Cristnogaeth Geltaidd

Sut yr ymddangosodd Cristnogaeth Geltaidd?

Daeth Cristnogaeth i Brydain yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Pan ymadawodd y byddinoedd  Rhufeinig yn y bumed ganrif gwreiddiodd  a datblygodd Cristnogaeth hyd at ddyfodiad y Normaniaid ar ddiwedd yr unfed ganrif ar ddeg.

Croes Geltaidd yn Nanhyfer
Croes Geltaidd yn Nanhyfer

Fodd bynnag, ni fu erioed ‘Eglwys Geltaidd’ fel y cyfryw; roedd y Cristnogion hyn yn eu hystyried eu hunain yn aelodau o’r Eglwys gyfan a oedd yn cynnwys y Dwyrain a’r Gorllewin hyd at y rhaniad mawr ym 1054. Dyna pam yr oedd y Cristnogion Celtaidd yn rhydd i deithio ar y Cyfandir a thu hwnt, gan rannu’n llawn yng ngweithgareddau ysgolion a mynachlogydd lleol.

Sut bynnag, fel yn rhannau eraill o Wledydd Cred, ymddangosodd ysbrydolrwydd penodol ym mhob un o’r gwledydd Celtaidd. Datblygodd diwinyddiaeth leol a phwysleisiwyd agweddau arbennig o’r ffydd Gristnogol. Daeth hyn yn sgil ymwneud Cristnogaeth ag amgylchfyd diwylliannol, cymdeithasol a gwleidyddol y sefyllfa leol.

Yn ei erthygl ar  ‘Celtic Spirituality’ dywed Thomas O’Loughlin (2005)

Tra bod gan y Gorllewin canoloesol syniad am ei undod crefyddol (a fynegwyd mewn mapiau, cyfraith ac iaith) nid oedd wedi profi unffurfiaeth o ran litwrgi na’r dyhead am unffurfiaeth athrawiaethol sy’n nodweddu canrifoedd diweddar.Er enghraifft, dim ond gydag argraffu y daeth hi’n bosibl cael unffurfiaeth litwrgaidd dros ardal eang, a dim ond gyda’r Diwygiad Protestannaidd y daeth yr awydd am y fath unffurfiaeth yn rym mewn gwleidyddiaeth eglwysig. Cynharaf yn y byd yw’r cyfnod yr edrychir arno yn y Gorllewin mwyaf yn y byd y gwelir mai cysylltiadau lleol sydd yn cynhyrchu’r patrymau unigryw mewn ysbrydolrwydd. Mae’n ymwneud â phatrymau lleol o ymsefydlu, y cefndir cyfreithiol a’r defnydd o’r iaith (t.183).

Roedd defnyddio’r Wyddeleg neu’r Gymraeg ochr yn ochr â’r Lladin yn arwydd clir bod gan Gristnogaeth Geltaidd nodweddion cyffredinol a lleol.

Ceir copi o’r hen destunau Cymraeg gyda nodiadau a throsiad i Gymraeg diweddar yn Haycock, M. (1994). Cynhwysir ambell drosiad ychydig yn wahanol yn Ap Gwilym, G. (gol.), (1999).

Ceir detholiad eang o destunau canoloesol o ffynonellau Gwyddelig a Chymreig wedi eu cyfieithu i Saesneg yn Davies, O. (1999). Mae blodeugerdd o ddefnyddiau canoloesol a modern o Lydaw, Iwerddon , Yr Alban a Chymru yn Davies, O. a Bowie, F. (1995).

Beth yw prif nodweddion Cristnogaeth Geltaidd yng Nghymru o’r bumed i’r ddeuddegfed ganrif?

Wedi iddo astudio’r testunau Cymraeg cynnar daw Oliver Davies (1996) i’r casgliad y gellir crynhoi’r traddodiad Cymreig unigryw mewn tri gair. ‘Mae’n pwysleisio’r Drindod, yr Ymgnawdoliad a’r Greadigaeth Gyfan.’

Noda ei bod yn ‘ffurf ar Gristnogaeth sy’n rhoi gwerth arbennig ar allu creadigol y bardd’ (t.144).

i. Y Drindod

Yn ôl Marged Haycock, Naw Englyn y Juvencus yw ‘yr enghraifft ysgrifenedig gynharaf o gerdd grefyddol Gymraeg’. Ceir sawl cyfeiriad at y Drindod yn yr englynion hyn a phwysleisir

Nid gormod o lafur yw moli’r Drindod.

Teitlau’r ddwy gerdd nesaf yn Haycock, M. (1994) yw ‘Y Tri yn Un’ ac ‘Erchi Nawdd y Drindod’.

Yn sgil ymwybyddiaeth y Celtiaid o gymundeb Duw y Tri yn Un daeth pwyslais ar gymuned.

Mae cred yn effeithio ar ymddygiad. Yn sgil ymwybyddiaeth y Celtiaid o gymundeb Duw y Tri yn Un daeth pwyslais ar gymuned. Mynegwyd hyn trwy sefydlu mynachlogydd yn Iwerddon cyn cyfnod Padrig ac yng Nghymru o gyfnod cynnar.

Ar sail Bucheddau’r Saint Cymreig mae Oliver Davies (1996) yn awgrymu bod yna dri math o fynachlogydd yn fras yng Nghymru.

Roedd yna fynachlogydd a oedd yn ganolfannau mawr megis Llancarfan, Tywyn, Llanbadarn Fawr, Clynnog Fawr a chymuned Sant Illtud yn Llanilltud Fawr. Yn ogystal â’r mynachlogydd mawr prysur hyn a oedd yn dilyn ffordd o fyw nad oedd yn rhy gaeth, yr oedd yna gymunedau lle’r oedd pawb yn gwneud gwaith corfforol ac a ystyrid yn rhai mwy asgetaidd eu natur. Dywedir bod Samson a Dewi wedi encilio o Lanilltud Fawr i Ynys Bŷr a bod Dyfrig wedi encilio i Ynys Enlli dros y Garawys a’i fod wedi dychwelyd yno i farw. Mae’n ddigon posibl mai cymuned o’r math hwn oedd cymuned wreiddiol Dewi, a barnu yn ôl Buchedd Dewi Rhygyfarch. Fodd bynnag gwelir math arall eto pan ymwrthododd Samson ag Ynys Bŷr ac encilio i ogof, lle, gyda nifer fach o feudwyaid eraill, y dilynodd alwedigaeth fwy digymrodedd (tt.10 ymlaen).

Syniad arlunydd o Lanbadarn Fawr yn y chweched ganrif

Syniad arlunydd o Lanbadarn Fawr yn y chweched ganrif

Yn ogystal â moli’r Drindod Sanctaidd gyda’u gwefusau roedd y Cristnogion Celtaidd hyn yn mynegi ffordd o fyw’r Drindod yn eu bywyd ynghyd. Adlewyrchwyd cymundeb y Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân yng nghymun y saint gyda’r hwn yr oedd wedi ei  gysylltu drwy’r Ysbryd a ddaeth ar y Forwyn Fair.

ii. Yr Ymgnawdoliad

Mae englynion y Juvencus yn gorffen gyda’r geiriau hyn:

Nid gwaith gormodol  (yw) moli mab Mair

Yn unol â’i ffynhonnell roedd traddodiad Cristnogol cynnar y Celtiaid yn dathlu’r Ymgnawdoliad.

Nid yw ei hefelydd (‘ei gymar, ei gydradd’)
wedi ei eni ar wyneb y ddaear …
Mab i’r duwdod, mab i’r dyndod, mab dymunol …

Adleisir hyn yng ngherdd Madog ap Gwallter tua 1250.

Mab a roddwyd i ni, Mab a aned yn ffortunus a breintiau iddo,
Mab (y) gogoniant, Mab i’n gwaredu, y Mab gorau…
Heb dad o gnawd, hwn yw’r Mab grasol, rhoddwr bendithion …
Cawr mawr bychan, cryf cadarn gwan.

Yn ei eni distadl a’i ddioddefaint mawr fe uniaethodd y Crist ymgnawdoledig gyda grŵp o bobl a oedd yn byw o dan fygythiad.

Roedd gallu Crist i ddioddef mewn cariad yn ennyn dyfalbarhad a gobaith.

Croes dirion Crist, yn arfogaeth lathraid rhag pob poen;
Rhag pob un llidiog bydded hi’n gadarn, yn noddfa amddiffynnol.

Mae’r weddi Gymraeg hon sy’n gofyn am amddiffyniad yn adleisio Llurig Padrig.

Mae pwyslais ar y Duw ymgnawdoledig yn arwain at bwysleisio’r corfforol. Mae’r materol yn cyfrif. Mae’r corff dynol yn rhan o ddatblygiad ysbrydolrwydd aeddfed. Disgrifiwyd Hyfrydbethau Taliesin fel ‘un o weithiau mwyaf llenyddiaeth grefyddol Gymraeg y Canol Oesoedd.’ Mae’r bardd yn dathlu prydferthwch gwledd briodas yn ogystal â phrydferthwch y lleuad ddisglair, y grawn ar y coesyn, y gwylanod yn chwarae, y pysgodyn yn y llyn, y ceffyl yn ei ffrwyn. Ond craidd y gerdd hon yw’r angen am benyd. Ni welir disgyblu’r corff fel rhywbeth negyddol ond fel ffordd o ogoneddu Duw.

Peth hyfryd yw rhinwedd penyd mawr i (dalu iawn am) ryfyg

iii.Y Greadigaeth Gyfan

Yn ogystal â sôn am y Drindod a‘r Ymgnawdoliad yng Nghristnogaeth y Celtiaid   mae Oliver Davies (1996) yn dweud ei bod hefyd yn rhoi sylw mawr i’r greadigaeth gyfan. Mae englynion y Juvencus yn agor trwy gyfarch y ‘Creawdwr hollalluog’ a’r trydydd yn datgan

Fe wnaeth y Tad, drwy wyrth, y byd;
anodd yw (mynegi) cymaint y (wyrth honno):
nid yw llenyddiaeth ysgrifenedig yn ei chynnwys
(nac) yn medru ei hamgyffred.

Yn y ddeuddegfed ganrif ceir cerdd gosmig o fawl sydd yn cyfuno darluniau o fyd natur, y gymdeithas ddynol a’r eglwys.

Gogoneddus Arglwydd, henffych well!
Bydded i eglwys a changell dy ogoneddu …
Bydded i’r lle gwastad a’r lle serth dy ogoneddu …
Bydded i’r tywyllwch a’r dydd dy ogoneddu …
Bydded i’r adar a’r gwenyn dy ogoneddu …
Bydded i wryw a benyw dy ogoneddu …
Bydded i (blanedau’r) saith niwrnod a’r sêr dy ogoneddu …
Bydded i dywod a thywarch dy ogoneddu;
Bydded i’r (holl) bethau da grewyd dy ogoneddu.
Mi a’th ogoneddaf, Arglwydd y gogoniant,
Gogoneddus Arglwydd, henffych well!

yr haul yn tywynnu trwy’r cymylauRoedd y Cristnogion Celtaidd yn ymwybodol iawn bod y Creawdwr yn bresennol yn ei greadigaeth. Roedd gogoniant Duw yn tywynnu trwy ei holl weithredoedd. Yr Arglwydd trosgynnol oedd y Bod presennol a oedd wrth wraidd pob peth.

Amlygwyd sancteiddrwydd lleoedd arbennig oherwydd eu cysylltiad â phobl sanctaidd a alwyd nes ymlaen yn saint. Ers ei farw cafodd Padrig ei arddel yn sant. Mae’r arysgrif o’r seithfed ganrif ar y garreg enwog yn eglwys Llanddewibrefi yn sôn am ‘Dewi sanctaidd’. Daeth lleoedd a ffynhonnau a gysylltwyd â’r saint hyn yn gyrchfan pererindod. Roedd pobl yn dyheu am gael eu cipio i ganol y sancteiddrwydd cosmig hwn. Wrth iddynt rannu yn sancteiddrwydd Duw roedden nhw’n dechrau ei adlewyrchu; er eu bod yn oleuadau cyfyng dechreusant ddatgelu’r gwir Oleuni.

Ydy Cristnogaeth Geltaidd yn bodoli o hyd?

Mae James P. Mackey yn mynnu bod Cristnogaeth Geltaidd yn bodoli o hyd ac mae A. M. Allchin yn dweud ble y gellir dod o hyd iddi. Mae’n sôn am bedwar bardd a ymddangosodd ganol yr ugeinfed ganrif: Saunders Lewis, Gwenallt Jones, Waldo Williams ac Euros Bowen.

Yr oedd pob un ohonynt, yn ei ffordd ei hun, yn cynnal traddodiad pymtheg can mlynedd o farddoniaeth gysegredig… Felly mae’r pedwar ‘athro Eglwysig’ hyn… yn rhan o stori sy’n dal i ddatblygu … (t. 642).

Mae cerddi’r pedwar yn dal mewn print.

  • Bowen, Euros, nifer o gasgliadau.
  • Davies, C., Davies, S. (1993), Euros Bowen: Bardd-Offeiriad, Caerdydd, Eglwys yng Nghymru. Detholiad a chyfieithiad.
  • Gruffydd, R.G. (gol.), (1992), Cerddi Saunders Lewis, Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru.
  • James, C. (gol.), (2001), Cerddi Gwenallt: Y Casgliad Cyflawn, Llandysul, Gwasg Gomer.
  • Williams, Waldo. (1956), Dail Pren: Cerddi, Llandysul, J.D.Lewis, Gwasg Gomer.
  • Ap Gwilym, G., Llwyd, A. (goln), (1987), Blodeugerdd o Farddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif, Llandysul, Gwasg Gomer, Cyhoeddiadau Barddas.

Ffynhonnell arall o ysbrydolrwydd modern Gymraeg a nodir gan A.M.Allchin yw’r llu o emynau Cymraeg. Mae eu delweddau’n atgoffa rhywun am eiconau’r Dwyrain. I nodi’r trydydd mileniwm Cristnogol  lluniodd panel a gynrychiolai’r rhan fwyaf o enwadau Cymru gasgliad o dros 900 o emynau Cymraeg. Mae Caneuon Ffydd, Pwyllgor Llyfr Emynau Cydenwadol, Llandysul, Gwasg Gomer, 2001, wedi gwerthu mwy o gopïau nag unrhyw gyhoeddiad arall yn yr iaith Gymraeg. Mae’n rhaid i hyn roi mymryn o obaith yng nghanol yr holl bryder sydd yn yr eglwysi ar hyn o bryd.

Heddiw rydym  yn sefyll ar ryw drothwy wrth i ni aros i weld y bywyd Cristnogol yn cael ei fynegi mewn ffyrdd newydd yng nghanol anhrefn ein dyddiau ni. Allan o ddryswch y cyfnod ar ôl y Rhufeiniaid ymddangosodd Oes y Saint, tarddle Cristnogaeth Geltaidd. Dull Duw o adnewyddu yw trwy farwolaeth ac atgyfodiad.