Boen

Mae’r gair ei hun yn dwyn i’r cof adegau yn ein bywydau pan fuom yn dioddef ei effaith ddirdynnol.  A dweud y gwir, does fawr ddim yn tarfu ar ein bywydau mewn ffordd fwy grymus na dioddef poen, a gall hyn fod yn wir nid yn unig am ein poen ein hunain ond hefyd am boen y rhai yr ydym yn eu caru. Gall poen godi ofn hefyd, oherwydd ei ymddangosiad yn aml yw’r arwydd cyntaf bod rhywbeth o’i le ar ein hiechyd. Ac eto nid teimlad corfforol yn unig yw poen, a gall poen emosiynol profedigaeth, neu ysgariad, neu fathau eraill o golled dynol fod yr un mor boenus ac anablu pobl yn yr un ffordd.

Fodd bynnag, mae angen gwahaniaethu rhwng y mathau o boen dros dro yr ydym yn tueddu i wella ar eu hôl yn weddol gyflym, a’r profiad o boen hirfaith, difrifol sy’n bygwth bywydau. Yn aml, gall yr olaf ein hysgogi i ofyn cwestiynau dwys am ystyr a phwrpas bywyd, moeseg marw â chymorth ac ewthanasia, a hyd yn oed lle Duw o ran caniatáu pobl i ddioddef poenedigaeth o’r fath, heb ymyrryd. Mae’r rhain yn gwestiynau anodd a chymhleth a gallwn ddysgu llawer iawn gan gymeriad o’r Hen Destament, Job, drwy beidio â chwilio am atebion syml iddynt.

Nid yw hynny’n golygu na ddylen ni ofyn cwestiynau, gan fod y Beibl ei hun yn dweud sut y gofynnodd awdur y Salmau gwestiynau perthnasol iawn yn wyneb dioddefaint, a sut nad oedd yn ofni gadael i’r cwestiynau hynny adlewyrchu ei ddicter neu ei anobaith. Ac eto, ni ddisgwyliai i Dduw gynnig atebion syml, ond yn ei ddicter darganfu fod Duw’n agosach iddo nag yr oedd erioed wedi’i ddychmygu.

Mae angen i’n cenhedlaeth ni ofyn yr un math o gwestiynau’n union, er bod ein cwestiynau ni’n cael eu gofyn mewn cyd-destunau a fyddai’n synnu a rhyfeddu cenedlaethau blaenorol. Mae hyn yn arbennig o wir wrth drafod moeseg rhoi terfyn ar fywyd fel ffordd o leddfu poen annioddefol, mewn achosion o salwch marwol. Fel unigolion, mae gan Gristnogion wahanol farn am hyn, ond cred yr Eglwys fel corff bod sancteiddrwydd bywyd a’r ffaith i fywyd gael ei roi gan Dduw yn golygu nad oes gennym hawl moesol i roi terfyn ar fywyd fel hyn. Ac eto, ar yr un pryd, mae’n annog ac yn croesawu ymdrechion cynyddol i leddfu poen.

 

Nid yw hyn yn trafod holl safbwyntiau Cristnogion ar boen.  Efallai na fydd Duw yn cael gwared ar boen bob amser, ond nid yw hynny’n golygu nad ydyw o bwys iddo. Mae’r Groes wrth wraidd y ffydd Gristnogol, yn ogystal â’r gred bod Duw yn adnabod ac yn rhannu dioddefaint ei bobl trwy ddioddefaint a marwolaeth ei Fab, Iesu Grist a’i fod yn cynnig ei gariad i’n cynorthwyo i’w ddioddef. Ar lefel ddynol iawn, fe wyddom   faint o gymorth y gall teulu a ffrindiau fod pan fyddwn ni’n dioddef; a dylai gwybod fod Duw’n ymateb i’n poen ac yn ei rannu gan roi inni ei nerth a’i gariad ein helpu cymaint yn fwy. Meddai’r bardd o Gymro, R.S. Thomas:

mae’r groes yn ddirgelwch digon brawychus i’w alw’n gariad.

I gloi, gofynnir i Gristnogion a phobl eraill â ffydd gofio bod poen yn fwy na’n profiad ni ein hunain ohono’n unig. Mae ardaloedd cyfan o’r byd lle mae poen newyn, digartrefedd, anghyfiawnder a thrychinebau naturiol yn brofiad dyddiol mwy neu lai. Fel y dywedodd un arweinydd crefyddol cenedlaethol yn sgîl poen y Tswnami: nid gofyn pam y mae Duw’n gadael i bethau o’r fath ddigwydd ddylai’n hymateb i drychineb o’r fath fod. Yn hytrach, dylai rhywun â ffydd ofyn: ‘sut mae Duw am i ni helpu yn y sefyllfa hon’? Efallai mai dyma’r cwestiwn mwyaf defnyddiol i’w ofyn pan wynebir ni gan ddioddefaint eraill: sut y gallwn ni eu helpu?