post, marchnadoedd ffermwyr i helpu pobl mewn angen?

“Fel elusen cefnogi eglwysi’r Deyrnas Unedig, yn y pum mlynedd ddiwethaf mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi wedi cyflwyno 37  dyfarniad yn werth mwy na £450,000 i eglwysi a chapeli yng Nghymru i helpu talu am waith atgyweirio brys a gosod cyfleusterau cymunedol.

“Yn y dyfodol agos, gobeithiwn ymestyn ein gwasanaeth newydd ‘MaintenanceBooker’

(www.maintenancebooker.org.uk) i Gymru, sy’n ei gwneud yn haws i eglwysi a chapeli wneud tasgau hanfodol megis clirio draeniau a chwteri ac archwiliadau rhoden fellt.

“Mae eglwysi a chapeli yn adeiladau hanesyddol. Gyda help llywodraeth, cyrff treftadaeth megis CADW a Chronfa Dreftadaeth y Loteri a phobl leol, gallant fod yn rhan o’n dyfodol hefyd.”

Medrir lawrlwytho ffilm am Gymru Sanctaidd yn https://vimeo.com/224767104 (Saesneg gydag is-deitlau Cymraeg) a https://vimeo.com/224670880 (Saesneg yn unig).