Gweddïo

Cafodd pob bod dynol ei greu er mwyn cael perthynas gyda Duw. Mae pobl o bob ffydd yn chwilio am y berthynas hon  – ac o safbwynt dynol, gweddi yw un o’r agweddau pwysicaf.

Wrth weddïo, gallwn:

  • agor ein calonnau a’n meddyliau i Dduw;
  • diolch i Dduw am y bendithion a dderbyniwn bob dydd, gan gynnwys y berthynas y mae Duw’n ei rhoi i ni gydag ef ei hun;
  • cyffesu’r pethau anghywir a wnaethom, a chan adnabod maddeuant Duw, gwrthod y drwg a throi’n ôl ato ef;
  • gwasanaethu Duw, ceisio dod i wybod a gwneud ei ewyllys;
  • rhannu’n pryderon, ein gobeithion a’n hofnau gyda Duw, gan ofyn iddo’n helpu.

Cred Cristnogion i Iesu, Mab Duw ei hun, ddod i’r ddaear ar ffurf ddynol a dangos i ni sut un yw Duw. Mae llawer o Gristnogion, felly, yn ei gweld hi’n haws gweddïo wrth ganolbwyntio’u meddyliau ar Iesu, a thrwy siarad â Duw yn union fel pe baen nhw’n siarad gyda bod dynol arall. Mae Cristnogion yn credu hefyd fod Duw yn rhoi ei Ysbryd Glân i ni i’n helpu i weddïo.

Sut ydym ni’n gweddïo?

Does dim rhaid sefyll arholiad ar gyfer gweddïo – gall unrhyw un wneud. Mae’n bwysig cofio, fodd bynnag, fod gwahanol unigolion yn gweddïo mewn gwahanol ffyrdd, a bod unrhyw berson yn debyg o weddïo mewn gwahanol ffyrdd mewn amgylchiadau amrywiol ac mewn gwahanol gyfnodau o fywyd. I Gristnogion, y prawf eithaf ar weddi yw y dylai gael effaith er daioni ar y math o bobl ydym ni a’r math o bethau y byddwn yn eu gwneud a’u dweud.

girl prayingMae Cristnogion yn credu nad yw Duw byth yn ein gadael na’n hanwybyddu. Gallwn felly weddïo yn hyderus fod Duw yn wirioneddol awyddus i ni fod mewn perthynas ymwybodol gydag ef.

Mae rhai Cristnogion yn ei gweld hi’n help wrth weddïo i ddychmygu eu bod nhw’n cymryd rhan mewn penodau sy’n cael eu disgrifio yn yr Efengylau. Yr enw technegol ar y dull hwn o weddïo yw myfyrdod. Gall y math hwn o weddi arwain ymhen amser at brofiad mwy uniongyrchol o Dduw, a’r enw technegol am hynny yw cynhemlad. Mae eraill yn gweld eu hunain yn cael eu tynnu’n syml at fod yn dawel ym mhresenoldeb Duw, sydd mewn gwirionedd yn ffurf o gynhemlad.

Eisiau dechrau gweddïo?

Mae yna sawl ffordd o weddïo, ac nid yr un ffordd sy’n gywir ar gyfer pawb. Y ddwy reol euraid yw:

  • gweddïwch fel y gallwch, ac nid fel na allwch, a
  • gweddïwch bob dydd

Wrth weddïo am broblemau a heriau bywyd, bydd rhai pobl yn dweud yn syml beth sydd ar eu meddyliau (Mae cariad Duw mor fawr fel y gall ein dicterau a’n hofnau gael eu clywed, yn ogystal â’n canmol, ein diolch a’n ceisiadau) a gofyn am bresenoldeb ac arweiniad Duw. Mae’n well gan eraill ddefnyddio gweddïau sydd wedi eu hysgrifennu gan eraill a’u defnyddio gan yr Eglwys trwy’r oesoedd. Mae eraill eto’n cael eu denu at ffyrdd mwy myfyriol o weddïo.

Yn yr Efengylau, mae dilynwyr Iesu yn gofyn iddo eu dysgu sut i weddïo. Wrth ateb, mae’n rhoi iddyn nhw y weddi yr ydym ni’n ei hadnabod heddiw fel Gweddi’r Arglwydd.

Ein Tad yn y nefoedd,
sancteiddier dy enw,
deled dy Deyrnas,
gwneler dy ewyllys,
ar y ddaear fel yn y nef,
Dyro inni heddiw ein bara beunyddiol
a maddau inni ein troseddau,
fel yr ym ni wedi maddau i’r rhai
a droseddodd yn ein herbyn;
a  phaid â’n dwyn i brawf,
ond gwared ni rhag yr Un drwg.

Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd,
sancteiddier dy enw.
deled dy Deyrnas,
gwneler dy ewyllys,
megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.
Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol.
A maddau i ni ein dyledion,
fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr.
Ac nac arwain ni i brofedigaeth,
eithr gwared ni rhag drwg.

Oherwydd i Iesu ei rhoi i ni, mae Cristnogion yn ystyried y weddi hon fel un arbennig o bwysig. Byddwn yn ei defnyddio bob dydd yn ein gweddïau preifat ac yn y rhan fwyaf o wasanaethau eglwysig.

Hoff weddi arall, sy’n fyr ac felly’n hawdd ei chofio, yw Gweddi ar Iesu. Yn ei ffurf fwyaf adnabyddus, dim ond ychydig eiriau sydd iddi:

Arglwydd Iesu Grist, Mab y Duw Byw, bydd drugarog wrthyf i, bechadur

Mae rhai pobl yn ei chael hi’n haws gweddïo hon wrth anadlu i mewn yn araf ac yn ddwfn gan ailadrodd y ddau gymal cyntaf yn dawel, ac anadlu allan wrth ailadrodd y ddau gymal olaf. Mae eraill yn torri’r weddi’n bedair rhan, ar bob coma, a chanolbwyntio ar bob rhan yn ei dro. Ac mae’n well gan eraill eto ei byrhau (er enghraifft, ‘Iesu, bydd drugarog’ – ffordd hynod syml ac effeithiol o weddïo dros ein hanghenion ni’n hunain a rhai pobl eraill) neu hyd yn oed ddefnyddio Enw Iesu ar ei ben ei hun fel gweddi. Rhan o brydferthwch Gweddi Iesu yw ei bod mor hynod hyblyg yn ei defnydd. Gall yr un person yn hawdd ei defnyddio mewn gwahanol ffyrdd ar wahanol ddyddiau, neu ar wahanol adegau o’r un diwrnod, yn ôl eu hanghenion hwy eu hunain neu anghenion y bobl o’u cwmpas.

Mae Gweddi Sant Rhisiart o Chichester yn un y mae llawer o Gristnogion yn ei defnyddio mewn cysylltiad â thasgau a chyfrifoldebau bywyd bob dydd:

O Iesu sanctaidd, Gwaredwr mwyaf trugarog,
boed i mi dy adnabod yn gliriach,
dy garu’n anwylach,
a’th ddilyn yn nes,
dydd wrth ddydd.  Amen.

 

Mwy o gymorth…

Mae llawer o blwyfi’r Eglwys yng Nghymru yn cynnal grwpiau gweddïo, ac un o’u hamcanion yw helpu’r aelodau i dyfu mewn gweddi Gristnogol. Hefyd, wrth gwrs, bydd eich offeiriad plwyf yn barod ar unrhyw adeg i ddod atoch i drafod yr heriau, y llawenydd a’r gwobrau sy’n dod trwy weddi Gristnogol.