Beth gall yr eglwys yeddiew ddysgu oddi wrth Gristnogaeth Geltaidd?

Rhannu’r ffydd Gristnogol

Ymddengys mai’r dull Rhufeinig o genhadu oedd ‘ymosod a gorfodi’ tra bod y Celtiaid yn ‘ymdreiddio ac ymdoddi’. Roedd y Celtiaid yn ymdoddi i’r diwylliant lleol. Yn hytrach na gorfodi’r bobl i dderbyn crefydd ddieithr cynigient yr hyn a oedd o Dduw y Drindod Sanctaidd yn amrywiaeth eu cymdeithas hwy. Mae Ian Bradley (2000) yn pwysleisio pa mor berthnasol yw hyn heddiw. Gweler hefyd Finney, J. (1996).

Ecwmeniaeth

Mae’r ‘gorffennol Celtaidd’ wedi hybu perthynas ecwmenaidd trwy bwysleisio gorffennol cyffredin cyn y rhwygiadau a ddaeth yn sgil y Diwygiad Protestannaidd.

Enghreifftiau o hyn yw Cytûn, yr Irish School of Ecumenics a Scottish Churches House yn Dunblane.

Litwrgi

O dan  y pennawd ‘Celtaidd’ mae grwpiau wedi arbrofi gydag agweddau o fywyd yr eglwys sydd yn wahanol i’r rhai arferol.

Defnyddiwyd litwrgïau gwahanol yn:

Pererindota

Mae diddordeb newydd mewn pererindota i ganolfannau sy’n gysylltiedig â’r saint Celtaidd. Lluniwyd Teithiau’r Pererinion Llŷn i nodi hen ffyrdd y pererinion i Ynys Enlli ac mae Saint a Cherrig wedi dod yn boblogaidd yn Sir Benfro. Mae gan bob esgobaeth ei lleoedd arbennig ei hun ac mae llawer o grwpiau wedi bod yn ymweld â nhw.

Mae pob un o’n heglwysi cadeiriol yn denu llawer iawn o ymwelwyr ac mae llawer o bererinion yn ymgysylltu â’n gwreiddiau Celtaidd mewn eglwysi plwyf hynafol yng nghanol mynwentydd crwn sydd â hen gerrig o’r cyfnod cynnar ag arysgrif arnynt.

Mae esgobaeth Bangor wedi cynhyrchu Llawlyfr Eglwysi Agored, (2003), Swyddfa Esgobaeth Bangor.

Dwyieithrwydd

O’i brofiad helaeth o lenyddiaeth ganoloesol Ewrop fe ddywed Oliver Davies (1996) ‘ni chawn yn unman arall, hyd y gwn i, fynachod gorllewinol yn y cyfnod cynnar hwn yn ysgrifennu ar gyfer mynachod eraill yn yr iaith frodorol. Yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar Lladin oedd iaith gyffredin yrEglwys.’ Does dim rhyfedd ei fod yn ystyried ‘bodolaeth y cerddi Cymraeg crefyddol hyn yn ffenomenon ynddo’i hun’ (t. 64).

Gall y traddodiad hen a pharchus hwn roi hyder i’r Eglwys yng Nghymru heddiw wrth iddi geisio hybu ei pholisi dwyieithog mewn litwrgi, ac wrth drafod a gweinyddu.

Trefn eglwysig

Gyda’r system blwyfol o dan straen a’r diffyg adnoddau dynol ac ariannol yn rhwystro rhoi un offeiriad mewn un plwyf bellach mae’n beth da i gofio am bosibiliadau eraill. Cyn y goncwest Normanaidd ac aildrefnu eglwys a chymdeithas ‘bywyd cymunedol oedd y drefn arferol, prun ai oedd y gymuned yn gymuned o fynachod ai peidio. Nid oes sôn am glerig ar ei ben ei hun’ (Davies, W. 1982, t.149).

Cael profiad o gymunedau lleol sanctaidd a barodd i’r gwledydd Celtaidd gofleidio’r ffydd Gristnogol yn Nuw y Drindod Sanctaidd.

Mae esgobaethau Anglicanaidd mewn sawl rhan o’r byd yn ystyried patrwm y ‘fam eglwys’ gyda thimau o glerigion a phobl leyg awdurdodedig yn gweinidogaethu dros ardal eang o eglwys ganolog. Mae mudiad y cymunedau yn ffrwythlon hefyd e.e. Iona, Corrymeela, Taizé.