Datganiadau taleithiol i’r wasg

Esgobion yn annog y Llywodraeth i roi pobl yn gyntaf ar ôl Brexit

Mae esgobion Cymru yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi pobl yn gyntaf wrth iddi negodi i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.

Wrth i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig gychwyn Erthygl 50 i ddechrau’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd, dywedodd esgobion yr Eglwys yng Nghymru fod angen mynd i’r afael â diffyg cydraddoldeb ac anfantais er mwyn adeiladu Cymru well yn dilyn Brexit.

Meddai’r esgobion, “Dangosodd y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd raniadau dwfn mewn cymdeithas. Er fod rhai wedi manteisio o ffyniant economaidd a’r cyfleoedd i deithio, gweithio, astudio a masnachu’n rhydd ar draws ffiniau Ewrop, i eraill bu’r pethau hyn yn amherthnasol. Nid ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd sy’n gyfrifol am holl achosion rhaniadau ac ymddieithriad, ac os ydym i adeiladu Cymru well yn dilyn Brexit, mae’n hanfodol ein bod yn adnabod a chyfarch pob un achos o anghydraddoldeb ac anfantais sy’n niweidio ein hymdeimlad o frawdgarwch a pherthyn i’n gilydd yn ein cymuned.

“Gyda hyn dan sylw, rydym yn annog y rhai sy’n gyfrifol am drafodaethau i roi blaenoriaeth i ddiogelu hawliau dynol; i fod yn rhagweithiol wrth gynnig sicrwydd i unigolion a theuluoedd a ddaeth i fyw o fewn ein ffiniau; ac i gynnal hawliau cyflogaeth, safonau diogelwch a mesurau diogelu amgylcheddol a ddatblygwyd ar y cyd gyda’n partneriaid Ewropeaidd dros y 40 mlynedd ddiwethaf. Mae’r un mor bwysig i barhau i gefnogi’r rhannau hynny o Gymru y mae anfantais economaidd yn effeithio mwyaf arnynt, er mwyn hyrwyddo’r economi gwledig ac i gefnogi sectorau sy’n dibynnu ar farchnadoedd Ewropeaidd.

“Fel Cristnogion rydym yn cydnabod ein hunaniaeth gyffredin fel plant Duw. Ni fydd gwahaniaethau gwleidyddol yn ymyrryd ar ein perthynas gyda chyd-Gristnogion yn Ewrop a thu hwnt, yn arbennig drwy’r Cymun Anglicanaidd bydeang. Gweddiwn y bydd Ewrop yn parhau i fod yn fegwn heddwch, gobaith a chyd-ymdrech ar draws ffiniau cenedlaethol ac y bydd y rhain yn nodweddion ac ymdrechion y gallwn barhau i chwarae rhan ynddynt”.

Esgobion Cymru yw:

Esgob Abertawe ac Aberhonddu, John Davies
Esgob Bangor, Andrew John
Esgob Llanelwy, Gregory Cameron
Esgob Trefynwy, Richard Pain
Esgob Tyddewi, Joanna Penberthy