Yr Amgylchedd

enviroimageBeth bynnag fo hyd a lled ein gwybodaeth wyddonol, mae creadigaeth Duw’n parhau’n ddirgelwch ac ni allwn ei dirnad yn llawn heb edmygu ei greaduriaid ac addoli Duw. Mae’r ddaear yn eiddo i’r Arglwydd ac yn sanctaidd, a ni yw ei stiwardiaid. Ein tasg ni yw hon o hyd, wrth i’n ffydd ni ein gwneud yn agored i ddirnad helaethrwydd ac amrywiaeth y byd byw a chosmig o’n cwmpas.

Yr hyn sy’n newydd i’r mwyafrif ohonom yw bod yr effaith tŷ gwydr a newid yn yr hinsawdd wedi peri syndod mawr, gan ddangos bod cydbwysedd y bydysawd, nad oedd gennym ni ddealltwriaeth lwyr ohono, wedi cael ei amharu. Yn fwy nag erioed o’r blaen, mae gwyddoniaeth yn gorfod synfyfyrio ar ei chyfyngiadau i amgyffred yr hyn sy’n digwydd; mae’n ceisio deall yn well yr hyn nad yw’n ymwybodol ohono ac nad yw’n bosibl iddo fod yn ymwybodol ohono. Mae dirgelwch y Greadigaeth a chyfyngiadau ein gwybodaeth yn golygu bod angen bod yn wyliadwrus, ac mae’r egwyddor o gymryd rhagofalon yn hollbwysig i’n perthynas â’r amgylchedd.

Mae bod yn rhan o ymwybyddiaeth fyd-eang sy’n ceisio ailadeiladu’n perthynas gyda’n gilydd a chyda’r amgylchedd sy’n ein cynnal, yn thema bwysig ym mywyd Cymru heddiw ac yn un y mae’r Eglwys yn cymryd rhan lawn ynddi.

Oherwydd ei gred bod Duw wedi rhoi cyfrifoldeb arbennig i’r ddynolryw stiwardio’r Ddaear yn dda, penderfynodd cyfarfod Corff Llywodraethol Yr Eglwys yng Nghymru yn 2006 y byddai’n:

  1. cefnogi mesurau a gynlluniwyd i gynhyrchu defnydd effeithlon, teg a chynaliadwy o adnoddau’r blaned;
  2. croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cynulliad Cymru o strategaeth amgylcheddol newydd i Gymru;
  3. annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau y dyrennir digon o adnoddau i roi Cynllun Gweithredu’r Strategaeth Amgylcheddol ar waith;
  4. annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i barhau i hyrwyddo a chynnwys datblygu cynaliadwy yn yr holl strategaethau a mentrau;
  5. annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gymryd camau pellach i leihau gollyngiadau CO2 y Deyrnas Unedig.

Roedd hyn yn dilyn cynnig mewn cyfarfod cynharach a ymrwymodd yr Eglwys yng Nghymru i:

wneud safiad dros ddatblygu cynaliadwy trwy, er enghraifft, ddefnyddio papur wedi’i ailgylchu ar gyfer ei chyhoeddiadau.

Byddai Iesu o Nasareth wedi treulio’i blentyndod wedi’i amgylchynu gan harddwch naturiol a chyfeiriodd at fyd natur yn ei ddysgeidiaeth. Unwaith, fe anogodd ei wrandawyr i ‘ystyried lilïau’r maes, sut y maent yn tyfu’. Mae enghreifftiau o’r fath o fyd natur yn hawdd eu dwyn i’r cof. Roedd ‘Aeth heuwr allan i hau’, dechrau dameg yr heuwr, yn seiliedig ar arferion amaethyddol y ganrif gyntaf.

Yn y byd sydd ohoni, mae’r Eglwys yng Nghymru mewn cysylltiad agos â’i chymuned amaethyddol.  Ceir adleisiau o farwolaeth ac atgyfodiad, sy’n themâu pwysig yn y neges Gristnogol, yn y tirwedd tymhorol sy’n gefndir i’n pererindod ar y ddaear hon.

Wrth ddatblygu a thyfu’n heconomi, mae’r angen i fyw mewn heddwch gyda’n cymdogion yn hollbwysig. Mae chwarae teg wrth rannu adnoddau’n rhan o’r safbwynt Cristnogol, a dyna pam y mae’r Eglwys yng Nghymru yn un o aelodau’r cynghrair RHOWN DERFYN AR DLODI. Nid yw caru’ch cymydog fel chi eich hun, un o orchmynion yr Iesu, byth yn hawdd os yw’n golygu aberth a hunanymwadiad.

celloedd ffoto-foltäig yn disodli llechi ar do eglwys yn esgobaeth Llanelwy

celloedd ffoto-foltäig yn disodli llechi ar do eglwys yn esgobaeth Llanelwy – mae toeau eglwysi sy’n wynebu’r de yn wych ar gyfer casglu ynni’r haul.

Mae’r Ysbryd Glân, presenoldeb Duw yn ein plith, yn bresenoldeb aflonydd, sy’n ceisio cyflwyno newid. Troi cleddyfau’n sychau aradr, troi dieithriaid yn ffrindiau, cyflwyno dealltwriaeth ac ysbryd o dderbyn lle mae rhagfarn a chulni – dyna yw pwrpas Duw, a gwaith yr Eglwys yw bod yn wyliadwrus a dilyn y ffordd mae’r Ysbryd yn symud.