Cyplau Un-Rhyw

Deddf Priodas (Cyplau Un-Rhyw) 2013

Er 29 Mawrth 2014, dan ddarpariaethau’r Ddeddf hon, caniateir priodasau un-rhyw yng Nghymru a Lloegr ac, o ganlyniad, fe all y caiff clerigion ymholiadau oddi wrth gyplau un-rhyw sydd am briodi yn yr eglwys.

Fel y saif y gyfraith ar hyn o bryd, ni all yr Eglwys yng Nghymru weinyddu priodasau un-rhyw. Hefyd, mae priodasau o’r fath yn groes i ddysgeidiaeth yr eglwys ar briodas, sy’n datgan mai uniad ffyddlon am oes rhwng dyn a dynes ydyw.

Rhaid i’r eglwys gydnabod cyfreithlondeb priodasau un-rhyw ond rhaid iddi gydnabod hefyd bod ganddi hi a’r Wladwriaeth bellach ddwy wahanol farn. Mae’r esgobion yn awr wedi cyhoeddi adroddiad ar y pwnc, a luniwyd iddynt gan Gomisiwn Athrawiaeth yr eglwys ac a drafodir gan aelodau Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru yn eu cyfarfod ym mis Ebrill.

Os penderfyna’r Corff Llywodraethol yn y dyfodol y dylai’r eglwys weinyddu priodasau un-rhyw, a bod yr esgobion yn cynnig Canon i’r perwyl hwnnw, bydd yn rhaid i’r Arglwydd Ganghellor gyflwyno mesurau i newid y gyfraith i alluogi hynny.

Yn y cyfamser, bydd clerigion sydd eu hunain am fod mewn priodas un-rhyw mewn perygl o wneud rhywbeth sy’n anghyson â’r ddysgeidiaeth y maent wedi ymrwymo i’w chynnal a’i byw, a dylent felly ymgynghori â’u hesgob cyn gynted ag y bo modd am arweiniad a chefnogaeth fugeiliol.

Deil yr esgobion, fodd bynnag, yn ymrwymedig i eglwys sy’n adlewyrchu croeso Crist ahefyd yn datgan urddas pawb.

Ym mis Mawrth 2012, cytunodd Esgobion yr Eglwys yng Nghymru ar y datganiad a ganlyn ar briodi cyplau un-rhyw.

Yr ydym yn glynu at y ddysgeidiaeth Gristnogol am briodas fel uno un dyn ac un ddynes o’u bodd am oes. Cydnabyddwn fod cwestiynau nas datryswyd am rywioldeb dynol, a bod cyplau’n byw mewn mathau eraill o berthynas ymrwymedig am oes ac yn haeddu croeso, gofal bugeiliol a chefnogaeth yr Eglwys. Ymrwymwn i wrando mwy, myfyrio’n weddigar ar berthynas un-rhyw, a cheisio dirnadaeth ohoni.

Llythyr Bugeiliol

Gweddiau gyda chwpl