Gymuned

Mae gan yr Eglwys yng Nghymru blwyf ym mhob rhan o Gymru. Credwn fod y presenoldeb lleol hwn yn arwydd pwysig o’n dymuniad i wasanaethu a gweithio gyda chymunedau a sefydliadau lleol, ac nid dim ond gyda’r bobl hynny sy’n dod i’r eglwys.

Credwn yn ddi-ffael fod Duw’n bresennol ym mywydau pob un ohonom, beth bynnag fo’n sefyllfa, oedran neu gefndir – a ydym ni’n aelodau o gymuned ffydd ai peidio.

Credwn mai ein pwrpas yw cysylltu’n ffydd mewn Duw sy’n creu, achub, caru ac ysbrydoli pobl, gyda gwirioneddau bywyd yng Nghymru heddiw.

Rydyn ni felly’n rhoi pwys mawr ar anghenion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cymunedau Cymru ac yn cydnabod bod cymunedau cynaliadwy’n dibynnu ar gyfleoedd gwaith, creu cyfoeth, cynhwysiant cymdeithasol a datblygiad economaidd.

Rydyn ni’n gwybod bod heriau penodol i’w hwynebu yn y rhannau o Gymru sy’n derbyn cyllid Cydgyfeirio – lle mae amddifadedd parhaus, anweithgarwch economaidd, tlodi, dyled, iechyd gwael, salwch cyfyngol gydol oes, ymddygiad gwrthgymdeithasol, cyraeddiadau addysgol gwael, sgiliau isel ac agweddau sy’n golygu bod rhai pobl yn anodd eu cyflogi.

Y tu ôl i broblemau tai gwael, diffyg seilwaith a thlodi, credwn fod angen gwerthfawrogi a chefnogi gallu unigolion i gyflawni’r anhygoel mewn sefyllfaoedd anodd. Mae angen i ni wrando ar eu hanesion a dysgu ganddynt.

Rydyn ni hefyd yn cydnabod pwysigrwydd cynnig mwy o gymorth i deuluoedd a grwpiau sy’n teimlo eu bod wedi’u hynysu, nad oes unrhyw un yn eu caru, ac sy’n teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu gan arwain at ddiffyg hunan-barch a hyder. Mae atal hyn yn gynnar, datblygu cymunedau, adfywio, hyfforddi a menter i gyd yn ffactorau pwysig sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

Ni all unrhyw un asiantaeth ddatrys y problemau hyn ar ei phen ei hun ac, fel Eglwys, rydyn ni eisoes yn cydweithio ag eraill i ddod o hyd i atebion newydd, llawn dychymyg i’r heriau lu rydyn ni’n eu hwynebu ledled Cymru yn ein cymunedau gwledig a threfol.

Fel Eglwys, credwn ein bod yn cael ein galw i wneud cysylltiad real ac ymarferol rhwng ein haddoli a bywydau pobl a sefydliadau ledled Cymru. Rydyn ni’n ymroddedig i ddod o hyd i ffyrdd o ddatblygu adeiladau’n heglwysi fel y gellir eu defnyddio fwyfwy gan y gymuned ac i weithio’n fwy effeithiol gyda sefydliadau lleol.

Trwy ein prosiectau a’n partneriaethau cyfredol, rydyn ni’n:

  • cynorthwyo teuluoedd (mamau, tadau a phlant ifanc) gyda sgiliau rhianta ac i ymdopi â phwysau yn y cartref
  • gweithio gyda phobl ifanc sy’n agored i niwed a phobl oedrannus
  • cynorthwyo’r rhai sydd â phroblemau gyda
    • thai
    • cyffuriau
    • alcohol
  • annog pobl i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi, cyflogadwyedd a swyddi

Mae llawer yn cael ei fuddsoddi mewn cymunedau ledled Cymru trwy wahanol fathau o raglenni, yn cynnwys Cymunedau yn Gyntaf a phartneriaethau strategol lleol.  Mae’r Eglwys yng Nghymru’n croesawu’r cyfleoedd y mae’r dull partneriaeth yn eu cynnig i bobl weithio gyda’i gilydd ar draws ffiniau.

Mae’n cymunedau lleol yng Nghymru’n haeddu’r gorau ac rydyn ni’n gwybod bod ein dyfodol ni fel Eglwys wedi’i gysylltu’n agos â’u lles a’u hadfywiad. Mae Duw’n galw arnom ni i gymryd rhan mewn bywyd ar bob lefel ac mae esiampl Iesu o Nasareth yn dangos i ni sut mae hyn yn bosibl.

Nid yw cymuned yn dod i fod heb ymdrech. Mae’n rhaid gweithio drosti a’i chynnal, felly mae gan bob un ohonom swyddogaeth i’w chyflawni a chyfraniad i’w wneud.